Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod y Llyfr mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cwmni adnoddau addysg dwyieithog.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y fenter newydd yn sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru newydd.

Bydd y cwmni'n helpu ysgolion ac ymarferwyr i greu adnoddau sy'n cefnogi eu cwricwlwm lleol wrth i ysgolion baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd. Bydd yn wasanaeth amlwg a hygyrch a fydd yn helpu athrawon, cyhoeddwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau eraill i gydweithio i greu'r adnoddau mwyaf defnyddiol posibl i ysgolion a dysgwyr. Bydd hyn yn helpu i sicrhau dull mwy strategol o gomisiynu adnoddau addysgol.

Dywedodd Jeremy Miles:

Mae'n gyffrous iawn gweld cwmni adnoddau addysg yn cael ei greu gan Gymru, i Gymru. Mae'n hanfodol i ni gael yr adnoddau cywir i gefnogi'r cwricwlwm newydd, a sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd.

Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â newid bywydau drwy ddarllen. Bydd y fenter newydd hon yn helpu i sicrhau amrywiaeth eang o ddeunyddiau addysgol perthnasol sy'n canolbwyntio ar Gymru, i gefnogi ein dysgwyr a'n hathrawon.

Bydd deunyddiau newydd yn cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion ac ethos y cwricwlwm newydd. Bydd gan athrawon a dysgwyr fynediad gwell at adnoddau perthnasol ac addas ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r Gweinidog wedi cytuno i gychwyn proses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cadeirydd ac aelodau Bwrdd yn ogystal â Chyfarwyddwr Strategol. Disgwylir i'r cwmni fod yn gwbl weithredol o 1 Ebrill 2023.