Mae cwmni biotechnoleg yn y Gogledd wedi arloesi â system robotaidd newydd ar gyfer dyfeisiau diagnostig sy’n profi am gyflyrau fel canser, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Sicrhaodd Biofortuna, yng Nglannau Dyfrdwy, Gymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) gwerth £225,000, i ddatblygu ei system BeadBot™, i helpu’r cwmni i gyflawni ei uchelgeisiau o ran twf rhyngwladol.
Mae’r prosiect yn un o 140 o fentrau i gael cyllid SMART fel rhan o raglen werth £20 miliwn, a lansiwyd yn 2023, i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil ac arloesi diweddaraf a fydd yn gwella bywydau pobl.
Hyd yma, mae £17.9 miliwn o grantiau arloesi wedi’u dyrannu i gwmnïau fel Biofortuna, i gynllunio a darparu datrysiadau ymchwil a datblygu mewn ymateb i heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.
Bydd BeadBot™ yn galluogi Biofortuna i ehangu ei sylfaen gwsmeriaid yn y farchnad pelenni Lyo sy’n tyfu, a ysgogir yn rhannol gan y symudiad cynyddol tuag at brofi yn y man lle rhoddir gofal.
Bydd yn gwneud hyn drwy wella cynhyrchiant, gan awtomeiddio proses becynnu gymhleth yr ymgymerir â hi ar hyn o bryd gan wyddonwyr cymwys a datrys ataliadau sy’n cyfyngu ar allbwn.
Bydd hyn yn gwneud y cwmni yn arweinydd o ran datblygu a gweithgynhyrchu pelenni Lyo, gan adeiladu ar £4.7 miliwn mewn contractau allforio a sicrhawyd eisoes gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o arloesi a fydd yn gwella bywydau pobl ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladu economi yng Nghymru sy’n seiliedig ar ddiwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
Bydd y system brosesu arloesol hon gan Biofortuna yn hybu cynhyrchiant yn sylweddol, ac yn rhoi’r cwmni mewn sefyllfa i allu cynyddu ei gyfran o farchnad fyd-eang sy’n tyfu’n sydyn, gan ddiogelu swyddi â chrefft, a chreu’r angen am rai newydd.
Mae hefyd yn cryfhau enw da Cymru o ran rhagoriaeth yn sectorau deinamig gwyddorau bywyd a gweithgynhyrchu uwch.
Dywedodd Dr Nick Leaves, Prif Swyddog Gweithredu Biofortuna Limited:
Bydd cymorth SFIS Llywodraeth Cymru yn ein helpu i gynyddu’n sylweddol ein capasiti gweithgynhyrchu, gan gyflymu’r broses o gael mynediad i ran hanfodol o’r farchnad ddiagnosteg sy’n tyfu’n gyflym. Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y Llywodraeth a diwydiant yn cydweithio.
