Neidio i'r prif gynnwy

Bydd deddfwriaeth newydd a fydd yn trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi hyn, aeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i Ysgol Penmaes yn Aberhonddu ddydd Llun [22/01/2018]. 


Mae’r ysgol flaengar hon yn darparu addysg arbenigol o safon i ddisgyblion 3-19 oed sydd ag ystod o anawsterau dysgu.


Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Addysg eu tywys o amgylch yr ysgol gan y Pennaeth, Julie Kay. Cawsant gyfle hefyd i siarad â staff a disgyblion i glywed eu barn ar sut y gallai’r Bil hwn eu helpu nhw.


Mae un-ar-ddeg prif amcan i’r ddeddfwriaeth, a chaiff ei hategu gan raglen uchelgeisiol o ddiwygiadau, mesurau, is-ddeddfwriaeth, ynghyd â Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol.


Gan siarad cyn i’r Bil dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, pwysleisiodd y Prif Weinidog pam fod y ddeddfwriaeth mor bwysig:


“Bydd gan bron chwarter o ddysgwyr yng Nghymru ryw fath o angen dysgu ychwanegol yn ystod eu blynyddoedd cynnar neu’n ystod eu haddysg. Bydd y Bil hwn yn creu system sydd â’r disgyblion hyn wrth ei chalon.


“Mae Ysgol Penmaes yn enghraifft wych o ysgol sy’n blaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc ac mae’n bwysig iawn fod y system a’r ddeddfwriaeth sy’n sail i ysgol o’r fath yn parhau i fod yn addas at y diben.


“Bydd y Bil newydd hwn yn cyflwyno ymagwedd newydd - un radical - a fydd yn ysgogi gwelliannau ac a fydd yn codi safonau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth sydd ei angen arno i gyflawni ei botensial llawn. Yn y bôn, mae’n dod â’r fframwaith deddfwriaethol cyfan i mewn i’r unfed ganrif ar hugain, gan ein galluogi ni i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol, a hynny drwy gydol eu taith addysgol.”


Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: 

“Roedd yn wych cael cwrdd â staff a disgyblion Ysgol Penmaes ddydd Llun a gweld sut mae’r ysgol yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i fanteisio i’r eithaf ar eu haddysg.

“Rydym wedi ymgysylltu’n drylwyr ag ystod eang o bobl a grwpiau wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon er mwyn sicrhau ei bod yn ddeddfwriaeth dda – mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i addysg yng Nghymru.


“Mae’r Bil hwn yn cynnwys ystod o amcanion i gryfhau’r system anghenion dysgu ychwanegol ac mae’n canolbwyntio ar bennu’r anghenion cyn gynted â phosib ac yna gweithio gyda’r dysgwyr a’u teuluoedd i lunio’r cymorth sydd ei angen.”


Gan amlinellu sut y byddai’r ddeddfwriaeth yn helpu i gynorthwyo Ysgol Penmaes a’i disgyblion, dywedodd Julie Kay, y Pennaeth: 

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod y system newydd hon yn cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed ac yn eu rhoi wrth galon y system.

“Mae cynnwys dysgwyr yn y gwaith o lunio’u cynlluniau, a gwneud y cynlluniau hynny’n benodol iddynt, yn bwysig iawn; bydd o fudd mawr yn benodol wrth sicrhau bod y broses yn un llyfn a bod y gefnogaeth yn parhau wrth iddynt bontio i ddarpariaeth addysg newydd ac i ddarpariaeth addysg ôl-ysgol.”