Bydd Cwpan y Byd Menywod Fifa yn 2035 yn gyfle hanesyddol i hyrwyddo Cymru i'r byd, ac yn hwb i chwaraeon menywod ledled y wlad, meddai'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, heddiw.
Croesawodd y Gweinidog y cyhoeddiad heddiw yn Zurich y bydd y DU yn cynnal y digwyddiad hwn, gyda'r FA, Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon, Cymdeithas Pêl-droed yr Alban a Chymdeithas Bel Droed Cymru yn ei gynnal.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal ar draws holl wledydd y DU, gyda thair darpar stadiwm groeso yng Nghymru sef, Cae Ras Wrecsam, Stadiwm y Principality Caerdydd a Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd y gystadleuaeth yn un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal yn y DU. Hwn fydd y tro cyntaf i Gwpan y Byd FIFA ™ gael ei gynnal yn y wlad ers 1966.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae hyn yn newyddion gwych i chwaraeon yng Nghymru, ac i chwaraeon menywod yn benodol. Bydd mor ysbrydoledig i'r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr i weld y digwyddiad anhygoel hwn yn dod i Gymru a'r cyfle i weld pêl-droedwyr gorau'r byd.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymdeithas Bel Droed Cymru i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd o gynnal digwyddiad mor fawreddog a fydd yn ein galluogi i hybu Cymru i'r byd ac i fywiogi chwaraeon ar lawr gwlad yn ein cymunedau ledled ein cenedl. "
