Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru am weld y Cymoedd a Blaenau Gwent yn cael eu cydnabod trwy'r byd fel lleoliad pwysig erbyn 2017 ar gyfer meithrin a chynnal technolegau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyna yw neges Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth gyhoeddi dogfen Weledigaeth ar gyfer y "Cymoedd Technoleg" - sef y Parc Technoleg a gyhoeddodd ei sefydlu yn gynharach eleni.

Cyhoeddodd hefyd, fel rhan o brosiect y Cymoedd Technoleg, fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lesio hen Adeilad Techboard yn Rasa. 

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn buddsoddi sawl miliwn o bunnau i adnewyddu'r adeilad er mwyn denu'r busnesau o sectorau allweddol sydd eu hangen ar y prosiect. 


Dros gyfnod o ddeng mlynedd, disgwylir i'r Cymoedd Technoleg greu o leiaf 1500 o swyddi, yn bennaf yn sectorau'r technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch. Er y caiff y swyddi eu gwasgaru ar draws y Cymoedd, ym Mlaenau Gwent y bydd y ffocws. 


Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl y bydd y Cymoedd Technoleg, trwy ganolbwyntio ar greu swyddi o ansawdd, yn sbarduno entrepreneuriaid o bob gradd i wireddu'u huchelgais ar gyfer eu busnesau. 


Yn y cyfamser, bydd y sylw hwn ar ddatblygu sgiliau cain ymhlith y gweithlu a'r genhedlaeth nesaf, yn golygu bod pobl yn cael byw a gweithio yn eu cymunedau a chystadlu yr un pryd ar y llwyfan ryngwladol. 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


"Rydym wedi neilltuo £100m yn y Cymoedd Technoleg dros y deng mlynedd nesaf gyda'r nod o greu 1500 o swyddi. Mewn gwirionedd, bydd yn werth llawer mwy na hynny wrth i'r gwaith sbarduno eraill yn y sector preifat a chyhoeddus i fuddsoddi. 


"Ac yn unol â'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd, bydd twf, gwaith teg a datgarboneiddio'n egwyddorion canolog i waith y Cymoedd Technoleg wrth iddyn nhw geisio gwasgaru ffrwyth twf economaidd i ardaloedd nad ydynt wedi gwneud cystal yn y blynyddoedd diwethaf. 


"Rwy'n disgwyl i brosiectau'r Cymoedd Technoleg ymdrin â meysydd arloesol fel datblygu a phrofi technoleg batris a moduron, 5G a'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer cerbydau isel iawn eu carbon a robotig. Bydd yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau a thargedau tymor byr, canolig a hir. 

"Ar yr un nodyn, rwy'n falch o gael cyhoeddi, fel rhan o'r Cymoedd Technoleg, bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lesio hen Adeilad Techboard yn Rasa, a byddwn yn awr yn buddsoddi'n gyflym i'w adnewyddu i sicrhau bod y prosiect yn denu'r busnesau o'r sectorau allweddol sydd eu hangen i'r prosiect lwyddo. 

"Mae dogfen ein Gweledigaeth ar gyfer y Cymoedd Technoleg yn disgrifio cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol, sydd, heb os, yn dibynnu ar arweiniad cenedlaethol a chydweithio effeithiol â phartneriaid. Byddwn yn adeiladu ar seiliau'r gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd Menter Glynebwy i fynd â'r cynlluniau hyn yn eu blaenau ac yn manteisio hefyd ar arbenigeddau cenedlaethol a rhyngwladol ehangach busnesau, sefydliadau academaidd a'r sector cyhoeddus. 

"Trwy gydweithio â phartneriaid a gweithio mewn ffordd mor glyfar â phosib, rwy'n disgwyl ymlaen at ein gweld yn troi'r weledigaeth uchelgeisiol ond ymarferol hon yn realiti. Dyma newid sylweddol yn y gwaith o gyflawni’r weledigaeth a’r uchelgais  i greu 1500 o swyddi ar gyfer pobl Blaenau Gwent a thu hwnt.