Cwblhau’r Cynllun Gweithredol a’r Cynllun Busnes: canllawiau
Bwriad y ddogfen hon yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cais ar gyfer penodi’r Sefydliad Rheoli Ernesau (SRE) ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y ddogfen hon
Bwriad y ddogfen hon yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cais ar gyfer penodi’r Sefydliad Rheoli Ernesau (SRE) ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) yng Nghymru. Gofynnir i’r ymgeisydd ddarparu Cynllun Gweithredol a Chynllun Busnes a fydd yn dangos addasrwydd y sefydliad ar gyfer gweithredu fel y DMO. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi Llywodraeth Cymru i asesu cais DMO.
Noder, nid fframwaith asesu yw hwn ond mae’n rhoi amlinelliad o ba fanylion y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ymgeisydd eu darparu. Dylai ymgeiswyr ar gyfer swydd y DMO ystyried yn ofalus y cwestiynau a ofynnir yn y canllawiau hyn wrth gwblhau elfennau o’r cais sy’n ymwneud â’u Cynllun Gweithredol a’u Cynllun Busnes.
Mae Adran C (is-adran 6 i 19) y Ffurflen Gais yn ymwneud â’r Cynllun Gweithredol a dyma gyfle’r ymgeisydd i ddangos sut mae’n bwriadu cyflawni’r cynllun a chyrraedd y targedau casglu a bennir mewn deddfwriaeth.
Tra bod Adran D (is-adran 20 i 24) yn ymwneud â’r Cynllun Busnes er mwyn gallu gwerthuso hygrededd, hyfywedd ac ymarferoldeb y DRS yng Nghymru o safbwynt ariannol. Dylai’r tybiaethau a’r cyfrifiadau fod yn gyson â’r wybodaeth a ddarperir yn rhannau eraill y Ffurflen Gais.
Mae’r canllawiau canlynol yn rhoi manylion am y wybodaeth a awgrymir y dylai’r ymgeisydd fod yn ei darparu yn eu cynllun gweithredol. Fel y nodir yn y ffurflen gais, rhowch eich atebion yn unol â’r penawdau a ddarperir.
Adran C
7. Sicrhau bod cynwysyddion diodydd cymwys yn gylchol, a diogelu at y dyfodol
- Pa drefniadau y mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu gwneud i sicrhau bod deunydd a gesglir yng Nghymru yn cael ei ailgylchu? Dylech gynnwys sut mae’r ymgeisydd yn sicrhau marchnad ar gyfer y deunyddiau nad ydynt yn cael eu prynu gan gynhyrchwyr i’w hailgylchu.
- Sut bydd y trefniadau hyn yn cynnwys y gofyniad i gynhyrchwyr (gan gynnwys cynhyrchwyr bach) gael y cynnig cyntaf am y deunydd hwn sy’n cael ei ddychwelyd?
- Sut mae’r ymgeisydd yn rhagweld y bydd CDEs y DU yn gweithio gyda’i gilydd i greu trefniadau dwyochrog, er enghraifft ar gyfer ailgylchu lle bo hynny’n briodol?
- Beth yw strategaeth arfaethedig yr ymgeisydd ar gyfer lleihau unrhyw effaith amgylcheddol sy’n deillio o weithredu’r cynllun, e.e. allyriadau trafnidiaeth?
- Beth yw strategaeth arfaethedig yr ymgeisydd i wneud y mwyaf o gynwysyddion dolen gaeedig i ailgylchu cynwysyddion, a pharodrwydd i ailddefnyddio, yn hytrach nag i lawrgylchu’r deunydd at ddibenion eraill?
- Beth yw strategaeth arfaethedig yr ymgeisydd ar gyfer stiwardiaeth deunyddiau e.e. strategaethau ar gyfer cadw deunydd yng Nghymru/y DU?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried diogelu’r cynllun at y dyfodol yn unol â mentrau economi gylchol pellach a’r llwybr i ailddefnyddio?
- Amlinellwch ddull yr ymgeisydd o ddangos tystiolaeth o effaith y CDE ar leihau taflu sbwriel yng Nghymru.
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y cynllun yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig, pobl ifanc, a’r rhai mewn rhanbarthau mwy difreintiedig?
8. Cofrestru cynhyrchwyr ac adroddiadau cynhyrchwyr
Mae’r canllawiau canlynol yn rhoi manylion am y wybodaeth a awgrymir y dylai’r ymgeisydd fod yn ei darparu yn eu cynllun gweithredol:
- Pa amserlenni y mae’r ymgeisydd yn eu cynnig ar gyfer gweithredu’r system gofrestru er mwyn i holl gynhyrchwyr y cynllun allu cofrestru cyn 1 Hydref 2027? Rhaid i’r amserlenni arfaethedig fod yn gyson â’r amserlenni a ddarperir yn adrannau 20. (Rheolaeth ariannol a chynllun busnes) a 26 Atebion digidol.
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu gweinyddu’r system gofrestru? Pa wybodaeth fydd yr ymgeisydd ei hangen gan gynhyrchwyr y cynllun yn ystod y broses gofrestru? Sut bydd cynhyrchwyr yn gwneud cais i gofrestru?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod cynhyrchwyr y cynllun gallu cofrestru â phob SRE yn y DU fel rhan o un broses gofrestru? Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda SREs eraill er mwyn sicrhau bod yna un system gofrestru ar gyfer holl CDEs y DU.
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau bod cynhyrchwyr y cynllun yn cofrestru gyda’r SRE?
- Pa wybodaeth fydd yr ymgeisydd yn gofyn i gyflenwyr y cynllun ei chyflwyno ynghylch y cyflenwad o gynwysyddion diodydd cymwys maen nhw’n eu cyflenwi?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod cynhyrchwyr y cynllun yn adrodd yn gywir ar yr wybodaeth y mae’r ymgeisydd yn gofyn iddynt ei darparu?
