Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers yr adolygiad diwethaf o’r rheoliadau coronafeirws, mae Cymru wedi parhau i weld nifer yr achosion o COVID-19 yn cynyddu. Amcangyfrifir mai 2,500 yw lefel yr heintiau heddiw ac ar y gyfradd dwf bresennol byddai nifer yr heintiau yn uwch na’r lefel uchaf ym mis Mawrth erbyn diwedd mis Hydref.

Am y tro cyntaf yn ystod yr ail don o heintiadau, mae achosion Cymru yn uwch na 100 o achosion i bob 100,000 o bobl ac mae’r gyfradd bositifrwydd ar gyfer Cymru yn uwch na 7.5%. Mae’r dystiolaeth wyddonol a ddefnyddir i asesu’r risgiau i iechyd y cyhoedd yn cael ei darparu gan Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ac mae ar gael ar wefan llyw.cymru.

I gydnabod hyn ac fel rhan o'r adolygiad o reoliadau cenedlaethol ar 22 Hydref, penderfynodd Gweinidogion Cymru sefydlu nifer o fesurau llymach am gyfnod byr, gyda'r nod o leihau'r gyfradd drosglwyddo'n gyflym a dod â'r feirws yn ôl dan reolaeth. Mae gwybodaeth am gyfyngiadau blaenorol ac asesiadau effaith cysylltiedig i'w gweld hefyd ar wefan llyw.cymru.

Cefndir Deddfwriaethol

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i rym ar 26 Mawrth. Disodlwyd y rhain gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif. 2) (Cymru) 2020 ar 10 Gorffennaf. Dysgwch am y cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae Rheoliad 3(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a’r gofynion o dan y Rheoliadau bob 21 o ddiwrnodau. Pan nad yw’r cyfyngiadau’n gymesur mwyach, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i'w diwygio neu eu dileu. 

Crynodeb o'r cyfnod atal byr

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar gyfnod atal byr lle daw cyfyngiadau i rym ar draws Cymru o ddydd Gwener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd i gyd-fynd â hanner tymor yr ysgolion ac wythnosau darllen y prifysgolion.

Yn ystod y cyfnod, mae'n ofynnol i bobl yng Nghymru aros gartref oni bai bod ganddynt esgus rhesymol, gan gynnwys yr angen i wneud y canlynol:

  • Ymarfer corff (ar eu pen eu hunain, gydag aelodau o'u haelwyd neu gyda gofalwr)
  • Gweithio neu ddarparu gwasanaethau elusennol
  • Bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Cael gofal plant (gan gynnwys gofal plant anffurfiol)
  • Cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny
  • Cael addysg (ac eithrio myfyrwyr ym mlynyddoedd 9-13 mewn ysgolion ac Addysg Bellach oni bai eu bod yn bresennol i sefyll arholiad)
  • Mynd i briodas neu angladd
  • Symud tŷ
  • Osgoi anaf neu niwed
  • Ymweld â chartref gofal
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon elît

Ni chaiff pobl yng Nghymru ymgynnull gydag unrhyw un nad ydynt yn rhan o’u haelwyd, oni bai eu bod yn aelwyd un person neu'n rhiant sengl. Yn yr achosion hyn caniateir iddynt ffurfio aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall. Esgusodion rhesymol dros gwrdd ag eraill dan do yw:

  • Gweithio neu ddarparu gwasanaethau elusennol
  • Bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Cael gofal plant (gan gynnwys gofal plant anffurfiol)
  • Cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny
  • Cael addysg (ac eithrio myfyrwyr ym mlynyddoedd 9-13 mewn ysgolion ac Addysg Bellach oni bai eu bod yn bresennol i sefyll arholiad)
  • Mynd i briodas neu angladd

Rhaid i bobl weithio gartref os yw'n rhesymol ac yn ymarferol iddynt wneud hynny ac ni chaiff pobl sy'n byw y tu allan i Gymru ddod i mewn i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.

Mae'r rheoliadau hefyd yn cynnwys y gofyniad i'r busnesau canlynol gau:

  • Unrhyw fusnes sy'n gwerthu neu’n rhoi nwyddau neu wasanaethau ar osod mewn siop, ac eithrio busnesau penodol y cyfeirir atynt yn Atodlen 3 i'r rheoliadau: manwerthwyr bwyd, fferyllfeydd, gorsafoedd petrol, garejys, busnesau tacsis a hurio cerbydau, banciau, swyddfeydd post, cyfarwyddwyr angladdau, golchdy, gwasanaethau iechyd, milfeddygon, arwerthiannau da byw, gwasanaethau dosbarthu, meysydd parcio a thoiledau cyhoeddus;
  • Sinemâu; theatrau, clybiau nos, lleoliadau adloniant rhywiol, neuaddau bingo, neuaddau cyngerdd, casinos, gwasanaethau cyswllt agos, llawr sglefrio a phyllau nofio
  • Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.
  • Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.
  • Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.
  • Ffeiriau pleser
  • Mannau chwarae o dan do
  • Tai arwerthiant (ac eithrio arwerthiannau da byw)
  • Garejys gwerthu ceir
  • Marchnadoedd awyr agored
  • Siopau betio
  • Canolfannau siopa, arcedau siopa neu unrhyw fusnes arall sy'n gwerthu nwyddau neu wasanaethau neu eu hurio mewn siop na chyfeirir ati yn Atodlen 4
  • Atyniadau ymwelwyr
  • Llyfrgelloedd
  • Gwerthwyr tai neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd datblygwyr a chartrefi arddangos

Bydd ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, addysg ac eithrio heblaw yn yr ysgol a gwasanaethau gofal plant yn parhau ar agor. Fodd bynnag, er mwyn lleihau nifer cyffredinol y cysylltiadau cymdeithasol ac i ostwng y gyfradd drosglwyddo, dim ond i'r disgyblion ieuengaf (blynyddoedd 7 ac 8) y bydd ysgolion uwchradd yn parhau ar agor ac i'r rhai sy'n sefyll arholiadau na ellir eu had-drefnu. Bydd colegau addysg bellach hefyd yn aros ar gau i ddisgyblion am yr wythnos yn dilyn y gwyliau hanner tymor ac, fel yn yr ysgolion uwchradd, bydd disgwyl iddynt gynnig addysg ar-lein i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos hon.

Asesiad o effaith y mesurau ar gydraddoldeb

Y prif niwed y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i liniaru yw niwed uniongyrchol yn sgil COVID 19: diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu bywydau. Fodd bynnag, bwriad y cyfnod atal byr yw lliniaru yn erbyn niwed ehangach drwy ail-gyflwyno mesurau llym yn y tymor byr, sy'n golygu y gellir cadw’r gymdeithas a'r economi ar agor yn y tymor canolig i'r hirdymor. Mae'r penderfyniad i weithredu cyfnod atal byr yng Nghymru wedi'i seilio ar dystiolaeth wyddonol a chyngor a gynhyrchwyd yng ngoleuni'r sefyllfa gyhoeddus sy'n gwaethygu yn y DU a Chymru. Awgrymodd papur Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau Llywodraeth y DU ar ymyriadau anfferyllol y byddai cyfnod atal byr lle caiff pecyn o fesurau ei ail-gyflwyno am gyfnod cyfyngedig o amser yn gweithredu i leihau R islaw 1, i 0.8, a symud y don bresennol yn ôl 28 diwrnod (am gyfnod atal byr o bythefnos). Mae hyn yn golygu y byddai twf mawr yr epidemig yn dechrau o lefel sylweddol is nag y byddai heb y cyfnod atal. Mae'r dybiaeth hon ar sail ymlyniad da at fesurau, ac nad oes unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cysylltiadau cyn neu ar ôl y cyfnod atal.

Mae Atodiadau A-C yn darparu asesiadau o effaith ar gydraddoldeb (1) cyfyngiadau ar ymgynnull a theithio; (2) cau busnesau; (3) ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 9-13 mewn ysgolion ac addysg bellach i aros gartref am wythnos arall ar ôl y gwyliau hanner tymor.

