Cydsyniad plant a gwasanaethau arbenigol: canllawiau i weithwyr proffesiynol
Gwybodaeth a chanllawiau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth a chyfeirbwyntiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Weithiau, efallai y bydd y plentyn rydych yn gweithio gydag ef yn dymuno cael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol, ond bod ei riant neu ei warcheidwad yn penderfynu peidio â rhoi cydsyniad. Yn aml, gall sgwrs gyda rhiant fod yn ddefnyddiol, er mwyn ei helpu i ddeall beth i'w ddisgwyl, ac yn y pen draw dylai gweithwyr proffesiynol ystyried llais y plentyn bob amser.
Dylai clywed a deall barn y plentyn a'r person ifanc fod yn ganolog bob amser wrth arfer camau diogelu yn effeithiol. Dyma'r ffordd orau i weithwyr proffesiynol ddeall eu profiad a chydnabod eu safbwyntiau a'u barn, gan arwain yn y pen draw at gefnogaeth a chamau diogelu effeithiol.
Bydd y wybodaeth isod yn eich cyfeirio at ganllawiau, gweithdrefnau a deddfwriaeth i'ch cefnogi fel gweithiwr proffesiynol yn ystod y broses o sicrhau cydsyniad i blant a phobl ifanc o fewn eich gwasanaethau.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi bod gan blant yr hawl i wrandawiad ac i gael eu cymryd o ddifrif.
Mae Erthygl 13 o'r Confensiwn yn nodi bod gan blant yr hawl i ddarganfod a rhannu gwybodaeth a dweud beth maen nhw'n ei feddwl (rhyddid gwybodaeth).
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i oedolion a phlant ynglŷn â'r hawliau hyn, a'r hyn sy'n ddisgwyliedig er budd plant a phobl ifanc.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am hawliau plant o safbwynt plentyn 0 i 5 oed.
Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan (sydd ar gael ar-lein neu ar yr ap) yn darparu cyfoeth o wybodaeth am arferion diogelu oedolion a phlant.
Mae adran 2 o'r Ddyletswydd i adrodd am blentyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod a/neu niwed yn tynnu sylw at rôl ymarferwyr wrth geisio cydsyniad gan rieni ac ymgysylltu â phlant yn ystod y cyfnod hwn. Mae hefyd yn darparu arweiniad wrth ymgysylltu â phlentyn heb i'r rhiant neu'r gofalwr wybod neu heb ei gydsyniad.
Ffurflenni cydsynio Cymru Gyfan y GIG
Mae GIG Cymru yn darparu ffurflenni cydsynio i glinigwyr yn GIG Cymru er mwyn cael cydsyniad go iawn ar sail gwybodaeth. Mae canllawiau ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol, sy'n darparu gwybodaeth am yr amgylchiadau lle gall plant o dan 16 oed roi cydsyniad drostynt eu hunain.
Mae taflen ar gael hefyd i blant a phobl ifanc i'w hysbysu am eu hawliau o ran rhoi cydsyniad mewn gofal iechyd.
Cymhwysedd Gillick a chanllawiau Fraser
Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) wybodaeth ddefnyddiol ar gymhwysedd Gillick a chanllawiau Fraser sy'n helpu pobl sy'n gweithio gyda phlant i weithredu'r gofyniad i wrando ar ddymuniadau'r plentyn gan sicrhau eu diogelwch ar yr un pryd.
Mae'r NSPCC yn tynnu sylw at y ffaith bod cymhwysedd Gillick yn bennaf berthnasol i gyngor meddygol, ond ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ymarferwyr mewn lleoliadau eraill. Er enghraifft, os yw plentyn neu berson ifanc:
- am gael cymorth therapiwtig, ond nad yw am i'w rieni neu ei ofalwyr wybod amdano
- yn ceisio cefnogaeth gyfrinachol ar gyfer ei gamddefnydd o sylweddau
- â dymuniadau cryf o ran ei drefniadau byw yn y dyfodol sydd o bosibl yn gwrthdaro â safbwyntiau ei rieni neu ei ofalwyr
Galluedd meddyliol
Mewn rhai amgylchiadau, efallai yr amherir ar allu person i gydsynio dros dro, er enghraifft drwy feddwdod, blinder, profiad acíwt o drawma neu drwy salwch neu anaf. Pan deimlir bod amhariad dros dro yn effeithio ar allu person i gydsynio drosto'i hun, dylid gohirio'r broses o wneud penderfyniad os yw'n bosibl. Os nad yw aros yn bosibl oherwydd argyfwng meddygol er enghraifft, dylid gofyn am gydsyniad y person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu, os yw dros 16 oed, gan ddefnyddio egwyddorion budd gorau yn unol â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae NICE hefyd yn darparu canllawiau pellach ar wneud penderfyniadau a galluedd meddyliol.
Canllawiau gan gyrff proffesiynol
Efallai y bydd modd ichi hefyd gael gafael ar ganllawiau gan gyrff proffesiynol - er enghraifft, y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Cymru neu Arolygiaeth Iechyd Cymru.
Os byddwch ar unrhyw adeg yn ansicr sut i ymateb i ymholiad ynghylch cydsyniad plant ar sail gwybodaeth mewn perthynas â'ch gwasanaethau, dylech drafod gydag arweinydd diogelu eich sefydliad er mwyn deall eich cyfrifoldebau.
