Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 18 Medi 2024
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bennaeth y Staff a chymdeithion y bwrdd. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr o ACC yn bresennol.
- Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Mai 2024) yn gofnod cywir o’r trafodaethau. Roedd holl weithredoedd y pwyllgor bellach ar gau.
- Roedd cynllun cyswllt y bwrdd bellach wedi cyrraedd diwedd ei flwyddyn gyntaf. Roedd Laura Kent wedi penderfynu peidio â pharhau oherwydd ymrwymiadau eraill. Roedd Neil Mukerji wedi cael adolygiad perfformiad cadarnhaol gan y cadeirydd, felly penderfynodd y bwrdd barhau â'i benodiad am flwyddyn arall.
- Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau ffurfiol, ond nododd y Prif Weithredwr ei fod wedi cymeradwyo llyfr yn gyhoeddus yn ddiweddar, un a ysgrifennwyd gan unigolyn a oedd wedi ymgymryd â gwaith dadansoddi ieithyddol ar ran ACC.
D24-03-01: Neil Mukerji i barhau fel Cydymaith y Bwrdd am ail flwyddyn, tan fis Medi 2025.
Trafodaeth y Bwrdd
Diweddariad ar yr Ardoll Ymwelwyr a’r Comisiwn Cyllideb
Adroddiadau
Adroddiad Cyllid ac ARAC
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Roedd yr archwiliad terfynol wedi'i gwblhau, a chadarnhaodd Archwilio Cymru eu bod yn rhoi barn ddiamwys. Byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon. Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith hwn.
- Cyfarfu'r Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC) i drafod adroddiad terfynol ISA260, ond nodwyd mater o egwyddor, sef y dylai'r Bwrdd/ARAC weld yr Adroddiad Blynyddol terfynol cyn i'r Swyddog Cyfrifyddu gymeradwyo’r cyfrifon yn y dyfodol. Nodwyd nad yw ARAC na'r Bwrdd yn llofnodi nac yn cymeradwyo'r adroddiad, ond byddai'n arfer da, ac yn dda o ran llywodraethiant, pe bai’r pwyllgor yn cefnogi'r Swyddog Cyfrifyddu ac argymell llofnodi’r cyfrifon. Roedd amseriad yr archwiliad terfynol wedi golygu bod camau terfynol o adolygu a llofnodi wedi digwydd yn ad-hoc braidd, felly cytunwyd i ddrafftio barn lefel uchel o'r broses gymeradwyo, gan amlinellu rolau a chyfrifoldebau, er mwyn egluro'r dull o weithredu.
- Mewn sesiwn Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) ddiweddar, soniwyd am ddull newydd a nodwyd gan drysorlys y DU ar gyfer rheoli arferion twyllodrus a llwgr. Nid oedd cynrychiolydd Trysorlys Cymru yn ymwybodol o unrhyw beth newydd i LlC, ond dywedodd y byddai'n edrych eto ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor.
A24-03-02: Yr ysgrifenyddiaeth i ddrafftio a rhannu proses gymeradwyo ar gyfer yr adroddiad blynyddol, gan amlinellu amseru, rolau a chyfrifoldebau.
A24-03-03: Trysorlys Cymru i adrodd yn ôl os fydd gan LlC unrhyw beth newydd o ran rheoli arferion twyllodrus a llwgr.
Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
- Diolchodd y Prif Weithredwr i'r tîm AD am eu gwaith recriwtio dros y 6 mis diwethaf. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd newydd ddechrau ar y broses, gan gynnwys dweud pa mor gefnogol a chroesawgar oedd pawb.
- Yn ail hanner eleni, bydd dros 25% o weithlu ACC ond wedi bod yn eu swyddi am 6 mis. Mae hyn oherwydd y gwaith recriwtio cynnar a wnaed yn fwriadol er mwyn lleihau risgiau gyda’r Ardoll Ymwelwyr (a phrif ffynhonnell y pwysau ariannol), ond rhaid nodi bydd hyn yn newid diwylliannol mawr i'r sefydliad. Bydd blaenoriaethau Tîm Arwain (TA) yn cynnwys y strategaeth weithio hybrid, croesawu pobl newydd, canolbwyntio ar gyflawni, a chynnal diwylliant cadarnhaol ACC.
- Roedd TA hefyd wedi bod yn trafod naratif y cynllun corfforaethol newydd. Nodwyd bod sawl agwedd corfforaethol newydd neu rai wedi'u hadnewyddu yn mynd i ddigwydd yr un pryd: amcanion cynllun corfforaethol, amcanion cydraddoldeb, gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, safonau’r Gymraeg, ac ati, a bod perygl y bydd gormod ohonynt. Rhaid eu crynhoi’n agweddau clir, syml yn y dyfodol.
- Ar gyfer Safonau'r Gymraeg, mae sgyrsiau cadarnhaol wedi’u cael gyda swyddfa'r comisiynydd i drafod uchelgais ACC a'i weithgarwch dros y blynyddoedd diwethaf mewn paratoad ar gyfer cydymffurfio. Bydd eitem yn cael ei ddwyn i agenda’r cyfarfod nesaf i roi mwy o fanylion.
Adroddiad ar berfformiad
Adroddiad SDLG
- Mae'r tîm gweithrediadau bron yn llawn, gyda hyfforddiant ar gyfer staff newydd yn mynd rhagddo’n dda, gwaith a gafodd ei oedi yn cael ei ailgychwyn drachefn, a fforymau treth yn cael sylw eto. Mae caffael adnoddau yn parhau i fod yn broblem y tu hwnt i weithrediadau fodd bynnag, yn enwedig yn y timau DDaTh. Gobeithio y gwelir gwelliannau yn y flwyddyn newydd.
- Mae'r gofynion y system AD newydd wedi'u mapio ac mae gwaith caffael ar y gweill. Mae disgwyl iddo gael ei weithredu erbyn canol mis Mawrth. Gweithrediad pecyn safonol fydd hwn, a dim ond amser fydd ei angen gan adnoddau HR, ac mae’r amser hwn eisoes wedi'i ffactora yn y cynllun adnoddau cyffredinol. Bydd y Grŵp Dylunio Technegol yn adolygu'r cynigion o safbwynt technegol, ac yn gwneud eu hargymhelliad i SDLG iddynt ei gymeradwyo.
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
Adroddiad Trysorlys Cymru
Cau cyfarfod y Bwrdd
- Rhannodd yr aelodau fyfyrdodau ar drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang, yn bennaf ynghylch rheoli newid mewn amodau ansicr. Roedd y Prif Weithredwr o’r farn bod y trafodaethau risg eu hunain yn teimlo'n fwy cyfforddus, maent yn cael eu trafod yn y cyd-destun cywir ac ar yr adeg iawn. Byddai angen symud ffocws at barhad busnes yn awr, ac at gynllunio olyniaeth yn benodol oherwydd bod sawl pwynt methiant unigol o fewn y sefydliad.
- Roedd aelod anweithredol wedi cael ei wahodd i gynhadledd dreth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD), lle trafodir cydsyniad dibynnol. Cytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y diwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf.
- Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 23 Hydref 2024.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