- Sut bydd cynhyrchwyr y cynllun yn gwneud cais i gofrestru llinellau niferoedd isel a sut bydd yr ymgeisydd yn penderfynu ar y ceisiadau hynny. Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli ac yn archwilio llinellau niferoedd isel cofrestredig?
- Sut byddai’r ymgeisydd yn cynnal adolygiadau mewnol, i reoli a datrys anghydfodau mewn perthynas â chofrestru cynhyrchwyr a chynhyrchion niferoedd isel?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rhoi opsiwn i gynhyrchwyr ganslo eu cofrestriad?
- Sut bydd cynhyrchwyr cyfaint isel sydd wedi’u heithrio yn cofrestru gyda’r cynllun yng Nghymru, os byddant yn dewis ymuno’n wirfoddol?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli gwybodaeth gofrestru cynhyrchwyr y cynllun i sicrhau bod y data’n ddiogel a bod unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu ganddo yn unol â GDPR y DU a chyfreithiau Diogelu Data?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda chynhyrchwyr y cynllun i sicrhau:
(i) eu bod yn deall eu cyfrifoldebau o dan y rheoliadau ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y SRE
(ii) bod ganddynt yr wybodaeth berthnasol i gofrestru gyda’r SRE cyn 1 Hydref 2027
(iii) byddant yn barod i gyflwyno’r wybodaeth ofynnol am y cynwysyddion diodydd cymwys y maent yn eu cyflenwi o 1 Hydref 2027 ymlaen.
9. Ffioedd cofrestru cynhyrchwyr
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu cyfrifo ffioedd cynhyrchwyr, gan ystyried costau a refeniw ariannol ehangach y cynllun?
Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am yr egwyddorion ar gyfer cyfrifo ffioedd cynhyrchwyr, gan ystyried costau gweinyddu’r CDE (gan gynnwys costau Cyfoeth Naturiol Cymru) a’r incwm tebygol a geir o ffynonellau eraill (ernesau heb eu had-dalu a gwerthu deunyddiau y gellir eu hailgylchu).
Dylai hefyd gynnwys unrhyw gynlluniau ar gyfer eco‑fodiwleiddio’r ffioedd ar gyfer gwahanol fathau o gynwysyddion cymwys, refeniw gwerthu deunyddiau, a dyrannu ernesau heb eu had-dalu. - A fydd proses ar gyfer cymeradwyo ffioedd cynhyrchwyr gan gynnwys unrhyw gyfraniad gan archwilwyr annibynnol neu Fwrdd Goruchwylio?
- Pa arbenigedd neu ddilysiad allanol fydd yn cael ei ddefnyddio wrth bennu ffioedd cynhyrchwyr?
- Sut gallai’r ymgeisydd ystyried anghenion cynhyrchwyr llai wrth bennu ffioedd cynhyrchwyr?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn:
(i) penderfynu pa rai sy’n briodol i ymgynghori â hwy a
(ii) chynnal yr ymgynghoriad
(iii) rhannu canlyniad yr ymgynghoriad â chynhyrchwyr.
- Sut byddai’r ymgeisydd yn cynnal y mecanwaith adolygiadau mewnol, i reoli a datrys anghydfodau mewn perthynas â ffioedd cofrestru cynhyrchwyr?
- Sut gallai ffioedd cynhyrchwyr newid dros amser gan ystyried costau gweinyddu’r CDE (gan gynnwys costau Cyfoeth Naturiol Cymru a Safonau Masnach) a’r incwm tebygol a geir o ffynonellau eraill (ernesau heb eu had-dalu a refeniw o werthu deunyddiau)?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn annog tryloywder o ran cyfrifo/methodoleg pennu ffioedd cynhyrchwyr ar yr un pryd â rheoli cyfrinachedd masnachol a diogelu data?
- A oes unrhyw gynigion ar waith gan yr ymgeisydd i wneud trefniadau talu gwahanol mewn achosion neu amgylchiadau gwahanol? Ar ba adeg neu gyfnodau ac ym mha fodd y bydd angen talu ffioedd cofrestru i’r ymgeisydd? Sut bydd yr ymgeisydd yn cysoni ffioedd a dderbynnir yn erbyn ffioedd sy’n ddyledus gan gynhyrchwyr y cynllun? Sut bydd yr ymgeisydd yn delio â ffioedd hwyr neu heb eu talu?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod cynhyrchwyr y cynllun yn talu’r ffioedd cofrestru gofynnol yn brydlon?
10. Cofrestru a rheoli gweithredwyr mannau dychwelyd
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y rheini sy’n gorfod cofrestru fel gweithredwyr mannau dychwelyd gorfodol yn gallu gwneud hynny? Mae hyn yn cynnwys adwerthwyr y cynllun sy’n gweithredu safleoedd adwerthu ac ar‑werthiant cymysg.
- Sut bydd yr ymgeisydd yn darparu proses esemptio ar gyfer adwerthwyr bwyd sy’n gweithredu man dychwelyd, yn unol â’r meini prawf ar gyfer esemptiadau awtomatig a cheisiadau i esemptio a nodir yn y rheoliadau ac wrth ystyried targedau casglu?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod busnesau a sefydliadau eraill yn gallu gwneud cais i weithredu man dychwelyd yn wirfoddol?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli’r rhwydwaith mannau dychwelyd i sicrhau darpariaeth ddigonol i ddefnyddwyr mewn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru?
