Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod y sector technoleg ariannol, sydd eisoes yn ffynnu yn y de, ar fin cael hwb sylweddol arall wrth i Backbase.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Backbase, sy’n gwmni blaenllaw ym maes datblygu meddalwedd, swyddfeydd yn Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Asia. Mae’n gwmni sydd ar flaen y gad o ran meddalwedd bancio amrywiol, ac yn cynnig llwyfan diogel sy’n caniatáu i fanciau a sefydliadau ariannol eraill gyflymu’r broses o drawsnewid yn ddigidol.

Gyda thros 100 o sefydliadau ariannol mawr y byd, fel HSBC, Barclays a Metrobank, yn defnyddio llwyfan Backbase, a hynny ar draws 25 o wledydd, mae gan y cwmni enw yn fyd-eang, ac mae’n parhau i ennill gwobrau. Yn ddiweddar, cafodd y cwmni gydnabyddiaeth fel arweinydd ym maes Llwyfannau Cyfathrebu Bancio Digidol.

Gobaith Backbase yw y bydd yr hwb hwn yng Nghaerdydd yn ategu ei nod o fod ar flaen y gad ym maes arloesi a bancio digidol.

Dewisodd y Cwmni sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yng Nghaerdydd, a hynny oherwydd bod ganddi enw da, sy’n tyfu fel canolfan dechnoleg ariannol. Roedd y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ac ansawdd y sgiliau oedd ar gael yn ffactorau amlwg hefyd.

Y llynedd, agorodd Backbase ganolfan ymchwil a datblygu yng Nghaerdydd. Crëwyd 24 swydd oedd yn gofyn am sgiliau uchel. Bellach mae’n ehangu ac yn creu 50 o swyddi ychwanegol. Bydd y swyddi hyn yn allweddol wrth dargedu’r sector rheoli cyfoeth, sy’n tyfu yma yng Nghymru.

Bydd y tîm newydd yn gweithio ar ddatblygu meddalwedd craidd, profi meddalwedd ac yn cefnogi cleientiaid gyda’r stôr o ymchwil a’r datblygiadau sydd wedi cronni ganddynt. Bydd hyn yn grymuso bancio masnachol amryw o sefydliadau ariannol mawr ar draws y byd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

Mae’r ffaith bod Backbase yn cynnig 50 o swyddi ychwanegol yn sgil pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yn newyddion bendigedig.

Mae enw Caerdydd fel canolfan dechnoleg ariannol yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn benderfynol o gydweithio â’r cwmnïau yn y sector i ddarparu’r cymorth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ehangu eu busnesau.

Dywedodd Chris Whitcombe, Prif Swyddog Gweithredol Backbase Cymru:

Roedd y bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru yn allweddol er mwyn denu Backbase i Gymru. Maent wedi hwyluso’r broses ac yn bwysicach na hynny, maent wedi cyflwyno cysylltiadau newydd i ni. Roedd y dalent aruthrol sydd gan y sector i’w gynnig yma yng Nghymru a chydbwysedd gwell rhwng bywyd cymdeithasol a bywyd gwaith yn ffactorau wrth i ni benderfynu mynd amdani i fuddsoddi yma.