Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiadau Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb ar gyfer 2021 a 2022, sy’n rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth/Rhagfyr 2022. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a’r cynnydd o ran cyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac i herio gwahaniaethu.

Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru am ei gyngor a’i gefnogaeth drwy gydol y cyfnod hwn.

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn dal yn flaenoriaeth glir i Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch dros sicrhau mwy o gydraddoldeb yn rhan annatod o wead y Llywodraeth hon ac mae’n parhau i ddylanwadu ar bopeth a wnawn.

Rydym yn parhau â’n gwaith o gyflawni yn erbyn yr amcanion sydd wedi’u nodi yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2024. Rwy’n falch o’n hymrwymiadau i ddatblygu Cymru fel Cenedl Noddfa, ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a’n datblygiadau eraill o ran cefnogi menywod, pobl anabl, y gymuned LHDTC+ ac eraill. Cewch ddarllen mwy am hyn yn yr adroddiad hwn.

Rwy’n gwybod bod llawer o waith i’w wneud o hyd a bod llawer o drafodaethau i’w cynnal i barhau â’n taith i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i fwrw ymlaen â’r daith honno, hyd yn oed os yw’r camau’n fach, gyda’r rheini sydd angen ac sy’n disgwyl ein cefnogaeth ar y daith honno. 

Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Pennod 1: cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn, sy’n rhoi sylw i'r ddwy flynedd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2022, yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gyflawni ei hamcanion cydraddoldeb yn ystod y cyfnod pwysig hwn. 

Mae’n rhaid i’n polisïau a’n penderfyniadau gael eu llywio gan y bobl hynny sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol ganddynt. Mae cydweithio ag arbenigwyr, grwpiau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau sydd â phrofiad bywyd yn sicrhau ein bod ni'n cael cymorth a chyngor er mwyn ein helpu i ddeall anghenion, problemau, rhwystrau a phrofiadau pob person a chymuned yng Nghymru gan gynnwys, yn benodol, pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae hynny'n un o ofynion sylfaenol Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru. 

Drwy gydol y cyfnod dan sylw yn yr adroddiad hwn, bu Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd mewn llawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda grwpiau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn deall eu blaenoriaethau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o fforymau sydd wedi’u sefydlu ers tro, lle rydym yn cydweithio’n rheolaidd ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol i drafod materion cydraddoldeb. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’r Tasglu Hawliau Anabledd
  • Y Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Fforwm Hil Cymru
  • Tasglu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Cymru
  • Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb
  • Mae’r Grŵp Llywio Cryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Bellach mae’r Grŵp hwn wedi esblygu i’r Grŵp Cynghori Hawliau Dynol; mwy o wybodaeth am hyn yn nes ymlaen yn yr adroddiad)
  • Y Fforwm Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Mae’r holl fforymau hyn yn cael eu cadeirio gan Weinidogion neu un o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhai ohonynt yn unigryw yn y DU o ran y ffordd maen nhw’n rhoi cyfle i randdeiliaid cydraddoldeb ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf mewn llywodraeth ynghylch y materion sy’n eu poeni. 

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus wedi cyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r Adran hon wedi’i chynnwys ym Mhennod 2 yr adroddiad hwn.

Mae’n amlinellu’r ffordd rydym wedi defnyddio ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb i gynnwys cydraddoldeb yn ein gwaith o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau. Rydym yn croesawu’r her o ystyried yn ofalus sut mae ein gwaith yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl, ac yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion amrywiol pob dinesydd sy’n byw yng Nghymru. Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd ein penderfyniadau’n arwain at effeithiau negyddol, mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut gallwn ni gyfrannu’n gadarnhaol at y gwaith o hybu cydraddoldeb i bawb.

Cyhoeddwyd Adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol A yw Cymru’n Decach? (2018) ym mis Hydref 2018. Cyflwynodd yr adroddiad hwn dystiolaeth gynhwysfawr a newydd i yrru gwaith gwneuthurwyr polisi ac asiantaethau darparu sy’n ceisio creu Cymru decach. Roedd yr adroddiad yn adnodd gwerthfawr er mwyn helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn gadarn, a bod ein polisïau a’n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl a’u bod yn hygyrch i bawb.  

Roedd A yw Cymru’n decach? 2018 yn casglu tystiolaeth o chwe agwedd ar fywyd: addysg, iechyd, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Mae’r rhagolygon ar gyfer pobl anabl, rhai pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phlant o gefndiroedd tlotach wedi gwaethygu mewn llawer o agweddau ar fywyd. Mae perygl i’r anghydraddoldeb hwn ymwreiddio am genedlaethau i ddod, gan greu cymdeithas lle bydd y grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl yn y daith tuag at wlad deg a chyfartal.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella data ac ystadegau cydraddoldeb er mwyn iddynt fod yn sail i'r broses o ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Pennod 2: cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n egluro’r hyn rydym wedi’i wneud i ymgorffori gofynion adrodd statudol deddfwriaeth cydraddoldeb yn ein polisïau a’n harferion, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal. Mae’r ddyletswydd hefyd yn sicrhau ein bod ni’n rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i roi sylw dyledus, wrth iddo wneud ei waith, i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw enw’r ddyletswydd hon, ac mae hefyd yn cael ei galw’n ‘ddyletswydd gyffredinol’. Er mwyn i gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru berfformio’n well a dangos eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, deddfodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru. Mae’r dyletswyddau hyn, a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y cyfeirir atynt hefyd fel Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru), yn berthnasol i sefydliadau penodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y rheoliadau, sy’n cael eu galw’n ‘awdurdodau rhestredig’.

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gosod cyfrifoldebau ar y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ynghylch ymgysylltu, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gwahaniaethau o ran cyflog, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, trefniadau adrodd ac adolygu. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2011 er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol.

Yn 2019, cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ymarfer monitro a oedd yn edrych ar sut roedd y 73 o gyrff cyhoeddus a restrir yn perfformio yn erbyn y dyletswyddau. Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganfyddiadau yn 2020, ac ers hynny mae wedi cwrdd ag uwch-gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac o nifer o’r awdurdodau rhestredig eraill i drafod materion sectoraidd a sut gellir gwella cydymffurfedd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o Reoliadau Penodol Cymru. Rydym wedi cynnull grŵp cyfeirio sy’n cynnwys rhanddeiliaid allanol ac academyddion i ystyried natur yr adolygiad a bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo’n gyflym. Er bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld y gwaith hwn yn cael ei wneud yn sydyn, mae’n hanfodol sicrhau bod gan y grŵp cyfeirio ddigon o amser i gasglu’r data angenrheidiol i ddarparu cyngor cadarn.

Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026

Mae’r fersiwn diwygiedig hwn o’r Rhaglen Lywodraethu yn ymgorffori’r Cytundeb Cydweithio: 2021. Y Prif Weinidog a’r Cabinet llawn fydd yn gyfrifol am yr ymrwymiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein hamcanion llesiant gan y bydd y rhain yn galw am y lefel uchaf o gydlynu ac integreiddio ar draws y llywodraeth gyfan.

Gweinidogion fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb uniongyrchol dros yr ymrwymiadau sy’n weddill. Rhoddir yr un pwyslais ar y ddwy set o ymrwymiadau, mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy yn adlewyrchu’r cyfrifoldebau a neilltuwyd ac nid eu pwysigrwydd na’u blaenoriaeth gymharol.

Yn y meysydd hynny sy’n dod o dan y Cytundeb Cydweithio, bydd Gweinidogion yn gweithio gyda Phlaid Cymru dan delerau’r Cytundeb.

Ar ben hynny, rydym wedi cyhoeddi amcanion llesiant sy’n egluro sut byddwn ni’n defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, ac i gyfrannu cymaint â phosibl at y saith nod llesiant cyffredin cenedlaethol.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant yn ategu ac yn cefnogi ein hamcanion cydraddoldeb. Maen nhw’n cryfhau’r broses o weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Er bod y rhaglen wedi’i chynllunio i wella ffyniant a bywydau holl ddinasyddion Cymru, rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau penodol sy’n ymwneud â dathlu amrywiaeth a chymryd camau i ddileu anghydraddoldeb ledled Cymru.

Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Byddwn yn:

  • gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (cyfeirir ato bellach fel y “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol”)
  • edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.
  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog
  • treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol
  • sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd
  • sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl
  • parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau
  • rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw
  • cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref
  • sefydlu Unedau tystiolaeth gwell i gasglu data ar Gydraddoldeb, Hil ac Anabledd
  • ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yng nghyfraith Cymru

Mae adroddiad ar y cynnydd yn erbyn pob un o’r ymrwymiadau a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu wedi’i gyhoeddi o fewn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022 (peidiwch â’i ddrysu â’r adroddiad hwn sy’n canolbwyntio’n benodol ar gamau gweithredu cydraddoldeb)

Y Darlun Ehangach

Mae llawer o gyfreithiau eraill Cymru a’r DU, yn ogystal â chonfensiynau a chytuniadau rhyngwladol, yn ategu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys deddfau sy’n ymwneud ag agweddau penodol ar fywyd a gwaith, fel cyflogaeth, addysg, iechyd neu gyfiawnder, yn ogystal â’r rheini sy’n ymwneud â grwpiau penodol o bobl fel ffoaduriaid, pobl anabl neu blant. Mae’n bwysig cofio nad y Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r unig ddarnau perthnasol o ddeddfwriaeth.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi’r rhyddid a’r hawliau sylfaenol sydd gan bawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig Prydain.

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn deillio o Gyngor Ewrop (nid yr Undeb Ewropeaidd) ac mae’n seiliedig ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, sef y cytundeb rhyngwladol cyntaf ar egwyddorion sylfaenol hawliau dynol, a dderbynnir gan bron pob gwladwriaeth yn y byd.  Mae’r DU yn dal yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Datganiad Cyffredinol.

Rhaid i weithredoedd Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y nodir yn Adran 82 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys saith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan y DU fel Gwladwriaeth sy’n Barti.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli’n llawn yn yr adroddiadau a gyflwynir er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau Ewropeaidd ac ar gyfer y Cenhedloedd Unedig. Ar 26 Chwefror 2019 roedd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, sy’n un o lofnodwyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), wedi cymryd rhan mewn archwiliad ar ei chydymffurfedd â'r Confensiwn.

Ar 11 Mawrth 2019, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar CEDAW ei Gasgliadau Terfynol. Mae’r Casgliadau Terfynol yn cynnwys rhestr o argymhellion i’w gweithredu gan Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd yn rhaid i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2023 yn amlinellu ei chynnydd o ran gweithredu’r argymhellion hyn, yn ogystal â chamau gweithredu eraill sy’n ymwneud â hybu hawliau menywod a merched ers archwiliad 2019.

Rydym mewn cyfnod ansicr o safbwynt adolygiad Llywodraeth y DU ar amddiffyn hawliau dynol, ac o ran sut y mae’n bwrw ymlaen â deddfwriaeth arfaethedig i ailystyried rhai o’r amddiffyniadau presennol drwy Fil Hawliau’r DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon yn glir am lawer o agweddau’r ddeddfwriaeth arfaethedig Diwygio’r ddeddf hawliau dynol: mesur hawliau modern.

Adeg lansio’r cynigion, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud y bydd y DU yn parhau i fod yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ymddengys yn glir mai’r bwriad yw tanseilio’r Confensiwn drwy gynyddu hawliau Gweinidogion y DU a lleihau pŵer llysoedd y DU, a thrwy hynny Llys Hawliau Dynol Ewrop, o ran gorfodi’r gyfraith a dal Gweinidogion i gyfrif.

Cafodd gwaith ar y Mesur hwn ei ohirio o dan Weinyddiaeth Truss, ond mae’r Weinyddiaeth olynol o dan Sunak wedi dweud y byddant yn ailddechrau gweithio ar y mater hwn.

Byddwn wrth gwrs yn astudio’r Bil yn ofalus iawn ac rydym wedi dweud wrth y Dirprwy Brif Weinidog ein bod yn fodlon parhau i gynnal trafodaethau wrth iddo fynd drwy’r Senedd.

O ran cyd-destun, ar drothwy Adolygiad Cyfnodol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig o ran gweithredu a chynnydd yn y Deyrnas Unedig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drosolwg yn ddiweddar o’i chamau gweithredu ei hun mewn perthynas â darparu hawliau dynol yng Nghymru, sef Camau gweithredu i gryfhau hawliau dynol yng Nghymru: 2018 i 2022.

Pennod 3: cryfhau a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd dan sylw yn yr adroddiad hwn.   

Mae amcanion strategol cynllun 2020 i 2024 wedi’u nodi’n llawn yn atodiad 2. Mae’r bennod hon yn cynnwys rhai enghreifftiau o’r gweithgarwch i gyflawni’r amcanion hyn. Darperir rhagor o enghreifftiau yn atodiad 3, ac ym Mhennod 5 rydym yn disgrifio’r gweithgarwch a gafodd gefnogaeth gan ein rhaglen allweddol i Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Dylid nodi nad yw’r enghreifftiau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn a’r atodiadau yn rhestr gyflawn o bopeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, neu y bydd yn ei wneud, i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.

Roedd COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar bron yr holl waith a oedd yn cael ei wneud i gyflawni’r amcanion hyn, gan ohirio rhywfaint o waith ond hefyd yn arwain at weithgarwch newydd i leihau effaith y pandemig ar grwpiau dan anfantais, ac i hyrwyddo cydraddoldeb yn ystod y cyfnod hwn nas gwelwyd ei debyg o'r blaen.  Mae ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 mewn perthynas â chydraddoldeb yn cael ei egluro’n fanylach ym Mhennod 6.

Trosolwg o Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru

Mae ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi:

  • y sail gyfreithiol y mae’r cynlluniau hynny wedi’u seilio arnynt
  • y brif dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a oedd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y cynlluniau hynny gan ddefnyddio llawer ar ymchwil ac adroddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru’n decach?
  • cyfres o gamau gweithredu yr oeddem wedi ceisio eu cyflawni, i gefnogi nodau ac amcanion pob cynllun

Mae pob cynllun yn cwmpasu cyfnod o bedair blynedd. Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Mae llawer o ddilyniant rhwng y cynllun hwn a’r un blaenorol, ac mae eu nodau’n debyg i raddau helaeth, ond mae newidiadau pwysig hefyd yn ogystal â gweithgarwch newydd o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r prif newidiadau’n cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol (Nod Hirdymor 2) a rhoi pwyslais o’r newydd ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau (Nod Hirdymor 4), sy’n cael ei adlewyrchu yn ein Cynllun Gweithredu: Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau.

Mae tair prif elfen wrth galon Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024: Nodau, Amcanion a Chamau Gweithredu.

  • Nodau Hirdymor. Mae’r nodau hyn yn ymwneud â chryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yr ydym yn disgwyl y byddan nhw’n dal yn berthnasol y tu hwnt i’r cyfnod sy’n cael sylw yn y cynllun hwn.
  • Ar gyfer pob un o’r nodau hirdymor hyn, rydym wedi pennu un Amcan Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020 i 2024. Mae’r amcanion hyn yn perthyn yn agosach na’r nodau hirdymor i rôl a phwerau Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n ofyniad statudol ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Wrth wraidd pob un o’r Amcanion hyn mae nifer o Gamau Gweithredu mesuradwy, sy’n dangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi sawl enghraifft o gamau a gymerwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion.

Sylwer: Mae’r amcanion strategol wedi’u nodi’n llawn yn atodiad 2, gydag enghreifftiau ychwanegol yn atodiad 3. Gweler hefyd Bennod 5 am wybodaeth am rywfaint o’n cyllid sy’n cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant.

Cryfhau a Hyrwyddo Hawliau Dynol yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol ac mae hyn wedi’i wreiddio yn neddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW). Yr wyf wedi cytuno â’m cyd-Weinidogion y dylid archwilio dull gweithredu cyfannol, o bosibl ar ffurf Mesur, ac mae angen ystyried camau gweithredu posibl eraill ar y cyd mewn perthynas â materion penodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd gynhwysol, gan fynd y tu hwnt i ddau Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig i gynnwys ystyried hawliau pobl hŷn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (ICERD), hawliau pobl LHDTC+ ac ymestyn hawliau plant.

Mae Cyfle Cyfartal yn fater a gedwir yn ôl, ond ceir llawer o eithriadau ac mae’r rheini’n cynnig rhywfaint o gyfleoedd deddfwriaethol i’r Senedd. Hefyd, rhaid i holl ddeddfwriaeth y Senedd fod yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) er mwyn bod o fewn y cymhwysedd. Yn ogystal, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ddeddfiad gwarchodedig o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru sy’n golygu na all y Senedd addasu’r Ddeddf honno. Felly, mae materion ehangach yn ymwneud â datganoli i’w hystyried. 

