Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cwmni pacio o Ystrad Mynach sydd wedi sicrhau contract sylweddol i gyflenwi gwellt papur i gwmni McDonald's yn ehangu'n gyflym, yn rhannol oherwydd pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Transcend Packaging yn magu enw da yn gyflym fel prif arloeswr ym maes pacio cynaliadwy, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth bwyd, melysfwyd, a'r sectorau iechyd a harddwch.

Mae'n creu amrywiol gynnyrch, o wellt papur i flychau sy'n plygu, ac mae wedi casglu tîm profiadol o arbenigwyr yn y diwydiant at ei gilydd sy'n canolbwyntio ar greu pecynnu cynaliadwy sy'n bodloni anghenion y cwsmer tra'n sicrhau cyn lleied â phosib o niwed i'r amgylchedd. 

Bu'r cwmni mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch y pecyn cymorth am rai misoedd, ac mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates wedi cadarnhau bellach y bydd Transcend Packaging yn derbyn dros £500,000 dros dair blynedd fydd yn helpu i greu oddeutu 102 o swyddi newydd. 

Mae cymorth Llywodraeth Cymru ar ben buddsoddiad o £11 miliwn gan y cwmni, sy'n rhagweld y bydd yn datblygu ei weithlu o 20 o weithwyr i darged o fwy na 200 erbyn diwedd 2021. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn cefnogi Transcend Packaging wrth iddynt greu 102 o swyddi ychwanegol yn Ystrad Mynach. Mae hyn yn cefnogi y blaenoriaethau a amlinellir yn Ein Cymoedd Ein Dyfodol, i greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd. 

"Nid yn unig mae'r cwmni yn arwain y maes, mae hefyd yn helpu un o'r cwmnïau bwyd brys byd-eang mwyaf i leihau eu defnydd o blastig untro. 

"Mae'r ffaith bod Transcend Pakcaging yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ac arloesi yn union y math o ymddygiad yr ydym yn ceisio ei annog gyda'n Cynllun Gweithredu Economaidd ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn gweithio'n galed i gefnogi cwmni mor foesegol." 

Dywedodd Lorenzo Angelucci, Rheolwr Gyfarwyddwr Transcend Packaging:

"Sefydlwyd Transcent Packaging gan ein bod yn ceisio helpu cwmnïau i fod yn fwy cynaliadwy gydag amrywiol gynnyrch o wellt papur i flychau sy'n plygu. Mae ein tîm Transcend cyfan yn gwerthfawrogi'r cymorth hael gan Lywodraeth Cymru ac yn edrych ymlaen at gynnig swyddi yng Nghymru am sawl blwyddyn."

"Trwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol a rhanbarthol, cwmnïau mawr a'r cyhoedd yn ehangach, rydym yn gallu cynnig atebion arloesol ar gyfer pacio sy'n helpu i gadw amgylchedd iach. Rydym yn credu y gall gwmnïau o Brydain helpu i sbarduno arloesi ym maes cynaliadwyedd ac yn falch o fod y prif gynhyrchydd gwellt papur eco-gyfeillgar ym Mhrydain. Rydym yn cymeradwyo cwmnïau blaengar fel McDonald's ym Mhrydain ac Iwerddon sydd wedi dewis Transcend i ddarparu eu gwellt papur fydd yn dechrau cynhyrchu yng Nghymru yn ystod yr haf."