Bydd cwrs newydd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i ddiwallu anghenion cleifion sy'n siarad Cymraeg ac yn datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu.
Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn lansio Cwrs Croeso yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw.
Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn benodol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion allweddol y gall staff eu defnyddio yn eu sgyrsiau bob dydd gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg.
Mae hyn yn cynnwys sut i roi geiriau o gysur, cynnig lluniaeth, neu ynganu enwau Cymraeg, sydd i gyd yn gallu gwella profiad person o ofal yn sylweddol.
Mae'r cynllun yn rhan bwysig o gyflawni'r uchelgais yn "Mwy na geiriau", cynllun iaith Gymraeg cynhwysfawr Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hyn yn allweddol i ddiwallu anghenion iaith pobl sy'n cael gofal, heb iddyn nhw orfod gofyn amdano.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn dweud nad oes angen i staff iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhugl yn y Gymraeg i wneud gwahaniaeth ystyrlon i ofal pobl.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Nod "Mwy na geiriau", ein cynllun iaith Gymraeg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yw sicrhau bod pobl sy'n siarad Cymraeg yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw, yn eu dewis iaith.
Mae ychydig o eiriau Cymraeg yn unig yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau pobl.
Mae'n haws nag erioed i bobl sy'n newydd i'r Gymraeg ddechrau dysgu'r iaith, diolch i'r pecyn o adnoddau dysgu, ac rwy'n falch iawn bod Cwrs Croeso yn rhan o'r pecyn hwnnw.
O dan "Mwy na geiriau", mae disgwyl i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyrraedd lefel cwrteisi sylfaenol yn y Gymraeg erbyn 2027.
Mae Cwrs Croeso yn cynnwys adnodd digidol sy'n nodi'r rhesymau dros ddefnyddio'r Gymraeg a chyflwyniad i dermau a geirfa syml i'w defnyddio gyda chleifion.
Mae tîm o diwtoriaid dysgu Cymraeg hefyd ar gael i ddarparu gweithdai "croeso" i ddechreuwyr.
Mae'r cwrs yn rhan o raglen eang o hyfforddiant Cymraeg ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
Bydd y Cwrs Croeso newydd hwn, sydd wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr dysgu iaith y Ganolfan, yn helpu gweithwyr iechyd a gofal i ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda chleifion a gofalwyr
Bydd cymorth ychwanegol dan arweiniad tiwtoriaid yn galluogi gweithwyr i gryfhau eu sgiliau, a bydd opsiynau dysgu pellach ar gael hefyd.
Ry'n ni'n gwybod bod darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a'u teuluoedd, ac ry'n ni'n edrych ymlaen at barhau i helpu'r gweithlu i ddatblygu eu sgiliau iaith.