Ystyriaethau ychwanegol ac asesiadau effaith eraill

Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Mae'r erthyglau canlynol o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn debygol o fod yn berthnasol i gyflawni’r nod cyffredinol o reoli'r feirws: erthygl 2 (hawl i fywyd), 5 (hawliau i ryddid); 8 (yr hawl i barch at gartref); 9 (rhyddid crefydd); 11 (hawliau i ymgynnull); 14 (gwaharddiad rhag gwahaniaethu), A1P1 (mwynhad o eiddo), A2P1 (hawl i addysg). Mae'r rhain i gyd yn hawliau cymwys a gall fod yn gyfreithlon i ymyrryd â'r hawliau hyn lle mae angen yr ymyrraeth honno, a’i bod yn dilyn nod cyfreithlon ac yn gymesur.

Diben sylfaenol y cyfyngiadau symud yw gwarchod hawl pawb i fyw (Erthygl 2 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol). Er y bydd y pecyn o fesurau y cytunwyd arnynt i'w gweithredu rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd yn mynd yn groes i lawer o erthyglau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ystyrir bod hyn yn gymesur wrth geisio diogelu bywydau. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y penderfyniad i weithredu cyfnod atal byr o bythefnos - gyda chyfyngiadau llym ar aelwydydd a chau llawer iawn o’r economi - yn taro cydbwysedd rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a'r niwed cymdeithasol, ariannol, economaidd a llesiant a achosir gan y cyfyngiadau. Byddai cyfnod hirach yn achosi mwy o niwed i fywydau a bywoliaeth pobl. Diben y cyfyngiadau llymach yn ystod y cyfnod byr hwn yw lleihau'r angen am gyfyngiadau pellach, er na ellir diystyru hyn.

Dylid nodi hefyd y bydd eithriadau ac esgusodion rhesymol yn y rheoliadau yn galluogi pobl i ymgynnull o dan do a theithio at ddibenion penodol i liniaru rhai o'r effeithiau anghymesur ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Er enghraifft, mae’r hawl i gael gofal plant – neu i rieni sengl ffurfio aelwyd estynedig - yn ceisio lliniaru yn erbyn effaith anghymesur y gofyniad i aros gartref ar fenywod. Yn yr un modd, mae'r eithriad mewn perthynas â darparu gofal yn ceisio lliniaru yn erbyn niwed i iechyd meddwl a chorfforol y gallai grwpiau agored i niwed eu dioddef o ganlyniad i'r gofyniad hwn.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)

Ystyriwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn yr asesiad hwn. Mae'r Erthyglau canlynol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn debygol o fod yn berthnasol:

  • Erthygl 6: Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai Llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu'n iach
  • Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w safbwyntiau gael eu cymryd i ystyriaeth.
  • Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth ac i rannu gwybodaeth cyn belled nad yw'r wybodaeth yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill.
  • Erthygl 17: Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol. Dylai’r teledu, radio a phapurau newydd ddarparu gwybodaeth y gall plant ei deall, ac ni ddylent hyrwyddo deunyddiau a allai niweidio plant.
  • Erthygl 23: Dylai plant sydd ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig fel y gallant fyw bywydau llawn ac annibynnol.
  • Erthygl 26: Dylai'r Llywodraeth ddarparu arian ychwanegol i blant teuluoedd mewn angen.
  • Erthygl 27: Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ymateb i’w hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai’r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio i ddarparu hyn.
  • Erthygl 28: Mae gan blant hawl i gael addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod yn rhad ac am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
  • Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaethau a thalentau pob plentyn i'r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliannau eu hunain ac eraill.
  • Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.

Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc 7-18 oed eu barn drwy'r Arolwg 'Coronafeirws a Fi’.[1] [2] Mae rhai o’r canfyddiadau wedi’u nodi isod:

  • Dywedodd y plant fod ganddynt bryderon ynghylch pa mor hir y byddai'r sefyllfa'n para ac ofnau y byddant hwy neu'r rhai y maent yn eu caru yn dal y feirws.
  • Roedd plant anabl yn fwy tebygol o fod yn teimlo'n bryderus am y feirws ac roeddent yn pryderu am ei ddal.
  • Y tri phrif bryder oedd gan bobl ifanc (12-18 oed) am y rheolau aros gartref oedd 'peidio â gallu treulio amser gyda ffrindiau' (72%), 'ddim yn gallu ymweld ag aelodau o'r teulu' (59%) a 'chau'r ysgol neu'r coleg' (42%)
  • Mae pobl ifanc 12-18 oed yn adrodd am bryderon am eu haddysg: dim ond 11% o ymatebwyr yn y grŵp oedran hwn a ddywedodd nad oeddent yn teimlo'n bryderus am eu haddysg, a'r prif bryder oedd poeni eu bod ar ei hôl hi (54%). Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda'u haddysg.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o blant eu bod yn chwarae mwy nag arfer (53%) gydag ystod eang o chwarae ar-lein ac fel arall yn cael ei ddisgrifio gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygus, chwarae gyda theganau neu gemau, chwaraeon a chwarae creadigol. Roedd hyn yn ystod yr adeg pan oedd y rheoliadau wedi newid i ganiatáu i'r plant fynd allan i chwarae ac ymarfer corff yn amlach. Roedd plant BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn chwarae llai.
  • Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o weld yr effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl yn eu hymateb i'r arolwg.
  • Adroddodd plant BAME yn yr arolwg eu bod yn fwy tebygol o ddweud bod angen help arnynt i sicrhau bod gan eu teulu ddigon o fwyd. Maent yn fwy tebygol o adrodd am arwyddion o ansicrwydd bwyd. Adroddwyd am hyn hefyd gan randdeiliaid sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned BAME.

Mae ffynonellau tystiolaeth eraill yn cynnwys yr adroddiad Babies in Lockdown, adolygiad o effeithiau posibl oedi datblygiadol ac adborth gan amrywiaeth o randdeiliaid. I rai plant a phobl ifanc, mae'r cyfnod o gyfyngiadau wedi bod yn brofiad cadarnhaol, ond i eraill mae wedi dwysáu amgylchiadau a oedd eisoes yn anodd. Mae'r mwyafrif (58%) o blant a phobl ifanc a gymerodd ran yn yr arolwg wedi nodi eu bod wedi teimlo'n hapus y rhan fwyaf o'r amser yn ystod yr argyfwng a’r mwyafrif helaeth (84%) wedi adrodd eu bod yn teimlo'n ddiogel y rhan fwyaf o'r amser. Adroddodd pobl ifanc o oedran uwchradd deimladau mwy negyddol na phlant iau, gydag 16% yn teimlo'n drist 'y rhan fwyaf o'r amser’. Dywed 2% yn gyffredinol nad ydynt wedi teimlo’n ddiogel 'yn aml iawn'.

Bydd y cyfnod atal o bythefnos - am gyfnod byr - yn amharu ar hawliau plant i ymweld â ffrindiau a theulu. Er y rhagwelir y bydd hyn yn peri pryder i blant, fel y gwelwyd yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau cychwynnol, gall natur gyfyngedig o ran amser yr ymyriad hwn liniaru yn erbyn yr effeithiau gwaethaf.

Nod yr egwyddor o gadw lleoliadau gofal plant ac ysgolion ar agor (i'r graddau mwyaf posibl) yw lliniaru yn erbyn yr effaith negyddol ar blant o ran chwarae a datblygiad cymdeithasol, emosiynol, corfforol ac addysgol, yn enwedig i blant BAME a phlant nad oes ganddynt fynediad at gyfleusterau TG da gartref. [Er mai effaith gyfyngedig, os o gwbl, y caiff hyn ar y plant hynny nad ydynt yn mynychu lleoliad gofal plant neu ysgol, sy'n golygu bod mynediad i fannau awyr agored i ymarfer corff, chwarae a chael profiad o'r ardal ehangach yn bwysig.] Yn ei adroddiad ar anghydraddoldebau ac effaith COVID-19[3], tynnodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol sylw at ofnau y bydd y plant a oedd â’r cyrhaeddiad addysgol isaf cyn y pandemig wedi syrthio ar ei hôl hi ymhellach o’i gymharu â’u cymheiriaid, fel bechgyn, plant o gefndiroedd ethnig penodol, a’r rhai ag AAA/ADY. Hefyd, canfu'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid[4] fod disgyblion o deuluoedd mwy cyfforddus yn ariannol yn treulio mwy o amser yn dysgu yn y cartref; bod ganddynt fynediad at adnoddau mwy unigol fel tiwtora preifat neu sgyrsiau gydag athrawon; bod y cartref wedi’i drefnu’n well ar gyfer dysgu o bell; a bod eu rhieni'n dweud eu bod yn teimlo'n fwy abl i'w cefnogi.