- Gan ystyried targedau casglu, sut bydd yr ymgeisydd yn gwneud ei orau i ddarparu rhwydwaith o fannau dychwelyd fel bod digon o fannau dychwelyd ar gael i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig, trefol ac arfordirol?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y gofrestr o weithredwyr mannau dychwelyd, mannau dychwelyd SRE ac esemptiadau mannau dychwelyd ar gael i’r cyhoedd ac yn cael ei diweddaru?
- Sut byddai’r ymgeisydd yn cynnal y mecanwaith adolygu mewnol, i reoli a datrys anghydfodau mewn perthynas â mannau dychwelyd ac esemptiadau mannau dychwelyd? Sut bydd yr ymgeisydd yn darparu canllawiau ar gyfer gweithredwyr mannau dychwelyd, gan gynnwys gwybodaeth am sut maen nhw’n ystyried gofynion hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried lleoliadau neu sefydliadau nad yw’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol iddynt (fel awdurdodau lleol neu ganolfannau cymunedol) fod yn fannau dychwelyd posibl? Er enghraifft, mewn mannau problemus o ran sbwriel ac o’u cwmpas, neu mewn lleoliadau gwledig heb fan dychwelyd lleol.
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli ceisiadau am esemptiadau mannau dychwelyd, gan gynnwys:
-dull a ffurf arfaethedig y ceisiadau
-yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys gyda cheisiadau
-sut bydd y SRE yn dod i benderfyniadau ar geisiadau
-sut y bydd yn hysbysu ymgeiswyr o’i benderfyniad. - Sut bydd yr ymgeisydd yn adolygu’r rhwydwaith, gan sicrhau digon o bwyntiau dychwelyd o ran agosrwydd rhesymol ar gyfer pwyntiau dychwelyd sy’n ceisio eithriad a darparu mynediad rhesymol i bwyntiau dychwelyd i ddefnyddwyr?
- Sut y bydd yn cynnal yr adolygiadau hynny, a’i gynigion os bydd yr adolygiad yn nodi’r angen i gynyddu, neu’r potensial i leihau, nifer y mannau dychwelyd? Gallai hyn gynnwys disgrifiad o sut y bydd y SRE yn casglu tystiolaeth neu wybodaeth y byddai angen ei hystyried mewn unrhyw adolygiad o’r fath.
11. Cofrestru a rheoli opsiynau cymryd yn ôl (gan gynnwys cymryd yn ôl ar-lein)
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod adwerthwyr y cynllun yn gallu cofrestru fel darparwr gwasanaethau cymryd yn ôl os ydynt yn dewis gwneud hynny?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli ceisiadau am wasanaethau cymryd yn ôl, gan gynnwys: dull a math arfaethedig y ceisiadau, yr wybodaeth ychwanegol i’w chynnwys gyda cheisiadau, sut bydd y SRE yn dod i benderfyniadau ar geisiadau a sut bydd yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am ei benderfyniad?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn asesu gwybodaeth awdurdodi’r gwasanaeth cymryd yn ôl?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cymryd yn ôl i sicrhau eu bod yn darparu neu’n arddangos gwybodaeth am y gwasanaeth cymryd yn ôl?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod cofrestr y rhai sy’n darparu gwasanaethau cymryd yn ôl ar gael i’r cyhoedd ac yn cael ei diweddaru?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda darparwyr cymryd yn ôl i sicrhau bod y cynwysyddion a gesglir yn gylchol?
- Sut byddai’r ymgeisydd yn cynnal adolygiadau mewnol, er mwyn rheoli a datrys anghydfodau, penderfyniadau i wrthod neu ddiddymu cofrestriad fel darparwr gwasanaeth cymryd yn ôl?
12. Lefel ernesau a chasglu ernesau
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu pennu lefel yr ernes? Rhaid i hyn gynnwys y fethodoleg arfaethedig y bydd yr ymgeisydd yn ei defnyddio i bennu lefel yr ernes, gan gynnwys sut y bydd yn ystyried y ffactorau y mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw iddynt.
- Beth yw’r lefel(au) ernes y mae’r ymgeisydd yn eu ffafrio? Pa fethodoleg y mae’r ymgeisydd wedi’i defnyddio i gyrraedd y lefel ernes hon? Pa fodelu ariannol a modelu targedau casglu y mae’r ymgeisydd wedi ymgymryd â nhw?
- Sut, ac o dan ba amgylchiadau, y byddai’r ymgeisydd yn ystyried gosod lefel ernes wahanol ar gyfer gwahanol fathau o gynwysyddion cymwys?
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori ar lefel yr ernes, gan gynnwys â phwy mae’r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn:
(i) pennu’r rhai y mae lefel yr ernes yn effeithio arnynt
(ii) nodi’r rhai y dylid ymgynghori â hwy a
(iii) chynnal yr ymgynghoriad? - Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried effaith lefel yr ernes ar ddefnyddwyr?
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu gweithio gyda SREs eraill i ddod i gytundeb ar ddull un lefel ernes ledled y DU?
- A fydd unrhyw arbenigedd neu ddilysiad allanol yn cael ei ddefnyddio wrth bennu lefel yr ernes?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda gweithredwyr mannau dychwelyd, ac yn rhoi arweiniad iddynt, o ran y ffyrdd y gall defnyddwyr adhawlio eu hernesau (e.e. fformat talebau, arian parod, cerdyn, drwy ap)?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn cyfrifo faint o ernes sy’n daladwy gan bob cyflenwr y cynllun? Pa ffynonellau tystiolaeth y bydd yn eu defnyddio? Sut bydd yn dilysu ac yn sicrhau cywirdeb y data a ddefnyddir ar gyfer y cyfrifiadau hynny?
