Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni LSN Diffusion, sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac sy’n gweithgynhyrchu powdrau arbenigol i’w defnyddio yn y sector peirianneg, yn ehangu ei waith ac yn creu swyddi newydd yn sgil cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cwmni sy’n cyflogi dros 100 aelod o staff yn ei safle yng Nghilyrychen, Llandybie, yn allforio ei bowdrau nicel, cobalt a haearn i gwsmeriaid ar draws y byd, gan gynnwys grŵp o fusnesau o’r radd flaenaf o bob ban byd.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £290,000 o’i Chronfa Dyfodol yr Economi er mwyn helpu i ddiogelu at y dyfodol waith yn LSN Diffusion. Mae’r cwmni’n buddsoddi £3 miliwn mewn cyfleusterau newydd a phrosesau o’r radd flaenaf.

Bydd gwaith gweithgynhyrchu’r cwmni yn ehangu’n sylweddol er mwyn diwallu’r galw cynyddol am ei gynnyrch, gan ddiogelu’r swyddi presennol a chreu 20 o swyddi newydd.

Dywedodd Philip Allnatt, Rheolwr-Gyfarwyddwr LSN Diffusion: 

Mae datblygiad LSN Diffusion wedi deillio o fuddsoddiad parhaus mewn gwaith ymchwil a datblygu, a hynny ar y cyd â busnesau a phrifysgolion sy’n arbenigo mewn uwch-dechnoleg. Mae’r cynnydd mewn galw yn golygu bod angen buddsoddi mewn cyfarpar gweithgynhyrchu a chyfarpar cysylltiedig ac mae hyn yn creu cyfleoedd gwaith heb eu hail. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Mae’n wych clywed bod LSN Diffusion yn buddsoddi yn ei ddyfodol yn Rhydaman ar adeg eithriadol o heriol.

Mae’r cwmni yn gyflogwr pwysig iawn yn yr ardal ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig y cymorth allweddol hwn iddynt a fydd yn cefnogi eu cynlluniau i ehangu, creu cyfleoedd gwaith o safon uchel a diogelu swyddi eraill.

Mae’r buddsoddiad hwn yn tystio i’n hyder yn yr ardal leol a’r economi ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cwmni yn mynd o nerth i nerth, gan barhau i anelu’n uchel.