Neidio i'r prif gynnwy

Cwricwlwm newydd yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi dros gyfnod y Pasg 2019, ac y bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’n unigolion egwyddorol, gwybodus a gwerthfawr i’r gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cwricwlwm – sy’n cael ei lunio ar y cyd ag athrawon, prifysgolion, arbenigwyr rhyngwladol a’r gymdeithas ddinesig – ar gael i’w brofi a rhoi adborth arno, a bydd y cwricwlwm terfynol ar gael i bob ysgol o 2020.

Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion yn hollol barod  erbyn iddo gael ei gyflwyno’n statudol ym mis Medi 2022.

Wrth draddodi Darlith Goffa Raymond Williams yn 2018 yn yr Eglwys Norwyaidd  yng Nghaerdydd, dywedodd Kirsty Williams:

“Rwy’n credu y dylai’r system addysg yng Nghymru fod yn system sy’n rhoi’r dinesydd yn gyntaf. Dyna pam fy mod, wrth dderbyn y swydd hon, wedi cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth, unwaith eto, i greu cwricwlwm newydd a fydd yn codi safonau llythrennedd a rhifedd, ond a fydd hefyd yn meithrin disgyblion egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymreig, ac yn ddinasyddion y byd.

“Yr hyn yr ydym am ei weld yn ninasyddion y dyfodol, yr hyn yr ydym am iddynt ei wybod, a’i gael gan yr athrawon, a’r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld ganddynt – dyna sy’n cael ei adlewyrchu yn y cwricwlwm.

“Ond mae’r broses o gydweithio i lunio’r cwricwlwm hwnnw ynddi’i hun yn adlewyrchiad o’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gael o’n system addysg.

“Proffesiwn sy’n cydweithio, sy’n croesawu syniadau newydd, sy’n dysgu o hyd ac yn ceisio codi safon pob disgybl.

“Rydym yn gosod esiampl ryngwladol ac yn dangos ffordd flaengar o fynd ati i newid y system addysg, a hynny drwy gydweithio, a bod yn greadigol ac yn hyderus.

“Cwricwlwm a system addysg sydd, yn unol â dyhead Raymond Williams ei hun, yn rhoi cyfle i bawb  “amgyffred gwir natur ein cymdeithas”.”

Yn ystod y ddarlith, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, fod Llywodraeth Cymru, yn ei hymgyrch genedlaethol o ran diwygio’r system addysg, yn “camu ymlaen yn ysbryd chwyldro hir Raymond Williams”.

Wrth ymdrin â materion fel gwleidyddiaeth hunaniaeth, symudedd cymdeithasol a hawliau dynol, dyfynnodd yr Ysgrifennydd Addysg o waith Raymond Williams. Dyfynnodd hefyd o waith gan feddylwyr fel Ted Kennedy, Mark Lilla ac Orson Welles.
Dywedodd:

“Rwyf eisiau system addysg sy’n ceisio meithrin diwylliant a syniadau cyffredin am gyd-ddinasyddiaeth, sy’n cychwyn gyda’r cwricwlwm newydd ac yn treiddio i addysg i oedolion.

“Cyd-ymdrech sy’n ymgais gyffredin sy’n annog pawb i gwestiynu a herio – herio’r ffordd o feddwl a threfnu sydd wedi ennill ei phlwyf.

“Ond herio hefyd ddiffiniadau a gwahaniaethau, pan fo’n briodol gwneud hynny. Bod yn chwilfrydig am bobl eraill a’r byd yn ehangach, sydd y tu hwnt i’n hunaniaeth ni ein hunain – sut bynnag yr hoffech ddiffinio hynny.

“Cyfres o ddibenion cyffredin, ond sy’n seiliedig ar gyfuno gwybodaeth a sgiliau sy’n caniatáu i ddinasyddion unigol fod yn rhan o’r broses honno o newid cymdeithasol.

“Dylai pawb gyfrannu at addysg er mwyn cyflawni nod a fydd o fudd i bawb.”