- Pa mor aml y bydd yn ofynnol i gyflenwyr y cynllun dalu ernes i’r ymgeisydd?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn cymell taliadau prydlon, neu fel arall yn ei gwneud yn hawdd i gyflenwyr cynlluniau wneud taliadau cywir ac amserol?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn cysoni taliadau a dderbynnir â thaliadau sy’n ddyledus gan gyflenwyr y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli taliadau hwyr a heb eu talu, neu ordaliadau?
- Pa systemau bancio, rheoli trysorlys ac adrodd y mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu rhoi ar waith?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda chyflenwyr y cynllun i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod yn gywir am gynwysyddion sy’n cael eu rhoi ar y farchnad ac yn ad-dalu’r ernesau cyfatebol yn gywir?
- Efallai y bydd angen i Cyfoeth Naturiol cymryd camau gorfodi yn erbyn cyflenwyr y cynllun sy’n methu â thalu blaendaliadau, sut bydd yr ymgeisydd yn cefnogi hyn?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn galluogi rhoi ernesau defnyddwyr o gynwysyddion diodydd a ddychwelwyd at elusen, ac yn cefnogi gweithredwyr mannau dychwelyd i weinyddu’r rhoddion elusennol? Dylid ystyried sut y byddai hyn yn cynnwys achosion elusennol cenedlaethol a lleol.
13. Taliadau trin pwyntiau dychwelyd
Sut bydd taliadau trin i adwerthwyr yn cael eu cyfrifo? Pa fethodoleg a pha fathau o dystiolaeth a data fydd yn cael eu defnyddio? Sut bydd y data a’r dystiolaeth berthnasol yn cael eu casglu?
- A fydd gan yr ymgeisydd daliadau trin amrywiol i adwerthwyr? Os bydd, ar ba sail y mae’r ymgeisydd yn bwriadu pennu taliad trin gwahanol ar gyfer achosion gwahanol?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried gofynion adwerthwyr bach wrth bennu ei daliadau trin i adwerthwyr?
- Pa arbenigedd neu ddilysiad allanol, os o gwbl, fydd yn cael ei ddefnyddio wrth bennu’r taliadau trin?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn:
-pennu’r rhai yr effeithir arnynt gan y ffioedd trin i adwerthwyr
-nodi’r rhai y dylid ymgynghori â hwy
-cynnal yr ymgynghoriad
-rhannu canlyniadau’r ymgynghoriad. - Pa mor aml, neu o dan ba amgylchiadau, y mae’r ymgeisydd yn bwriadu adolygu’r taliadau trin? Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau ei fod yn adolygu’r taliadau trin o leiaf unwaith bob tair blynedd?
- Disgwylir i’r SRE wneud taliadau rheolaidd a dibynadwy i weithredwyr mannau dychwelyd. Sut bydd yr ymgeisydd yn delio â thaliadau i weithredwyr mannau dychwelyd a pha mor aml? Pa wybodaeth fydd yr ymgeisydd yn ei chynnwys gyda’r taliadau trin?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn cynnal y mecanwaith adolygu mewnol mewn perthynas â thaliadau trin i adwerthwyr?
14. Gofynion labelu a logo
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu defnyddio logos, logos pecynnu a chodau dychwelyd y cynllun wrth gyflawni’r cynllun?
- Sut mae’r ymgeisydd yn rhagweld y bydd codau dychwelyd yn cael eu defnyddio gan seilwaith mannau dychwelyd e.e. rhyngweithio â peiriant dychwelyd poteli?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn penderfynu ar ofynion codau dychwelyd y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried effaith debygol gofynion codau y cynllun ar gynhyrchwyr y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori ar logo’r cynllun, logo deunydd pacio’r cynllun a gofynion codau dychwelyd y cynllun, gan gynnwys nodi’r bobl hynny sy’n cynrychioli’r rheini y mae’r penderfyniad yn effeithio arnynt ac unrhyw bobl briodol eraill, ac ymgynghori â’r rheini y mae penderfyniadau ar y materion hyn yn effeithio arnynt?
- Wrth wneud newidiadau i logo’r cynllun, logo deunydd pacio’r cynllun neu ofynion codau dychwelyd, sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried yr effaith debygol ar gynhyrchwyr y cynllun? Sut y bydd yn sicrhau ei fod yn rhoi digon o rybudd i gynhyrchwyr y cynllun am y newid?
15. Ad-daliadau blaendaliadau i weithredwyr pwyntiau dychwelyd
- Sut bydd yr ymgeisydd yn pennu cyfanswm yr ad-daliadau a dalwyd gan adwerthwr y cynllun mewn perthynas ag eitemau ad‑daliad a gasglwyd gan y SRE gan adwerthwr y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn pennu nifer yr eitemau y gellir eu dychwelyd (gan gynnwys y rhai o Gynlluniau Dychwelyd Ernes eraill y DU a chynlluniau tramor) y mae’n eu casglu neu’n eu derbyn gan gasglwyr y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn pennu’r swm perthnasol ar gyfer pob eitem y gellir ei dychwelyd y mae’n ei chasglu neu’n ei derbyn gan gasglwyr y cynllun?
- Disgwylir i’r SRE wneud taliadau rheolaidd a dibynadwy i adwerthwyr y cynllun a chasglwyr y cynllun mewn perthynas ag ad‑daliadau ac eitemau y gellir eu dychwelyd. Sut bydd yr ymgeisydd yn gwneud taliadau o’r fath i adwerthwyr y cynllun a pha mor aml? Pa wybodaeth fydd yr ymgeisydd yn ei chynnwys gyda’r taliadau?
- Pa brosesau fydd yr ymgeisydd yn eu rhoi ar waith gyda SREs eraill y DU i gysoni’r ad-daliadau a ddarperir gan bob SRE mewn perthynas â chynwysyddion cymwys gan CDEs eraill y DU?
