Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd: gan defnyddio RPW ar lein i wneud cais
Canllawiau cam wrth gam ar sut i wneud cais am Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd.
Ar y dudalen hon
Nodiadau pwysig
Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i lenwi ceisiadau am grantiau bach ar gyfer:
- Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd
- Seilwaith Bach
- Cyfalaf yr Amgylchedd
- Cynefin Dros Dro
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno eich cais yn unol â'r amseroedd yn y canllawiau ar gyfer pob categori.
Problemau gyda'r cais
Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Os ydych chi'n cael problemau neu'n methu cael mynediad at eich cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid lle mae staff wrth law i roi gwybodaeth ac ateb ymholiadau.
Gallwch ddefnyddio'r dudalen "Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein i anfon ymholiad at y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Neu, gallwch ffonio 0300 062 5004 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 4pm).
Cael gafael ar y cais
Os ydych wedi gwneud cais am Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), mae'r cais ar gael drwy'r Dangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS sydd wedi'i leoli yn y gwymplen Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar eich hafan RPW Ar-lein.
Dewiswch y cais yr hoffech wneud cais amdano a chliciwch parhau a fydd yn mynd â chi i'r dudalen Dechrau Cais. Cliciwch ar y botwm Dechrau i ddechrau’r cais.
Gan ddibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn y byddwch yn gwneud cais, efallai y cewch y dewis i wneud cais ar gyfer y flwyddyn ariannol hon neu ar gyfer blwyddyn ariannol yn y dyfodol. Ar ôl i chi gyrraedd y dudalen Dechrau cais bydd y sgrin yn dangos y 2 ddewis sydd ar gael i chi y gallwch eu dewis. Cyfeiriwch at y canllawiau ar wahân ar gyfer pob categori i gael rhagor o wybodaeth.
Os nad ydych wedi gwneud cais ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS, mae'r cais ar gael o dan y rhestr Ffurflenni ar eich Hafan RPW Ar-lein.
Pan fyddwch chi'n clicio ar y ffurflen, bydd yn mynd â chi i'r dudalen Dechrau cais. Cliciwch ar y botwm Dechrau i ddechrau’r cais.
Nodwch, os ydych wedi dechrau cais o'r blaen ac wedi cadw'ch cynnydd heb ei gyflwyno, bydd y botwm yn newid i "Parhau â'r Cais". Os ydych yn parhau â chais, bydd y system yn cynnig y dewis i chi barhau o ble gwnaethoch chi stopio o'r blaen neu ddechrau eto. Os ydych am ddechrau eto, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Os oes gennych gais drafft pan gyrhaeddir y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am flwyddyn ariannol, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'r cais hwnnw a byddwch yn gweld neges yn cadarnhau hyn ac yn cael eich tywys i'r dudalen dechrau eto lle mae'n rhaid i chi ddechrau eich cais eto ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd eich cais blaenorol yn cael ei ddileu.
Trosolwg a llywio’r cais
Bydd y cais yn dangos eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) yng nghornel chwith uchaf y dudalen.
Mae ochr chwith y sgrin yn dangos y tudalennau sydd ar gael yn y cais. Bydd y dudalen sy’n weithredol ar hyn o bryd wedi'i hamlygu mewn glas. Gallwch glicio ar dudalen i symud yn uniongyrchol i'r dudalen honno neu glicio'r botymau "Nesaf" / "Blaenorol" i symud rhwng tudalennau. Bydd tudalennau sy'n gofyn am fewnbynnu data yn cael eu marcio â chroes goch neu dic gwyrdd. Mae'r groes goch yn dynodi mewnbwn anghyflawn ar y dudalen honno, tra bod tic gwyrdd yn dynodi bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i mewnbynnu'n llwyddiannus.
Dangosir nifer o fotymau ar y sgrin i helpu gyda llywio'r cais fel a ganlyn:
- "Cymorth" os oes angen cymorth i lenwi'r ffurflen
- "Argraffu" i argraffu copi o'r ffurflen yn ei chyflwr presennol
- "Cymraeg"/"Saesneg" i newid rhwng ieithoedd
- "Cadw" i gadw eich cynnydd cyfredol
- "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf yn y rhestr
- "Blaenorol" i symud i'r dudalen flaenorol yn y rhestr
- "Gadael" i gadw a gadael y ffurflen
Tudalen cyflwyniad
Mae'r dudalen "Cyflwyniad" yn crynhoi gwybodaeth allweddol y cais rydych chi'n ei gyflwyno. Rhowch sylw arbennig i'r negeseuon allweddol yn y maes hwn gan y gallant newid o gategori i gategori. Cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.
