Rydyn ni eisiau eich barn ar ganllawiau i gymryd lle adran Y daith i weithredu’r cwricwlwm yng nghanllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n ymgynghori ar:
- Ddiweddariadau arfaethedig i adran o ganllawiau Cwricwlwm i Gymru a fwriedir i helpu ysgolion (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau eraill) i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm, a'i adolygu'n barhaus
- Diwygiadau arfaethedig i'r adran hon i’w gwneud yn fyrrach a mwy penodol, fel ei bod yn haws i ymarferwyr ei defnyddio
- Canllawiau ar gyhoeddi crynodeb cwricwlwm
- Y bwriad i'r fersiwn diwygiedig hon, Ymlaen â'r daith, fod yn rhan o ganllawiau statudol
Dogfennau ymgynghori
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille ac mewn ieithoedd eraill.
Dogfennau cysylltiedig
- Mae canllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
- Mae fersiwn hawdd ei deall
- Mae canllaw i bobl ifanc
- Mae canllawi i rieni a gofalwyr
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Tachwedd 2023, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Uned gwireddu’r cwricwlwm
Isadran Cwricwlwm, Asesu a Gwella Ysgolion
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