16. Casgliadau a logisteg
Pa drefniadau y mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu rhoi ar waith i gasglu eitemau cymwys sydd wedi’u dychwelyd oddi wrth weithredwyr mannau dychwelyd, safleoedd ar-werthu neu adwerthu cymysg, a gweithredwyr gwasanaethau cymryd yn ôl?
- Pa drefniant y mae’r ymgeisydd yn bwriadu ei roi ar waith i dderbyn eitemau cymwys sydd wedi’u dychwelyd gan weithredwyr gwasanaethau cymryd yn ôl?
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu rhoi’r trefniadau angenrheidiol ar waith i gasglu neu dderbyn yr holl gynwysyddion cymwys sydd wedi’u dychwelyd?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y trefniadau casglu y mae’n eu rhoi ar waith yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau rheoli gwastraff perthnasol yng Nghymru?
- A yw’r ymgeisydd yn bwriadu defnyddio canolfannau cyfrif/didoli fel rhan o’r gwaith logisteg? Os felly, sut bydd y safleoedd hyn yn cael eu sefydlu i gefnogi’r gwaith o gyfrif a dilysu cynwysyddion cymwys a ddychwelir ar gyfer y cynllun? Sut bydd cynwysyddion sy’n cael eu dychwelyd drwy fannau dychwelyd â llaw yn cael eu cyfrif a’u prosesu yn y model casglu a logisteg?
- Pa ddata fydd yr ymgeisydd yn ei ddarparu i weithredwyr mannau dychwelyd, safleoedd ar-werthu neu adwerthu cymysg, a gweithredwyr gwasanaethau cymryd yn ôl ar gyfraddau casglu?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ceisio gwneud y model casglu a logisteg mor garbon effeithlon â phosibl? A fydd defnyddio’r seilwaith presennol yn cael ei ystyried, yn enwedig o ystyried natur wledig Cymru?
- A yw’r ymgeisydd yn bwriadu rhoi canllawiau/amodau clir ar waith gyda gweithredwyr mannau dychwelyd ynghylch casglu gwastraff ac ansawdd y deunydd a ddychwelir i’r SRE? Mae hyn yn cynnwys busnesau lletygarwch dolen gaeedig. Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda chyfanwerthwyr a’r gadwyn gyflenwi ehangach i sicrhau bod data’n cael ei gasglu’n gywir? Sut bydd yr ymgeisydd yn annog cynhyrchwyr i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi am yr un rheswm?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn ystyried amrywiadau tymhorol mewn cyfraddau defnyddio a dychwelyd a’r effaith gyfatebol ar gapasiti a seilwaith casglu a logisteg?
17. Ystyried rheoliadau trawsbynciol Llywodraeth Cymru
Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n ailgylchu llawer; mae’n 2il yn y byd. Felly, mae cwmpas y deunydd yng Nghymru yn ehangach, gan adlewyrchu ei bod yn dechrau o linell sylfaen wahanol. Mae gan y SRE gyfle i fod yn arloesol gan mai hwn fydd y cynllun cyntaf o’i fath i gael ei roi ar waith mewn gwlad sydd eisoes yn cyflawni cyfraddau ailgylchu uchel. Mae hyn yn golygu bod angen dangos sut bydd y cynllun yn cefnogi symud deunyddiau ymhellach i fyny’r hierarchaeth wastraff yn ogystal â sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel.
Wrth wneud hynny, bydd y SRE yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r ymrwymiadau yn Mwy nag Ailgylchu, strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru, a chynllun lleihau allyriadau statudol Cymru Sero Net.
Yn ogystal â sicrhau y bydd yn effeithiol o ran helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, drwy ddangos sut bydd y cynllun yn cefnogi’r diwydiant diodydd i newid i ailddefnyddio. Bydd hefyd yn cefnogi’r diwydiant i wella gwytnwch a chystadleurwydd mewn economi fyd-eang sy’n datgarboneiddio. Yn ogystal â defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r atebion hysbys sy’n cael eu darparu’n llwyddiannus mewn gwledydd ledled y byd.
Dylai’r ymgeisydd ystyried sut mae’n bodloni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac felly ystyried mynd i’r afael â’r canlynol yn eu cais er mwyn:
- Ystyried y tymor hir.
- Helpu i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Dilyn dull gweithredu integredig.
- Dilyn dull gweithredu cydweithredol.
- Ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth.
Mae’r polisi Isafswm Pris Uned (MUP) wedi’i sefydlu’n ffurfiol mewn cyfraith yng Nghymru gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, sy’n ceisio lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy wneud alcohol yn llai fforddiadwy. Mae’r polisi’n targedu’r cynnyrch rhataf a’r cynnyrch cryfaf.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol wrth lenwi’r ffurflen gais:
- Sut bydd y SRE yn dangos ei allu i reoli, gweithredu a chyfathrebu mewn perthynas â darpariaethau’r Gymraeg? Mae hyn yn cynnwys sut y bydd yn sicrhau bod y contractwyr a’r cyflenwyr hyn yn bodloni gofynion iaith?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau y bydd y cynllun yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
- Sut bydd y SRE yn sicrhau y bydd y cynllun yn gallu cefnogi newid i ailddefnyddio yn ogystal ag ailgylchu llawer?
- Sut bydd y SRE yn dangos cydymffurfiaeth ac ystyriaeth o ddeddfwriaeth Isafswm Pris Uned ar gyfer alcohol yng Nghymru?
- Sut bydd cynwysyddion diodydd yn cael eu casglu o leoliadau lletygarwch dolen gaeedig yng Nghymru? Sut bydd nifer y cynwysyddion o’r lleoliadau hyn yn cael eu cyfrif?
