Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr Iechyd Cymru

Dyddiad Cyhoeddi: 9 Tachwedd 2023

Statws: Gweithredu

Categori:Y gweithlu

Teitl: Cwrs e-ddysgu Healthy Start

Dyddiad Dod i ben / dyddiad yr adolygiad: Amherthnasol

I’w weithredu gan: Fyrddau Iechyd Lleol

Angen gweithredu erbyn: Ar unwaith

Anfonwr: Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Enw(au) Cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru: Sarah Francis, y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol, y Grŵp Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau amgaeedig: Dim

Hysbysrwydd

Annwyl  gyfeillion,

Mae’r Cynllun Healthy Start yn rhoi cymorth i fenywod beichiog cymwys a theuluoedd ifanc sy’n derbyn budd-daliadau penodol, er mwyn eu helpu i brynu ffrwythau, llysiau, llaeth a fformiwla babanod. Mae hefyd yn darparu Fitaminau Healthy Start am ddim. Mae’r cynllun yn berthnasol o’r degfed wythnos yn y beichiogrwydd hyd at bedwerydd pen-blwydd y plentyn. Cyfanswm y cymorth yw £4.25 yr wythnos i fenywod beichiog cymwys a phlant o’u pen-blwydd cyntaf hyd at eu pedwerydd pen-blwydd, ac £8.50 yr wythnos i fabanod hyd nes iddynt gyrraedd un oed, gyda’r symiau hyn wedi eu llwytho ymlaen llaw ar gardiau wedi eu rhagdalu, a’u rhoi i aelwydydd.

Ar hyn o bryd, oddeutu 70% o’r rheini sy’n gymwys sy’n manteisio ar y cynllun yng Nghymru, ond mae’r ganran hon yn amrywio ar draws y wlad. Rydym yn gwybod bod teuluoedd ar incwm isel yn gorfod gwario rhan anghymesur o’u hincwm ar fwyd, ac yn ystod yr argyfwng costau byw presennol rydym yn ymrwymedig i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar y cynllun a sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Rydym wedi datblygu cwrs hyfforddi cryno i weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cynllun Healthy Start a sut y gallai helpu ein teuluoedd ifanc mwyaf agored i niwed i gael bwyd iachach, gan helpu i leihau tlodi bwyd a’r anghydraddoldebau iechyd sy’n deillio o ddeiet gwael (megis gordewdra a mwy o berygl y gallai rhywun ddioddef clefydau anhrosglwyddadwy).

Mae’r cwrs ar gael drwy’r system Cofnod Staff Electronig (Electonic Staff Record (ESR)) a phlatfformau Learning@Wales.

Bydd yn orfodol i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda menywod beichiog a theuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed. Bydd hyn yn cynnwys staff Dechrau’n Deg, Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r Glasoed, y rheini sy’n gweithio mewn canolfannau plant, gweithwyr cymorth gofal iechyd, nyrsys meithrin cymunedol, ymarferwyr cynorthwyol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Bydd angen i bawb ail-wneud y cwrs bob tair blynedd, neu cyn hynny os bydd newidiadau sylweddol i’r cynllun. Dylai’r cwrs gael ei gyflwyno fel rhan o’r broses ymsefydlu i weithwyr newydd nad ydynt wedi cwblhau’r hyfforddiant eto ac i’r rheini sydd eisoes yn eu swydd, a dylid sicrhau eu bod i gyd yn gwybod bod yn rhaid iddynt ei gwblhau. Bydd y cyfraddau cwblhau yn cael eu coladu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Rwy’n gwybod y bydd staff ein GIG yn croesawu’r cwrs hwn a fydd yn helpu i sicrhau bod ein teuluoedd ifanc mwyaf agored i niwed yn cael eu helpu i gofrestru ar gyfer Healthy Start.

Yn gywir,

Judith Paget CBE
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru