Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
  • Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan y Pennaeth Cyfathrebu. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
  2. Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Medi 2024) yn gofnod cywir o’r trafodaethau. Roedd holl gamau gweithredu’r pwyllgor bellach ar gau.
  3. Roedd y Prif Weithredwr wedi penodi Dave Matthews i'r bwrdd fel aelod gweithredol. Diolchodd yr holl aelodau i Dave am ei fewnbwn a'i gyfraniad parhaus.
  4. Nodwyd y byddai diwrnod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod â'r cyfarfod adrodd chwarterol nesaf, felly cytunodd yr aelodau i newid dyddiad y cyfarfod adrodd chwarterol nesaf i 20 Chwefror 2025.

Adroddiadau

Adroddiad ar berfformiad

Wedi'i olygu

Adroddiad Cyllid ac ARAC

Wedi'i olygu

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu

  1. Cafwyd sgyrsiau cadarnhaol ac agored yn Tîm Arwain (TA) ynghylch strwythur ACC a sut bydd y newid sydd o'n blaenau yn cael ei reoli, a chydnabuwyd rhai o’r meysydd anodd sydd ar y gorwel.
  2. Bydd angen amser ac ymdrech i reoli rhanddeiliaid newydd, ac nid yn unig yn allanol gyda set newydd o gwsmeriaid (Awdurdodau Lleol ac ati), ond rhaid sicrhau y cynhelir y cysylltiadau rhwng ein pobl – cynnal y llwybrau cyfathrebu wrth i ni symud at wasanaethau, cyllideb, a'r newid cyffredinol a gaiff effaith anochel.
  3. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG 

Rhannodd y Prif Swyddog Gweithredu ddiweddariad cryno gan y Grŵp Cyflenwi Gwasanaethau. Mae'r grŵp wedi cymeradwyo’r system AD newydd, a bydd y contract yn cael ei ddyfarnu a’r gwaith yn dechrau yn fuan. 

Adroddiad Trysorlys Cymru 

Wedi'i olygu

Trafodaeth y Bwrdd

Safonau’r Gymraeg

  1. Mae ACC wedi gwneud cynnydd da ar draws y tair egwyddor Gymraeg sydd ganddynt: cwrteisi, tyfu a hybu. Mae'r dull o adeiladu gallu yn fewnol ac o hyrwyddo a chefnogi ei gwsmeriaid wedi gweithio'n dda. Mae ACC yn adran o Lywodraeth Cymru a bu’n sefydliad dwyieithog o'r cychwyn cyntaf, sy’n golygu y bydd mwy o ddisgwyliad i gydymffurfio â'r safonau, ond mae dyhead mewnol hefyd i hyrwyddo'r Gymraeg ac i barhau i ehangu dysgu Cymraeg.
  2. Rhoddodd arweinydd y Gymraeg grynodeb o'r gwaith a wnaed ar yr egwyddorion yn ddiweddar. Mae’r gweithgareddau hyn a’r gwaith o ymgorffori'r diwylliant dros y blynyddoedd diwethaf wedi caniatáu I ACC symud tuag at y safonau mewn ffordd fwy naturiol, sy’n’ teimlo’n llai na ‘dim ond’ yn cydymffurfio. Mae rhai sydd newydd ymuno wedi dweud bod cydbwysedd braf, ac nid ydynt wedi teimlo dan bwysau i ddysgu/datblygu.
  3. Wedi'i olygu
  4. Diolchodd y bwrdd i arweinydd y Gymraeg am eu holl waith cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf o ran ymgorffori'r egwyddorion hyn ar draws ACC.

Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol

  1. Rhannodd y pennaeth strategaeth a pholisi y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol newydd (2025–28). Cafwyd sgyrsiau gyda'n pobl a'n partneriaid allanol: Trysorlys Cymru, comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a chynrychiolwyr undebau llafur.
  2. Wedi'i olygu

Map Ffordd yr Ardoll Ymwelwyr

Wedi'i olygu

Cau’r cyfarfod

  1. Soniodd yr aelodau am drafodaethau'r dydd, a oedd yn cynnwys trafod gofynion y sefydliad, a'r gofyniad posibl i wneud mwy. Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn parhau i beri sawl ffactor risg, o ran yr amgylchedd newydd a disgwyliadau'r cyhoedd, felly mae angen adeiladu gwydnwch drwyddi draw. Gall hyd yn oed newidiadau bychain i ragdybiaethau a dibyniaethau'r Ardoll Ymwelwyr gael effeithiau mawr, yn ariannol, o ran darpariaeth gwasanaethau, ac ar ein henw da.
  2. Rhaid canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol hefyd – mae’r Ardoll Ymwelwyr yn rhoi cyfle i ACC ddod at ei gilydd a pharatoi. Mae'r profiad hwn o ddechrau rhywbeth newydd sbon yn sicrhau bod gennym sylfaen o gydweithio a diwylliant cadarnhaol.
  3. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2024.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.