Serch hynny, byddem yn dymuno ystyried cwmpas posibl yr hyn y gellid ei gyflawni, boed hynny drwy Fil neu fesurau eraill. Diben Bil o’r fath fyddai cryfhau hawliau yng Nghymru.

Mae ein hadroddiad ymchwil i Gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 26 Awst 2021, wedi archwilio ystod o faterion cysylltiedig.  Mae’r adroddiad yn dangos y ffordd o ran diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru a bydd yn sail i’n gwaith yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ein hymateb ym mis Mai:  Adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae’r ymateb yn nodi’r prif feysydd gwaith rydym yn bwrw ymlaen â nhw, gan gynnwys:

  • gwaith paratoi ar yr opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru
  • llunio cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol
  • adolygu rheoliadau Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig
  • gwella’r ffordd yr ydym yn hyrwyddo’r materion hyn yng Nghymru

Rydym yn datblygu cynllun gweithredu ac amserlen fanwl i ymdrin â’r holl ffrydiau gwaith hyn, gan ystyried argymhellion adroddiad SAEHR a’n hymrwymiad ein hunain yn y Rhaglen Lywodraethu o ran ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid wrth i’r gwaith fynd rhagddo a byddwn yn ymgynghori’n ffurfiol ar unrhyw opsiynau deddfwriaethol a ddaw i’r amlwg.

Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol

Er mwyn goruchwylio’r gwaith hwn, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori newydd ar Hawliau Dynol. Mae hwn yn olynydd uniongyrchol i’r Grŵp Llywio i’r adroddiad ymchwil SAEHR, ac mae’r aelodaeth yr un mor eang i sicrhau ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy’n cyd-gadeirio’r Grŵp Cynghori hwn.

Bydd y Grŵp Cynghori yn monitro’r pum prif ffrwd waith sy’n deillio o’r ymchwil (opsiynau deddfwriaethol; canllawiau; adolygu Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru; asesu a hyrwyddo effaith), gan gynnwys y materion cydraddoldeb perthnasol. Bydd hefyd yn cynnal cysylltiadau cryf gyda’n fforymau cydraddoldeb eraill a chyda gwaith sy’n deillio o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi sefydlu gweithgor bychan, fel is-bwyllgor o’r Grŵp Cynghori, i fwrw ymlaen ag archwilio opsiynau deddfwriaethol i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Mae gweithgor arall eisoes wedi dechrau adolygu Rheoliadau 2011 sy’n gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae rheoliadau 2011 yn cynnwys Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.

Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu wyth tîm ar draws Cymru i ddarparu cymorth rheng flaen i gymunedau, gan gynnwys ymgysylltu mwy uniongyrchol i helpu i fonitro a lleddfu tensiynau, yn ogystal â gwaith codi ymwybyddiaeth parhaus mewn cysylltiad â throseddau casineb.

Rydym wedi comisiynu adolygiad o’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol i helpu i lywio a chyfrannu at ein gwaith yn y maes hwn. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gwblhau eleni. 

Rydym yn datblygu cyfres o Egwyddorion Cydlyniant Cymunedol gyda phartneriaid allweddol gyda’r nod o ganfod diffiniad y cytunir arno ar gyfer cydlyniant cymunedol, a nodau cyffredin i bartneriaid weithio tuag atynt i feithrin a hybu cydlyniant cymunedol.

Mae gwaith y Rhaglen Cydlyniant wedi bod yn hollbwysig yn ein helpu i lunio ymrwymiadau llywodraeth leol i gymryd rhan yn y gwaith o adsefydlu a gwasgaru ceiswyr lloches o Affganistan dros y misoedd diwethaf, yn ogystal â’n hymateb o ran cefnogi ffoaduriaid o Wcráin.

Cyflogaeth Pobl Anabl

Gan weithio mewn partneriaeth â Gweinidog yr Economi, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi pobl anabl i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd, darparu cyngor ac arweiniad gyrfa drwy Cymru’n Gweithio, a helpu’r gweithlu presennol i ddatblygu sgiliau newydd a dod o hyd i waith newydd.

Mae’r Tasglu Hawliau Anabledd wedi cytuno ar saith maes blaenoriaeth ar gyfer ei waith, sy’n cynnwys ystod eang o gyfrifoldebau Gweinidogol ac a fydd yn ymwneud ag ymrwymiadau perthnasol y Rhaglen Lywodraethu, sy’n cynnwys Cyflogaeth ac Incwm.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cynyddu nifer y prentisiaethau drwy ddarparu cymhellion o hyd at £4,000 i gyflogwyr tan 28 Chwefror 2022, gyda thâl ychwanegol o £1,500 i gyflogwyr ar gyfer pob prentis anabl newydd maen nhw’n ei gyflogi.  Ar 15 Tachwedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Warant i Bobl Ifanc, a fydd yn cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bob person ifanc dan 25 oed i sicrhau na chollir cenhedlaeth yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19.

Ar ben hynny, rydym wedi datblygu pecyn cymorth i gyflogwyr sy’n darparu’r adnoddau i greu gweithluoedd cynhwysol sy’n perfformio’n dda, gan helpu i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol ac i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl.  Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth i gyflogwyr gan dywys cyflogwyr drwy’r daith recriwtio hyd at gadw, modiwl e-ddysgu i gyflogwyr ar y model cymdeithasol o anabledd, i’w gyhoeddi cyn bo hir, a chreu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl.

Mae’r Hyrwyddwyr yn gweithio gyda Busnes Cymru a chyflogwyr ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael, ac i ddefnyddio eu profiad bywyd i eirioli dros gyflogi pobl anabl. Maen nhw’n codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, gan gynnwys darparu cyngor ymarferol a chymorth ar faterion fel polisïau Adnoddau Dynol cynhwysol, recriwtio, ailhyfforddi a chadw staff.

Rydym hefyd yn defnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol a’n dylanwad i annog cyflogwyr i wneud mwy i elwa ar fanteision gweithlu mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Mae hyn yn cynnwys gwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein hymyriadau i gefnogi, hwyluso a hybu partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac eraill i hybu’r arferion gorau, sy’n cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o argaeledd a manteision y fenter hyrwyddwyr i gyflogwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun peilot hyrwyddwyr am 12 mis arall, hyd at fis Chwefror 23.

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae’r Ddyletswydd yn mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn rhoi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau a wynebir o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Bydd mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn gwneud penderfyniadau gwell, penderfyniadau sy’n ystyried anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth eu calon, yn helpu i fynd i’r afael ag ansicrwydd gadael yr UE a’n hadferiad o Covid-19, gan ganiatáu inni symud at ail-greu Cymru sy’n fwy teg a llewyrchus.

Mae cyfoeth o wybodaeth wedi cael ei datblygu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddyletswydd, gan gynnwys canllawiau statudol, ffilm animeiddio, ffilmiau profiad bywyd, recordiadau o weminarau ac adnodd hyfforddi ar-lein. Wrth eu datblygu mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chyrff cyhoeddus perthnasol, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chyrff yn y Trydydd Sector. Mae tudalen benodol ar y wefan wedi cael ei datblygu i fod yn gartref i’r wybodaeth hon.

Mae’r trafodaethau cynnar ag arweinwyr cyrff cyhoeddus wedi bod yn gadarnhaol ac mae’n ymddangos bod y Ddyletswydd wedi cael ei chroesawu. Ceir enghreifftiau o gyrff cyhoeddus yn integreiddio’r Ddyletswydd mewn fframweithiau cynllunio ac adrodd, fel y fframwaith cynllunio tîm canolraddol ar gyfer cyrff iechyd.

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru, ‘Gweithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd 
gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau yn darparu crynodeb o’r brif dystiolaeth mewn cysylltiad â sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar bobl yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar sut mae’n effeithio ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig yn ogystal â chymunedau lle a buddiant.

Ar ben hynny, er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus ymhellach i fodloni gofynion y Ddyletswydd, mae offeryn tracio cynnydd ar gael ar dudalen we benodol y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gynnal ymchwil yn y dyfodol i effaith y Ddyletswydd. Ein dealltwriaeth ni yw y bwriedir i hyn ddigwydd cyn diwedd 2022, gan roi amser a lle i gyrff cyhoeddus perthnasol wreiddio’r Ddyletswydd. 

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a lansiwyd ar 7 Mehefin, wedi’i adeiladu ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac mae’n galw am ddim goddefgarwch o bob anghydraddoldeb hiliol.

Rydym wedi nodi gweledigaeth ar gyfer cenedl wrth-hiliol lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi am bwy ydyn nhw a’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud.

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym i’n helpu i symud oddi wrth y rhethreg ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cymryd camau ystyrlon.

Ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol lythyr at arweinwyr yn sector cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn gofyn iddynt weithio gyda ni i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac i greu Cymru wrth-hiliol: Cymru y gallwn i gyd ymfalchïo ynddi ac y gall pawb ffynnu ynddi.

Mae’r Strwythur Llywodraethu yn ei le a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol ar ddydd Iau 14 Gorffennaf. Mae’r Grŵp yn cyfarfod yn fisol erbyn hyn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Fforymau Rhanbarthol a fydd yn cofnodi profiadau bywyd ac yn darparu cysylltiad uniongyrchol â’n gwaith.

Er mwyn sefydlu dull gweithredu ar y cyd ar gyfer olrhain cynnydd a chyflawni ein hymrwymiadau, mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei ffurfio i gytuno ar hyn.

Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr ar bob lefel oherwydd ein bod yn credu bod arweinyddiaeth yn cael ei dosbarthu, a bod sgiliau arwain a doethineb yn bodoli ar bob lefel ym mhob sefydliad.

Byddwn yn nodi’n glir ein disgwyliadau o’r rhai rydym yn eu hariannu i fynd i’r afael â hiliaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • defnyddio’r dulliau sydd gennym drwy lythyrau cylch gwaith, trefniadau ariannol a’n Grŵp Atebolrwydd newydd
  • disgwyl i sefydliadau ddangos sut byddant yn sicrhau cydymffurfedd sylfaenol o leiaf â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac yn cymryd camau i fynd i’r afael â hiliaeth, ac yn monitro camau gweithredu yn flynyddol

I gael sector cyhoeddus gwrth-hiliol yng Nghymru, rydym wedi nodi set glir o nodau a chamau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwrth-hiliaeth, ac felly rydym yn disgwyl i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus wneud yr un fath. Nod y gwahanol feysydd fydd:

  • dangos ymrwymiad amlwg i wrth-hiliaeth
  • newid ymddygiad a gwerthoedd
  • defnyddio camau gweithredu cadarnhaol
  • recriwtio
  • cynnydd
  • uwch arweinyddiaeth
  • cynrychiolaeth ar fyrddau
  • gwreiddio ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â hiliaeth
  • defnyddio pob dull i fynd i’r afael â hiliaeth
  • defnyddio data a thystiolaeth
  • llunio polisïau
  • defnyddio cyllid a grantiau
  • defnyddio a chyflawni gwasanaethau gwrth-hiliaeth
  • ymwybyddiaeth a chymhwysedd diwylliannol yn ein cyfathrebiadau
  • gwasanaethau iaith a chyfieithu ar y pryd
  • gwasanaethau eirioli
  • gwreiddio atebolrwydd a dangos cynnydd
  • trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd

Y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ehangach, a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth

Mewn cysylltiad â’r cyfrifoldeb arwain sydd gennym ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sefydliadau hynny yn y sector preifat rydym yn eu hariannu, rydym wedi nodi pum cam craidd y byddwn yn eu disgwyl ac yn eu dal i gyfrif, drwy ein Grŵp Atebolrwydd:

  • ymrwymiad cryf i arwain drwy esiampl a’i ddangos o ran gwerthoedd gwrth-hiliol, ymddygiad, cynrychiolaeth ar bob lefel o’ch sefydliad a mesurau atebolrwydd
  • cyfranogiad ym mhob grŵp sy’n gwneud penderfyniadau ac uwch grŵp arwain mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n bosibl clywed profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig a gweithredu arnynt
  • cyflawni gofynion sylfaenol Deddf Cydraddoldeb 2010 o leiaf a chyhoeddi eich canlyniadau mewn fforwm/llwyfan agored a hygyrch
  • sicrhau safonau sylfaenol a darparu gwasanaethau sy’n ddiwylliannol sensitif a phriodol, gan gynnwys darparu cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
  • sefydlu polisïau a phrosesau cwyno cadarn ar gyfer aflonyddu hiliol sy’n cael eu dilysu er boddhad grwpiau lleiafrifoedd ethnig

Cymorth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau mai Cymru yw’r wlad sy’n fwyaf ystyriol o bobl LHDTC+ yn Ewrop. Dyna pam ein bod yn datblygu Cynllun Gweithredu cadarn a thrawstoriadol LHDTC+ un sy’n cryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer Pobl LHDTC+, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac sy’n helpu i gydlynu camau gweithredu uchelgeisiol ar draws y llywodraeth a thu hwnt.

Mae gwaith dwys ar y gweill i newid y cynllun drafft LHDTC+ yn ddogfen derfynol gyda chamau gweithredu penodol, graddol a mesuradwy a fydd yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru. Ein nod yw cyhoeddi’r cynllun diwygiedig yn ystod mis Chwefror 2023 Mis Hanes LHDT.

Arferion Trosi neu Therapi

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw at ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i roi terfyn ar arferion trosi yng Nghymru ac i geisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol.

Rydym yn comisiynu ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o effaith arferion trosi neu ‘therapi’ ar oroeswyr er mwyn gwella hygyrchedd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cymorth.

Cwricwlwm i Gymru: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Dechreuodd y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, a bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n briodol yn ddatblygiadol yn orfodol i bob dysgwr. 

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn chwarae rôl gadarnhaol a gwarchodol yn addysg dysgwyr. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i’w chwarae yn creu amgylcheddau diogel a grymusol i gefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywyd.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei chyflawni mewn ffordd gynhwysol yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Bydd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn sicrhau y gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o'r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’.

Bwlio homoffobig a thrawsffobig mewn addysg

Mae bwlio yn gwbl annerbyniol. Rydym am weld diwedd ar bob math o fwlio.  Rydym yn parhau i weithio gyda’r Cynghrair Gwrth-Fwlio i sicrhau bod bwlio ac aflonyddu, ar unrhyw ffurf, yn cael eu dileu mewn ysgolion.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr Heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn cynnwys camau gweithredu penodol i fynd i’r afael â’r ymddygiadau dieisiau sy’n cael eu profi’n rhy aml gan blant a phobl ifanc LHDTC+.

Pennod 4: tystiolaeth a Llywodraethu

Mae’r bennod hon yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio tystiolaeth i lywio a chefnogi ei gwaith i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb.  Mae hyn yn cynnwys amlinellu sut cafodd Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb ei datblygu, a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae’r bennod hefyd yn cynnwys adran ar ein polisi caffael.

Y Sylfaen Dystiolaeth ar gyfer Cydraddoldeb

Er mwyn i’r nodau yn y ddyletswydd gyffredinol gael eu hystyried yn briodol, mae angen i ni gael digon o dystiolaeth o’r effaith y mae ein polisïau a’n harferion yn ei chael, neu’n debygol o’i chael, ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Rhwng 2019 a 2021, roeddem wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o allbynnau ystadegol a oedd yn ein helpu ni i ddeall effaith ein polisïau, a lle mae angen i ni wneud mwy. Roedden nhw hefyd wedi galluogi ein rhanddeiliaid i weld lle mae angen gwneud rhagor o gynnydd a’n dal ni’n atebol. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hystadegau. Mae rhai o’r allbynnau ystadegol hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Llesiant Cymru: Adroddiadau 2019 a 2020
  • Diweddariad i sleidiau ategol adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol
  • Ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
  • Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 i 2019
  • Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig
  • Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru
  • Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru

Defnyddiwyd yr wybodaeth hon, yn ogystal ag arweiniad pellach gan ein timau ystadegau, i lywio ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb; ein cyngor i weinidogion ynghylch polisïau newydd arfaethedig neu newidiadau i bolisïau; a chyfraniadau i sesiynau ymchwiliadau Pwyllgorau. Rydym yn mynd ati’n gyson i wella’r trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth am gydraddoldeb, lle bynnag y bo hynny’n ymarferol ac yn gosteffeithiol.

Er mwyn gwella ein gwybodaeth am gydraddoldeb, fe aethom ati i wneud y canlynol.

Uned(au) Tystiolaeth Cydraddoldeb

Ym mis Ionawr 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru dair Uned wahanol, pob un â’i rhaglen dystiolaeth a’i harweinydd ei hun.