- Sut mae’r SRE yn bwriadu gweithio gyda’r diwydiant i ddiogelu’r cynllun at y dyfodol er mwyn cyflawni tuag at sero net, a chefnogi llwybr i ailddefnyddio?
18. Perthynas â Chyfoeth Naturiol Cymru
- Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu ymgysylltu/gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru o’r adeg penodi ymlaen?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu cael gafael ar ddata priodol sy’n cael ei gadw ar systemau digidol sy’n eiddo i’r SRE?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda CNC i sicrhau bod cynhyrchwyr anghofrestredig yn cael eu nodi a’u cynnwys yn y cynllun?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio a nodwyd ymysg partïon cofrestredig, a’i uwchgyfeirio?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau ei fod yn deall y costau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Safonau Masnach yn eu hwynebu wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau; ac y darperir ar gyfer y rhain yn y rhagolygon ariannol ar gyfer y SRE ac y telir yn brydlon?
19. Gweithredu a strategaeth gyfathrebu
- Sut byddai’r ymgeisydd yn rhagweld, yn lliniaru ac yn rheoli risgiau cyflawni pan fyddant yn codi?
- Rhannwch amserlenni, cynlluniau a risgiau arfaethedig ar gyfer y gwahanol gamau cyflawni. Mae hyn yn cynnwys nodi pryd bydd gwybodaeth allweddol am y cynllun ar gael i’r diwydiant (e.e. manylebau RVM), pryd bydd caffaeliadau allweddol yn cael eu gwneud a phryd bydd elfennau o’r seilwaith TG, casglu, logisteg a thaliadau yn cael eu darparu.
- A fydd yr ymgeisydd yn darparu cymorth ariannol i adwerthwyr ar gyfer prynu RVMs?
- Pa fanyleb o’r peiriant dychwelyd poteli (RVM) fydd yr ymgeisydd yn ei argymell i weithredwyr pwyntiau dychwelyd, gan gydnabod yr angen i drosglwyddo i ailddefnyddio?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gydag adwerthwyr i sicrhau bod adwerthwyr:
(i) yn deall eu cyfrifoldebau o dan y rheoliadau
(ii) â’r wybodaeth berthnasol i sefydlu’r rhwydwaith mannau dychwelyd, ac
(iii) yn barod ar gyfer ‘mynd yn fyw’ ar 1 Hydref 2027 gan gynnwys gosod peiriant dychwelyd poteli lle bo angen. - Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda chynhyrchwyr i sicrhau eu bod:
(i) yn deall eu cyfrifoldebau o dan y rheoliadau
(ii) â’r wybodaeth angenrheidiol i weithredu’r newidiadau gweithredol a gweinyddol sy’n ofynnol ar gyfer ‘mynd yn fyw’ ar 1 Hydref 2027? - Sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu rheoli’r cyfnod pontio ar ôl i’r cynllun ddod yn weithredol, lle mae gweddill y stoc nad yw’n stoc CDE yn cael ei werthu ochr yn ochr ag eitemau’r cynllun?
- Mae angen i’r ymgeisydd ddarparu cynllun cyfathrebu sy’n cynnwys anghenion yr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys defnyddwyr, manwerthwyr, cynhyrchwyr a chynghorau lleol. Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod yr holl fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yn ymwybodol o’u rôl o ran gweithredu o fewn y CDE, gan gynnwys eu dyletswyddau o ran cydymffurfio â’r cynllun? Sut gallai’r ymgeisydd weithio gyda phartneriaid lleol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a’r cyhoedd, i godi ymwybyddiaeth o CDE? Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y canllawiau a roddir i fusnesau yn ystyried gofynion neu argymhellion hygyrchedd?
- Sut bydd yr ymgeisydd yn gweithio gydag adwerthwyr, yn benodol ar eu rhwymedigaethau? Gan gynnwys sut bydd yr ymgeisydd yn cynhyrchu canllawiau a gwybodaeth i gefnogi adwerthwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau i werthu eitemau’r cynllun gan gynhyrchwyr cofrestredig yn unig, a’u bod yn arddangos yr ernes yn glir i ddefnyddwyr gyda gwybodaeth am sut i gael ad-daliad.
- Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o lansio’r cynllun a beth mae’n ei olygu iddyn nhw. Dylai hyn gynnwys cyfathrebiadau sy’n darparu gwybodaeth am y canlynol:
-Sut a ble gall defnyddwyr ddychwelyd cynwysyddion cymwys.
-Darpariaethau penodol a allai effeithio ar ddychwelyd cynhwysydd, megis hawl yr adwerthwr i ddal ad-daliad yn ôl neu gasglu sbwriel os na ddychwelir cynhwysydd mewn cyflwr derbyniol.
-Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod cyfathrebiadau’n cael eu cyhoeddi mewn gwahanol ieithoedd a fformatau gan gynnwys: cyflawni yn erbyn gofynion yr iaith Gymraeg ac mewn ieithoedd lleiafrifol a siaredir yng Nghymru, yn ogystal â sain, Iaith Arwyddion Prydain, Braille, a fformatau hawdd eu darllen.
Adran D
20. Rheolaeth ariannol a chynllun busnes
Mae Templed y Cynllun Busnes yn gofyn am ragolwg o’r Gwarged a’r Diffyg, y Fantolen a’r Llif Arian sy’n dadansoddi eitemau incwm, gweithredu a chostau cyfalaf allweddol. Rhaid iddo hefyd ddangos y mewnlifoedd a’r all‑lifoedd ariannu arfaethedig, yn ogystal â threth. Rhaid iddo gael ei baratoi mewn termau nominal. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ddogfennu rhagdybiaethau allweddol sy’n sail i bob eitem llinell.