Ar gyfer plant a phobl ifanc ym mlwyddyn 9 – 13 mewn ysgolion uwchradd ac mewn addysg bellach bydd y cyfnod atal byr yn cynrychioli cyfnod pellach o darfu ar eu haddysg, ac o bosibl ar yr ymdeimlad o normalrwydd a diogelwch y mae ysgolion wedi bod yn ceisio'i feithrin. Rhagwelir y bydd hyn yn cael effaith ar lesiant plant a hefyd ar eu ffocws ar eu dysgu a pharatoadau ar gyfer arholiadau yn yr haf.

Er mwyn unioni rhai o effeithiau'r cyfyngiadau symud cychwynnol, lansiwyd cynllun gwerth £1.3m i fynd i'r afael ag oedi datblygiadol yn dilyn pryderon ynghylch plant yn methu â chyrraedd cerrig milltir datblygiad corfforol a datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu. 

O ran llesiant economaidd plant, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol am Ddim a banciau bwyd, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei roi fel na ddylai unrhyw blentyn fynd yn llwglyd. Mae arian ychwanegol ar gael i gefnogi'r mesurau hyn ac felly'n helpu i liniaru teimladau o ansicrwydd bwyd, yn enwedig i blant BAME. Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw hyn yn debygol o fod yn ddigon i unioni effaith colli enillion am bythefnos i'r gweithwyr hynny ar gontractau dim oriau, gweithwyr asiantaeth neu'r rhai na fyddant ond yn mynd â dwy ran o dair o'u cyflogau adref, os ydynt mewn sefyllfa lle gall eu cyflogwr gael mynediad i gronfa JSS newydd y DU.

Er mwyn cefnogi cyfathrebu â phlant a rhieni, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ymgyrchoedd a rhwydweithiau sy'n bodoli eisoes i ddosbarthu gwybodaeth a chyngor i rieni, er enghraifft yr ymgyrch Magu Plant: Rhowch Amser Iddo; tudalen facebook Dechrau'n Deg; y Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta, Gofal Plant, Dechrau'n Deg a Rhwydweithiau Teuluoedd yn Gyntaf. Bydd y gwaith hwn yn ceisio tawelu meddwl plant, esbonio beth sy'n digwydd a helpu rhieni i gefnogi eu plant i barhau i fwynhau rhai o'u hawliau hanfodol, e.e. yr hawl i fwynhau ymlacio a chwarae.

Effeithiau ehangach ar yr economi, cymdeithas a llesiant

Erys niweidiau sy'n gysylltiedig ag effaith gymdeithasol ac economaidd hirdymor y cyfyngiadau parhaus. Yn benodol, mae'n amlwg bod effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor posibl COVID-19 yn debygol o fod yn sylweddol. Amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cynnyrch domestig gros (GDP) yn y DU ym mis Awst 2020 9.2% yn is na'r lefelau a welwyd ym mis Chwefror 2020. Mae hyn yn dilyn y gostyngiad digynsail o 19.8% mewn GDP yn ail chwarter 2020 (mis Ebrill i fis Mehefin). Er nad yw ffigurau GDP rhanbarthol ar gyfer y cyfnod hwnnw wedi'u cyhoeddi eto ar gyfer yr un cyfnod, mae maint y crebachu a welwyd yng Nghymru yn debygol o fod yn gyson â'r DU gyfan. At hynny, canfu Arolwg Effaith Busnes Coronafeirws ar gyfer 7 i 20 Medi fod bron i hanner (47%) o fusnesau sy'n masnachu ar hyn o bryd wedi adrodd bod eu trosiant wedi gostwng yn is na'r hyn a ddisgwylir fel arfer ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae tystiolaeth yn dangos bod y dirywiad economaidd bellach yn dechrau cael effaith ar y farchnad lafur. Dangosodd ffigurau'r farchnad lafur a ryddhawyd yr wythnos diwethaf (yr wythnos sy’n dechrau 12 Hydref) ddarlun sy'n dirywio ar gyfer cyflogaeth, gyda nifer y gweithwyr cyflogedig ym mis Medi 2.1% yn is na'r sefyllfa ym mis Chwefror. Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra yn 3.8% rhwng mis Mehefin a mis Awst 2020, o'i gymharu â 3.2% rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020. Mae tystiolaeth o ddirwasgiadau blaenorol yn dangos mai’r ifanc, y rhai ar gyflogau isel, y rhai â chymwysterau ar lefel is; y rhai mewn cyflogaeth dros dro a rhan amser; pobl anabl; menywod; a’r rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau andwyol drwy gydol yr argyfwng ac wedi hynny. Ar lefel y DU, mae arwyddion cynnar eisoes o ddiweithdra cynyddol ymhlith pobl ifanc, gan mai 13.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y rhai rhwng 18 a 24 oed rhwng mis Mehefin a mis Awst 2020, o'i gymharu â 10.7% rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020. Mae tystiolaeth glir hefyd yn dod i'r amlwg o effeithiau anghymesur ar staff a osodwyd ar y cynllun ffyrlo yn flaenorol a'r rhai sy'n cael eu nodi ar gyfer dileu swydd. Dangosodd tystiolaeth ddiweddar gan Gyngor ar Bopeth fod nifer anghymesur o bobl a oedd gynt yn cymryd camau gwarchod, yn rhieni neu'n ofalwyr neu'n anabl, yn cael eu nodi gan gyflogwyr ar gyfer dileu swydd.

Bydd cyfnod atal byr yn cael effaith negyddol ar allbwn yng Nghymru, a fydd yn cyfyngu ymhellach ar yr adferiad economaidd gan ei fod yn golygu cau cyfran sylweddol o fusnesau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â chwsmeriaid gan gynnwys manwerthu, lletygarwch, twristiaeth a chelfyddydau creadigol nad ydynt yn hanfodol. Yn 2019 roedd tua 18,800 o fusnesau â’u pencadlys yng Nghymru yn gweithredu o dan ddiwydiannau y dywedir wrthynt am gau yn ystod y cyfnod atal byr, gyda chyfanswm o tua 206,000 o weithwyr (2018). 

Yn ystod y cyfnod atal byr o bythefnos, y tri sector sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n andwyol yw manwerthu, llety a bwyd, a’r celfyddydau, adloniant a hamdden. Mae gwerth y tri sector i werth ychwanegol gros (GVA) Cymru yn fwy na £9 biliwn, a all gyfateb i tua £300 miliwn dros gyfnod y cyfnod atal byr (er bod y ffigur gwirioneddol yn ansicr gan y bydd rhai sectorau manwerthu a sectorau eraill yn aros ar agor).[5]

Mae rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â chau busnesau yn cynnwys:

  • Bydd niwed economaidd tymor byr penodol ar ffurf incwm is a mwy o ddiweithdra, sy'n gymesur â hyd y cyfnod y bydd busnesau ar gau, a fydd yn ei dro yn cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant.
  • Mae natur cyflogaeth yn y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf yn golygu y bydd effeithiau'n tueddu i waethygu unrhyw anghydraddoldebau – mae'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn tueddu i fod ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr, ac yn bobl ifanc.
  • Mae ansicrwydd (gan gynnwys ynglŷn â chyfyngiadau yn y dyfodol, a ellid ymestyn neu ailadrodd y cyfnod atal, a graddfa unrhyw newidiadau mwy parhaol a gyflymir gan y pandemig) ynddo’i hun yn niweidiol yn economaidd, yn debygol o leihau buddsoddiad busnes ac felly cynhyrchiant yn y dyfodol, ac yn debygol o ymestyn y dirwasgiad.
  • Bydd effeithiau "creithiau" hirdymor / gydol oes ar ganlyniadau economaidd-gymdeithasol o ganlyniad – incwm is, mwy o risg o ddiweithdra, iechyd gwael a marwolaethau cynamserol. Mae'r effeithiau hyn yn debygol o effeithio'n anghymesur ar bobl o gefndiroedd difreintiedig, gan ehangu anghydraddoldebau yn yr hirdymor.

Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grantiau awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr.

Ceir cyfoeth o dystiolaeth arolwg sy'n tynnu sylw at niweidiau cymdeithasol cyfyngiadau symud, gan gynnwys effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant. Canfu Arolwg Ymgysylltu Diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Iechyd a Llesiant (5 i 11 Hydref) fod 34% o ymatebwyr yn teimlo'n unig o leiaf yn achlysurol. Mae'r effeithiau hyn yn arbennig o ddwys ar bobl ifanc, a'r rhai sy'n ei chael yn anos deall yr angen am newid i'w bywyd bob dydd megis plant ifanc neu bobl ag awtistiaeth.

Mae'r mesurau uwch wedi'u cyfyngu i bythefnos felly ni ddylai'r effaith ar iechyd meddwl fod mor fawr ag yn ystod y cyfyngiadau symud gwreiddiol, lle nad oedd y pwynt terfyn yn hysbys. Dylai eithriadau ac esgusodion rhesymol i ffurfio aelwydydd estynedig os ydych yn byw ar eich pen eich hun, ac i gyfarfod dan do i ddarparu gofal, helpu i liniaru rhai o effeithiau'r mesurau.

Mae'n debygol y bydd effaith amgylcheddol gadarnhaol yn gyffredinol yn y tymor byr yn ystod y cyfnod atal byr. Credir bod y mesurau i leihau rhyngweithio cymdeithasol ers mis Mawrth wedi cyfrannu at gynnydd mewn ansawdd aer (yn enwedig mewn ardaloedd trefol) ac wedi helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd (o ystyried bod COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau mwy difreintiedig), gan gynyddu teimladau o unigrwydd ac unigedd a lleihau hyfywdra economaidd rhai diwydiannau (fel twristiaeth a lletygarwch). Mae llawer o'r effeithiau hyn yn cael eu trafod yn fanylach mewn adrannau eraill o'r Asesiad Effaith Integredig hwn. Yn gysylltiedig â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweld tystiolaeth sy'n awgrymu, pan gyflwynwyd y cyfyngiadau gyntaf ym mis Mawrth, y bu dirywiad cyffredinol mewn allyriadau carbon deuocsid cyfwerth yng Nghymru.[6]

Y Gymraeg

Mae natur tymor byr y cyfnod atal byr yn golygu bod effaith sylweddol ar y Gymraeg yn annhebygol. Yn ogystal, mae effeithiau cyfyngiadau yn debygol o amrywio'n sylweddol yn seiliedig ar gefndir ieithyddol siaradwyr Cymraeg. I blant sydd yr unig siaradwyr Cymraeg ar eu haelwyd (sy'n wir am rai plant sy'n mynychu ysgolion Cymraeg eu hiaith) gallai'r cyfleoedd i siarad Cymraeg leihau'n ddifrifol yn sgil y cyfyngiadau ar gynulliadau dan do ac yn yr awyr agored, yn enwedig o'u cyplysu â chyfyngiadau ehangach ar y sector addysg a’r economi. Ond mae'n anodd deall union effaith hyn yn llawn, gan y bydd llawer o siaradwyr yn defnyddio adnoddau digidol fel modd o oresgyn rhwystrau ffisegol i gymdeithasu. Fodd bynnag, bydd y gallu i wneud hyn yn rhwydd hefyd wedi’i effeithio yn ôl ardal (gwahaniaeth mewn cysylltedd band eang trefol/gwledig) ac oedran (gyda lefelau llythrennedd digidol is gan garfannau hŷn o'r boblogaeth o’i gymharu â’u cymheiriaid iau).

Effeithiau gwledig

Gallai cyfyngiadau ar symudiadau a chynulliadau dan do/yn yr awyr agored gael effaith wahaniaethol ar gymunedau gwledig yng Nghymru o ystyried nodweddion penodol yr ardaloedd hyn. Mae'r cymunedau hyn yn fwy tebygol o fyw cryn bellter oddi wrth wasanaethau hanfodol ac mae potensial hefyd bod eu rhwydweithiau cymdeithasol fwy ar wasgar. Cyflogir cyfran fwy o'r gweithlu yn yr ardaloedd hyn hefyd mewn sectorau fel Twristiaeth a Lletygarwch. Un o oblygiadau uniongyrchol y cyfyngiadau a oedd yn gysylltiedig â rhyngweithio cymdeithasol yn gynharach yn y flwyddyn oedd y potensial iddynt gynyddu teimladau o unigrwydd ac unigedd, ac mae rhywfaint o dystiolaeth arolwg bod teimladau o'r fath wedi cynyddu mewn ymateb i fesurau sy'n gysylltiedig â coronafeirws ar draws y DU.[7]

Ers cyflwyno'r cyfyngiadau cyntaf, mae pwysigrwydd cysylltedd a llythrennedd digidol wedi cynyddu er mwyn i aelwydydd barhau i fod mewn cysylltiad â’u rhwydweithiau cymdeithasol, eu ffrindiau a’u teulu ac, i lawer, er mwyn gweithio o bell mewn modd effeithiol. Er y credir bod gan 95% o gartrefi a busnesau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, mae'r cartrefi sydd fwyaf tebygol o ddioddef oherwydd diffyg cysylltedd band eang mewn ardaloedd gwledig.

[1] Cwblhaodd 11,815 (50%) yr arolwg 7-11 oed; cwblhaodd 11,002 (47%) yr arolwg 12-18 oed; a chwblhaodd 671 (3%) yr arolwg hygyrch (7-18 oed)

[2] https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/FINAL_formattedCVRep_CYM.pdf

[3] y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol – Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig

[4] IFS – Learning during lockdown

[5] Dylid nodi mai dangosol yn unig yw'r ffigur hwn – mae nifer o ffactorau y dylid eu hystyried o ran cywirdeb: (i) bod y data ar gyfer 2018; (ii) bod natur dymhorol yn golygu y gall rhai cyfnodau o'r flwyddyn fod yn gysylltiedig â gwahanol lefelau o GVA (e.e. y Nadolig, cyfnodau gwyliau ac ati); (iii) Efallai y bydd rhai busnesau'n gallu parhau i fasnachu; (iv) Mae'n amhosibl asesu i ba raddau y gallai allbwn ddisgyn hyd yn oed yn absenoldeb cyfyngiadau os bydd pobl yn ymateb i fwy o achosion o glefydau drwy addasu eu hymddygiad; (v) Oherwydd natur ansicr yr amcangyfrif, argymhellir ffigur ceidwadol. Dylid nodi hefyd mai amcangyfrif uniongyrchol yw’r ffigur h.y. ddim yn cynnwys effeithiau’r gadwyn gyflenwi.

[6] Richard Energy & Environment (2020). “Provisional Analysis of Welsh Air Quality Monitoring Data – Impacts of Covid-19" Ar gael yn: https://airquality.gov.wales/sites/default/files/documents/2020-08/Analysis_of_Welsh_Air_Quality_Data_Impacts_of_Covid-19_Final_Issue2.pdf [fel ar 18/09/2020]

[7] Sefydliad Iechyd Meddwl (2020). Loneliness during coronavirus. Ar gael o: https://www.mentalhealth.org.uk/loneliness-during-coronavirus [fel ar 18/09/2020]

Atodiad A: Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb: cyfyngiadau ar gynulliadau a theithio

Bydd cyfnod atal byr cyfyngedig o ran amser yn effeithio ar gydraddoldeb a hawliau plant. Mae'r effeithiau negyddol hyn yn gymesur ar sail diogelu iechyd y cyhoedd a'r angen i ail-osod y sefyllfa o ran trosglwyddo'r feirws. 

Gall mesurau aros gartref gynyddu'r galw am gymorth gan fenywod neu blant sy'n cael eu cam-drin a bydd gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi'r grwpiau hyn yn parhau ar agor. Er y bydd y mesurau'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl hŷn a rhai pobl anabl â chyflyrau cronig sy'n agored i niwed yn sgil coronafeirws, gall waethygu teimladau o unigrwydd ac unigedd ymhellach. Bydd effeithiau negyddol ar blant, teuluoedd a menywod yn arbennig yn cael eu lliniaru drwy ganiatáu i ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, ac addysg heblaw yn yr ysgol i agor yr wythnos ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan ganiatáu mynediad i ofal plant a chadw meysydd chwarae ar agor. Gallai pobl sy'n byw ar aelwydydd sy'n ennill islaw'r cyflog canolrifol hefyd elwa o'r cymorth brys atodol a fydd ar gael – er enghraifft – drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Grŵp neu nodwedd warchodedig

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru’r effeithiau?

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)

Cadarnhaol: Mae tystiolaeth glir bod COVID-19 yn peri risg uwch i bobl hŷn, felly bydd mesurau i ddod â'r feirws yn ôl dan reolaeth a lleihau trosglwyddiad yn cael effeithiau cadarnhaol.

Negyddol: Mae'r gofyniad i aros gartref – hyd yn oed am gyfnod byr – yn debygol o effeithio ar iechyd meddwl pob grŵp oedran: pobl hŷn sydd fwyaf tebygol o boeni am ddal y feirws, tra bod pobl 18-29 oed yn fwyaf tebygol o deimlo'n ynysig. 

 

 

Mae ymatebion yr arolwg yn nodi mai pobl ieuengach (18-29) yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o boeni am eu hiechyd meddwl a theimlo'n ynysig.

Mae pobl dros 70 oed yn fwy tebygol o boeni am eu hiechyd a'r risgiau o ddal COVID-19.

Canfu arolwg ffordd o fyw'r SYG (Mai 20) fod cyfraddau unigrwydd ar eu huchaf ymhlith oedolion o oedran gweithio sy'n byw ar eu pen eu hunain (ee. Nododd 13% o'r rhai 16-64 oed a oedd yn byw ar eu pen eu hunain unigrwydd cronig o gymharu â 5% mewn aelwydydd â dau oedolyn o oedran gweithio). Nid oedd pobl hŷn yn fwy tebygol o nodi eu bod yn unig ac roedd y gyfran uchaf ymysg oedolion ifanc.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod yn hunanynysu ac maent yn poeni mwy am ddal y feirws a mynd yn ddifrifol wael (arolwg llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Camau lliniaru: Mae'r mesurau llymach wedi'u cyfyngu i bythefnos felly ni ddylai'r effaith ar iechyd meddwl fod mor fawr ag yn ystod y cyfyngiadau gwreiddiol, lle nad oedd y pwynt terfyn yn hysbys. Cydnabyddir, fodd bynnag, y caiff y mesurau effaith gronnol gyda'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith eisoes yng Nghymru ers mis Mawrth

Camau lliniaru: Dylai eithriadau ac esgusodion rhesymol i ffurfio aelwydydd estynedig os ydych yn byw ar eich pen eich hun, ac i gyfarfod dan do i ddarparu gofal, liniaru effeithiau gwaethaf y mesurau.

Camau lliniaru: Gall gweithgarwch corfforol a bod yn yr awyr agored gael effaith sylweddol ar leihau unigrwydd, felly dylai'r esgus rhesymol i alluogi ymarfer corff helpu i liniaru effaith y mesurau i ryw raddau.

Anabledd (meddyliwch am wahanol fathau o anabledd)

Cadarnhaol: mae tystiolaeth bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur sylweddol ar iechyd rhai pobl anabl a rhai pobl â chyflyrau iechyd cronig. Felly bydd mesurau i reoli'r feirws a lleihau trosglwyddiad yn cael rhai effeithiau cadarnhaol ar bobl anabl.

Negyddol: Yng ngham cynharach y pandemig, gwelodd rhai pobl anabl ostyngiad yn eu pecyn gofal gan awdurdodau lleol neu newidiadau eraill yn y cymorth sydd ar gael. Roedd hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd a llesiant pobl.

I rai pobl anabl efallai na fydd eu cartref yn lle diogel. Gall gorchymyn i aros gartref eu gwneud yn agored i niwed arall a gall roi esgus rhesymol i eraill gadw gwasanaethau i ffwrdd. 

Gall gofynion aros gartref a chyfyngiadau eraill effeithio ar rai pobl anabl yn fwy difrifol nag eraill. Gall hyn fod oherwydd y rôl y mae trefn yn ei chwarae o ran helpu i reoli eu llesiant neu oherwydd anhawster i gyfathrebu neu ddeall yr angen am gyfyngiadau penodol.

Roedd cau gwasanaethau cyswllt personol hefyd yn effeithio ar bobl anabl – yn enwedig gwasanaethau therapiwtig, gan gael effaith negyddol ar lesiant corfforol a meddyliol.

Mae adborth gan ofalwyr yn nodi bod diffyg darpariaeth arbenigol ar gyfer rhai grwpiau, fel y rheini sy’n gofalu am rywun ag anabledd dysgu, awtistiaeth neu ddementia, sy’n llai tebygol o allu deall a delio â'r tarfu ar eu trefn arferol.

Nododd Coronafeirws a Fi fod plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o adrodd am effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a bod cau gwasanaethau yn cael effaith fawr ar y ffordd yr oeddent yn teimlo.

Gall cyfyngiadau symud effeithio'n anghymesur ar bobl anabl. Efallai mai cyfyngedig yw’r lle diogel a phriodol yn eu cartref neu yn eu hardal leol ac efallai y bydd angen teithio i leoliad pellach. Bydd unrhyw gyfyngiad ar amlder ymweliadau allanol yn effeithio'n fwy sylweddol ar rai pobl anabl. Yn ei adroddiad ar anghydraddoldebau ac effaith Covid-19[1], nododd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r newidiadau i’n hamgylchedd adeiledig yn cael effaith yn arbennig ar bobl anabl.

 

 

Camau lliniaru: Dylai eithriadau ac esgusodion rhesymol i ffurfio aelwydydd estynedig os ydych yn byw ar eich pen eich hun, ac i gyfarfod dan do i ddarparu gofal, liniaru effeithiau gwaethaf y mesurau.

 

Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl trawsryweddol)

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

Amherthnasol

Beichiogrwydd a mamolaeth

Negyddol: Mae amrywiaeth o faterion wedi'u nodi ar gyfer beichiogrwydd a mamolaeth o ganlyniad i‘r cyfyngiadau symud. Mae'r rhain wedi amrywio o ddylanwadu ar benderfyniadau menywod i gael genedigaethau naturiol os nad yw eu partner yn bresennol, i anawsterau gyda bwydo ar y fron.

Nododd yr arolwg Babies in lockdown fod ychydig dros chwarter (28%) o'r rhai sy'n bwydo ar y fron yn teimlo nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn bwydo ar y fron (55%), ond nid oedd dros hanner y rhai a oedd yn defnyddio fformiwla wedi bwriadu gwneud hynny (53%).

Nododd yr adroddiad Babies in lockdown fod bron i hanner (47%) o rieni wedi nodi bod eu plentyn yn fwy mwythlyd. Nododd chwarter (26%) fod eu baban yn crio mwy nag arfer. Roedd nifer y rhai a nododd gynnydd mewn babanod yn crio, yn strancio ac yn fwy mwythlyd nag arfer ddwywaith yn uwch ymhlith y rhai ar yr incwm isaf na'r rhai ar yr incwm uchaf.