Tudalen hysbysiad preifatrwydd
Mae’r dudalen "hysbysiad preifatrwydd" yn amlinellu sut rydym yn trin data personol sy'n ymwneud â cheisiadau am grant a cheisiadau am gyllid. Mae'n esbonio sut rydym yn prosesu gwybodaeth a gyflwynir ar gyfer cymhwysedd, atal twyll, a gwirio hunaniaeth. Mae hefyd yn manylu ar sut y gellir rhannu data gydag awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau atal twyll, cyfnodau cadw ar gyfer gwybodaeth bersonol, a hawliau unigolion o dan gyfreithiau diogelu data. Ar ôl darllen, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.
Tudalen cymhwysedd
Bydd y dudalen hon ond yn ymddangos os ydych chi'n gwneud cais fel cwsmer nad yw'n rhan o'r SFS. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r cwestiynau cymhwysedd.
Tudalen Gweithredoedd/Eitemau
Mae'r dudalen hon yn caniatáu i chi ddewis neu ychwanegu gweithredoedd ac eitemau sydd ar gael o dan y categorïau rydych yn gwneud cais amdanynt.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ddewis neu ychwanegu'r eitemau yr hoffech wneud cais amdanynt. Cyfeiriwch at ganllawiau cyffredinol a chanllawiau technegol y categori unigol i gael rhagor o wybodaeth am yr eitemau.
Cyflwyniad: gwallau, gwybodaeth a chrynodeb
Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r data rydych wedi'i roi yn eich cais. Bydd unrhyw wallau a geir yn y data yn cael eu rhestru ar frig y dudalen hon a bydd lleoliad y gwallau hynny yn cael ei nodi yn y ddewislen gyda chroes goch yn erbyn pob tudalen. Rhaid i chi gywiro unrhyw wallau cyn y gallwch gyflwyno'r cais.
Efallai y bydd negeseuon gwybodaeth ar y dudalen hon. Mae'r rhain i'ch atgoffa am unrhyw gamau y gallai fod angen ichi eu cymryd, ond nid ydynt yn eich rhwystro rhag cyflwyno’ch cais.
Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl ddata a fewnbynnwyd yn gywir, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen "Datganiadau ac Ymrwymiadau".
Cyflwyniad: datganiadau ac ymrwymiadau
Mae'r dudalen hon yn rhestru'r datganiadau a'r ymrwymiadau y mae'n rhaid i chi gytuno iddynt wrth wneud cais. Darllenwch y dudalen hon yn drylwyr i gadarnhau eich dealltwriaeth o'r canllawiau, cydymffurfiaeth â gofynion y categori, yr angen i gadw dogfennau, a'r gofyniad i gydweithredu ag unrhyw arolygiadau sydd eu hangen. Rydych hefyd yn gwarantu bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir.
Ticiwch y blwch ar y gwaelod sydd wedi'i labelu "Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r Datganiadau ac Ymrwymiadau uchod" a chliciwch ar "Nesaf" i symud ymlaen i'r dudalen gyflwyno.
Noder, os nad ydych yn cytuno â'r datganiadau a'r ymrwymiadau, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch cais.
Cyflwyniad: cyflwyno
Mae’ch cais bellach yn barod i'w gyflwyno. Cliciwch y botwm "Cyflwyno". Os oes angen cyflwyno dogfennau ategol yn y cam ymgeisio, gallwch wneud hyn drwy glicio ar y botwm Cyflwyno Dogfennau ar y sgrin nesaf ar ôl i chi glicio Cyflwyno. Cyfeiriwch at y canllawiau categori unigol i gael rhagor o wybodaeth am y gofynion o ran y dogfennau ategol.
Ar ôl ei gyflwyno, bydd dogfen gryno sy'n cynnwys manylion yr wybodaeth a gyflwynwyd yn cael ei hychwanegu at eich adran negeseuon.