  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Mae’r Unedau’n cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb gyffredinol i sicrhau synergedd, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chydlyniant.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Unedau yn ei Rhaglen Lywodraethu 2021 mewn ymateb i’r angen am dystiolaeth gryfach i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yng Nghymru sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil pandemig COVID-19. Deilliodd y strwythur o waith cwmpasu a gynhaliwyd ar ffurf cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Cenhadaeth yr Uned yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni lwyr ddeall y lefel a’r mathau o anghydraddoldeb ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy gwybodus ac i asesu a mesur eu heffaith. Bydd hyn yn ein gyrru tuag at ganlyniadau gwell i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig, ac yn cyfrannu at ein nod o ‘Gymru sy’n fwy cyfartal’ fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae nifer o heriau sylweddol y bydd yr unedau’n eu hwynebu wrth gyflawni’r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb ac maen nhw wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n bodoli.  Mae’r rhain yn cynnwys ymddiriedaeth o ran darparu data a sicrhau bod data gweladwy yn cyfrannu at newid go iawn.

Mae interniaid PHD yn edrych ar ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru i weld pa wybodaeth y gellir ei chyhoeddi yn ôl nodweddion, er enghraifft drwy gyfuno blynyddoedd.

Rydym yn datblygu’r holiadur i gasglu data amrywiaeth gan Gyrff Sector Cyhoeddus ar gyfer 2022 i 2023.

Rydym wedi cynnal archwiliad cydraddoldeb o ddata cyd-weithwyr ystadegol, a’r cam nesaf yw crynhoi’r sefyllfa a nodi bylchau. Mae angen inni wedyn edrych yn ehangach na data ystadegol Llywodraeth Cymru i ffynonellau data eraill, yn ogystal â data gweinyddol.

Rydym wedi dechrau edrych ar ganllawiau safonol ar gyfer nodweddion cydraddoldeb allweddol ac wedi asesu’r rhain yn erbyn gofynion polisi Llywodraeth Cymru. Rydym wedi dechrau nodi cynllun i brofi cwestiynau amgen sy’n diwallu ein hanghenion polisi yn well, ynghyd â deall y rhwystrau sy’n atal darparu’r wybodaeth hon.

Rydym yn profi ein gwaith cydgynhyrchu mewn ymchwil gyda phrosiect ymchwil peilot i ddeall sut gallwn fesur y model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn disgwyl comisiynu’r ymchwil hwn ac mae gennym fanyleb ddrafft.

Adroddiad Llesiant Cymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y saith nod llesiant, roeddem wedi cyhoeddi fersiwn newydd o’n hadroddiad Llesiant Cymru: 2022. Mae’n cynnwys pennod ynghylch ‘Cymru sy’n Fwy Cyfartal’, sy’n rhoi crynodeb o’r ystadegau cydraddoldeb diweddaraf sy’n berthnasol i Gymru.

Y data wedi’i ddadgyfuno sydd ar gael

Roeddem wedi parhau i gyhoeddi’r holl ddadansoddiadau ystadegol yn ôl nodwedd warchodedig lle roedd maint y samplau’n caniatáu, ac i ystyried dewisiadau i gynyddu faint o ddata wedi’i ddadgyfuno sydd ar gael yng Nghymru.

Hygyrchedd y dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb

Roeddem wedi parhau i adolygu'r ffyrdd y gellid gwella ein hystadegau cydraddoldeb. Yn benodol, ystyried lle gellid gwneud ystadegau’n fwy hygyrch ac addas ar gyfer cynulleidfa eang. Er enghraifft, ym mis Medi 2019, lansiwyd tudalen we newydd ynghylch Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar wefan StatsCymru, sef llwyfan data agored Llywodraeth Cymru. Mae’r dudalen yn darparu dolenni at ddata cydraddoldeb ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru, mewn fformat data agored ac mewn un lleoliad.

Cyhoeddiadau am grefydd ac anabledd

Ar y cyd â Chanolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dadansoddwyr o amrywiaeth o adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, roeddem wedi ystyried y ffynonellau data sydd ar gael er mwyn gweld i ba raddau y gellid eu defnyddio i ddisgrifio profiadau pobl anabl a phobl o wahanol grwpiau crefyddol yng Nghymru a Lloegr. Dyma oedd cam cyntaf rhaglen waith hirach lle byddwn ni’n gweithio gydag eraill i ystyried opsiynau i wella’r data sydd ar gael am bobl anabl ac am grefydd.

Ymchwil i gryfhau a hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Yn dilyn y galwadau lu am weithredu er mwyn cryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip bryd hynny (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bellach) i sefydlu Grŵp Llywio ac i gomisiynu consortiwm ymchwil a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc i ystyried dewisiadau er mwyn cyflawni hyn. Nod yr ymchwil oedd archwilio dulliau o gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio deddfwriaethau, polisïau, canllawiau neu ddiwygiadau eraill er mwyn cyflawni’r amcan hwn. Cafodd yr adroddiad ymchwil terfynol, gan gynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ei gyflwyno ym mis Mawrth 2021.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’w argymhellion: Adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru.

Effaith ymadawiad Cymru â’r UE ar gymunedau agored i niwed  

Fel rhan o raglen waith a oedd yn paratoi Cymru ar gyfer gadael yr UE, roeddem wedi casglu a dadansoddi pob math o dystiolaeth ynghylch effaith ymadawiad Cymru â’r UE ar gymunedau yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu’n awr fel rhan o raglen ehangach i asesu effaith amrywiaeth o ffactorau ar leoedd difreintiedig ac ar grwpiau agored i niwed, gan gynnwys COVID-19, gadael yr UE, newid yn yr hinsawdd a chyni/dirwasgiad.

Datblygu Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb

Mae Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb wedi cael ei chreu i helpu cyd-weithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth ddatblygu polisi. Rydym wedi casglu, cofnodi a dadansoddi’r holl wybodaeth a dderbyniwyd dros y misoedd diwethaf ynghylch effaith COVID-19 ar bobl â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a briffiau, yn ogystal â blogiau ar-lein, gyda llawer ohonyn nhw wedi cael eu darparu gan bartneriaid rydym ni’n cydweithio â nhw. Mae’r gronfa’n ddogfen fyw, ac ychwanegir ati’n rheolaidd. Mae’n adnodd amhrisiadwy i lywio asesiadau effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o’r effaith ar gydraddoldeb ac i ddysgu mwy am effeithiau hirdymor, ehangach posibl COVID-19 ar gydraddoldeb, er mwyn sbarduno’r gwaith o ddatblygu polisïau newydd ar ôl COVID-19 ar draws Llywodraeth Cymru.

Asesiad o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb

Mae’r Asesiad Effaith Integredig Strategol o’r Gyllideb Ddrafft yn parhau i ystyried penderfyniadau gwariant o nifer o safbwyntiau er mwyn deall eu heffaith ar wahanol grwpiau o bobl ac ardaloedd. Mae hyn yn cynnwys ystyried Cydraddoldeb. Rydym yn cydnabod bod pobl a lleoedd yn amlddimensiynol, ac mae’r dull gweithredu integredig yn ceisio cofnodi effeithiau lluosog a chronnus sy’n adlewyrchu profiad bywyd pobl a realiti ein heconomi, ein diwylliant a’n hamgylchedd.

Hefyd, rydym yn dal wedi ymrwymo i adolygu’r ffordd rydym yn asesu effeithiau. Ar 13 Rhagfyr 2022, cyhoeddom Gynllun Gwella’r Gyllideb wedi’i ddiweddaru fel rhan o becyn Cyllideb ddrafft 2023 i 2024. Mae’r Cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth, gan gynnwys yr uchelgeisiau tymor byr a thymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn gwella ein prosesau blynyddol ar gyfer y gyllideb a threthi. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau arfaethedig i'r ffordd o asesu effaith penderfyniadau a wneir ynghylch y Gyllideb. Mae’r cynllun hefyd yn myfyrio ar y gwaith a wnaed dros y 12 mis diwethaf.

Caffael

Mae cyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £8.3 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan gyflenwyr. Mae’n bwysig bod pob punt yn cael ei gwario'n ddoeth, gan sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru.

Cyflawni’r Ddyletswydd Caffael yn Nyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru

Fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru, rhaid i ni:

  • fynd ati i ystyried a fyddai’n briodol i feini prawf ar gyfer dyfarnu contract gynnwys ystyriaethau i helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (edrychwch ar atodiad 1)
  • mynd ati i ystyried a fyddai’n briodol pennu amodau ynghylch perfformiad contract er mwyn helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Ein Polisi Caffael

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n helpu i ddiffinio ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant rydym yn ceisio eu cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon yr holl benderfyniadau caffael i’n helpu ni i greu’r ‘Gymru a Garem’. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n atal problemau ac yn meddwl am y tymor hir, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cynnwys deg egwyddor allweddol y dylai holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru lynu wrthynt wrth gyflawni eu gweithgarwch caffael. Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ddiweddar i ddatblygu gwybodaeth ychwanegol i helpu sefydliadau i ddefnyddio egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022.

Bydd y Bil Caffael arfaethedig, sy’n mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi a’r Senedd ar hyn o bryd, yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi Datganiad Polisi Caffael Cymru y bydd angen i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru roi sylw iddo. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru, am y tro cyntaf, ddeddfu yn y maes pwysig hwn, gan nodi beth yw ein blaenoriaethau polisi caffael allweddol nawr ac yn y dyfodol, a bydd yn helpu i sicrhau bod blaenoriaethau polisi caffael Cymru yn rhan annatod o swyddogaethau a gweithgarwch caffael sefydliad.

Yr allwedd i gyflawni’r Datganiad Polisi Caffael hwn fydd cydweithio parhaus. Byddwn ni'n adolygu ac yn adnewyddu Datganiad Polisi Caffael Cymru yn rheolaidd gyda phartneriaid i sicrhau ei fod yn dal yn adlewyrchiad cywir o’n huchelgais ar y cyd ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, ac i sicrhau bod canlyniadau’n fwy tryloyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun gweithredu a fydd yn llywio’r broses o gyflawni egwyddorion y Datganiad. Cafodd hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan ym mis Tachwedd 2021. Bydd sefydliadau sy’n prynu, naill ai’n unigol neu ar y cyd, yn datblygu ac yn cyhoeddi eu cynlluniau gweithredu eu hunain, a fydd yn egluro sut byddan nhw'n cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd canllawiau statudol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn ystyried y datganiad hwn a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i sicrhau canlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy brosesau caffael sy’n rhoi gwaith teg a gwerth cymdeithasol wrth eu calon, yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau arbedion ariannol yn unig.

Mae’r datganiad polisi’n cynnwys nifer o ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y broses o ystyried cydraddoldeb, gan gynnwys:

  • sicrhau bod polisïau allweddol, fel gwerth cymdeithasol, yn cael eu cynnwys mewn contractau
  • symleiddio’r broses gaffael a lleihau rhwystrau i gyflenwyr
  • sicrhau bod cydraddoldeb yn cael sylw priodol yn y cam dewis cyflenwr
  • hysbysebu cyfleoedd am gontractau drwy wefan Gwerthwchi Gymru
  • cynnal Asesiad Risg Cynaliadwyedd wrth gynllunio proses gaffael, i sicrhau bod contractau cyhoeddus yn ystyried eu dyletswyddau cydraddoldeb wrth i gontractau gael eu cyflawni

Mae Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â’r risgiau o gaethwasiaeth, ac i hyrwyddo cyflogaeth foesegol yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus. Adeg yr adroddiad hwn, mae dros 304 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae’r llofnodwyr yn cynnwys 63 o gyrff yn y sector cyhoeddus, 421 o sefydliadau yn y sector preifat, ac 24 o fudiadau yn y trydydd sector sy’n dod o amrywiaeth eang o farchnadoedd gwahanol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach gyda chynlluniau i osod dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau gwerth cymdeithasol drwy gaffael.

Prif ffrydio ac ymwreiddio cydraddoldeb ym maes caffael: Canlyniadau

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £700m ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy’n cael eu caffael yn allanol.  Bu tîm Masnachol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector busnes i ymwreiddio Dyletswyddau Cydraddoldeb Cymru yn ein contractau, drwy wneud y canlynol:

  • rhoi’r Asesiad Risg Cynaliadwyedd ar waith ar gyfer holl gontractau Llywodraeth Cymru sydd dros £25,000, gan sicrhau bod dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hystyried, bod camau’n cael eu cymryd mewn contractau pan fydd hynny’n briodol, a bod Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gynnal
  • defnyddio cymalau Budd i’r Gymuned mewn contractau priodol i sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ddifreintiedig, a thargedu cefnogaeth addysgol gan ein cyflenwyr ar draws cymunedau yng Nghymru
  • ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a mabwysiadu’r arferion gorau yn ein prosesau caffael
  • adolygu ein dogfennau safonol i sicrhau bod manylebau a dogfennau contract yn bodloni’r arferion gorau

Pennod 5: cyllid ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o neilltuo arian i hybu a chefnogi camau gweithredu sy’n meithrin cydraddoldeb a chynhwysiant yng Nghymru. Mae ein Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi bod wrth galon y gwaith hwn ers tro, gan alluogi cymorth, ymgysylltiad a gwasanaeth i gymunedau amrywiol a grwpiau allweddol, gyda chyllid yn cael ei ddarparu i nifer o sefydliadau cynrychioliadol sydd ag arbenigedd priodol ac sy’n gweithio gyda’r rheini ar lawr gwlad i ddarparu cymorth lle bo angen.

Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y ffordd hon ac rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny.

Dechreuodd y rhaglen gyllido bresennol ym mis Ebrill 2017 i gefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb. Roedd yn ariannu saith sefydliad i roi cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn cysylltiad â rhywedd, anabledd, Sipsiwn, Roma a theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, hil a throseddau casineb. Cafodd y cyllid ei ymestyn i ddechrau tan 31 Mawrth 2022 er mwyn gallu datblygu trefniadau olynu a chysylltu â’r amcanion diweddarach a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020 i 2024.

Yn 2021 cynhaliom ymgynghoriad yn chwilio am ddewisiadau a thrafodaeth am natur a dyfodol y cyllid rydym yn ei ddarparu i fynd i’r afael â phob math o anfantais a gwahaniaethu, ac i ddangos bod cydraddoldeb yn addas i bawb. Mae hyn yn helpu i gyfrannu at ddull gweithredu wedi’i gydlunio ar gyfer rowndiau cyllido yn y dyfodol.

Mae cael hyn yn iawn yn cymryd amser, ac mae’n dal yn hanfodol ein bod yn cymryd yr amser angenrheidiol i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod ein cymorth yn darparu cyllid lle gall gael yr effaith fwyaf, a chael ei dargedu i gyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl heb leihau’r effaith y mae’n bwriadu ei chael.

Rydym wedi dyfarnu contractau ar gyfer ein Canolfan Cymorth Casineb newydd yng Nghymru a’r Gwasanaeth Cymorth Ceisio Lloches newydd, sydd wedi cymryd lle ein Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth a’r Rhaglen Hawliau Lloches ers 1 Ebrill 2022. Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a chonsortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru oedd y cynigwyr llwyddiannus, yn y drefn honno.

Rydym yn ystyried ateb wedi’i gydlunio ar gyfer rowndiau cyllido yn y dyfodol. Rydym yn rhag-weld y bydd y rhain yn dechrau cyn bo hir ac yn dod i ben yn ystod 2023.  Ein nod yw datblygu model cyllido mwy hyblyg, hygyrch, cydweithredol a chydlynus, a fydd yn lleihau’r gystadleuaeth rhwng asiantaethau allanol ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd ar gael. 

Byddwn yn sicrhau y bydd cyllid ar gyfer y sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd yn parhau ar gyfer gwasanaethau allweddol wrth ddatblygu’r model newydd, ac wedyn wrth inni symud tuag at ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys y saith prif asiantaeth ar gyfer y rhaglen, i ddarparu cymorth ledled Cymru mewn perthynas â rhywedd (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru); anabledd (Anabledd Cymru); Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Tros Gynnal Plant Cymru); ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Cyngor Ffoaduriaid Cymru); hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rywiol (Stonewall Cymru); hil (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) a throseddau casineb (Cymorth i Ddioddefwyr Cymru).

