Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i ddefnyddio’r gydran arall yn LLYW.CYMRU sy’n tynnu sylw at wybodaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i’w defnyddiio

Cyn defnyddio’r gydran, gwnewch yn siŵr bod caniatâd i’w defnyddio gyda’r math o gynnwys ar LLYW.CYMRU sydd gennych dan sylw. 

Defnyddiwch y neges er mwyn:

  • rhoi rhagor o wybodaeth nad yw’n hanfodol i ddeall y cynnwys o’i hamgylch
  • dangos enghreifftiau
  • tynnu sylw at rywbeth sy’n wahanol mewn mannau daearyddol eraill, ee yn yr Alban a Lloegr

Sut i’w defnyddio

Wrth gynnwys negeseuon eraill sy’n tynnu sylw dylech:

  • beidio cynnwys gwybodaeth sy’n hanfodol i ddeall y cynnwys o’i hamgylch
  • eu cadw’n gryno, rhyw 1 neu 2 linell fel arfer
  • peidio defnyddio gormod ohonynt
  • osgoi rhoi nifer o negeseuon yn agos at ei gilydd

Enghreifftiau

Neges yn tynnu sylw at y ffaith fod rhywbeth yn wahanol mewn man daearyddol arall

Mae’r broses ymgeisio yn wahanol os ydych yn fyfyriwr o Loegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.​​​​​