Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi croesawu'r ffigurau diweddaraf sy'n dangos bod lefelau absenoliaeth ysgolion cynradd yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystadegau swyddogol a ryddhawyd heddiw yn dangos bod y lefelau absenoldeb cyffredinol yn 2016/17 wedi aros ar 5.1% a'u bod yn gostwng ers 2006/07.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae'r ffigurau hyn i'w croesawu gan eu bod nhw'n dangos  bod lefelau absenoliaeth yn ein hysgolion cynradd wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf.

“Unwaith eto, rwy' am ddiolch i ddisgyblion, rhieni ac athrawon am eu gwaith caled er mwyn cyflawni hyn. Y gwir amdani yw bod mynd i'r ysgol yn rheolaidd ac yn gyson yn hollbwysig  os yw ein pobl ifanc yn mynd i gyflawni eu potensial.  

“Er gwaethaf  y cynnydd rydyn ni wedi'i weld, allwn ni ddim fforddio llaesu dwylo, ac fe fyddwn ni'n parhau i gymryd camau i wella lefelau presenoldeb yn ein hysgolion.

“Gall deall anghenion dysgwyr unigol a chynnig y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn wneud y gwahaniaeth i gyd. Yn wir, mae'r gwerthusiad o'r Grant Datblygu Disgyblion a gyhoeddwyd ddoe yn tynnu sylw at fanteision gwell lefelau presenoldeb i'n dysgwyr sydd dan anfantais.”