Crynodeb o’r cyllid a ymrwymwyd yn 2021 i 2022
Sefydliad Dyraniad
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru £120,000
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig £120,000
Anabledd Cymru (Cronfa wrth Gefn Covid) Grant Cydraddoldeb
a Chynhwysiant
£340,000
Anabledd Cymru (Uwch) Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant £150,000
Stonewall Cymru £150,000
Prosiect Pobl Anabl a Brexit £200,000
Tros Gynnal Plant (Uwch) £180,000
Cyngor Ffoaduriaid Cymru - Rhaglen Hawliau Lloches £426,000
Cymorth i Ddioddefwyr - Canolfan Adrodd am Droseddau
Casineb a Chymorth
£432,000
Cynlluniau cymorth trafnidiaeth gyhoeddus i geiswyr lloches £250,000
Cyfanswm £2,368,000

Cymeron gamau ychwanegol i wella’r data monitro perfformiad a gasglwyd gan y sefydliadau hynny a oedd yn cael eu hariannu gan Raglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gwrdd â phob sefydliad yn unigol, i’w helpu i ddatblygu mesurau perfformiad sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys sefydliadau yn cael gwybodaeth am ganran yr unigolion sydd, ar ôl cael cyngor a chymorth, yn gwybod mwy am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn teimlo bod eu lleisiau’n fwy tebygol o gael eu clywed. Amlinellir effaith sawl ffrwd o’r rhaglen hon isod.

Hil: Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)

Sefydlwyd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn wreiddiol i lenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig drwy ddarparu gwasanaeth cefnogi cyfannol wedi’i dargedu, sy’n sensitif i ddiwylliant, i ddiwallu eu hanghenion. Mae wedi mynd ymlaen i ehangu ei weithgareddau i ddiwallu anghenion pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, cyflogaeth, iechyd, cefnogi teuluoedd a diogelwch cymunedol.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sefydliad hwn wedi galluogi’r tîm i gymryd camau i gefnogi’r amcanion canlynol:

  • ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac ymgynghori â nhw, ar faterion sy’n effeithio arnynt
  • cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar grwpiau rhanddeiliaid perthnasol Llywodraeth Cymru
  • arddangos, uno a chynyddu lleisiau dros gydraddoldeb hiliol yng Nghymru

I ddechrau roedd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn cefnogi pedwar rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Roedd cynrychiolaeth amrywiol o unigolion yn gweithio gyda Chydlynwyr Rhanbarthol ym mhob rhanbarth i gynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Yn ddiweddarach, datblygodd hyn i ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein Cymru gyfan dan arweiniad Swyddogion Polisi.

Ar ben hynny, mae’r tîm wedi darparu cyngor a chymorth i fudiadau ar lawr gwlad drwy gyfeirio at chwaer brosiect y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig sef y prosiect Sgiliau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (a gefnogwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol Abertawe, Caerdydd a Wrecsam). 

Mae 458 o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect drwy ein fforymau dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r trafodaethau wedi canolbwyntio ar bynciau cyfredol sydd wir yn bwysig i unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol neu unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae’r themâu a drafodwyd yn cynnwys:

  • Hanes, Treftadaeth a Thai: Boneddigeiddio Caerdydd
  • Hil ym Myd Addysg 2021: Y sefyllfa ar hyn o bryd
  • Hil a’r Argyfwng Diweithdra
  • Tu Chwith Allan: Diffygion y System Gofal Iechyd
  • Incwm Sylfaenol Cyffredinol: Beth gallai ei gynnig i ni?
  • Cynrychiolaeth yn y Newyddion a’r Cyfryngau: Golwg Amrywiaeth
  • Mae’r Amgylchedd i Bawb
  • Ydy Pobl Hŷn Ethnig Leiafrifol yn Anweledig?
  • Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern

Nid yw’r prosiect yn rhedeg mwyach, fodd bynnag, mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn parhau i gefnogi mudiadau ar lawr gwlad ym mhob rhan o Gymru drwy gynghori a chyfeirio at fudiadau a phrosiectau partneriaeth perthnasol. Mae’r tîm hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Rhywedd: Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Elusen Gofrestredig yw Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (y Rhwydwaith), sy’n gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae unigolion a sefydliadau yn aelodau o'r rhwydwaith. Mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gefnogi gwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar nodau eang sy’n ymwneud ag ymgysylltu, addysg, grymuso a chynrychiolaeth. Dyma yw ei amcanion:

  • adeiladu a chysylltu clymblaid o weithredwyr ledled Cymru i ymgyrchu dros Gymru wedi’i thrawsnewid, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw, a helpu i wneud Cymru’n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau
  • arweinyddiaeth a chynrychiolaeth amrywiol a chyfartal ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru
  • cryfhau, gwireddu a gwreiddio hawliau menywod yng Nghymru

Mae’r Rhwydwaith yn cysylltu â’i rwydwaith o aelodau er mwyn cyfleu anghenion a phrofiadau bywyd menywod a merched yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae’n defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gesglir i helpu i lywio ei ymateb i ymgynghoriadau a’i ymgysylltiad â llunwyr polisi, yng Nghymru a’r DU.

Rhwng 2021 a 2022, roedd bron i 600 o bobl wedi mynychu digwyddiadau cyhoeddus Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, gan gynnwys digwyddiadau Caffi’r Rhwydwaith. Cafodd digwyddiadau ar-lein Caffi’r Rhwydwaith eu sefydlu yn sgil COVID-19 fel cyfle i ddod â lleisiau menywod at ei gilydd i edrych yn fanwl ar faterion a rhannu atebion ar nifer o themâu sy’n ymwneud ag anghydraddoldebau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y pandemig. Maen nhw am ddim ac yn agored i bawb. Mae’r caffis yn dal i gynnig mecanwaith effeithiol ar gyfer archwilio ystod eang o bynciau.

Mae’r Rhwydwaith yn ehangu cyrhaeddiad ei gynghrair ledled Cymru ac ar draws grwpiau oedran. Yn 2021, dechreuodd y Rhwydwaith weithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cynhyrchodd y Rhwydwaith becyn cymorth llawn gweithgareddau ac adnoddau i gefnogi athrawon a gweithwyr ieuenctid i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan herio stereoteipiau rhywedd a thynnu sylw at ragfarn ar sail rhywedd a rhywiaeth gyda’u dosbarthiadau a’u grwpiau. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, gweithiodd y Rhwydwaith gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a’i Banel Ieuenctid i ddiweddaru a gwella’r pecyn, ac ymestyn ei gyrhaeddiad ar draws ysgolion yng Nghymru. 

Mae’r Rhwydwaith hefyd wedi gweithio i gefnogi lleisiau Menywod Wcráin yng Nghymru.

Rhaglen mentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal

Mae’r rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn cael ei harwain gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig a Stonewall. Nod y cynllun trawstoriadol yw cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru. Mae wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn rhoi cymorth i 100 o bobl sy’n cael eu mentora ac yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, adnoddau a gwybodaeth i’w paratoi ar gyfer rôl mewn bywyd cyhoeddus drwy gyfrwng rhaglen o ddiwrnodau hyfforddi, sesiynau gweithdy, mentora a chymorth gan gymheiriaid. 

Sipsiwn, Roma a Theithwyr: Tros Gynnal Plant Cymru

Mae Tros Gynnal Plant Cymru yn Elusen Gofrestredig sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Mae Teithio Ymlaen yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth unigol a chymunedol, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar faterion fel llety, safleoedd, cynllunio, hawliau a chael gafael ar wasanaethau. Mae gan y prosiect dri nod cyffredinol, gyda chamau gweithredu yn sail i bob amcan.

  • Cyngor ac Eiriolaeth
  • Hawliau a Chyfranogiad
  • Mynd i’r afael â Gwahaniaethu

Mae Llinell Gyngor Radffôn ar waith yn ystod yr wythnos 0808 802 0025. Mae’r rhif wedi cael ei ledaenu drwy daflenni, cardiau hysbysebu, ar lafar gwlad drwy sesiynau ymgysylltu ac allgymorth rheolaidd, digwyddiadau a thrwy rwydweithiau, gan gynnwys cyfeiriaduron partneriaid a chyfryngau cymdeithasol. Mae Tîm Ymgysylltu Teithio Ymlaen yn darparu gwasanaeth allgymorth sy’n ymweld yn rheolaidd â safleoedd a lleoliadau cymunedol; atgyfeiriadau wyneb yn wyneb ac ar lafar yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gysylltu o hyd ymysg cymunedau.

Mae’r prosiect Teithio Ymlaen yn parhau i weithio i sicrhau bod cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ymwybodol o ymgyngoriadau a chyfleoedd eirioli ac yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt, i leisio eu barn, ac i ymgysylltu â llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau hyn ar lefel Cymru neu’r DU os yw hynny’n briodol. Maen nhw wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae eu fforymau ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd â phobl sy’n gwneud penderfyniadau, ochr yn ochr â grwpiau cymunedol a phrosiectau ymchwil cymheiriaid (ar ddatblygu safleoedd, addysg, gwella gwasanaethau iechyd er enghraifft). Mae'r cymunedau hefyd yn cael cynrychiolaeth gadarnhaol drwy Senedd Ieuenctid Cymru a gweithgareddau diwylliannol. Mae Teithio Ymlaen yn gweithio gyda sefydliadau, gan gynnwys y Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol unigryw, ac mae wedi datblygu côr ‘Sêr y Sipsiwn’ cyntaf Cymru, sy’n cynnwys pobl o bob oed o’r gymuned Roma. 

Mae Teithio Ymlaen wedi cael y dasg o wneud i’r gymuned deimlo’n fwy hyderus i herio a rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, digwyddiadau casineb, troseddau casineb ac iaith casineb.  Mae hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel Cymorth i Ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth o’r dulliau o roi gwybod am droseddau casineb a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r gwasanaeth cynghori, i ddatblygu poster penodol, ac i greu cysylltiadau cryfach â swyddogion troseddau casineb yr heddlu drwy ymgysylltu a hyfforddiant.

Casineb: Cymorth i Ddioddefwyr Cymru

Elusen annibynnol yw Cymorth i Ddioddefwyr, sydd wedi ymrwymo i roi cymorth i bobl y mae troseddau a digwyddiadau trawmatig yn effeithio arnyn nhw yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu gwasanaethau arbenigol i helpu pobl i ymdopi a gwella, ac i roi cyfle iddyn nhw gydweithio â'r rheini sy’n llunio ac yn cyflawni polisïau, yn unigol ac ar y cyd, ar lefel leol a chenedlaethol.

Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2022, roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru drwy’r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant i redeg y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth.

Roedd gan y gwasanaeth dri nod cyffredinol, gyda chamau gweithredu yn sail i bob amcan:

  • rhoi cymorth i ddioddefwyr
  • ymgysylltu’n well
  • hybu arweinyddiaeth

Roedd y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth yn cynnig cymorth ac eiriolaeth annibynnol i bob dioddefwr troseddau casineb, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn cynnwys cymorth emosiynol, cyfeirio, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, eiriolaeth/cysylltu â’r Heddlu, cyngor diogelwch personol, atebion ymarferol a chymorth cyfiawnder adferol. Darparwyd y cymorth di-dâl hwn dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein. Roedd y gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cael ei gynnig yn ddwyieithog, ac mewn ieithoedd eraill yn ôl yr angen.

Roedd y Ganolfan hefyd yn darparu adnodd ar-lein cyfrinachol, am ddim, sef My Support Space, a oedd wedi’i ddylunio i helpu pobl dros 16 oed sydd wedi profi troseddau casineb i reoli’r effaith. Defnyddiodd defnyddwyr amrywiaeth o adnoddau i’w helpu i ymdopi a symud ymlaen ar ôl eu profiadau. Roedd My Support Space yn cynnwys cyfres o ganllawiau rhyngweithiol a oedd yn rhoi sylw i anghenion penodol ac yn cynnig fideos, technegau, gweithgareddau ac awgrymiadau. Creodd y gwasanaeth fodiwlau troseddau casineb penodol ar drawma, hil, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, traws-ymwybyddiaeth ac iechyd meddwl.

Roedd tîm Hyfforddiant ac Ymgysylltu’r Ganolfan yn darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ledled Cymru, gyda’r nod o gynyddu’r nifer yr adroddiadau o droseddau casineb a chynyddu amlygrwydd y gwasanaeth.

Rhwng 2021 a 2022 cafodd y gwasanaeth 3,065 o atgyfeiriadau ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb a rhoddodd gymorth i dros 1,617 o ddioddefwyr troseddau casineb. Roedd ganddo gyfradd drosi o 76.88% rhwng achosion gydag anghenion wedi’u nodi a chymorth wedi’i ddarparu. Cafodd y gwasanaeth 120 o adroddiadau trydydd parti a 186 o hunanatgyfeiriadau. Mae’r gwasanaeth yn uchel ei barch gyda chyfraddau uchel o ran boddhad cleientiaid mae 98% naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn ar y gwasanaeth rhwng 2021 a 2022.

Anabledd: Anabledd Cymru

Anabledd Cymru yw’r corff sy’n cynrychioli pobl anabl a’u sefydliadau yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl anabl yn cael eu clywed.

Mae Anabledd Cymru wedi defnyddio cyllid y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’n Fframwaith a’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithredu ar Anabledd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019.

Cafodd Anabledd Cymru hefyd £72,000 o gyllid o Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd i ddarparu rhaglen gymorth i gynyddu capasiti yn sgil gadael yr UE ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a’u rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae Anabledd Cymru hefyd wedi ennill y contract i gyflwyno Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig, sy’n brosiect peilot a fydd yn cynnig cymorth i ymgeiswyr anabl yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau Llywodraeth Leol.

Bu Anabledd Cymru hefyd yn rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw'n annibynnol (gweler isod), gyda'r Prif Weithredwr yn cadeirio'r Grŵp Llywio a oedd yn goruchwylio datblygiad y fframwaith newydd.

Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw'n annibynnol

Cafodd ein Fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol’ ei gyhoeddi ar 18 Medi 2019. Mae’r Fframwaith wedi cael ei ddatblygu ar y cyd drwy ymgysylltu â phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.

Mae Cynllun Gweithredu yn gysylltiedig â’r Fframwaith, ac mae’r cynllun hwnnw'n cynnwys amrywiaeth eang o gamau â blaenoriaeth sydd ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r prif rwystrau a nodwyd gan bobl anabl, gan gynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd.

Dywedodd pobl anabl wrthym fod gweithredu ar lefel leol yn hanfodol, felly mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i annog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel i gymryd sylw o hynny ac i weithredu.

Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a’r ymrwymiadau sy’n sail i’n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer. Mae’n egluro sut rydym yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae’r holl Fframwaith yn seiliedig ar y ‘Model Cymdeithasol o Anabledd’, sy'n cydnabod bod angen gweddnewid cymdeithas, a chael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl anabl allu cyfrannu’n llawn.

Isod ceir detholiad o weithgareddau a gynhaliwyd gan Anabledd Cymru a fu’n bosibl oherwydd y cyllid a ddarparwyd drwy Raglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru.

Roedd Anabledd Cymru wedi cynnal 16 digwyddiad i 646 o gyfranogwyr yn 2020 i 2021 ledled Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod gan bobl anabl a’u sefydliadau yr wybodaeth a’r sgiliau i hyrwyddo hawliau anabledd a chydraddoldeb, ac i herio gwahaniaethu yn eu hardal leol.

Datblygodd Anabledd Cymru ymgyrch Model Cymdeithasol o Anabledd a chynnal Weminarau Model Cymdeithasol o Anabledd lle casglwyd adborth ar ffurf arolygon gan gyfranogwyr.

Cynhaliodd Anabledd Cymru Gynhadledd Flynyddol Anabledd Cymru a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ‘Beyond 2020: New Opportunities or Same Barriers' Lansiodd Anabledd Cymru #LockdownLife, prosiect cyfryngau digidol lle roedd cyfranogwyr a oedd yn cynrychioli’r gymuned amrywiol o bobl anabl yng Nghymru yn defnyddio dyfeisiau tabled a ffonau clyfar i gyfleu eu meddyliau a’u bywyd o ddydd i ddydd yn ystod y cyfyngiadau symud. Cafodd y rhain eu golygu’n broffesiynol a’u rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol a phrif ffrwd.

Cynhaliodd Anabledd Cymru’r digwyddiad ‘Dewch â’n Hawliau i Ni: Maniffesto Pobl ag Anableddau’ a fynychwyd gan Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bellach); Mark Isherwood AS; Nadine Marshall, Darpar Ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu; a Leena Farhat, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ac Ymgeisydd i’r Senedd.

Cynhaliodd Anabledd Cymru naw grŵp ffocws penodol ar Hawliau a Gorfodi Hawliau Pobl Anabl, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Tlodi a Chynhwysiant Digidol, Cyflogaeth a Thrafnidiaeth, Tai, Troseddau Casineb, Menywod Anabl, Pobl Anabl, Pobl Anabl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a Phobl Anabl Lesbiaidd LHDTC+.