Nododd yr adroddiad hwn hefyd fod 6 o bob 10 rhiant wedi rhannu pryderon sylweddol am eu hiechyd meddwl.

Camau lliniaru: Bydd gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gofal plant (gan gynnwys Dechrau'n Deg) yn aros ar agor yn ystod y cyfnod atal byr a byddant yn rhoi cymorth i'r grŵp hwn.

 

Hil (yn cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, sipsiwn a theithwyr a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Cadarnhaol: Dangoswyd bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl BAME, felly bydd mesurau i reoli'r feirws o fudd arbennig i'r grŵp hwn.

Negyddol: Amlygodd adroddiad is-grŵp Economaidd Cymdeithasol BAME COVID-19 faterion yn ymwneud â gorlenwi mewn cartrefi i bobl BAME. Bydd gofyniad i aros gartref yn effeithio'n anghymesur ar bobl sy'n byw mewn amodau gorlawn.

Ystod o dystiolaeth wahanol ar yr effaith anghymesur ar y gymuned BAME (e.e. SYG, grŵp cynghori BAME ar gyfer Llywodraeth Cymru). Nododd Coronafeirws a Fi:

Mae plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn a thlotach sy'n ei gwneud yn anos aros gartref a dysgu gartref.

Dywedodd plant a phobl ifanc BAME fod y cyfyngiadau'n effeithio ar eu gallu i gadw corff a meddwl iach, a bod y gofod cyfyngedig neu fyw mewn tai gorlawn wedi gwneud hyn yn anoddach.

Camau lliniaru: Dylai eithriadau ac esgusodion rhesymol dros ffurfio aelwydydd estynedig os ydych yn byw ar eich pen eich hun, ac i gyfarfod dan do i ddarparu gofal, liniaru effeithiau gwaethaf y mesurau tymor byr.

 

Crefydd, cred a diffyg cred

Negyddol: Bydd addoldai'n cau yn ystod y cyfnod atal byr. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar bobl â chredoau crefyddol.

Cadarnhaol: Mae cyd-addoli yn gynulliad sy'n dwyn ynghyd nifer o bobl sy'n aml yn adnabod ei gilydd o ganlyniad i weithgarwch a rennir dros amser. Mae risg uwch i gynulliadau dan do. Mewn llawer o grefyddau mae cynulleidfaoedd yn cynnwys lefel uchel o bobl hŷn â risgiau cysylltiedig. Bydd y cyfyngiadau yn amddiffyn cyfranogwyr rhag dod i gysylltiad â'r feirws.

 

Camau lliniaru: Caniateir darlledu gwasanaethau heb gynulleidfa o dan y cyfyngiadau.

 

Rhyw / Rhywedd

Negyddol: Bydd cau rhai sectorau yn cael effaith anghymesur ar fenywod. Yn fwy cyffredinol, ceir tystiolaeth dda o ran gyntaf y pandemig bod y cyfrifoldebau gofalu ychwanegol sy'n deillio o'r pandemig, gan gynnwys gofal plant, yn disgyn yn anghymesur ar fenywod. Bydd hyn yn effeithio ar allu rhai menywod i weithio ac ar eu hiechyd a'u lles. Mae pryder y bydd hyn hefyd yn cael effaith tymor hwy ar yrfaoedd menywod a’u cynnydd mewn swyddi. 

Ceir tystiolaeth o'r galw cynyddol am gymorth gyda VAWDASV yn dilyn y cyfyngiadau cenedlaethol. Bydd unrhyw fesurau sy'n dweud wrth bobl am aros gartref a chyfyngu ar y mannau lle gallant fynd yn cynyddu'r risg honno ac yn cyfyngu ar y cyfle i gael gafael ar gymorth.

Mae mwyafrif y gweithwyr gofal a'r bobl sy’n darparu gofal, boed hynny’n gyflogedig neu’n ddi-dâl, yn fenywod, ac maent yn fwy tebygol na dynion o ddarparu cymorth di-dâl yn y cartref (Grŵp Cyllideb Menywod, COVID-19: Materion Rhywedd a Chydraddoldeb)

Gofalwyr sy'n gweithio, a fydd yn gorfod cydbwyso gwasanaethau lleol yn dychwelyd a gofalu am berson sy'n agored i niwed. (Carers UK)

Camau lliniaru: mae'r gallu i gael mynediad at ofal plant – neu i rieni sengl ffurfio aelwyd estynedig - yn ceisio lliniaru yn erbyn effaith anghymesur y gofyniad i aros gartref ar fenywod.

Camau lliniaru: bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall gwasanaethau allweddol barhau i weithredu, gan gynnwys wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod atal byr (er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau VAWDASV a Dechrau'n Deg)

Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)

Negyddol: effaith gorfod aros adref ar rai pobl, yr oedd eu teuluoedd yn negyddol neu’n elyniaethus am eu cyfeiriadedd rhywiol. Gall gofyniad i aros gartref ailgyflwyno'r materion hyn.

Amherthnasol

Amherthnasol

Priodas a phartneriaeth sifil

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

Roedd pobl a oedd yn briod neu'n cyd-fyw yn llai tebygol ar gyfartaledd o deimlo'n unig (unigrwydd cronig ac unigrwydd y cyfnod clo) (barn ac arolwg ffordd o fyw SYG, Mai 20)

Amherthnasol

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Gweler asesiad CCUHP uchod.

 

 

Y ddau brif fater i blant (12-18) sy'n ymwneud â’r cyfyngiadau yw 'ddim yn gallu treulio amser gyda ffrindiau' (72%) a 'ddim yn gallu ymweld ag aelodau o'r teulu' (59%) (Arolwg Coronafeirws a Fi)

Gweler asesiad CCUHP uchod.

 

Aelwydydd incwm isel

Negyddol: Mae'r cyfnod atal byr yn debygol o waethygu anawsterau i aelwydydd incwm isel sy'n cael trafferth gyda gofal plant neu anghenion gofal, yn ogystal â mynd i'r afael â lefelau uwch o unigedd a phryderon am iechyd meddwl

Arolwg Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru: y rheini sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o deimlo’n bryderus ac yn ynysig yn ystod cyfyngiadau'r coronafeirws, ac adrodd mwy o bryderon am eu hiechyd meddwl.

Amherthnasol

 

[1] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig

Atodiad B: Asesiad o effaith y mesurau ar gau busnesau

Bydd y gofyniad i gau busnesau yn cael effaith economaidd negyddol ar bobl sy'n ennill llai na chanolrif cyflog Cymru. Bydd llawer o'r sectorau yr effeithir arnynt yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol fel menywod (gwasanaethau cyswllt agos a manwerthu nad yw'n hanfodol), BAME (gwasanaethau lletygarwch a thrafnidiaeth) a phobl iau (lletygarwch)

Nodwedd neu grŵp gwarchodedig

Asesu effaith: cadarnhaol neu negyddol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Camau lliniaru (arfaethedig)

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)

Negyddol: Mae carfannau iau o'r boblogaeth yn llawer mwy tebygol o weithio yn y sector lletygarwch[1] yng Nghymru na charfannau hŷn, felly gallai'r darpariaethau hyn gael effaith negyddol. Ar hyn o bryd, y garfan hon yw'r grŵp oedran sy’n wynebu'r risg fwyaf o ganlyniad i ddirywiad economaidd.

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2019 yn dangos bod 46% o weithwyr mewn tafarndai a bwytai yng Nghymru o dan 25 oed (a dim ond 12% o'r gweithlu mae'r grŵp oedran hwn yn ei gynrychioli).

Camau lliniaru: Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grant awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr.

 

Anabledd (meddyliwch am wahanol fathau o anabledd)

Negyddol: Mae'r boblogaeth anabl yng Nghymru yn cynrychioli cyfran uwch o gyflogeion yn y sector lletygarwch nag yn y gweithlu cyfan. Mae pobl anabl hefyd wedi profi mwy o anfantais economaidd o ganlyniad i'r pandemig, gan eu bod yn fwy tebygol o gael eu rhoi ar y cynllun ffyrlo a chael eu nodi ar gyfer colli swydd.