Rhaid i’r allbynnau a ddarperir yn Nhempled y Cynllun Busnes gwmpasu’r cyfnod hyd at ddyddiad lansio’r cynllun (sefydlu SRE), ynghyd â rhagolwg 7 mlynedd o lansio’r cynllun.
Dylai’r tybiaethau a ddarperir gan yr ymgeisydd yn erbyn pob eitem llinell gynnwys:
- Tybiaethau chwyddiant.
- Refeniw (gan gynnwys tybiaethau ar ymddygiad defnyddwyr, a pholisi ar gydnabod ernesau heb eu had-dalu a gwerthu deunyddiau).
- Gwariant gweithredu (gan gynnwys tybiaethau ar gostau contractau allweddol, gorbenion corfforaethol, costau twyll; ffioedd rheoleiddio a dirwyon, yswiriant).
- Gwariant cyfalaf (gan gynnwys dadansoddiad o eitemau gwariant cyfalaf allweddol, ymlaen llaw ac unrhyw gostau adnewyddu cylch oes).
- Ariannu mewnlifoedd ac all-lifoedd (gan gynnwys tynnu arian i lawr, ad-daliadau a chostau cyllido).
- Sut bydd unrhyw gostau canolog (gan gynnwys cyllido os yw’n berthnasol) yn cael eu dyrannu i unrhyw is-gwmnïau sy’n gyfrifol am gyflawni’r CDE yng Nghymru.
- Treth (e.e. Treth Gorfforaeth a TAW).
21. Rheoli risg ariannol a threfniadau
Wrth nodi’r gofrestr risg, efallai y bydd yr ymgeisydd yn dymuno ystyried risgiau ariannol fel y canlynol:
- Oedi o ran is-ddeddfwriaeth a lansio’r cynllun.
- Oedi wrth sicrhau cyllid, yswiriant a chytundebau masnachol.
- Ansolfedd cyflenwyr/cyllidwyr allweddol.
- Cynnydd sylweddol yn nifer y cynwysyddion sy’n cael eu dychwelyd, gan leihau lefelau ernesau heb eu had-dalu.
- Lleihad mewn gwerth materol o’i gymharu â disgwyliadau.
- Gostyngiad yn niferoedd y deunyddiau sy’n gymwys i’w gwerthu o’i gymharu â disgwyliadau.
- Newidiadau rheoleiddiol a chosbau.
- Chwyddiant ac amrywiadau mewn cyfraddau llog. Wrth ddisgrifio’r risgiau a’r mesurau lliniaru hyn, dylai’r ymgeisydd gynnwys manylion ynghylch sut mae’n disgwyl y bydd unrhyw gyfalaf/cyllid ychwanegol y gallai fod ei angen yn cael ei sicrhau.
Sylwch y gellir ystyried bod risgiau sy’n ymwneud â thwyll wedi’u heithrio o gwmpas y cwestiwn hwn gan fod y rhain eisoes wedi’u cynnwys yn Adran D.
- Os yw’r ymgeisydd yn rheoli sawl cynllun yn y DU, rhaid iddynt allu dyrannu cyllid yn ôl cynllun, waeth beth fo’r endid gweinyddol, er mwyn cyfrifo ac anfonebu ffioedd cynhyrchwyr yn gywir a thalu ffioedd trin manwerthwyr ar gyfer pob cynllun CDE.
- Bydd angen gweithdrefnau cadarn ar gyfer dyrannu ac olrhain refeniw a chostau rhwng endidau cyfreithiol (neu rhwng CDEs unigol sy’n cael eu gweithredu gan un endid) i sicrhau bod ffioedd Taliadau trin pwyntiau dychwelyd yn cael eu cyfrifo mewn ffordd sy’n adlewyrchiad teg o gyllid a chostau.
Dylai’r ymgeisydd nodi ei gynigion yn hyn o beth, gan nodi hefyd a oes unrhyw ryngddibyniaethau ariannol eraill rhwng yr endidau cyfreithiol ar wahân (neu’r cynlluniau unigol) a allai fod yn berthnasol.
22. Yswiriant a threth
Rydym yn disgwyl y bydd yr ymgeisydd yn sicrhau polisïau yswiriant sy’n unol â gofynion sylfaenol statudol (er enghraifft, mewn perthynas ag yswiriant atebolrwydd cyflogwyr, yswiriant cerbydau ac ati), arferion gorau corfforaethol a normau’r farchnad.
- Dylai costau yswiriant gael eu hadlewyrchu yn y rhagolygon a ddarperir yng Nghynllun Busnes yr ymgeisydd.
- Cynlluniau posibl yr ymgeisydd mewn perthynas â pholisïau cyfrifyddu ar gydnabod refeniw ernesau heb eu had-dalu.
- Cynlluniau posibl yr ymgeisydd mewn perthynas â thybiaethau treth allweddol a’u heffeithiau ar ei waith modelu llif arian ac ariannol, gan gynnwys:
(i) Crynodeb o ddealltwriaeth yr ymgeisydd o ddeddfwriaeth TAW y DU sy’n berthnasol i gynlluniau dychwelyd ernes.
(ii) Bwriadau mewn perthynas â thriniaeth TAW mewn perthynas ag ernesau heb eu had-dalu, gan gynnwys cyfiawnhad dros y safbwynt hwnnw (os yw’n berthnasol).
(iii) Triniaeth TAW mewn perthynas â’r holl lifoedd ariannol eraill yn y system, gan gynnwys llifoedd nad ydynt yn allbynnau nac yn fewnbynnau’r SRE ei hun, gan y bydd y tybiaethau hyn yn dal i effeithio ar fodelu llif arian ac ariannol yr ymgeisydd.
