Neidio i'r prif gynnwy

Ar ymweliad â'r Ganolfan Oasis yng Nghaerdydd, cafodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, gyfle i weld sut roedd prosiect sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn helpu athrawon gwirfoddol i addysgu Saesneg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiect yn un o chwe chynllun peilot Cwricwlwm Dinasyddion sydd yn cael eu rheoli gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, ac yn cael bron i £250,000 gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan bob un o'r prosiectau thema wahanol, ac mae oedolion yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio cynnwys y cwricwlwm i sicrhau eu bod yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'w bywyd a'u gwaith.

Mae gwirfoddolwyr a staff addysgu wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol De Cymru i gynllunio cwrs hyfforddi athrawon yn y Ganolfan Oasis sy'n diwallu anghenion pobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Mae cynnwys y gwersi yn seiliedig ar anghenion bywyd go iawn y dysgwyr.

Ar ôl cyrraedd gwlad newydd, mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn wynebu heriau a rhwystrau unigryw. Efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd cyflawni tasgau sylfaenol fel gweld meddyg oherwydd rhwystrau iaith, ac mae gan rai anghenion llythrennedd oherwydd bod eu haddysg wedi bod yn ysbeidiol.

Cynhelir dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn rhad ac am ddim yn y Ganolfan Oasis bum niwrnod yr wythnos, lle mae'r cwrs hyfforddi athrawon newydd yn cael ei ddarparu. I lawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, y dosbarthiadau hyn yw eu prif weithgaredd gymdeithasol, sy'n rhoi ymdeimlad o strwythur i'w bywydau ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a seicolegol.

Dywedodd un o'r ffoaduriaid sy'n rhan o'r cynllun peilot:

"Pan ddes i yma y llynedd roeddwn i'n isel ac yn orbyderus. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am yr iaith Saesneg. Ond dwi'n ymlacio pan dwi'n dod yma i Oasis a dwi'n dysgu lot o bethau yma. Maen nhw'n rhoi gwersi Saesneg i mi ond yn bwysicaf na dim, mae'n rhoi hyder i mi. Wna'i fyth anghofio hynny."

Dywedodd Laura Phelps, Pennaeth ESOL yn Oasis:

"Mae'r cyllid Cwricwlwm Dinasyddion wedi ein galluogi i hyfforddi gwirfoddolwyr i ddefnyddio dulliau cyfranogol yn y dosbarthiadau ESOL. Mae hyn yn golygu bod anghenion gwirioneddol ac uniongyrchol y dysgwyr yn cael sylw yn y dosbarth a bod modd iddyn nhw deimlo'n gartrefol yng Nghymru yn gynt."

Dywedodd Josh Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru:

"Rydyn ni'n falch iawn o gael cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid fel y Ganolfan Oasis ar Gwricwlwm Dinasyddion yng Nghymru.

"Yr hyn sy'n gwneud y Cwricwlwm Dinasyddion yn wirioneddol wahanol yw'r ffordd y mae'n cael ei ddatblygu a'i ddysgu. Mae'n ymwneud â gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu'r hyn y maen nhw am ei ddysgu a sut maen nhw am ei ddysgu.

"Dyma sy'n ei gysylltu mor gryf â'r Cwricwlwm i Gymru sy'n cael ei gyflwyno mewn ysgolion ar hyn o bryd, gan nad yw'n rhoi pwyslais ar ddysgu o'r brig i lawr, ond yn hytrach mae'n  grymuso'r unigolyn i gyflawni ei botensial trwy ei ddysgu ei hun."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Fel Gweinidog Addysg, rwyf wedi sôn dro ar ôl tro bod rhaid i ni roi cyfle i bawb gyrraedd eu llawn botensial drwy sicrhau bod Cymru yn datblygu yn 'genedl ail gyfle'.

"Mae'r cynlluniau peilot hyn yn helpu i gyflawni'r uchelgais hwn trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau o ymgysylltu â dysgwyr a gwella canlyniadau.

"Rwy'n falch o weld y Cwricwlwm Dinasyddion yn gweithio mor effeithiol yn ymarferol yma yng y Ganolfan Oasis, i wella canlyniadau addysgol ffoaduriaid a cheiswyr lloches."

Y cynlluniau peilot eraill sy'n rhan o'r cynllun yw:

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Merthyr Valleys Homes i alluogi tenantiaid i ddychwelyd i ddysgu
  • Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru - Diogelu fy Nyfodol, sydd wedi'i anelu at oedolion dros 50 oed a di-waith
  • Coleg Caerdydd a'r Fro - Ysgolion Bro. Ail-gysylltu oedolion mewn dysgu gan ddefnyddio asedau ysgolion uwchradd lleol 
  • Dysgu Oedolion Cymru - Rhaglen Beilot Iechyd a Lles Cymru gyfan
  • Addysg Oedolion Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru - rhaglen beilot Dysgu Byd-eang

Amcangyfrifir y bydd 276 o ddysgwyr yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chynlluniau peilot Cwricwlwm Dinasyddion, gyda 650 o ddysgwyr eraill yn cymryd rhan yn anuniongyrchol.