Neidio i'r prif gynnwy

Cwmni pren o Gasnewydd, sy'n cynnig lleoliadau gwaith i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, yw'r cwmni cyntaf yn y sector preifat i lofnodi Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Premier Forest Products, sy'n gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig lleoliadau gwaith â thâl i hyd at chwe pherson ifanc y flwyddyn, ynghyd â chymorth mentora a thiwtora addysgol lle bo angen.

Hyd yn hyn, mae'r cwmni wedi cefnogi 12 o bobl ifanc gyda lleoliadau ar draws adrannau gan gynnwys cyllid, gweithrediadau, logisteg a gweithgynhyrchu. Mae hyn yn rhoi'r hyder, y strwythur a'r cyfle iddyn nhw gamu'n llwyddiannus i'r byd gwaith.

Mae pob hyfforddai yn cael ei baru â mentor mewnol ac yn cael cymorth cofleidiol a chyllid (lle bo'n berthnasol) ar gyfer ffioedd dysgu ac arholiadau hyd at lefel TGAU. Mae hyn yn eu helpu i gyflawni'r cymwysterau sylfaenol sydd eu hangen i ddilyn eu maes dewisol.

Mae rhianta corfforaethol yn ymwneud â chefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i gael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae'n disgrifio cyfrifoldeb ar y cyd awdurdodau lleol ac aelodau etholedig i gefnogi a meithrin pob plentyn neu berson ifanc sy'n cael ei roi yn y system ofal. Fodd bynnag, gall y sector preifat hefyd chwarae rôl ganolog wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn ffynnu.

Hyd yn hyn, mae 73 o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wedi cofrestru i fod yn rhieni corfforaethol. Mae llofnodwyr Siarter Llywodraeth Cymru yn cytuno i gefnogi set o egwyddorion rhianta corfforaethol wrth iddyn ddarparu gwasanaethau presennol, dylunio rhai newydd, a meddwl am y gefnogaeth a'r cyfleoedd y gallant eu cynnig i blant a phobl ifanc â gofal profiadol.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae'r lleoliadau gwaith hyn yn enghraifft wych o sut mae rhianta corfforaethol yn gweithio'n ymarferol.

Drwy'r cynllun, mae Premier Forest Products yn helpu pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i gael dyheadau uchel ac i sicrhau'r canlyniadau gorau iddyn nhw eu hunain. Rwy'n falch iawn mai Premier Forest Products yw'r cwmni cyntaf yn y sector preifat i lofnodi, a chwblhau, ein siarter rhianta corfforaethol.

Dywedodd Terry Edgell, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Premier Forest Products:

Fel busnes, rydym bob amser wedi credu bod llwyddiant masnachol a chyfrifoldeb cymdeithasol yn mynd law yn llaw. Mae'r syniad y tu ôl i'n rhaglen rhianta corfforaethol yn syml: os gallwn roi'r un gofal, anogaeth a strwythur i'r bobl ifanc hyn ag y byddem yn eu rhoi i'n plant ein hunain, gallwn newid eu cyfleoedd bywyd.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel cynllun peilot lleol yng Nghasnewydd wedi dod yn rhywbeth llawer mwy. Rydym yn gweld y gwahaniaeth gwirioneddol y mae hyn yn ei wneud.

Mae pobl ifanc bellach yn ffynnu, yn gweithio, ac yn credu ynddyn nhw eu hunain eto. Ein nod yw cyflwyno hyn yn genedlaethol, ac ysbrydoli cyflogwyr eraill i wneud yr un peth.