Cynhaliodd Anabledd Cymru dri grŵp ffocws ar bynciau penodol yn ymwneud â’r pandemig: Hawliau a Chydraddoldeb; Tai a Chyflogaeth; a Thaliadau Uniongyrchol a Chyflogaeth Cynorthwywyr Personol. Roedd canfyddiadau’r Grŵp Ffocws yn sail i ystod o ymgyngoriadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, Pwyllgor y Senedd ar Gydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Roedd Anabledd Cymru hefyd yn rheoli’r Cynllun Mynediad i Swydd Etholedig, er mwyn cynyddu nifer y bobl anabl sy’n ystyried ac yn rhedeg swyddi etholedig yng Nghymru.

LHDTC+ Stonewall Cymru

Mae Stonewall Cymru wedi cael cyllid grant i weithredu fel y corff sy’n cynrychioli pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Thrawsrywiol a Chwiar (LHDTC+) yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed.

Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn galluogi Stonewall i wneud y canlynol:

  • Ymgysylltu â Chymunedau LHDTC+
  • Grymuso pobl a chynghreiriaid LHDTC+
  • Cynyddu lleisiau LHDTC+
  • Cryfhau gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth a chynghori

Fel rhan o’r cyllid hwn, roedd Stonewall Cymru wedi creu swydd Swyddog Ymgysylltu Trawsryweddol i weithio mewn cymunedau traws ar lawr gwlad o amgylch Cymru, er mwyn clywed eu llais ac ymgyrchu ar eu rhan.

Mae Stonewall wedi bod yn gweithio i estyn allan at sefydliadau a grwpiau LHDTC+ ledled Cymru i’w cefnogi yn ystod pandemig COVID-19 ac i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng. Mae Stonewall wedyn yn portreadu’r safbwyntiau a’r materion hyn wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth inni ymateb i’r pandemig, gan sicrhau bod lleisiau LHDTC+ yn cael eu clywed.

Yn ystod y cyfnod hwn mae Stonewall wedi gweithio i estyn allan at sefydliadau a grwpiau LHDTC+ ledled Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Maen nhw wedyn yn cynrychioli’r safbwyntiau a’r materion hyn wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod lleisiau LHDTC+ yn cael eu clywed a’u hystyried wrth lunio polisïau cyhoeddus, a dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Yn 2021 i 2022, daeth Llywodraeth Cymru yn noddwr swyddogol Pride Cymru, gan roi £25k o gyllid i gefnogi’r prif ddigwyddiad yng Nghaerdydd.

Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.065m i’r Rhaglen Hawliau Lloches rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2022 er mwyn darparu gwasanaethau cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Cyflawnwyd y rhaglen gan gonsortiwm o asiantaethau trydydd sector, o dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Mae gwasanaeth newydd o 2022 ymlaen wedi cael ei gaffael ac mae’n cael ei ddarparu gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ddarparu gwasanaeth tebyg i’r Rhaglen Hawliau Lloches.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y consortiwm hwn wedi galluogi Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gymryd camau i gefnogi’r amcanion canlynol:

  • cryfhau sgiliau a gallu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a chryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw greu eu bywyd yng Nghymru, gan eu hannog i ddeall a chymryd rhan yn y gymuned ehangach
  • helpu a galluogi’r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid i gael llais
  • codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â mudo ymysg y cyhoedd

Mae Gweithwyr Achosion y Rhaglen Hawliau Lloches wedi darparu sesiynau gwaith achos i gleientiaid ar draws pedair ardal wasgaru Cymru. Dyma brif ffocws eu gwaith:

  • atal digartrefedd ac amddifadedd
  • cynnig cyngor a chymorth ynghylch caledi
  • cyfeirio at wasanaethau statudol perthnasol ynghylch diogelu a llesiant
  • cydweithio â’r Swyddfa Gartref, cynrychiolwyr cyfreithiol a rhanddeiliaid allweddol eraill

Mae Asylum Justice wedi parhau i roi cymorth cyfreithiol i gannoedd o geiswyr lloches nad ydynt yn gallu cael gafael ar Gymorth Cyfreithiol o ffynonellau eraill. Mae hawliau apêl llawer o gleientiaid Asylum Justice wedi cael eu dihysbyddu, ac mae angen cymorth arnyn nhw i gyflwyno hawliadau newydd. Ond mae Asylum Justice hefyd wedi bod yn eithriadol o brysur gydag apeliadau, aduniadau teuluol a chodi’r cyfyngiadau ‘dim mynediad at arian cyhoeddus’. Mae gwaith Asylum Justice yn amhrisiadwy, gan mai dyna’n aml yw’r gobaith olaf am gefnogaeth gyfreithiol i lawer o geiswyr lloches agored i niwed yng Nghymru.

Ers i’r Fforymau Eiriolaeth fynd ar-lein ym mis Mai 2020, mae dros 200 o bobl wedi’u mynychu. Mae’r pynciau a drafodwyd â chynrychiolwyr perthnasol wedi cynnwys addysg, gofal iechyd, brechiadau, y Swyddfa Gartref, llety a phandemig COVID-19.

Mae’r Rhaglen Hawliau Lloches a Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn dal yn aelodau ffigurol o Glymblaid Ffoaduriaid Cymru. Mae’r Glymblaid yn ffordd o gyflwyno ‘Cynllun Cenedl Noddfa’ Llywodraeth Cymru ymysg holl aelodau’r Glymblaid.

Nid yw polisi mudo wedi’i ddatganoli, felly Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am atebion i rai materion pwysig. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru, i wella amodau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth hanfodol ar gyfer pobl sy’n chwilio am loches. Yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gyfer gwasanaeth olynol i Raglen Hawliau Lloches bresennol Llywodraeth Cymru. Bydd hwn ar waith o 1 Ebrill 2022 ymlaen am o leiaf tair blynedd.

Mae ein gwefan Noddfa’n darparu amrywiaeth o wybodaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches am eu hawliau, gan gynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth.  Mae’r wefan yn defnyddio meddalwedd cyfieithu a thestun-i-lais i sicrhau bod y safle’n hygyrch i nifer fwy o bobl sy’n ceisio lloches. 

Rydym wedi darparu cyllid i Clearsprings Ready Homes i ymestyn mynediad i’r rhyngrwyd i bob llety lloches ledled Cymru. Mae’r cyllid chwe mis pellach hwn yn adeiladu ar gynllun peilot cychwynnol chwe mis i alluogi mynediad i wasanaethau ar-lein, dosbarthiadau ESOL a chysylltiadau â ffrindiau teulu.

Roeddem wedi darparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a’i bartneriaid i gyflwyno cynllun peilot a oedd yn caniatáu i geiswyr lloches deithio am ddim yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ymestyn y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl sy’n ceisio lloches y Tocyn Croeso tan o leiaf fis Mawrth 2023. Mae’r meini prawf cymhwysedd wedi cael eu diweddaru a byddant ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.

Mae’r cymorth hwn yn ymestyn i’r rheini sy’n ffoi rhag gorthrwm a gwrthdaro yn Afghanistan ac Wcráin.

Pennod 6: effaith COVID-19 a’r ymateb iddo

O ddechrau 2020 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i bandemig COVID-19. Mae’r feirws wedi effeithio ar fywyd pob un ohonom, mewn sawl ffordd. Ond mae wedi cael effaith anghymesur ar rai grwpiau yn benodol, gan gynnwys pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a’r bobl dlotaf yng Nghymru.   

Wrth i’r pandemig ddatblygu ac wrth i’r cyfyngiadau symud ddod i rym yng Nghymru, cynhaliwyd cyfarfodydd amlach gyda’n Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, Fforwm Hil Cymru, y Tasglu Ceiswyr Lloches, a’r Fforwm Cymunedau Ffydd. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol oedd yn gyfrifol am gadeirio’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd hyn, gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion eraill, gan gynnwys y Prif Swyddog a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yn bresennol mewn rhai cyfarfodydd.  

Wrth i’n hymateb i Covid-19 ddatblygu, roeddem wedi cyhoeddi (ac yn parhau i gyhoeddi) cyngor, canllawiau ac adroddiadau ystadegol ar ein gwefan Coronafeirws (COVID-19).

Cafodd Ymchwiliad Cyhoeddus annibynnol COVID-19 ei sefydlu’n ffurfiol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a dechreuodd ei waith yn swyddogol ar 28 Mehefin 2022, ar ôl cyhoeddi ei Gylch Gorchwyl terfynol. Y Farwnes Heather Hallett sy’n cadeirio’r ymchwiliad. Cadarnhaodd yn ei datganiad agoriadol ar 21 Gorffennaf y byddai’r Ymchwiliad yn defnyddio dull modiwlaidd o weithio, a lansiodd y modiwl cyntaf, sy’n archwilio parodrwydd y DU ar gyfer y pandemig.

Mae Modiwlau 2 a 3 wedi cael eu lansio hefyd; mae Modiwl 2 yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd Llywodraeth y DU, ac mae Modiwlau 2A, 2B a 2C yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae Modiwl 3 yn ystyried effaith pandemig COVID-19 ar ofal iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Disgwylir y bydd rhagor o fodiwlau’n cael eu cyhoeddi ddechrau 2023 a bydd y gwrandawiadau cyhoeddus cyntaf yn dechrau fis Mai 2023. Mae manylion am waith yr Ymchwiliad ar gael yma Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau bod profiadau pobl yng Nghymru yn ystod y pandemig yn cael eu hadlewyrchu’n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad, a bod tîm yr ymchwiliad yn craffu’n iawn ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cael nifer o geisiadau ffurfiol am ddatganiadau a dogfennau ategol, ac mae’n disgwyl cael llawer yn rhagor o geisiadau o’r fath drwy gydol yr Ymchwiliad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn ymateb i gwestiynau a cheisiadau’r Ymchwiliad yn llawn, yn agored ac yn dryloyw.

Atodiad 1: ein dyletswyddau cyfreithiol

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli deddfau gwrth-wahaniaethu blaenorol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, gan eu cyfuno mewn un Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu oherwydd:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • chyfeiriadedd rhywiol

Gelwir y categorïau hyn yn ‘nodweddion gwarchodedig’.

Mae Deddf 2010 hefyd wedi cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd â thri nod cyffredinol. Rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu

Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cynnwys siapio polisïau, gwasanaethau darparu ac mewn perthynas â’n gweithwyr.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y rheoliadau)

Yng Nghymru, mae’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig hefyd i ddyletswyddau penodol a geir yn y Rheoliadau. Gelwir y Rheoliadau hyn hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru.

Mae ‘awdurdodau rhestredig’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19.  Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn unig. 

Nod y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yw galluogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gael ei chyflawni’n well. Maen nhw’n gwneud hynny drwy fynnu, er enghraifft, fod amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy. Rhaid i’r amcanion cydraddoldeb, yn eu hanfod, geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â’r naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf 2010.

Rheoliad 16: Adroddiadau blynyddol

Mae Pennod 1 yn yr adroddiad hwn yn cydymffurfio’n rhannol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn yn nodi sut maen nhw’n cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol.

Mae Pennod 1 yn cynnwys nifer o ddatganiadau cynnydd sy’n amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ymgysylltu, tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Mae Rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig ddarparu datganiad blynyddol o effeithiolrwydd y camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar wahân yn ymdrin â’r wybodaeth hon erbyn y dyddiad cau statudol ar gyfer ei gyflwyno, sef 31 Mawrth 2019.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae’r ddyletswydd yn adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol er mwyn helpu i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r ddyletswydd hon yn pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd y mae Gweinidogion yn ei roi ar brif ffrydio cydraddoldeb yn eu gwaith a sicrhau y rhoddir sylw dyledus i hynny wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’r ddyletswydd o dan Ddeddf 2006 yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos sy’n amlinellu sut rydym wedi arfer ein swyddogaethau gan roi sylw dyledus i'r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Mae Adran 45 o Ddeddf Cymru 2017 yn datganoli’r pŵer i Weinidogion Cymru gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu cyflwyno Rhan 1, Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus cymwys, yr ystyrir eu bod wedi bodloni’r ‘prawf’ o dan adran 2(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Wrth i gyrff cyhoeddus penodedig wneud penderfyniadau strategol fel ‘penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion’, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud hi’n ofynnol iddynt ystyried sut gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio’r term “anfantais economaidd-gymdeithasol” i olygu “byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas”.

Bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol:

  • yn ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl drwy ymgynghori ac ymgysylltu
  • yn deall barn ac anghenion y rheini y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt, yn enwedig y rheini sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol
  • yn croesawu her a chraffu
  • yn sbarduno newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r ffordd y mae llunwyr penderfyniadau yn gweithredu

Mae amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael i helpu unigolion a sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a’r Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: canllawiau ac adnoddau i gyrff cyhoeddus.

Atodiad 2: amcanion cydraddoldeb strategol 2020 i 2024

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cryfhau ein hymdrechion i fodloni tri gofyniad y ddyletswydd gyffredinol ac yn ein helpu i weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal. Maen nhw’n amlinellu ein hymrwymiad i ddileu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd ac sy’n llesteirio dyheadau. Maen nhw’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor, sydd wedi’u sefydlu’n ddwfn, ac sy’n aml yn pontio’r cenedlaethau ar gyfer y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2020 i 2024

Nod Hirdymor 1: Dileu anghydraddoldeb sy’n deillio o dlodi

Amcan Cydraddoldeb 1 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu. (Mesurir drwy amrywiaeth o ddata, gan gynnwys data sy’n ymwneud â HBAI (Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog)).

Nod Hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru

Amcan Cydraddoldeb 2 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig (Mesurir drwy waith y Grŵp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Nod Hirdymor 3:  Bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Amcan Cydraddoldeb 3 Llywodraeth Cymru: Er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb. (Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru).

Nod Hirdymor 4: Bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd yn golygu rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuaidd

Amcan Cydraddoldeb 4 Llywodraeth Cymru: Byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau. (Mesurir drwy ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru).

Nod Hirdymor 5: Dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth

Amcan Cydraddoldeb 5 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin. (Mesurir drwy fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau/erledigaeth).

Nod Hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

Amcan Cydraddoldeb 6 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol. (Mesurir gan fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref).

Nod Hirdymor 7: Gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amcan Cydraddoldeb 7 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. (Mesurir drwy’r % o unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol).

Nod Hirdymor 8: Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl

Amcan Cydraddoldeb 8 Llywodraeth Cymru: Erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.  (Mesurir drwy ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol).

Atodiad 3: crynodeb o’r cynnydd tuag at amcanion cydraddoldeb

Yn yr Atodiad hwn, cewch ragor o wybodaeth am ddetholiad o weithgareddau sy’n helpu i gyflawni pob un o’r Nodau a’r Amcanion sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020 i 2024, yn ogystal â’r rheini y tynnir sylw atynt ym Mhennod 3 y prif adroddiad.  Pennwyd nifer o gamau gweithredu ar gyfer pob un o’r amcanion; dim ond ciplun o’r gweithgarwch a geir yn yr enghreifftiau isod ac nid ydynt yn adlewyrchu’r ystod lawn o gamau a gymerwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Nod Hirdymor 1: Dileu Anghydraddoldeb sy’n Deillio o Dlodi

Amcan 1: Erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.

Cynnydd

  • Unigolion economaidd anweithgar a di-waith hirdymor sy’n cael cymorth ar gyfer y rhwystrau canlynol i gyflogaeth:
    • Cyfrifoldebau gofal a gofal plant
    • Pobl o gartrefi heb waith
    • Cyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio
    • Pobl o grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
    • Pobl â sgiliau isel neu ddim sgiliau o gwbl
  • Unigolion economaidd anweithgar a thangyflogedig hirdymor sy’n cael gwaith
  • Nifer y gweithwyr sydd heb unrhyw gymwysterau neu ddim ond un neu ddau o gymwysterau sy’n cael hyfforddiant, a’r nifer sy’n ennill cymhwyster a nifer y rheini sy’n Ddu, yn Asiaidd ac yn Ethnig Leiafrifol, neu’n anabl.

Wedi helpu dros 37,000 o bobl economaidd anweithgar, y mae dros 25% ohonynt wedi cael cymorth i gael gwaith ac mae eraill wedi gwella eu cyflogadwyedd. Roedd 5% o’r rhai a gafodd gymorth yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Wedi helpu dros 25,000 o bobl ddi-waith hirdymor, y mae dros 20% ohonynt wedi cael cymorth i gael gwaith ac mae eraill wedi gwella eu cyflogadwyedd. Roedd 6% o’r rhai a gafodd gymorth yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Wedi darparu hyfforddiant i dros 62,000 o weithwyr llai medrus, y mae bron i 70% ohonynt wedi ennill cymhwyster. Roedd 4% o’r rhai a gafodd gymorth yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Wedi rhoi cymorth i dros 4,600 o fenywod cyflogedig, y mae dros draean ohonynt wedi gwella eu sefyllfa yn y farchnad lafur.