Mae dadansoddiad o ddata’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2019 yn awgrymu bod cynrychiolaeth uwch o bobl anabl yn y sector hwn yng Nghymru – mae 19% o’r gweithlu yn cael eu hystyried yn anabl (mae’r grŵp hwn yn cynrychioli 15% o'r gweithlu ehangach).

Camau lliniaru Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grant awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr.

 

Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl drawsryweddol)

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Beichiogrwydd a mamolaeth

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Hil (yn cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, sipsiwn a theithwyr a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Negyddol: Mae’r boblogaeth BAME yn fwy tebygol o weithio o fewn y sector lletygarwch yng Nghymru na’r boblogaeth wyn.

Negyddol: bydd cau rhai sectorau yn cael effaith anghymesur ar bobl BAME. Efallai y bydd effaith andwyol anghymesur hefyd ar fusnesau BAME sy'n gwerthu bwydydd diwylliannol arbenigol – fel bwyd ethnig lle mae eisoes yn anodd cadw cwsmeriaid oherwydd prinder cynhyrchion bwyd.

Negyddol: Bydd y cyfnod atal hefyd yn cael effaith andwyol ar henoed Windrush a BAME sydd wedi adrodd am unigedd ac anawsterau pryder, iselder ac iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gorfod aros yn eu cartref i ffwrdd oddi wrth aelodau o’r gymuned neu eu teuluoedd.

Cadarnhaol: Mae’n bosibl bod pobl BAME yn wynebu risg anghymesur o ganlyniadau iechyd negyddol pe baent yn dal Covid-19. Dylid ystyried hyn mewn cysylltiad â staff a chwsmeriaid y sector.

Mae dadansoddiad o ddata’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2019 yn amcangyfrif bod 12% o weithwyr mewn tafarndai, a bwytai yng Nghymru yn dod o gefndir BAME (a dim ond 5% o'r gweithlu yng Nghymru y mae'r grŵp hwn yn ei gynrychioli).

Camau lliniaru Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grant awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr.

Crefydd, cred a diffyg cred

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Rhyw / Rhywedd

Negyddol: bydd cau rhai sectorau yn cael effaith anghymesur ar fenywod. Er enghraifft, mae cyfran y gweithwyr yn y sector lletygarwch sy'n fenywod ychydig yn uwch nag ar gyfer gweithlu Cymru yn gyffredinol.

Hefyd mae menywod yn fwy tebygol o fod wedi nodi lefelau is o lesiant meddyliol o ganlyniad i beidio â gallu parhau i ryngweithio’n gymdeithasol yn ôl yr arfer.

Mae dadansoddiad o ddata’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn 2019 yn amcangyfrif bod 50% o'r rhai sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru mewn tafarndai a bwytai yn fenywod, tra bod menywod yn cynrychioli 47% o'r holl gyflogaeth yng Nghymru.

Mae canfyddiadau'r arolwg yn awgrymu y gallai menywod elwa ar ailgydio mewn rhyngweithio cymdeithasol ‘normal’, fel pryd o fwyd gyda ffrindiau neu deulu/teulu estynedig, a allai roi hwb i lesiant seicolegol.

Camau lliniaru Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grant awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr.

Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Priodas a phartneriaeth sifil

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Gweler asesiad CCUHP uchod.

 

Gweler asesiad CCUHP uchod.

Aelwydydd incwm isel

Negyddol: Mae natur cyflogaeth yn y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf yn golygu y bydd effeithiau'n tueddu i waethygu anghydraddoldebau – mae'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn tueddu i fod ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr, ac yn bobl ifanc.

 

Gweler, er enghraifft, y data dros dro o Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2019 sy’n darparu amcangyfrifon ar gyfer cyflog gros fesul awr a fesul wythnos, yn ôl codau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) 2 ddigid yng Nghymru. Ar gyfer Gweithgarwch Gwasanaethau Bwyd a Diod (cod SIC 56), y cyflog gros canolrifol yr awr oedd £8.28 sydd £3.91 yn is na chanolrif Cymru ar gyfer yr holl swyddi, sef £12.19. O ran cyflog gros yr wythnos yn y sector hwn, £197.30 yw'r canolrif sydd tua £243.50 yn is na chanolrif Cymru.

Gan ddefnyddio'r un data, amcangyfrifir bod o leiaf 80% o weithwyr Gweithgarwch Gwasanaethau Bwyd a Diod yn cael cyflog gros is yr awr na chanolrif Cymru.

Camau lliniaru Yn ogystal ag unrhyw becyn cymorth gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo pecyn gwerth £295m o gymorth grant awtomataidd a dewisol i fusnesau i liniaru effaith economaidd y cyfnod atal byr. Cydnabyddir mai dim ond yn rhannol y bydd yn cael ei liniaru gan mai ond dwy ran o dair o gyflog yr unigolyn y mae cynllun y DU yn ei ddarparu.

 

[1] “’Diffinnir sector ‘Lletygarwch’ a ‘thafarndai a bwytai’ fel SIC 56.1: Gweithgarwch bwytai a gwasanaeth bwyd symudol a SIC 56.3: Gweithgareddau gweini diodydd

Atodiad C: Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 9-13 mewn ysgolion ac addysg bellach i aros gartref am wythnos arall ar ôl hanner tymor

Bydd plant oedran cynradd a blwyddyn 7 ac 8 yn yr ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan leihau'r effaith ar eu haddysg a'r effeithiau ehangach ar lesiant. Bydd darpariaeth ysgolion arbennig ac addysg heblaw yn yr ysgol hefyd yn ailddechrau ar ôl y gwyliau hanner tymor. Fodd bynnag, ni fydd plant hŷn a phobl ifanc, blynyddoedd 9 ac uwch yn yr ysgol uwchradd nac addysg bellach (oni bai bod angen iddynt sefyll arholiad) a rhagwelir y bydd hyn yn arwain at darfu, yn enwedig ar grwpiau gwarchodedig.

Nodwedd neu grŵp gwarchodedig

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?

 

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)

Cadarnhaol: bydd plant oedran cynradd a blwyddyn 7 ac 8 yn yr ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan leihau'r effaith ar eu haddysg a'r effeithiau llesiant ehangach. Bydd dysgwyr mewn ysgolion arbennig a’r rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol hefyd yn parhau i dderbyn addysg ar ôl yr hanner tymor yn unol â’r trefniadau arferol ar gyfer y ddarpariaeth hon.

Negyddol: ni fydd plant hŷn a phobl ifanc, blynyddoedd 9 ac uwch yn yr ysgol nac mewn lleoliadau addysg bellach a rhagwelir y bydd hyn yn arwain at darfu yn y tymor byr, yn enwedig ar grwpiau gwarchodedig.

 

Camau lliniaru: Mae'r cyfnod atal byr wedi'i amseru i gyd-fynd â’r gwyliau hanner tymor er mwyn lleihau i'r graddau mwyaf posibl yr aflonyddwch ar fynediad plant at addysg i un wythnos yn unig.

Anabledd (meddyliwch am wahanol fathau o anabledd)

Cadarnhaol: bydd ysgolion arbennig yn parhau i fod ar agor ac yn gofalu am ddysgwyr anabl sydd â'r anghenion cymorth mwyaf. Bydd plant anabl oedran cynradd a blwyddyn 7 ac 8 hefyd yn parhau i fod yn yr ysgol ac yn gallu cael gafael ar yr holl gymorth sy'n eu galluogi i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol a'u haddysg. 

Negyddol: ar gyfer plant anabl ym mlwyddyn 9 ac uwch, ni fyddant yn yr ysgol nac mewn addysg bellach am wythnos. Ni fydd ganddynt fynediad at yr ystod o gymorth arbenigol sydd ar gael yn yr ysgol. Er nad ydynt yn yr ysgol, mae plant yn llai tebygol o allu parhau i symud ymlaen yn eu dysgu o gymharu â chyfoedion nad ydynt yn anabl yn absenoldeb y cymorth hwnnw.

