Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyflwyno crys pêl-droed coffa Sir Casnewydd i dîm Clwb Athletig Bilbao, yn ystod ymweliad â Gwlad y Basg heddiw.
Mae'r cit Clwb Pêl-droed coch a gwyn streipïog VX3 x Lover's, a lansiwyd gan Glwb Casnewydd ar gyfer tymor 2025–26 yn lliwiau enwog y Clwb Athletig, yn dathlu'r cysylltiadau hirsefydlog rhwng y ddwy ddinas.
Mae cysylltiadau hanesyddol Casnewydd â Bilbao yn tarddu o 56 o blant Gwlad y Basg yn ymgartrefu yng Nghaerllion, ger Casnewydd, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn 1937.
Cafodd y plant gefnogaeth aelodau o'r gymuned leol, gan gynnwys Maria Fernandez, a aned yn Bilbao ac a oedd yn byw yng Nghymru a chwaraeodd ran sylweddol wrth ofalu amdanynt.
Mae'r crys coffa yn cynnwys enwau'r plant a'r oedolion a ofalodd amdanynt. Mae gan y crys hefyd label sy'n crynhoi ysbryd y cydweithrediad: "Yn 1937, pan oedd angen help ar bobl Gwlad y Basg, gwnaeth Cymru ymateb."
Roedd pêl-droed yn rhan o weithgareddau'r plant yn ystod eu hamser yng Nghasnewydd, gan arwain at sefydlu Clwb Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg, a fu'n chwarae gemau ledled Cymru. Aeth sawl un o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Gwlad y Basg ymlaen i fod yn bêl-droedwyr proffesiynol yn Sbaen.
Tynnodd ymweliad y Prif Weinidog sylw at y cysylltiadau hanesyddol ehangach rhwng Cymru a Gwlad y Basg, yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gwlad y Basg ddoe.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae gan bêl-droed ffordd arbennig o ddod â phobl o bob rhan o'r byd at ei gilydd. Dw i wrth fy modd bod y ddau glwb wedi parhau â'r cysylltiad hwn drwy'r crys, sy'n ein hatgoffa o'r gwerthoedd y mae Cymru a Gwlad y Basg yn eu rhannu.
“Mae'r cysylltiad hirsefydlog rhwng Casnewydd a Bilbao yn stori ryfeddol o gyfeillgarwch a sefyll mewn undod, ac rydw i wedi cael fy nharo gan ba mor gynnes y mae'r Clwb Athletig yn siarad am y cydweithrediad hwn. Mae'r gydnabyddiaeth o'r haelioni a ddangoswyd gan bobl Cymru bron i ganrif yn ôl yn ein hatgoffa o'r cysylltiadau parhaol rhwng Euskal Herria a Chymru, cysylltiadau y mae'r ddau dîm hyn yn eu dathlu ac yn parhau â nhw.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Clwb Pêl-droed Casnewydd, Neal Heard, a fu'n datblygu'r cysyniad ac yn adrodd y stori y tu ôl i'r cit:
“Mae'n anrhydedd llwyr ac yn briodol bod y Prif Weinidog yn cyflwyno ein crys coffa i'r Clwb Athletig. Datblygwyd y crys fel ffordd o ddathlu ac anrhydeddu nid yn unig y cysylltiadau cyfeillgarwch ac undod rhwng y ddwy ddinas a'r clybiau eu hunain, ond y cysylltiadau hanesyddol dwfn rhwng y ddwy genedl. Rydyn ni, fel clwb, yn falch iawn bod y cit wedi cydio yn nychymyg cymaint o bobl ledled y byd a gobeithio mai ond megis dechrau yw hwn o ran cadarnhau'r berthynas rhwng y ddau glwb a'r ddwy genedl hefyd.”
