Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni gemau o’r Unol Daleithiau sydd â swyddfeydd yn Efrog Newydd ac yn Texas am sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru, diolch i gymorth Llywodraeth Cymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Rocket Science yn agor ei stiwdio newydd yng Nghaerdydd, gan greu 50 o swyddi bras a chrefftus ar gyfer graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau i weithio ar rai o’r prosiectau technegol anoddaf ar gyfer y gemau fideo mwyaf yn y byd.

Denwyd y prosiect mewnfuddsoddi hwn yn sgil taith fasnach lwyddiannus gan Lywodraeth Cymru i Gynhadledd y Datblygwyr Gemau yn San Francisco yn 2022. Yno, cysylltodd cyd-sylfaenydd Rocket Science, Tom Daniel, yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ond sydd bellach o Austin, Texas, a Brian Corrigan, â Cymru Greadigol, asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, i drafod cynlluniau uchelgeisiol y cwmni i dyfu.

Mae Rocket Science am greu presenoldeb yng Nghymru, tebyg i’w safle llwyddiannus yn Efrog Newydd, a chreu stiwdio Gymreig i wasanaethu cwsmeriaid y cwmni yn Ewrop.

Bydd y stiwdio newydd yng Nghaerdydd yn gweithio ar gemau fideo mwyaf a mwyaf poblogaidd y byd heddiw, sy’n cael eu chwarae gan filiynau o bobl bob dydd. Bydd hefyd yn denu ac yn cefnogi cleientiaid o fri i greu gemau mwyaf a mwyaf uchelgeisiol fory.

Bydd y cwmni’n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru trwy ei Chronfa Economi’r Dyfodol (EFF) sy’n helpu busnesau i fuddsoddi yn economi Cymru a’i helpu i dyfu.

Mae hwn yn gam mawr i’r sector gemau yng Nghymru wrth i ni geisio cipio cyfran fwy o farchnad gemau’r byd. Mae disgwyl i’r farchnad honno dyfu i fwy na $200 biliwn erbyn 2025.

Wrth gyhoeddi’r newydd, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru â’i hamcan strategol i ddatblygu’r diwydiant gemau yng Nghymru.

“Bydd gan stiwdio newydd Rocket Science y potensial i weddnewid y sector, trwy greu 50 o swyddi bras, sbarduno’r economi i dyfu a datblygu ymhellach sector gemau Cymru, gan greu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel i genedlaethau heddiw ac yfory.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â diwydiannau’r dyfodol i greu swyddi newydd o’r radd flaenaf, tra’n helpu’r staff sydd eisoes yn gweithio yn y sectorau hyn i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.  Mae Cymru’n wlad wych i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi ac i ymweld â hi. Felly, rwy’n pwyso ar fusnesau i gysylltu â Cymru Greadigol i weld sut y gall eu helpu i feithrin busnes llwyddiannus yma yng Nghymru.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Tom Daniel, cyd-sylfaenydd a chyd-bennaeth Rocket Science:

I ni, mae Caerdydd yn gyfle ffantastig i Rocket Science greu cartref yn Ewrop a manteisio ar y ddinas wych hon.

“Dwi wedi teimlo ers blynyddoedd bod gan Gaerdydd lawer iawn i’w gynnig i ddiwydiant gemau fideo’r byd a dwi wrth fy modd ein bod o’r diwedd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, yn troi hyn yn realiti.

“A finnau’n byw yn yr Unol Daleithiau ond yn hanu o Gymru, dwi’n hynod o falch ein bod yn agor y stiwdio hon ym mro fy mebyd. Gobeithio y gallwn wneud ein rhan i ddenu mwy o gwmnïau gemau rhyngwladol i ymuno â ni yma yng Nghaerdydd cyn hir i wneud Caerdydd y ganolfan gemau newydd nesaf yn y DU. Dwi’n grediniol y gall hynny ddigwydd.”