Ceir tystiolaeth helaeth o effaith negyddol peidio â bod yn yr ysgol ar ddysgwyr ag ADY, y mae llawer ohonynt yn anabl, yn ystod y cyfyngiadau gwreiddiol. Mae hynny hefyd wedi cael effaith o ganlyniad ar eu teuluoedd, gan gynnwys brodyr a chwiorydd.

Mae'n debygol mai'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a gaiff eu heffeithio fwyaf. Disgwylir i hyn fod yn wir mewn amryw o amgylchiadau. Er enghraifft, mae'n debygol iawn yr effeithir yn andwyol iawn ar y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd. Canfu adroddiad gan yr Adran Addysg (DfE) (2020) fod y risg i les plant agored i niwed wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i gau ysgolion yn 2020.

Dengys tystiolaeth gan Mencap fod pobl ag anableddau dysgu eisoes yn wynebu lefelau eithafol o unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, sy'n debygol o waethygu yn sgil cau cyfleusterau addysgol.

Lliniaru: Mae'r cyfnod atal byr wedi'i amseru i gyd-fynd â’r gwyliau hanner tymor er mwyn lleihau i'r graddau mwyaf posibl yr aflonyddwch ar fynediad plant at addysg i un wythnos yn unig.

Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl trawsryweddol)

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Beichiogrwydd a mamolaeth

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Hil (yn cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, sipsiwn a theithwyr a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Cadarnhaol: bydd plant oedran cynradd a blwyddyn 7 ac 8 yn yr ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan leihau'r effaith ar eu haddysg a'r effeithiau llesiant ehangach. Bydd dysgwyr mewn ysgolion arbennig a’r rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol hefyd yn parhau i dderbyn addysg ar ôl yr hanner tymor yn unol â’r trefniadau arferol ar gyfer y ddarpariaeth hon.

Negyddol: Bydd cau ysgolion a lleoliadau addysg bellach neu gyfyngu ar amser cyswllt ar safle gydag athro yn cael effaith anghymesur ar rai plant BAME. 

 

Mae anfanteision penodol i blant o deuluoedd sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr nad oes ganddynt fynediad at ddyfeisiau na chysylltedd i allu cael gafael ar ddysgu ar-lein. Yn ogystal â hynny, mae teuluoedd yn llai abl i allu cynnig cymorth a mynd i'r afael â materion technegol.

Ceir tystiolaeth o ymgysylltu â chymunedau nad yw rhai teuluoedd BAME wedi dychwelyd eu plant i'r ysgol. Un o'r rhesymau a gofnodwyd oedd ofn y bydd y plant yn dod i gysylltiad â'r feirws yn yr ysgol a dod â hi adref a pherthnasau agored i niwed yn mynd yn sâl. Mae'n bosibl y bydd y cyfnod atal byr yn gwaethygu'r duedd hon ymhellach. Gall hyn hyd yn oed fod yn berthnasol i blant y caniateir iddynt fod yn yr ysgol oherwydd bydd y penderfyniad i gyfyngu mynediad i ysgolion yn cynyddu pryderon am ddiogelwch. Bydd hyn yn rhoi'r plant hynny nad ydynt yn yr ysgol dan anfantais.

O arolwg plant Coronafeirws a Fi a thystiolaeth arall mae'n fwy tebygol y bydd gan blant BAME lai o ofod a thawelwch gartref i weithio oherwydd strwythurau teuluol a llety gorlawn. Maent yn fwy tebygol o beidio â chael mynediad i ddyfais i wneud gwaith ar-lein neu o orfod rhannu dyfais. Maent yn fwy tebygol o gael cymorth mwy cyfyngedig gan eu teuluoedd gyda gwaith ysgol naill ai o ganlyniad i bwysau eraill ar eu hamser neu eu hiaith a rhwystrau eraill. Gall eu teuluoedd hefyd wynebu pwysau ehangach o ganlyniad i'r effaith ar swyddi neu incwm eu rhieni a allai roi amgylchedd y cartref o dan fwy o straen a chael effaith ar eu llesiant yn ogystal ag effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio ar waith ysgol.

Camau Lliniaru: Bydd dysgu o bell/cyfunol ar waith ar gyfer pob myfyriwr na chaniateir iddo fynd i'r ysgol, ond efallai mai prin yw effeithiolrwydd ar gyfer hyn i blant ar aelwydydd incwm isel. Mae rhwystrau ymarferol i allu dysgu'n effeithiol o ran mynediad at ddyfeisiau, gofod a thawelwch, yn ogystal â heriau i rieni o ran cefnogi plant â gwaith ysgol, yn seiliedig ar yr ymateb i arolwg Coronafeirws a Fi. 

Crefydd, cred a diffyg cred

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Rhyw / Rhywedd

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Priodas a phartneriaeth sifil

Ni nodwyd effaith wahaniaethol benodol

 

 

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Mae’r tabl asesu effaith yn cyfeirio at y grŵp hwn yn unig

 

 

Aelwydydd incwm isel

Cadarnhaol: bydd plant oedran cynradd a blwyddyn 7 ac 8 yn yr ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan leihau'r effaith ar eu haddysg a'r effeithiau llesiant ehangach. Bydd dysgwyr mewn ysgolion arbennig a’r rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol hefyd yn parhau i dderbyn addysg ar ôl yr hanner tymor yn unol â’r trefniadau arferol ar gyfer y ddarpariaeth hon.

Negyddol: Bydd cau ysgolion a lleoliadau addysg bellach i fyfyrwyr blwyddyn 9 a hŷn a chyfyngu ar amser cyswllt wyneb yn wyneb gydag athro yn gwaethygu unrhyw anfanteision cymdeithasol-economaidd. Gall hyd yn oed cyfnod amser byr, ynghyd â’r tarfu blaenorol gael effaith negyddol o ran dysg a gollwyd

O arolwg plant Coronafeirws a Fi a thystiolaeth arall mae'n fwy tebygol y bydd gan blant mewn tlodi lai o ofod a thawelwch gartref i weithio. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn rhai cymunedau BAME gyda phobl yn byw mewn eiddo amlfeddiannaeth ac mewn eiddo a rennir gyda cheiswyr lloches, ffoaduriaid neu bobl BAME incwm isel.

Maent yn fwy tebygol o beidio â chael mynediad i ddyfais i wneud gwaith ar-lein neu o orfod rhannu dyfais neu o fod ag argaeledd data cyfyngedig i gael gafael ar adnoddau a chymorth ar-lein. Maent yn fwy tebygol o gael cymorth mwy cyfyngedig gan eu teuluoedd gyda gwaith ysgol naill ai o ganlyniad i bwysau eraill ar eu hamser neu eu gallu eu hunain. Gall eu teuluoedd hefyd wynebu pwysau ehangach o ganlyniad i'r effaith ar swyddi neu incwm eu rhieni a allai roi amgylchedd y cartref o dan fwy o straen a chael effaith ar eu llesiant yn ogystal ag effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio ar waith ysgol. Rydym yn parhau i dderbyn pryderon, yn enwedig gan deuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr nad oes ganddynt fynediad at ddyfeisiau na chysylltedd i allu cael gafael ar ddysgu ar-lein. At hynny, mae teuluoedd yn llai abl i allu cynnig cymorth a mynd i'r afael â materion technegol.

Camau Lliniaru: Bydd dysgu o bell/cyfunol ar waith ar gyfer pob myfyriwr na chaniateir iddo fynd i'r ysgol, ond efallai mai prin yw effeithiolrwydd ar gyfer hyn i blant ar aelwydydd incwm isel. Mae rhwystrau ymarferol i allu dysgu'n effeithiol o ran mynediad at ddyfeisiau, gofod a thawelwch, yn ogystal â heriau i rieni o ran cefnogi plant â gwaith ysgol, yn seiliedig ar yr ymateb i arolwg Coronafeirws a Fi.