Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 22 Tachwedd 2023
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2023
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
- Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Darparu Gwasanaethau
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, ac ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Drysorlys Cymru (TC), a chyflwynwyr ac arsylwyr o ACC.
- Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol (Medi '23) fel cofnod cywir, gydag un mân welliant i baragraff 2.14.
- O ran camau gweithredu pwyllgorau, cadarnhawyd bod camau gweithredu BEA23-10 wedi'i gwblhau ac y gellid ei gau Byddai cam newydd yn codi o BEA23-11 yn cael ei gynnwys ac i’r aelod staff etholedig fynychu sesiynau yn ôl yr angen. Byddai BEA23-08 yn parhau ar agor nes bod dyddiad wedi'i drefnu.
- Byddai'r penderfyniad a wnaed y tu allan i'r pwyllgor, yn ymwneud ag archwaeth risg, yn cael ei ddiweddaru pan adolygir y datganiad archwaeth risg nesaf, sy’n debygol o fod yn chwarter olaf 24-25.
- Roedd aelod anweithredol wedi mynychu gweminar i Gadeiryddion Cyhoeddus ar Reoli Risg Effeithiol a Rheoli Perfformiad ar gyfer Byrddau. Yn seiliedig ar y cyflwyniadau a'r trafodaethau, cadarnhawyd bod dull rheoli risg ACC, a'r gwelliannau a gynlluniwyd, yn dda o'i gymharu ag arfer da. Cafodd ymarfer ACC i gynnwys timau mewn 'gwirio synnwyr archwaeth risg corfforaethol' hefyd ei ganmol yn fawr. Byddai sleidiau o'r weminar yn cael eu rhannu i'r aelodau.
- Cafwyd diweddariad ar safonau'r Gymraeg. Cadarnhawyd bod ACC yn gorff y Goron; gan fod corff y Goron yn was neu'n asiant i'r Goron, a bod ACC yn cyflawni swyddogaethau ar ei ran, mae felly'n cael ei gynnwys o dan y safonau. Mae SDLG a Tîm Arwain yn adolygu amserlenni, a byddant yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd ar y camau nesaf.
A23-04-01: Aelodau Anweithredol a’r Aelod Staff Etholedig i fynychu gwahanol sesiynau dysgu/gweithgorau ar draws y sefydliad.
A23-04-02: Rheoli sleidiau gweminar risg i'w dosbarthu i aelodau.
Adroddiadau
Adroddiad y Prif Weithredwr
Adroddiad SDLG
- Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau yr adroddiad diweddaraf. Roedd gweithredu datrysiad meddalwedd wrth gefn trydydd parti yn sylweddol, gan y byddai'n lliniaru risg bellach ar y gofrestr gorfforaethol (IMS). Roedd gwaith ar ddilysu aml-ffactor (MFA) ar y gweill gydag ymgysylltiad da. Mae timau'n bwriadu ymweld â chanolfan gyswllt CThEF, er mwyn ymgyfarwyddo â chanolfan brysurach, archwilio unrhyw feddalwedd ddefnyddiol a pharatoi ar gyfer gweithredu ardoll ymwelwyr posibl.
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Mae TA wedi cytuno bod risg gorfforaethol sy'n gysylltiedig â chyflenwi ardoll ymwelwyr yn teimlo'n rhy fuan i ymddangos ar y gofrestr gorfforaethol ar hyn o bryd, ond bydd yn cael ei hystyried yn agosach at sefydliad y bwrdd gweithredu ardoll ymwelwyr.
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth
- Trafododd y pwyllgor ddwy eitem yn eu cyfarfod diweddaraf: penodi'r cyfarwyddwr strategaeth/ gallu a'r drafodaeth barhaus ar gynllunio olyniaeth.
Trysorlys Cymru
Trafodaeth y Bwrdd
Rhanddeiliaid
- Cyflwynwyd rhestr a chategorïau rhanddeiliaid allweddol ACC i'r aelodau. Roedd hyn yn ddefnyddiol i'r bwrdd, er mwyn dechrau meddwl am ddulliau strategol ac adeiladu ar gysylltiadau cyfredol, a lle gallai bylchau rhanddeiliaid posibl fod ar gyfer unrhyw waith yn y dyfodol. Awgrymwyd bod aelodau'n archwilio unrhyw sefydliadau, sectorau neu hyd yn oed fyrddau er mwyn mynd atynt i drafod. Bydd y rhestr hon nawr yn cael ei hadolygu'n rheolaidd mewn cyfarfodydd adrodd chwarterol.
Gwaith Darganfod yr Ardoll Ymwelwyr
- Cyflwynwyd sesiwn friffio er mwyn egluro rôl y bwrdd mewn perthynas â chytundeb Adran 83 ACC a'r prosiect darganfod ardoll ymwelwyr. O dan y trefniant hwn, mae ACC yn cyflawni swyddogaethau ardoll ymwelwyr fel asiant i Weinidogion Cymru, felly mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i fod yn swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac nid ydynt yn swyddogaethau ACC. Fodd bynnag, bydd aelodau bwrdd ACC yn dymuno parhau i ystyried sut mae’r gwaith ardoll ymwelwyr yn effeithio ar gyflawni'r trethi datganoledig presennol, a sut y gall y sefydliad baratoi ar gyfer cyflawni'r dreth newydd hon yn y dyfodol.
- Bydd angen cytundeb tebyg ar waith ar gyfer ACC ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Statudol (CTS), os gofynnir iddo ymgymryd ag unrhyw waith ar gyfer gweithredu CTS, nes bod swyddogaethau'n rhan annatod o'r DCRhT.
A23-04-05: Briff prosiect darganfod ardoll ymwelwyr i'w ddosbarthu i aelodau'r bwrdd.
Myfyrdodau risg a goblygiadau ariannol
Rhoddodd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd a Phennaeth Cyllid grynodeb llafar o'r risg a'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â thrafodaethau'r diwrnod.
Cau’r cyfarfod
- Rhannodd yr aelodau fyfyrdodau ar sut roedd y cyfarfod wedi rhedeg ac roedd yr arsylwyr yn teimlo fod yr eitemau ar yr agenda yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol.
- Byddai'r cyfarfod nesaf, Sgwrs y Bwrdd, yn cael ei gynnal ar 19 Hydref. Bydd y diwrnod strategaeth nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ionawr.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.