Neidio i'r prif gynnwy

Members

Ruth Glazzard, Cadeirydd
Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr (Dros Dro)
Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
Mary Champion, Aelod Anweithredol
Jim Scopes, Aelod Anweithredol 
Rheon Tomos, Aelod Anweithredol

Agor y Cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedyddion o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
  2. Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Mawrth 2024) yn gofnodion cywir o’r trafodaethau.
  3. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd ar gyfer ail hanner y cyfarfod, a chadeiriwyd gan y Dirprwy bryd hynny. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan gydymaith y bwrdd ar gyfer ail hanner y cyfarfod.

Adroddiadau

Adroddiad ar Berfformiad

  1. Hwn fyddai’r adroddiad olaf ar sail y dangosyddion cyfredol, gan y bydd ACC yn canolbwyntio ar ddangosyddion newydd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol (CP) newydd. Dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol blaenorol mae'r dangosyddion wedi gwella yn gyffredinol.
  2. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG

  1. Rhannodd cadeirydd newydd y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG) eu myfyrdodau ar y chwarter diwethaf. 
  2. Wedi'i olygu
  3. O ystyried y strwythur llywodraethiant mewnol newydd, roedd yr SDLG newydd, gyda'i gylch gwaith newydd, wedi cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mai. Trafodwyd dulliau gweithio’r grŵp, a chynhelir gweithdy ym mis Mehefin er mwyn llunio’u cofrestr risg – i asesu pa risgiau sy'n newydd, pa rai sy'n cael eu hetifeddu a'u cadw o fewn y grŵp, a pha rai sy'n cael eu dirprwyo/uwchgyfeirio.
  4. Bydd fformatau adrodd newydd ar gyfer yr SDLG, y Grŵp Arwain Cyflawni Corfforaethol (CDLG), a Tîm Arwain (TA) yn cael eu datblygu ar gyfer cyfarfod adrodd nesaf y bwrdd. 

Cyllid ac Adroddiad y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Wedi'i olygu

Adroddiad y Prif Weithredwr

Wedi'i olygu

Adroddiad Trysorlys Cymru

Wedi'i olygu

Trafodaeth y Bwrdd

Safonau’r Gymraeg

  1. Ym mis Chwefror, pasiwyd diwygiadau i reoliadau Safonau'r Gymraeg yn y Senedd. Cynhaliodd swyddfa'r Comisiynydd ddigwyddiad ddiwedd mis Mawrth, ac roedd ACC yn bresennol. Roedd yn fuddiol cael dod i adnabod unigolion er mwyn dod i ddeall y disgwyliadau ar y ddwy ochr, yn ogystal â rhannu arfer da gyda’r sefydliadau eraill sy'n dod o dan y safonau ar yr un pryd.
  2. Mae ACC wedi cael holiadur a fydd yn llywio eu hysbysiad cydymffurfio drafft (i'w gyflwyno ym mis Mehefin). Mae'r drafft hwn wedi'i rannu gydag arweinwyr tîm er mwyn ceisio’u barn. 
  3. Rhannwyd yr amserlen ddangosol ar gyfer dod yn ddarostyngedig i’r safonau hefyd. Disgwylir i'r hysbysiad cydymffurfio terfynol gyrraedd ym mis Tachwedd, ac y bydd ACC yn cydymffurfio'n ffurfiol ym mis Mai 2026.
  4. Rhannwyd crynodeb o’r gweithgarwch o fewn y sefydliad hefyd, e.e. pa sgiliau Cymraeg y mae ACC eu hangen, sut mae ymgorffori'r strategaeth ymhellach, a thrafodaethau ynghylch gweledigaeth hirdymor ACC.

Aelod Staff Etholedig (SEM)

Cyflwynwyd yr amserlen, y broses ethol, a'r argymhellion arfaethedig i'r bwrdd, a chymeradwywyd pob argymhelliad gan yr aelodau anweithredol. Cytunwyd na ddylai enwebiadau fod yn ddi-enw (am y rhesymau a nodir yn y papur), ac na fyddai 'SEM amgen' yn cael ei gynnwys yn y dull yn y dyfodol; dylai pob aelod o staff gael cyfle cyfartal i ymgeisio pryd bynnag fo swydd yn wag.

Cau’r Cyfarfod

  1. Rhannodd yr aelodau eu meddyliau ar drafodaethau'r dydd, a oedd yn cynnwys myfyrio ar gau chwarter olaf y flwyddyn ariannol, ac edrych ymlaen tuag at bennod newydd yn hanes ACC: gyda chynllun corfforaethol newydd, mesurau newydd, a gwaith Rhaglen Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol yn cyd-fynd â’r amserlen, mae ymdeimlad o hyder ar drothwy’r newidiadau hyn.
  2. Nodwyd pwysigrwydd ymgysylltu â’n rhanddeiliaid presennol a rhai newydd o bosibl, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn deall Ein Dull. Mae diwylliant y sefydliad yn dal i fod yn gryf – mae hyn yn gryfder ac yn sylfaen cadarnhaol i adeiladu arno.
  3. Gofynnwyd a fydd y rhagolwg yn cynnwys cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn galendr dreigl lawn.
  4. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 24 Mehefin.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.