Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect i fynd i’r afael â gordewdra plant wedi dyfarnu cyllid i bedwar o gwmnïau o Gymru i ddatblygu cynnyrch Bwyd a Diod arloesol, iach a fforddiadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru ac Innovate UK wedi dyfarnu cyfran o £250,000 o gyllid ymchwil a datblygu i bedwar cwmni o Gymru i ganiatáu iddynt asesu ymarferoldeb eu cynnyrch newydd.  

Cafodd y cwmnïau eu gwahodd i gyflwyno cynnyrch sy’n canolbwyntio ar leihau lefelau halen, siwgr a braster dirlawn yn ogystal â chynyddu lefelau y fitaminau, y mwynau a’r ffibr sydd i’w gael mewn bwyd a diod ar gyfer plant.  

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, 

“Mae gennym eisoes enw da am fwyd a diod o safon, ac mae ein cwmnïau yn ystyried arloesi o ddifrif fel rhan o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.   Rydym yn falch o hyrwyddo ein diwydiant yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac rwy’n llongyfarch y pedwar cwmni o Gymru sydd wedi dangos eu harloesedd i ennill y cyllid hwn.   Mae mynd i’r afael a gordewdra yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a thrwy wella deiet ein plant heddiw, rydym yn sicrhau y byddant yn oedolion iach yfory.”  

Darparwyd y cyllid drwy’r Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), rhaglen genedlaethol sy’n galluogi cyrff y sector cyhoeddus i gysylltu gyda busnesau sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol i heriau’r sector cyhoeddus.  

Mae gordewdra yn cael effaith sylweddol ar yr economi.  Yn 2011, ystyriwyd bod gordewdra yn unig yn arwain at gost o oddeutu £73 miliwn i’r GIG yng Nghymru, gyda rhwng £1.4miliwn ac £1.65 miliwn yn cael ei wario pob wythnos yn trin clefydau sy’n deillio o ordewdra.