Astudiaethau achos o ddetholiad o brosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan gynnwys cymorth i grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

Nod Hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru

Amcan 2: Erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grŵp o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig (Mesurir drwy waith y Grŵp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Cynnydd

Mae Gweithwyr Cymorth Iechyd Meddwl yn dweud wrthym fod nifer uchel o asiantiaid gosod/landlordiaid yn rhoi’r ffôn i lawr ar denantiaid posibl pan sonnir am gyflwr iechyd meddwl a/neu bresenoldeb gweithiwr cymorth. 

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, byddwn yn:

  • creu Ymgyrch Gyfathrebu gan normaleiddio ymddygiad i leihau stigma
  • cynnal ymchwil i sefydlu hyd a lled a’r mathau o wahaniaethu sy’n gyffredin ar draws y sector rhentu preifat

Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynnig hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus am ddim i landlordiaid ac asiantiaid ynghylch ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae’r hyfforddiant trwyddedu/aildrwyddedu llawn yn rhoi sylw i ymwybyddiaeth o iechyd meddwl hefyd.

Mae gan Rhentu Doeth Cymru hefyd ganllawiau ar iechyd meddwl yn ogystal â chyfeiriadur awdurdodau lleol o wasanaethau cymorth sydd ar gael ym mhob ardal. Mae’r hyfforddiant a’r adnoddau wedi cael eu hanfon at bob landlord ac asiant ledled Cymru.

Cyn bo hir byddwn yn comisiynu ymchwil i effaith y cynnydd mewn rhent ar iechyd meddwl a llesiant, ac fel rhan o adolygiad yn y dyfodol o’r gwahaniaeth y mae rheoliadau Ffitrwydd i Fod yn Gartref wedi’i wneud.

Nod Hirdymor 3: Bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Amcan 3: Er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn, ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb. (Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru).

Cynnydd

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, fel y’u diwygiwyd, yn cynnwys Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru wedi’u teilwra i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru fel y’u cynhwysir yn Rheoliadau 2011. Mae’r broses hon eisoes ar waith, ar ôl cael ei gohirio oherwydd pandemig Covid. Mae cynllun gwaith ac amserlen newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gyda’r bwriad o wneud cynnydd sylweddol yn ystod 2022, a’r nod yw ymgynghori ar newidiadau arfaethedig rywbryd yn ystod 2023.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd y llynedd ac a oedd yn gwneud nifer o argymhellion mewn cysylltiad â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. 

Bydd yr adolygiad yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid allweddol, fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a chyrff y Trydydd Sector, ynghyd â rhanddeiliaid eraill a phartïon sydd â diddordeb ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn sefydlu, fel rhan o’r ymarfer cwmpasu, y broses i ddiweddaru rhanddeiliaid ac ailgysylltu â nhw ynghylch y gwaith hwn. Mae Alison Parken o Brifysgol Caerdydd a swyddogion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithredu fel cynghorwyr.  Roedd Grŵp Cyfeirio Dyletswydd Cydraddoldeb Penodol Cymru wedi cyfarfod ar 18 Hydref 2022 a chynhelir y cyfarfod nesaf ddechrau mis Rhagfyr.

Nod Hirdymor 4: Bydd Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Amcan 4: Byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau. (Mesurir drwy ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru).

Cynnydd

Mae Fforwm Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau wedi’i gynnull ac wedi cynnal ei bedwar cyfarfod cyntaf. Mae’r grŵp yn dwyn ynghyd randdeiliaid sy’n gweithio ar faterion cydraddoldeb rhwng y rhywiau ledled Cymru ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i bennu rhaglen waith y grŵp ar gyfer y 12 mis nesaf.

Mae’r Cynllun Gweithredu Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn defnyddio’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Chwarae Teg, Gwneud nid Dweud adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod gweledigaeth newydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru yn galw am ddull prif ffrydio cydraddoldeb sy’n cynnwys cyllidebu ar sail rhyw fel elfen hanfodol.

Mae dau gynllun peilot newydd ar gyfer cyllidebu ar sail rhyw ar waith. Bydd y cynlluniau peilot Gwarant i Bobl Ifanc a Theithio Llesol yn ategu canfyddiadau cychwynnol y cynllun peilot Cyfrif Dysgu Personol a gynhaliwyd yn flaenorol. Yn ogystal, cafwyd adroddiad ar gynllun peilot prif ffrydio cydraddoldeb, dan arweiniad Dr Alison Parken, ddiwedd mis Medi.   

Sicrhau bod y Cynllun yn cael ei roi ar waith yn gyflym yw ein blaenoriaeth a byddwn yn gweithio gyda’r is-grŵp Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau i wneud hyn ac i adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Roedd adroddiad Chwarae Teg Cyflwr y Genedl 2022 yn tynnu sylw at gynnydd addawol mewn cysylltiad â chyflogaeth, arweinyddiaeth a chynrychiolaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf y llecynnau hyn o addewid, mae adroddiad eleni hefyd yn dangos faint o waith sydd eto i’w wneud. 

Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer rhagor o rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant a’r rheini sydd ar gyrion gwaith. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn rhoi rhagor o ddewis i rieni, yn enwedig menywod, a’i gwneud hi’n haws cael teulu a gyrfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyrff yn y sector cyhoeddus i ddileu’r bwlch cyflog ar gyfer y rhywiau, hil ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Nod Hirdymor 5: Dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth

Amcan 5: Erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin. (Mesurir drwy fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau/erledigaeth).

Cynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, i ddarparu cymorth cyfrinachol ac eiriolaeth am ddim i bawb sy’n dioddef troseddau casineb, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n caffael darparwr i gyflawni cam nesaf ein hymgyrch cyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, a fydd yn rhedeg tan o leiaf fis Mawrth 2024.

Mae’r ystadegau cenedlaethol ar gyfer Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr, 2021 i 2022 yn dangos cynnydd o 35% yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Nid yw’n sicr i ba raddau y mae’r cynnydd yn deillio o welliannau parhaus mewn cofnodi, ochr yn ochr â’r amrywiaeth o waith i annog dioddefwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau, fel ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru.

Serch hynny, mae unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb yn peri pryder ac yn dangos pam mae angen inni barhau i weithio yn y maes hwn.

Nod Hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

Amcan 6: Erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol. (Mesurir gan fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref).

Cynnydd

Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu wyth tîm ar draws Cymru i ddarparu cymorth rheng flaen i gymunedau, gan gynnwys ymgysylltu mwy uniongyrchol i helpu i fonitro a lleddfu tensiynau, yn ogystal â gwaith codi ymwybyddiaeth parhaus mewn cysylltiad â throseddau casineb.

Rydym wedi comisiynu adolygiad o’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol i helpu i lywio a chyfrannu at ein gwaith yn y maes hwn. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gwblhau eleni. 

Rydym yn datblygu cyfres o Egwyddorion Cydlyniant Cymunedol gyda phartneriaid allweddol gyda’r nod o ganfod diffiniad y cytunir arno ar gyfer cydlyniant cymunedol, a nodau cyffredin i bartneriaid weithio tuag atynt i feithrin a hybu cydlyniant cymunedol.

Mae gwaith y Rhaglen Cydlyniant wedi bod yn hollbwysig yn ein helpu i lunio ymrwymiadau llywodraeth leol i gymryd rhan yn y gwaith o adsefydlu a gwasgaru ceiswyr lloches o Affganistan dros y misoedd diwethaf, yn ogystal â’n hymateb o ran cefnogi ffoaduriaid o Wcráin.

Rydym yn parhau i gymryd rhan yn ein dull gweithredu aml-asiantaeth ‘Tîm Cymru’ i roi croeso cadarnhaol iawn i bobl o Affganistan ac Wcráin yng Nghymru, ac i ddod o hyd i leoliadau cynaliadwy ledled Cymru.

Mae Cymru bellach wedi croesawu tua 700 o bobl o Afghanistan ac mae’r gwaith yn parhau i gynyddu hyn ymhellach. Mae’r ymdrechion i symud teuluoedd o lety pontio dros dro i gartrefi mwy cynaliadwy wedi cael eu heffeithio gan broblemau capasiti yn y Swyddfa Gartref a hefyd ein hangen i sicrhau bod teuluoedd wedi cael y gwaith sgrinio iechyd sydd ei angen arnynt cyn cael eu gwasgaru i rywle arall. Rydym yn obeithiol bod yr oedi hwn yn hen hanes bellach.

Mae Llywodraeth Cymru yn falch bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi camu ymlaen i roi eu cefnogaeth i’r ddau gynllun newydd Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a Chynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan. Dylid hefyd ystyried y cymorth hwn yn y cyd-destun ehangach mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cefnogi Cynllun Adsefydlu Syria yn y gorffennol ac mae llawer wedi parhau i gefnogi’r system lloches dydd ar ôl dydd dros y degawdau diwethaf. 

Cenedl Noddfa yw Cymru byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes yn y tymor byr ac nid oes dwywaith y bydd ein cymunedau yn cael eu cyfoethogi gan eu sgiliau a’u profiadau yn y dyfodol agos iawn.

Rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth am bob agwedd ar fywyd yng Nghymru ar wefan Noddfa Llywodraeth Cymru. Mae hwn ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd.

Mae awdurdodau lleol yn cael manylion pobl sy’n cyrraedd o Wcráin a’u noddwyr drwy’r cynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin er mwyn gallu cynnal archwiliadau eiddo a diogelu, a chynnig gwasanaethau cymorth.

Nod Hirdymor 7: Gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amcan 7: Erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. (Mesurir drwy’r % o unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol).

Cynnydd

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn amlinellu ymrwymiadau i ymgysylltu’n rhagweithiol â Chadeiryddion Byrddau i wella arweinyddiaeth o ran gwrth-hiliaeth ac i dreialu proses casglu data ar gyfer nodweddion cydraddoldeb Cyrff Sector Cyhoeddus a reoleiddir. Rydym yn cynnal digwyddiad i ymgysylltu â Thimau Partneriaeth ynghylch y gofynion i Gadeiryddion ac Aelodau Bwrdd ystyried gosod Amcanion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cafodd y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sy’n sail i’r amcanion hyn, ei lansio ym mis Chwefror 2020.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda gwasanaethau Gwybodaeth a dadansoddi i edrych ar gasglu data demograffig cyfredol gan Fyrddau, a dylid cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2023. Yn 2021 i 2022, roedd 56.4% o benodiadau (ac eithrio ailbenodiadau) yn fenywod, 16.4% yn bobl anabl a 10.9% o gymunedau ethnig lleiafrifol fel data gwaelodlin. Nid yw’r data ar gyfer 2022 i 2023 wedi cael ei gasglu eto i’n galluogi i gymharu data.

Yn 2021, cafodd 13 o Uwch Aelodau Paneli Annibynnol eu recriwtio o bob cwr o Gymru i ymuno â phaneli recriwtio ar gyfer rhai o’r penodiadau cyhoeddus mwyaf arwyddocaol yng Nghymru. Daw’r unigolion o bob cefndir (a nodweddion gwarchodedig).  Mae aelodau wedi rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd (gan gynnwys profiad bywyd) i gyfoethogi ac ychwanegu gwerth at arferion a phrosesau recriwtio teg.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol i hwyluso cyfleoedd mentora a chysgodi i bobl o grwpiau gwarchodedig er mwyn helpu i greu cyflenwad o unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am rôl ar fwrdd.

Roedd yr Uned Cyrff Cyhoeddus wedi caffael cyfres o raglenni hyfforddi a datblygu yn 2021. Mae’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, arferion recriwtio teg a chynefino ar gyfer pobl sy’n awyddus i fod yn Aelodau o Fwrdd ac yn Gadeiryddion, a phobl sydd eisoes yn y rolau hynny.

Mae’r rhaglenni datblygu’n canolbwyntio ar arweinwyr sydd bron yn barod ac arweinwyr cyhoeddus y dyfodol. Maen nhw wedi’u hanelu at unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol a phobl anabl, ac maen nhw wedi denu unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd a nodweddion gwarchodedig. Mae’r cynllun peilot hwn wedi dod i ben ac ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwerthusiad interim i asesu’r effaith.

Nod Hirdymor 8: Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl

Amcan 8: Erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. (Mesurir drwy ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol).

Cynnydd

Yr holl Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru i benodi hyrwyddwyr penodol yn y sefydliad ar gyfer meysydd fel iechyd meddwl a materion iechyd (fel y menopos), gyda’r nod o wella llesiant meddyliol y gweithlu a darparu cymorth pwrpasol i aelodau o staff.

Pob Corff a Noddir i gael Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl hyfforddedig. Mae gan Amgueddfa Cymru dîm ym mhob un o’i safleoedd, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru wyth ar draws eu gweithlu ac mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dri Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ymysg eu 33 aelod o staff.

Yn ogystal â hyn, mae pob Corff a Noddir yn cynnig naill ai hyfforddiant staff ar iechyd meddwl a llesiant neu ddiwrnodau “hyrwyddo”, sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant; mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnig awr lesiant bob wythnos yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Yn ystod cyfarfodydd monitro rheolaidd gyda’r Cyrff a Noddir, bydd swyddogion yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a llesiant staff.

Atodiad 4: cynnydd sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru o ran cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus esboniad o nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r sefydliadau y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt.

Mae’r adran hon yn cyflawni ein dyletswydd i gyhoeddi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb bob pedair blynedd, yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau 2011, gan amlinellu’r cynnydd y mae awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi’i wneud tuag at gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd ar gyfer gweithredu cydlynol.

Mae 'awdurdodau perthnasol yng Nghymru’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010. Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i Ddyletswyddau Cydraddoldeb penodol i Gymru yn unig.

Fe wnaethom wahodd yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru i ddarparu adborth ar eu profiadau wrth weithredu tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn eu sefydliadau, gan gydnabod yr ystod eang o ran maint, adnoddau a natur eu swyddogaethau.

Cawsom gyfradd ymateb dda gydag ymatebion craff o ansawdd uchel gan lawer o sefydliadau. Mae hanner cyntaf yr adroddiad Rhan Dau hwn yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a wnaed gan awdurdodau perthnasol yng Nghymru o ran cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd.

Eleni, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi cynnal ymchwil cydymffurfio a monitro gyda’r nod o wirio cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol a sefydlu a yw Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn cael ei defnyddio i fwrw ymlaen â chamau i wneud Cymru’n wlad fwy cyfartal.

Roedd y meysydd a gafodd eu monitro yn cynnwys:

  • cynyddu amrywiaeth y gweithlu
  • cyflogaeth pobl anabl
  • casglu gwybodaeth am gyflogaeth
  • mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog

Pynciau sy’n benodol i’r sector gan gynnwys:

  • Awdurdodau lleol: camau a gymerwyd i fynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth mewn ysgolion
  • Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau’r GIG: mynediad at wasanaethau iechyd meddwl gan bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig
  • Addysg Uwch: camau a gymerwyd i fynd i’r afael â thrais ar sail hunaniaeth
  • Colegau Addysg Bellach: sut mae colegau’n hyrwyddo amrywiaeth mewn cynlluniau prentisiaeth
  • Gwasanaethau Tân ac Achub: amrywiaeth y gweithlu a mynediad at wybodaeth
  • Llywodraeth Cymru: cynyddu amrywiaeth penodiadau cyhoeddus
  • Cyrff penodol eraill gan gynnwys Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru: sut maent yn defnyddio’r ddyletswydd caffael
  • Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi ei ganfyddiadau ar ei wefan. Felly, er mwyn osgoi dyblygu gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y maes hwn, nid ydym wedi cynnwys disgrifiad cynhwysfawr o’r holl weithgarwch cydymffurfio. Yn hytrach, rydym wedi rhoi trosolwg sy’n tynnu sylw at arferion da neu lle mae angen mwy o gynnydd.

Dylid nodi hefyd bod awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn ddarostyngedig i ofynion adrodd statudol Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru ac, oherwydd hynny, mae’n ofynnol iddynt gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb. Mae gwybodaeth fwy manwl ar gyfer y cyrff hyn ar gael ar eu gwefannau fel arfer.

Sefydliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae gweinidogion Cymru, fel mater o drefn, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswyddau. Mae’r rhain yn cynnwys:

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Byrddau Iechyd Lleol

Ymddiriedolaethau’r GIG

Cynghorau Iechyd Cymuned

Llywodraeth Leol

Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol

Mae 4 partneriaeth ranbarthol neu gyd-bwyllgor Corfforedig, lle mae sefydliadau llywodraeth leol wedi dewis cydweithio er budd pawb.

  • Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru

Er eu bod yn dod o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, nid oes ganddynt wefan eu hunain. Gellir cael gwybodaeth am eu gweithgareddau drwy gysylltu ag awdurdodau lleol perthnasol.

