Bob blwyddyn mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng Nghymru a phe bai dim ond un y cant ohono yn cael ei arbed, gallai gael ei ddefnyddio i ddarparu dros naw miliwn o brydau bwyd.
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â sefydliad yng Nghaerdydd sy'n anelu at wneud hynny'n union.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi FareShare Cymru gyda dros £3.9m o gyllid ers 2015.
Yn y cyfnod hwnnw, mae FareShare Cymru wedi ailddosbarthu dros 6,600 tunnell o fwyd bwytadwy a oedd dros ben.
Yn ogystal â lleihau nwyon tŷ gwydr, mae hyn wedi golygu bod dros 15 miliwn o brydau bwyd wedi'u dosbarthu i'r rhai mewn angen ledled Cymru drwy 411 o sefydliadau cymunedol ac elusennau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
“Mae adeiladu Cymru decach a gwyrddach wrth wraidd popeth a wnawn yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
“Mae ein partneriaeth gyda FareShare Cymru yn dyst i'n hymroddiad i fynd i'r afael â thlodi bwyd a lleihau gwastraff bwyd.
“Mae Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, a heddiw, rwy'n falch o amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i fanteisio i'r eithaf ar y llwyddiant hwn. Rydym yn canolbwyntio ar dyfu'r economi, creu swyddi cynaliadwy, mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac arbed arian i gymunedau ledled Cymru.”
Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i FareShare Cymru am eu hymdrechion eithriadol:
“Rwy'n hynod ddiolchgar i FareShare Cymru am eu gwaith rhyfeddol yn brwydro yn erbyn tlodi bwyd, lleihau gwastraff bwyd a chefnogi aelodau agored i niwed yn ein cymunedau.
“Roedd clywed profiadau'r gwirfoddolwyr a gweld drosof fy hun sut mae FareShare Cymru yn grymuso unigolion i feithrin sgiliau a chymwysterau ar gyfer cyflogaeth yn yr economi werdd yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn gyfrifoldeb ar y cyd a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle mae pawb yn mwynhau bywyd llwyddiannus a llewyrchus.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol FareShare Cymru, Sarah Germain:
“Yn FareShare Cymru rydym wedi ymrwymo i droi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol. Drwy weithio gyda chyflenwyr yn y diwydiant bwyd, gallwn ailddosbarthu bwyd bwytadwy sydd dros ben i elusennau a grwpiau cymunedol sy'n ei droi'n brydau bwyd i gefnogi eu cymuned leol. Mae hyn yn lleihau gwastraff bwyd, yn arbed arian i elusennau ac yn helpu i fwydo miloedd o bobl bob dydd.
“Ar adeg pan fo un o bob pum oedolyn yn wynebu diffyg diogeledd bwyd, mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda chyflenwyr bwyd a gwaith aelodau ein helusen yn hanfodol.
“Ochr yn ochr â hyn, rydym yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant ac yn rhedeg ein rhaglen gyflogadwyedd, FareBoost. Ni allem wneud yr hyn a wnawn heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr, staff, cyflenwyr bwyd a chyllidwyr anhygoel ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth dros y 10 mlynedd diwethaf.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Huggard, Adam Rees:
“Mae Huggard yn darparu cymorth a llety brys i'r rhai sy'n cysgu allan ac yn ddigartref. Mae darparu mynediad at fwyd da yn rhan hanfodol o hyn.
“FareShare Cymru yw ein partner allweddol wrth wneud hynny’n bosibl. Rydyn ni’n coginio 85 o brydau bwyd y dydd ar gyfartaledd bob dydd o'r flwyddyn. Prydau bwyd poeth, maethlon ac amrywiol sy'n cael eu paratoi gan gleientiaid ar ein rhaglen hyfforddiant arlwyo ar gyfer eu cyd-gleientiaid.
“Mae brecwast am ddim a dim ond £2 yw cinio. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu'r bwyd sydd ei angen ar bobl sy'n byw ar strydoedd Caerdydd i ddechrau'r adferiad o ddigartrefedd mewn amgylchedd diogel a chynnes.”