Rydym am wneud y gyfraith gynllunio'n symlach, yn gliriach ac yn haws i'w deall.
Cynnwys
Y cefndir
Ar hyn o bryd mae'n anodd deall a llywio cyfraith gynllunio yng Nghymru.
Mae'n seiliedig yn bennaf ar gyfreithiau a basiwyd gan Senedd y DU a luniwyd ddegawdau yn ôl ac sydd wedi cael eu newid yn sylweddol dros amser. Mae'r newidiadau hyn wedi gwneud deddfwriaeth yn dameidiog, yn gymhleth ac ar gael yn Saesneg yn unig yn bennaf.
Mae cyfraith gynllunio yng Nghymru yn wahanol i'r gyfraith yn Lloegr. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl wybod pa reolau sy'n berthnasol.
Gofynnon ni i Gomisiwn y Gyfraith adolygu cyfraith gynllunio Cymru. Canfu eu hadroddiad, Cyfraith Gynllunio yng Nghymru, fod angen gwaith brys ar y gyfraith i'w gwneud yn symlach ac yn fwy cyson. Fe wnaethom gyhoeddi ymateb interim ac ymateb manwl i'w hadroddiad.
Diben y Deddfau
Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 yn cydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru.
Cydgrynhoi:
- dod â'r prif Ddeddfau cynllunio a rhywfaint o is-ddeddfwriaeth at ei gilydd
- creu un Ddeddf ddwyieithog
- moderneiddio strwythur a geiriad y gyfraith i'w gwneud hi'n haws ei deall a'i defnyddio.
Er y gall strwythur a mynegiant y gyfraith newid, bydd ei heffaith gyfreithiol yn aros yr un fath. Mae cydgrynhoi yn broses dechnegol i wella eglurder, nid i newid polisi neu ddiwygio cyfraith gynllunio.
Mae Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn helpu i weithredu'r prif Fil. Mae'n gwneud hyn drwy:
- Ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed
- gwneud y diwygiadau a'r diddymiadau angenrheidiol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol
Y sefyllfa bresennol
Cymeradwywyd Deddf Cynllunio (Cymru) 2026, Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026 a'u dogfennau cysylltiedig gan Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2026, a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026, a thrwy hynny ddod yn Ddeddfau'r Senedd.
Mae'r Deddfau'n cael eu cefnogi gan femorandwm esboniadol. Mae hyn yn cynnwys:
- Nodiadau Esboniadol: i helpu darllenwyr i ddeall y Biliau. Nid ydynt yn darparu disgrifiad llawn o bopeth y mae'r Biliau yn eu cynnwys.
- Nodiadau drafftwyr: esbonio'r penderfyniadau a wnaed wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth.
- Tablau tarddiad: esbonio ffynonellau deddfwriaethol y darpariaethau yn y Biliau.
- Tablau Trawsleoli: esbonio lle mae darpariaethau yn y ddeddfwriaeth bresennol bellach yn y Biliau.
Mae'r Deddfau a'u gwybodaeth ategol ar gael ar: Legislation.gov.uk:
Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â chraffu ar y Biliau y deilliodd y ddwy Ddeddf ohonynt ar gael ar wefan y Senedd:
- Bil Cynllunio (Cymru) | Senedd Cymru
- Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) | Senedd Cymru
Rhaid i'r Deddfau gael eu dwyn i rym, ochr yn ochr â chyfres o is-ddeddfwriaeth, cyn iddynt ddod yn fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer cyfraith gynllunio yng Nghymru. Hyd nes y bydd y Deddfau a'r is-ddeddfwriaeth berthnasol yn cael eu cychwyn, bydd y fframwaith deddfwriaethol presennol yn parhau i fod yn berthnasol.
Y camau nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu, sy'n nodi'r dull o weithredu'r Deddfau, gan gynnwys y camau allweddol a'r amserlen ar gyfer eu cychwyn.
Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Deddfau, disgwylir i'r ddeddfwriaeth gychwyn 18 mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol. Felly, rhagwelir y bydd y fframwaith deddfwriaethol newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2027. Bydd yr union ddyddiad cychwyn yn cael ei gadarnhau yn' Canllawiau i Ymarferwyr ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026', y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.