Awdurdodau Tân ac Achub

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Cyrff Addysgol

Awdurdodau Cyhoeddus Eraill

Comisiynwyr Cymru

Prifysgolion Cymru

Sefydliadau Addysg Bellach

Sefydliadau y DU sy’n gwasanaethu Cymru a Lloegr

Sefydliadau trawsffiniol (ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr): awdurdodau trawsffiniol Cymru

Mae nifer o sefydliadau yn y DU yn gweithredu yng Nghymru nad ydynt wedi’u cynnwys yn adroddiad Gweinidogion Cymru gan eu bod yn gweithredu ar lefel y DU.

Cynnydd a chyflawniadau allweddol

Mae cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru wedi arwain at lawer o enghreifftiau cadarnhaol sydd wedi helpu i ddatblygu’r agenda cydraddoldeb yng Nghymru. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau a roddwyd i ni gan Awdurdodau Perthnasol yng Nghymru:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pecyn Monitro Cydraddoldeb

Er mwyn deall anghenion ein cwsmeriaid yn well a hyrwyddo cyfle cyfartal, rydym wedi datblygu Pecyn Monitro Cydraddoldeb ar gyfer staff. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn tynnu sylw at y ffaith y dylai camau fod yn ataliol ac nid yn adweithiol, sy’n golygu bod angen ymdrech weithredol i ganfod a thargedu bylchau mewn cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn y Cyngor i leihau ac atal gwahaniaethu. Mae cael data gwell a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yn allweddol i hyn.

Cafodd y pecyn ei lansio yn ystod haf 2022. Mae’r pecyn yn darparu’r arferion gorau gan Lywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Sifil, y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adborth gan Rwydweithiau Staff RCT, sy’n golygu bod yr opsiynau mor gynrychioladol ag y gallant fod ac maent hefyd yn cael eu cydbwyso er budd y Cyngor.  

Er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r pecyn, cynhaliwyd sesiynau ymwybyddiaeth ac mae pecyn e-ddysgu’n cael ei ddatblygu.

Partneriaeth Cynghorau Balch

Mae Cynghorau Balch yn bartneriaeth o Awdurdodau Lleol sy’n cefnogi cynnwys LGBTQIA+ ar draws y rhanbarth, gan gynyddu amlygrwydd ac undod. Yr aelodau yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Powys, Abertawe, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.  Dros yr haf, fe wnaethom ymgysylltu â’r cyhoedd mewn amrywiol ddigwyddiadau Pride, yn cynnwys; Pride Powys, Pride Rhondda Cynon Taf, Carnifal Pride Pobl Ifanc Rhondda Cynon Taf, Pride Casnewydd a gwnaethom hefyd gymryd rhan yng Ngorymdaith Pride Cymru, lle’r oedd oddeutu 60 o swyddogion, aelodau o’r rhwydwaith staff ac aelodau etholedig yn dangos ymrwymiad unedig i hyrwyddo cydraddoldeb yn y rhanbarth. Mae gan Gynghorau Pride gyfrif Twitter a thudalennau Instagram.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Wild Wellbeing Wanderers (Anabledd)

Profi a rhoi cynnig ar lwybrau cerdded ar gyfer pobl sydd ag anghenion symudedd a hygyrchedd gwahanol. Archwilio sut mae rhannu’r llwybrau hynny fel y gallai rhywun sydd â phroblemau symudedd wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch a oedd y llwybr yn addas i’w alluoedd a’i offer. Sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys cynifer o ddefnyddwyr â phosibl fel rhan o’r broses hon.

Cynhaliwyd 3 digwyddiad ymgynghori i ddechrau â gweithwyr proffesiynol a chyfranogwyr posibl, a gofynnwyd iddynt sut y gallem wneud teithiau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy hygyrch. Un o’r prif themâu a ddaeth yn ôl oedd gwybod ble i fynd a gwybodaeth fanwl am sut beth oedd y daith gerdded. Tynnwyd sylw at hyn hefyd yn adroddiad Profiad i Bawb Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda cherdded yn cael ei sgorio’n uchel fel ‘gweithgaredd sy’n cael ei ffafrio’, ond nodwyd bod materion sy’n ymwneud â hygyrchedd a ‘gwybod ble i fynd’ yn rhwystrau i rai ochr yn ochr â chost parcio ceir a diffyg cyfleusterau toiledau.

Mae’r prosiect hwn wedi ceisio creu atebion i rai o’r rhwystrau hyn. Yn dilyn canllawiau adroddiad ‘Countryside for All’ Ymddiriedolaeth Fieldfare, cysylltodd y swyddog Walkability â Value Independence i ofyn a hoffent fod yn rhan o weithgor i dreialu cyfleoedd cerdded hygyrch. Mae Value Independence yn cynnig gwasanaethau dydd yn lleol i amrywiaeth eang o bobl ag anableddau. Felly, mewn un grŵp gallwn gael adborth amrywiol ar sut y gallwn wneud yn well, sy’n eu gwneud yn bartner delfrydol ar gyfer y prosiect hwn. Mae hefyd yn hanfodol cynnwys pobl ag anableddau yn y gwaith hwn er mwyn sicrhau bod eu barn yn llywio datblygiad gweithgareddau yn y maes hwn. 

Penderfynwyd ar Goedwig Canaston fel safle ar gyfer grŵp cerdded misol oherwydd ei lleoliad gweddol ganolog. Roedd gwaith diweddar a wnaed gan Sustrans a Cyfoeth Naturiol Cymru (ymgynghorai a sefydliad sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r prosiect hwn) i wella llwybrau yn yr ardal hon, ynghyd â mynediad at barcio am ddim, hefyd yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol.  Roedd y posibilrwydd o ddarparu llwybrau sy’n addas ar gyfer gwahanol alluoedd hefyd yn golygu bod Coedwig Canaston yn lleoliad delfrydol ar gyfer rhaglen gerdded hygyrch. Mewn cynhadledd ddiweddar ar Hygyrchedd Parciau Cenedlaethol yng Nghanada, tynnwyd sylw at yr angen i wahanol ddefnyddwyr mewn grŵp gael dewis o lwybrau ar gyfer galluoedd amrywiol i fwynhau ardal gyda’i gilydd. Roedd toiledau hefyd yn rhwystr ac rydym wedi prynu ‘porta loo’ anabl gyda phabell i’w ddefnyddio ar y safle.

Roedd cyfarpar i gael mynediad at deithiau cerdded hefyd yn rhwystr, felly mae gennym feiciau mynydd tair olwyn, ffyn cerdded a ffrâm cerdded sy’n troi’n gadair olwyn ar y safle. Mae gennym hefyd amrywiaeth o esgidiau a chotiau glaw ar gyfer tywydd gwlyb.

Eleni, cyflwynwyd rhaglen o deithiau cerdded gan y swyddog Walkability gyda chefnogaeth cydweithwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol a gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol o grwpiau rhanddeiliaid. 

Fel rhan o’r sesiynau Wild, Wellbeing Wanderers ac wrth fynd am dro darganfod bob mis rydym wedi bod yn treialu’r defnydd o Phototrails (Hafan (phototrails.org), ap ffôn symudol sy’n graddio disgyniad ac esgyniad llwybrau ac yn graddio arwyneb y llwybrau. Mae’n hawdd defnyddio Phototrails i greu mapiau digidol ar gyfer llwybrau er gwaethaf rhai rhwystrau pan fydd y signal yn diflannu). 

Grwpiau cerdded yn dathlu pen-blwydd y parc cenedlaethol yn 70 oed gyda thaith gerdded a the parti mewn coetir gwyllt

Cerdded â Chymorth: Walkability a Gorllewin Cymru Cerdded er budd lles (Anabledd, Gofalwyr ac Oedran)

Mae Walkability yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyfleoedd cerdded yn y Parc, cymryd rhan mewn teithiau gerdded a magu hyder. Mae’n darparu cyfleoedd i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn, pobl sydd â symudedd cyfyngedig, pobl sydd ag anghenion corfforol neu ddysgu a phobl sy’n gwella ar ôl salwch neu anaf. Mae hefyd yn hyfforddi pobl sy’n dymuno arwain teithiau cerdded. Mae prosiect Cerdded er budd lles Gorllewin Cymru yn brosiect partneriaeth rhanbarthol a ariennir gan gronfa Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r Awdurdod yn gweithredu fel arweinydd prosiect gyda phartneriaid rhanbarthol gan gynnwys Ceredigion Actif/ Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda a Snowdrop Independent Living yn Hwlffordd. Mae dull cydweithredol rhanbarthol yn ganolog i gyflawni’r prosiect. Nod y prosiect yw datblygu a chyflwyno rhaglen o gyfleoedd ‘cerdded er budd lles’ yng Ngorllewin Cymru sy’n seiliedig ar y gymuned, yn gynaliadwy, yn arddel model presgripsiynu cymdeithasol ac yn ceisio cysylltu â gofal iechyd sylfaenol ar lefel leol.

Er gwaethaf effaith COVID-19, roedd 6,971 o gyfranogwyr rhwng 2016 a 2017 a 2021 a 2022. Cynhaliwyd 71 o sesiynau Walkability rhwng 2021 a 2022. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau agored Walkability a sesiynau a ddarparwyd ar gyfer Value Independence, VC Gallery, prosiect Gwella o’r Gwraidd a MIND, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro ac Exercise Referral North. Mae Walkability hefyd yn darparu teithiau cerdded llesiant sy’n cefnogi pobl â dementia.

Dyma adborth gan gyfranogwyr ar effaith cymryd rhan yn Walkability:

  • “Rydw i wedi bod yn cerdded gyda’n grŵp ers blynyddoedd. Dechreuais ar ôl cael problemau iechyd a gofal domestig. Rydw i wedi magu hyder, iechyd da a hapusrwydd mewn grŵp o ffrindiau ac arweinwyr da.”
  •  “Fel defnyddiwr cadair olwyn, mae defnyddio beic mynydd tair olwyn yn ffordd wych o weld bywyd gwyllt. Pethau sy’n tyfu ar garreg ein drws, mae’n deimlad gwych gallu cymryd rhan yn y teithiau awyr agored hyn.”
  • “Ar ôl cyrraedd pwynt isel yn fy mywyd, fe wnes i benderfynu ymuno â’r teithiau hamdden bob pythefnos. Rydw i wedi gwella fy lefelau ffitrwydd a chwrdd â ffrindiau gydol oes, mae gen i agwedd gadarnhaol ac, er fy mod i bron yn 82 oed, rydw i’n teimlo fel person newydd.”
  • “Rydw i wir yn mwynhau’r grŵp Walkability, mae’n fuddiol i fy iechyd corfforol a meddyliol, rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn edrych ymlaen gymaint at fynd am dro gyda’n gilydd.”
  • “Mae’r teithiau cerdded yn ffordd dda o gadw’n iach a dal ati i symud. Mae’n ffordd wych o ryngweithio â phobl eraill. Rydw i hefyd wedi darganfod llawer o lefydd newydd yn Sir Benfro nad oeddwn i’n gwybod eu bod yn bodoli”
  • “Mae awyr iach a chwmni da yn gwneud gymaint o les i fy iechyd meddwl.”

Roedd COVID-19 wedi effeithio ar brosiect Cerdded er budd lles Gorllewin Cymru, ond wrth i reoliadau COVID-19 gael eu llacio, roedd y prosiect yn gallu ehangu nifer y cyfleoedd cerdded oedd ar gael drwy ei raglen ac mae bellach yn cynnal rhaglen lawn o deithiau cerdded. Mae’r prosiect wedi adrodd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan Gysylltwyr Cymunedol a rhai practisau meddygon wrth i nifer y teithiau cerdded a gynigir gynyddu. Hyd at fis Mawrth 2022, roedd y prosiect Cerdded er budd lles wedi cynnal 662 o deithiau cerdded ar draws y tair sir mewn amrywiaeth o leoliadau. Cymerodd 4,061 o gerddwyr ran (cyfanswm presenoldeb ar yr holl deithiau a gynhaliwyd gan y prosiect), ynghyd â 2,627 arall a gymerodd ran yn rhaglen gerdded rithiol y prosiect.

Mae Walkability a Phrosiect Cerdded er budd lles Gorllewin Cymru yn cael eu cefnogi gan arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol ac ni fyddai nifer y teithiau cerdded sydd ar gael yn bosibl heb gefnogaeth y gwirfoddolwyr hyn.

Cyfleoedd gwirfoddoli gyda chefnogaeth a chynyddu mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli (Anabledd)

Gall pobl wynebu amrywiaeth o rwystrau rhag cael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys trafnidiaeth, angen cymorth ychwanegol, diffyg hyder neu addasiadau rhesymol.

Nod y prosiect Llwybrau yw helpu mwy o bobl i dreulio amser yn yr awyr agored drwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a dysgu yn y Parc Cenedlaethol a’r ardal gyfagos. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i gael gwared ar rai o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl sydd eisiau mynd allan ac archwilio cefn gwlad lleol ac mae’n darparu trafnidiaeth ar gyfer llawer o’i weithgareddau. Mae gwirfoddolwyr Llwybrau yn mynd i’r afael â thasgau ymarferol sy’n amrywio o drwsio llwybrau troed, plannu gwrychoedd, glaswelltir a rheoli coetiroedd, yn ogystal â phrosiectau cadwraeth eraill yn Sir Benfro a’r cyffiniau. Mae rhai cyfranogwyr yn dod gyda’u gweithwyr cefnogi. Mae’r prosiect yn gyfle i fanteisio ar rolau gwirfoddoli eraill yn yr Awdurdod. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i wirfoddolwyr sydd heb anghenion cymorth ychwanegol gymysgu a chefnogi’r rheini sydd ag anghenion cefnogi, yn enwedig gwirfoddolwyr sydd wedi ymgymryd â rolau arweinydd gwirfoddol.

Cynhaliwyd diwrnod gwerthuso ym mis Medi a dyma oedd gan y cyfranogwyr i'w ddweud ar gyfer y cwestiwn a oedd yn canolbwyntio ar y newid mwyaf arwyddocaol yn eu bywyd, diolch i Lwybrau:

  • mae wedi ehangu’n sylweddol yr amrywiaeth o bobl rydw i’n cyfathrebu â nhw a’r adnoddau sydd gen i i wneud hynny
  • rydw i’n teimlo’n fwy ffit ac iach ac yn llai pryderus. Rydw i’n cysgu’n well a dydw i ddim yn teimlo mor isel
  • ymdeimlad o foddhad
  • bodlonrwydd a Llesiant
  • archwilio fe wnes i ddod o hyd i neidr!
  • cyfle i fynd allan a chyfarfod pobl
  • cyfeillgarwch gwneud ffrindiau newydd
  • dysgu defnyddio strimiwr
  • rydyn ni wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi ymweld ag amrywiaeth o lefydd
  • mae wedi helpu i ddarparu ffocws ar ôl ymddeol
  • gwybodaeth a dysgu

Ar ben hynny, mae’r Awdurdod wedi cefnogi dau gyfranogwr sy’n gyn-filwyr i wirfoddoli fel arweinwyr teithiau cerdded drwy Walkability gan weithio gydag VC Gallery. Mae un yn defnyddio cadair olwyn ac yn defnyddio beic mynydd tair olwyn ar gyfer gwirfoddoli. Fel arweinwyr gwirfoddol teithiau, maent yn helpu gyda’n grŵp cerdded Wild Wellbeing Wanderers a’n grwpiau Walkability. Mae’r ddau yn dweud faint mae’r teithiau cerdded a gwirfoddoli wedi bod o fudd iddynt.  

Mae Mentoriaid Gwirfoddol hefyd yn cael eu datblygu drwy’r prosiect Gwella o’r Gwraidd gyda Mind Sir Benfro. Maent yn cefnogi cyfranogwyr a gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal o hybiau’r prosiect. Erbyn diwedd 2021 i 2022, roedd gan y prosiect 6 mentor gwirfoddol hyfforddedig.

Mae Castell Henllys hefyd yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer cyfranogwyr o Value Independence ar y safle, lle maent yn gwirfoddoli i greu cynefinoedd a chynnal a chadw llystyfiant.

Y 1,000 diwrnod cyntaf (Oedran Blynyddoedd Cynnar)

Mae plant yn treulio mwy o amser y tu mewn, gydag adroddiadau bod plant wedi ‘datgysylltu â natur’. Gwelir y diffyg cysylltiad ymysg plant mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn cael ei weld fel amser pwysig, lle mae anghydraddoldebau a allai fod gyda’r plentyn am weddill ei oes yn cael eu gwreiddio mewn profiadau cychwynnol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyfrannu at ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i afael ag anghydraddoldebau yn y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn. Mae plant yn byw mewn ffordd sy’n llai gweithgar ac mae hynny’n gallu arwain at broblemau iechyd. Mae hyn yn debygol o gael effaith anghymesur ar blant o gefndiroedd difreintiedig.

Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2022 ac mae’n cael ei gynnal unwaith yr wythnos i gefnogi rhieni a phlant i fynd allan i’r awyr agored. Mae’r prosiect hefyd yn cefnogi grwpiau/lleoliadau chwarae Dechrau’n Deg i ddarparu gweithgareddau awyr agored yn eu lleoliadau ac mae’n galluogi gweithwyr meithrinfeydd i fod yn fwy hyderus wrth dreulio amser yn yr awyr agored yn eu lleoliad. Mae’n cyflwyno rhaglen 10 wythnos sy’n cefnogi teuluoedd yn Noc Penfro.

O ganlyniad i’r prosiect:

  • roedd rhieni a phlant yn ymgysylltu’n well, roeddent mewn sefyllfa well i dreulio amser yn yr awyr agored ac roeddent yn teimlo’n fwy cyfforddus i wneud hynny.
  • roedd rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol mewn lleoliadau cyn-ysgol yn fwy hyderus wrth ddefnyddio mannau awyr agored naturiol i roi profiadau cadarnhaol i blant
  • roeddent yn gwerthfawrogi eu hamgylcheddau lleol a’r cyfleoedd roeddent yn eu cael yn y Parc Cenedlaethol a’r ardal gyfagos
  • roedd plant yn gofalu am fywyd gwyllt a’r byd naturiol
  • roeddent yn gwerthfawrogi’r gwahanol dymhorau
  • roedd plant yn gallu bod yn greadigol gydag adnoddau naturiol
  • roedd plant yn defnyddio eu holl synhwyrau i brofi amgylcheddau newydd
  • roedd yn helpu plant i ddatblygu sgiliau echddygol manwl a bras
  • roeddent yn dysgu sgiliau cymdeithasol

Ar ben hynny, mae Castell Henllys wedi bod yn cynnal Can i Blant Penfro mewn pabell ac mae wedi arwain Wac Natur ar gyfer y grŵp hwn.

Mae Parcmyn yr Awdurdod hefyd wedi darparu cyfleoedd ymgysylltu yn yr awyr agored ar gyfer grwpiau teuluol mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro.

Chwaraeon Cymru

Dull Buddsoddi Newydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Un arwydd o’n hymrwymiad cryf i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw’r sail ar gyfer blaenoriaethu cyllid yn ein Dull Buddsoddi diwygiedig. Gan ddefnyddio data arolygon ar gyfranogiad o arolygon cenedlaethol, mae dyfarniadau cyllid i Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon wedi’u pwysoli o blaid chwaraeon sy’n fwy poblogaidd ymysg grwpiau sydd dan anfantais (merched; amddifadedd economaidd-gymdeithasol; cymunedau ethnig amrywiol a phobl gydag anabledd). Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’r 7 Maes Newid a nodwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ei fod yn dangos sut mae’r ffyrdd o weithio ac amcanion llesiant yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor hir.

Yn yr un modd, bydd cyllid ar gyfer y Partneriaethau Chwaraeon rhanbarthol sy’n cael eu sefydlu yn gweld y rhan fwyaf o’r flaenoriaeth yn canolbwyntio ar: bobl ifanc (0-15 oed); amddifadedd economaidd-gymdeithasol (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru); data cyfrifiad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig; Natur wledig (Dosbarthiad Gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Sefydlu Panel Ieuenctid Chwaraeon Cymru

Sicrhau ‘bod pawb yn mwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes’ a ‘rhoi’r cychwyn gorau i bob person ifanc’ oedd y prif sbardunau ar gyfer sefydlu panel Chwaraeon Cymru yn 2021. Pwrpas y panel yw rhoi llais i bobl ifanc ar draws ein gwaith drwy gysylltu’n uniongyrchol â Bwrdd Chwaraeon Cymru.

Cynhelir y panel bum gwaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys 14 aelod. Mae aelodau’r panel rhwng 14 a 26 oed a chawsant eu recriwtio drwy broses gyfweld gystadleuol. Rydym yn ymrwymo’n gryf i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng rhywedd ar draws y panel. Mae gan y panel presennol lais cynrychioliadol gyda chydbwysedd rhwng sgiliau, profiad, cefndiroedd, ethnigrwydd a rhywedd.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol

Nid yw’r maes hwn wedi cael yr effaith angenrheidiol o’r blaen, ac felly mae Chwaraeon Cymru wedi cynyddu ei bwysigrwydd strategol. Ar ôl cydnabod hyn yn 2020 a sefydlu’r fenter Mynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon yn 2021, rhan allweddol o’i gweithredu oedd darn helaeth o waith ar fuddsoddiad cymunedol gyda chefnogaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, gan arwain at newidiadau sylweddol yn ein dull at gyllid ar lawr gwlad.

Mae angen i ni barhau i gydnabod anghenion croestoriadol cymunedau. Rydym wedi bod yn agored am rai o’n cyfyngiadau blaenorol yn y maes hwn ac wedi cydnabod yr angen i ddatblygu rhwydweithiau cryfach gyda chymunedau ethnig amrywiol.

Rydym wedi cymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â hyn. Mae agweddau hanesyddol ar ein dulliau gweithredu ar gyfer cydweithio wedi cael eu hadolygu ac felly, mae dulliau gweithredu gwahanol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd sy’n cynnwys cymorth gan sefydliadau ymgynghori ac amrywiaeth o bartneriaid sydd â chysylltiadau dibynadwy mewn cymunedau penodol. Rydym hefyd yn adolygu ein systemau a’n prosesau mewnol, gan edrych ar sut gallwn weithio mewn ffordd fwy croestoriadol.

Drwy ymchwilio i gyfleoedd partneriaeth ac ymgysylltu newydd dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi buddsoddi £200,000 drwy ein Cronfeydd Cyfalaf er mwyn i dri Phartner Cenedlaethol gydweithio â ni i’n helpu i ddeall rhwystrau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau gan ganolbwyntio ar hiliaeth ledled Cymru.

Gwaith Chwaraeon Cymru yn cefnogi Nofio am Ddim

Mae Chwaraeon Cymru wedi parhau i gefnogi’r fenter Nofio am Ddim, gan weithio gyda phartneriaid Awdurdodau Lleol i fynd ati i dargedu eu buddsoddiad.

Drwy gydol 2021 a 2022, cafwyd amrywiaeth o gynigion i wneud nofio’n hwyl ac yn ddeniadol i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys uwchsgilio staff a gwneud newidiadau bach i ardaloedd y pyllau.

Er enghraifft, mae Awdurdod Lleol Sir Benfro a Phowys wedi ceisio mynd i’r afael ag amddifadedd gwledig, gan geisio deall y rhwystrau sy’n atal pobl rhag nofio a gweithio gyda chwsmeriaid i oresgyn y rhain. Mae ardaloedd eraill megis Merthyr Tudful a Gwynedd wedi ffurfio partneriaeth â banciau bwyd, cymdeithasau tai a gwasanaethau cymdeithasol i ddatblygu cynlluniau talebau, darparu sesiynau nofio wedi’u targedu a gwersi i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Gwnaed gwaith penodol wedi’i dargedu ar gyfer grwpiau Dan 16 oed a Thros 60 oed hefyd, yn ogystal â sesiynau penodol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, sesiynau sy’n ystyriol o awtistiaeth, sesiynau sy'n ystyriol o ddementia, yn ogystal â sesiynau caeedig a sesiynau i ferched yn unig mewn cymunedau ethnig amrywiol. Mae’r sesiynau penodol hyn wedi cael eu teilwra i ymateb i anghenion amrywiol cymunedau.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Cwblhau a chyflwyno Rhaglen Adolygiadau Etholiadol 2017

Ym mis Mehefin, cwblhaodd y Comisiwn pob un o’r 22 Adolygiad Etholiadol ar gyfer y prif gynghorau yng Nghymru. Un o ganlyniadau allweddol yr adolygiad yw gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer lywodraeth leol effeithiol a hwylus, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (democratiaeth)(Cymru) 2013.

Mae’r Ddeddf yn rhagnodi'r ffactorau y mae'n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried wrth argymell trefniadau etholiadol. Mae’r rhain yn bwysig er mwyn ceisio sicrhau bod y gymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau'r cyngor sydd i'w hethol yr un fath ym mhob ward etholiadol yn y brif ardal, neu cyn agosed ag y bo modd.

Mae argymhellion y Comisiwn wedi effeithio’n gadarnhaol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig gan ei fod yn sicrhau gwelliant mesuradwy o ran cydraddoldeb etholiadol.

Mae’r Comisiwn wedi croesawu ac annog sylwadau gan gymunedau amrywiol wrth ddatblygu ei gynigion. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy gynyddu faint o hysbysebion sy’n cael eu cynnal drwy gyfryngau cymdeithasol a hysbysebion lleol a chenedlaethol eraill.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi datblygu fersiynau hawdd eu deall o’i Argymhellion Terfynol i wella hygyrchedd adroddiadau.

Cymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi cynnydd yn erbyn ei Amcanion Strategol. Dyma ein hadroddiadau mwyaf diweddar: Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Cymwysterau Cymru 2021 ac Adroddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cymru 2021 i 2022. Dyma rai uchafbwyntiau:

Dyfarniadau 2020 a 2021

Roedd yr heriau o ran dyfarnu cymwysterau yn ystod COVID yn dangos pwysigrwydd dilyn tair elfen Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Cafodd arholiadau haf 2020 a 2021 eu canslo a bu’n rhaid i ni ddatblygu trefniadau eraill ar gyfer dyfarnu TGAU, lefel AS, lefel A a chymwysterau eraill.

Mae’r adroddiadau sydd wedi’u hatodi uchod yn amlinellu sut gwnaethom hyn, gan ddefnyddio ein hasesiadau effaith integredig i nodi materion ac ystyried y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.

Ni all trefniadau asesu cymwysterau ddileu anghydraddoldebau, ac mae’n bosibl bod dysgwyr difreintiedig wedi dioddef mwy oherwydd tarfu ar ddysgu na grwpiau eraill.

Fe wnaethom geisio datblygu trefniadau eraill nad oedd yn rhoi’r dysgwyr hyn dan anfantais bellach.

Drwy wneud asesiadau’n hyblyg, roedd ysgolion a cholegau yn gallu dyfarnu yn erbyn yr hyn a ddysgwyd yn unig, a gallai dysgwyr a oedd yn ynysu gwblhau’r rhain o gartref. Roeddem hefyd wedi sicrhau bod ymgeiswyr preifat, a oedd yn fwy tebygol o fod â nodweddion gwarchodedig, yn cael cyfleoedd i gael eu hasesu.

Roeddem wedi rhannu ein dull gweithredu â’r cyrff hynny sy’n cynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig er mwyn parhau i feithrin cysylltiadau da. Wrth ddyfarnu, fe wnaethom fonitro cydymffurfiad CBAC â’n gofynion, gan roi sylw penodol i’r arweiniad a’r hyfforddiant a gynigir i athrawon ar ragfarn ddiarwybod.

Ar ôl gorffen dyfarnu, fe wnaethom gyhoeddi dadansoddiad cydraddoldeb o’r canlyniadau i’w defnyddio gan y system addysg ehangach.

Ymgysylltu â dysgwyr

Nid yw pobl ifanc bob amser yn cael llais. Yn 2021, fe wnaethom sefydlu sianeli i ddeall eu safbwyntiau a’u hanghenion yn well.

Sefydlwyd Grŵp Cynghori Dysgwyr o 18 o bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed. Mae aelodau’n grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc sydd ag amrywiaeth eang ac amrywiol o brofiadau a nodweddion, gan gynrychioli'r ddemograffeg genedlaethol ledled Cymru cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol. Cyfarfu’r grŵp naw gwaith yn 2021 i 2022 ac ymunodd y Gweinidog Addysg â nhw.

Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp dysgwyr Galwedigaethol/Dysgu Seiliedig ar Waith i glywed gan grŵp gwahanol o ddysgwyr am weithgarwch adolygu a diwygio cymwysterau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant ac addysg alwedigaethol ôl-16.

Datblygu Potensial

Er mwyn sicrhau bod ein Bwrdd yn elwa o leisiau amrywiol, rydym wedi penodi Pennaeth o gefndir ethnig fel cynghorydd Bwrdd.

Yn ystod 2021, gwnaethom hefyd gefnogi prosiect ‘Llwybr at Aelodaeth Bwrdd’ yr ymddiriedolaeth tai drwy fentora’r garfan o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a rhoi’r cyfle i arsylwi cyfarfodydd y Bwrdd.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein Cynllun Gwrth-hiliaeth ym mis Rhagfyr 2022. Yn ystod 2023, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu cyffredinol ar gyfer cynhwysiant ac yn datblygu amcanion diwygiedig ar gyfer 2024 ymlaen.

Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre

Cael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon parch at bob dinesydd. Dileu’r gwaharddiad ar ddynion hoyw rhag rhoi gwaed

Ar 14 Mehefin 2021 (Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd a dechrau Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed), newidiodd rheolau’r DU ynghylch rhoi gwaed, gan ganiatáu i fwy o bobl nag erioed o’r blaen fod yn gymwys i roi gwaed, gan gynnwys pobl o gymuned MSM. Roedd Dr Stuart Blackmore o WBS yn rhan flaenllaw o’r ymchwil a arweiniodd at y newid hwn.

Cyn y newid yn y rheolau rhoi gwaed, fe wnaethom gyhoeddi’r newidiadau drwy ddatganiadau i’r cyfryngau a gafodd eu dosbarthu i sefydliadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a grwpiau LGBT+. Cafodd y cyhoeddiad ei rannu drwy gyfryngau newyddion cenedlaethol fel ITV, y BBC ac S4C. Darparwyd gwybodaeth fanwl hefyd drwy sianeli WBS fel tudalennau gwe pwrpasol, cwestiynau cyffredin a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar ddiwrnod y lansiad, trefnwyd sesiwn rhoi gwaed yn cynnwys cwpl o MSM, gwryw MSM a rhoddwr gwaed rheolaidd, a Phrif Weinidog Cymru. Roedd ITV a’r BBC yno’n ffilmio ar y diwrnod a chafodd datganiadau i'r wasg eu hanfon yn gyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Wales247 a mwy. Cafodd cyhoeddiadau eu gwneud ar y diwrnod drwy sianeli cymdeithasol WBS a oedd yn cynnwys dyfyniadau gan y rhoddwyr a’r Prif Weinidog.

Ar ôl y lansiad, parhaodd Gwasanaeth Gwaed Cymru i hyrwyddo rheol newydd dros gyfnod o 16 wythnos (un cylch llawn i roddwyr) drwy negeseuon SMS a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, bu Dr Stuart Blackmore o CBS Cymru yn cynrychioli’r Gwasanaeth mewn sesiwn Holi ac Ateb a gynhaliwyd gan Pride Cymru ar gyfer y gymuned LGBT+. Cynhaliwyd adolygiad llawn i ddadansoddi llwyddiant yr ymgyrch yn ystod Wythnos Genedlaethol y Rhoddwyr Gwaed. Cyrhaeddwyd dros 235,000 o gyfrifon yn ystod yr wythnos.

O ganlyniad i’r newid hwn, nid ydym bellach yn gofyn i roddwyr am eu rhywioldeb. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd mesur nifer yr unigolion a oedd wedi’u heithrio o’r blaen sydd bellach wedi dod yn rhoddwyr. Roedd yr adborth anecdotaidd yn syth ar ôl y newid yn gadarnhaol iawn, ac mae’n parhau’n gadarnhaol.

Meithrin Cysylltiadau Da gyda chanlyniadau clinigol cadarnhaol

Cynyddu amrywiaeth panel rhoddwyr mêr esgyrn

Mae oddeutu 2% o banel Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn cael eu nodi’n bobl o leiafrifoedd ethnig ac adlewyrchir hyn yn y panel rhoddwyr gwaed. Er mwyn cydnabod y tangynrychiolaeth ac annog amrywiaeth ethnig ar y panel rhoddwyr bôn-gell, mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru wedi cyflwyno proses gofrestru ar gyfer y rhai nad ydynt yn rhoi gwaed drwy ddefnyddio swabiau ceg yn hytrach na samplau gwaed. O ganlyniad, gall y gwasanaeth recriwtio o gymunedau nad ydynt yn rhoi gwaed, gan gryfhau gallu Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru i recriwtio rhoddwyr o bob cymuned.

Mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn ymgysylltu’n frwd â chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddeall y rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymuno â’r panel rhoddwyr bôn-gelloedd. Mae hyn yn cynnwys Fforwm Hil Cymru a’r Gynghrair Genedlaethol ar Drawsblannu i Bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.