Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog wedi cyflwyno manylion y cytundeb a wnaed gyda Kirsty Williams pan ymunodd gyda’r llywodraeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyrau rhwng y Prif Weinidog a Kirsty Williams, cytunodd y ddau i gydweithio er mwyn symud ymlaen â nifer o gynigion uchelgeisiol a blaengar. Ymhlith y blaenoriaethau mae’r canlynol:

  • Mwy o nyrsys mewn mwy o leoliadau, drwy gyfraith estynedig ar lefelau staffio nyrsys
  • 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol
  • Cyflwyno model dai newydd ‘Rhentu i Berchnogi’
  • Cefnogi amaethyddiaeth Cymru drwy gyflwyno cynllun grantiau bychain
  • Rhoi terfyn ar gamwahaniaethu ar sail iechyd meddwl
  • Ystyried argymhellion Adolygiad Diamond, gyda’r nod o’i roi ar waith yn fuan, lle bo’n briodol
  • Cyllid i sefydlu isafswm ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol.

Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae Kirsty Williams hefyd wedi cael y dasg o leihau maint dosbarthiadau babanod, ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion a chodi safonau dysgu.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r Llywodraeth hon yn un agored, cynhwysol a thryloyw, sy’n gweithio gydag eraill er lles Cymru. Fel aelod gwerthfawr o’r Llywodraeth, bydd Kirsty yn chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ynghylch trywydd y Llywodraeth hon.

“Mae gan Kirsty swyddogaeth bwysig yn datblygu cwricwlwm o’r radd flaenaf a chodi safonau ar draws y proffesiwn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Kirsty i barhau i wella sector addysg Cymru.”

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n fraint cael fy mhenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Dyma gyfle anhygoel i lunio’r ffordd rydyn ni’n addysgu’n plant drwy ddatblygu cwricwlwm o’r radd flaenaf a chodi safonau a disgwyliadau. I’r rhai ohonom sy’n rhannu gweledigaeth flaengar i’n gwlad, addysg yw’r ffordd i symud Cymru ymlaen.

“Fe fyddaf yn cydweithio gyda gweddill y Cabinet er mwyn gweld ein hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion yn cynhyrchu bobl ifanc cymwys a brwdfrydig, er lles cymdeithas gyfan, gan arwain at economi cryfach a gwell.”