- Cadarnhad o fwriad yr ymgeisydd i gofrestru’r sefydliad SRE ar gyfer TAW gyda CThEF lle bo angen a/neu’n fuddiol mewn perthynas ag adennill treth fewnbwn, neu gydnabyddiaeth y bydd y pwynt hwn yn cael ystyriaeth briodol mewn gweithgareddau cynllunio yn y dyfodol.
- Os yw’n berthnasol, dangos unrhyw gynlluniau sydd gan yr ymgeisydd i sefydlu trefniadau hunan-filio gyda chynhyrchwyr a/neu weithredwyr pwyntiau dychwelyd ac ymwybyddiaeth o’r rhwymedigaethau cydymffurfio parhaus sy’n cael eu creu gan drefniadau o’r fath neu gydnabyddiaeth y bydd y pwynt hwn yn cael ystyriaeth briodol mewn gweithgareddau cynllunio yn y dyfodol.
Fel arall, efallai y bydd yr ymgeisydd yn dymuno cadarnhau y bydd yn ystyried y materion uchod yn y dyfodol a/neu’r amserlenni y mae’n bwriadu eu dilyn i ystyried y materion dan sylw.
23. Cynllunio ariannol a chostau
- Dylai’r wybodaeth a ddarperir yn yr adran hon gynnwys manylion ynghylch lefel y cynnydd a wnaed o ran sicrhau ymrwymiadau cyfalaf/ariannu.
- Dylai’r ymgeisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth trydydd parti o ymrwymiadau y mae wedi’u sicrhau. Gallai hyn gynnwys llythyrau Gwarant Rhiant-gwmni; llythyrau ymrwymiad cyllido o fewn y grŵp; llythyrau cefnogaeth banc; neu benawdau telerau wedi’u llofnodi ar gyfer cyfleusterau cyllido.
24. Dod o hyd i gyllid
Byddem yn disgwyl y bydd yr ymgeisydd o leiaf wedi cynnal trafodaethau gyda darparwyr cyllid/cyfalaf perthnasol ac wedi cytuno ar benawdau’r telerau, neu gyffelyb. Yn ogystal â manylion y cyllid cyfalaf arfaethedig y mae’r ymgeisydd yn disgwyl ei dynnu i lawr, dylai’r ymgeisydd hefyd amlinellu unrhyw gynigion ar gyfer cymorth ariannol amodol gan endidau mewn mannau eraill o fewn ei strwythur grŵp ehangach.
- Dylai’r ymgeisydd ddarparu’r datganiadau ariannol ar gyfer unrhyw endidau a fydd yn darparu cyfalaf/cyllid neu gymorth ariannol amodol. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal asesiad o sefyllfa ariannol endidau o’r fath (a allai gynnwys dadansoddiad o gymarebau ariannol allweddol).
- Dylai’r ymateb nodi’n glir a fydd y cyfalaf/cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y SRE, neu ddim ond ar lefel grŵp. Os yr olaf fydd yn wir, dylai egluro sut y bydd y cyfalaf/cyllid a’r costau sy’n gysylltiedig â hyn yn cael eu dyrannu i i’r cynllun yng Nghymru at ddibenion cyfrifo ffioedd Trin i Gynhyrchwyr ac Adwerthwyr.
- Rydym yn disgwyl y dylai unrhyw gyfalaf/cyllid a ddarperir gan endidau o fewn strwythur grŵp ehangach yr ymgeisydd fod yn unol â chyfraddau’r farchnad (fel nad yw’r endidau hyn yn echdynnu gwerth gormodol).
25. Mynediad cyfartal
Am ganllawiau ar Mynediad Gyfartaledd, darllenwch Adran 25 yn y ffurflen gais.
26. Atebion digidol
Pensaernïaeth lefel uchel o’r systemau digidol y bydd angen eu datblygu i roi’r CDE ar waith, gan gynnwys, lle mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais i gael ei benodi’n SRE ar gyfer mwy nag un CDE, manylion unrhyw systemau sydd eu hangen ar gyfer y CDE unigol.
- Ar gyfer pob un o’r systemau dan sylw, cynllun lefel uchel ar gyfer ei dylunio, ei hadeiladu, ei gweithredu a’i hintegreiddio â’r systemau eraill, a’i phrofi. Dylai’r ymgeisydd nodi y bydd angen i rai systemau, fel cofrestriadau, fod yn weithredol beth amser cyn 1 Hydref 2027 er mwyn caniatáu i endidau gofrestru gyda’r SRE perthnasol.
- Cynlluniau ar gyfer caffael yr arbenigedd mewnol ac allanol y bydd ei angen ar y SRE i reoli ac ymgymryd â’r gweithgaredd datblygu.
- Manylion ynghylch lle bydd y gwaith datblygu’n digwydd.
- Manylion am y modd y bydd y system TG yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, megis rheoliadau ariannol a gwasanaethau talu.
- Disgrifiad o ddiogelwch a rheolaeth data ar gyfer y system TG a gweithdrefnau mewnol (copïau diogel, diogelwch trosglwyddo data, a data a dderbynnir gan gynhyrchwyr i’r SRE, llif data diogelwch rhwng y SRE a mannau dychwelyd, rhwng y SRE a’r rheoleiddiwr ac ati, ar y tir neu ar y môr). Sylwch, fodd bynnag, y dylai unrhyw ddata gael ei westeio yn y DU.
- Arwyddion y bydd y system TG yn bodloni cyfraith diogelu data ac ystyried bodloni safonau’r Swyddfa Digidol a Data Ganolog (CDDO).
- Manylion y dull gweithredu a fwriedir o ran cymorth i gwsmeriaid ar gyfer busnesau a defnyddwyr sy’n ymgysylltu â’r system TG, gan gynnwys dewisiadau hygyrchedd, haenau gwasanaeth, ac ati.
