Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 6 Mawrth 2025
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
- Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Mukerji, a chan Mary Champion am ail hanner y cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
- Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Tachwedd 2024) yn gofnod cywir o’r trafodaethau. Byddai'r cam gweithredu sy’n ymwneud â hyfforddiant effeithiolrwydd i’r bwrdd yn parhau ar agor nes y bydd Tîm Arwain (TA) yn cwblhau'r broses gaffael.
- Croesawodd y bwrdd Jo Ryder yn ôl fel Pennaeth y Staff. Rhoddodd yr aelodau groeso hefyd i Alex Mason i'w gyfarfod adrodd bwrdd cyntaf fel Prif Swyddog Cyllid.
- Nodwyd mai dyma gyfarfod adrodd olaf Dyfed Alsop, y Prif Weithredwr, cyn iddo ddechrau ar ei swydd newydd gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Diolchodd y bwrdd i Dyfed am arwain ACC ac am y gefnogaeth a roddodd yn ei gyfnod fel Prif Weithredwr. Dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.
- Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar benodi Rebecca Godfrey yn Brif Weithredwr dros dro ddechrau mis Mai. Soniodd aelodau'r bwrdd am yr ymdeimlad o hyder sydd gan ACC wrth wynebu’r dyfodol gyda Rebecca a Tîm Arwain wrth y llyw, a bod hynny yn glod i Dyfed a'r holl waith a wnaeth.
- Cytunodd yr Aelodau Anweithredol y dylai cyfnod Zoe Curry fel Aelod Staff Etholedig (SEM) orffen ar unwaith, a hynny ar gais Zoe ei hun. Diolchodd y bwrdd i Zoe am ei chyfraniad dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Mae’r Swyddfa Breifat wedi dechrau trafod y broses i ethol Aelod Staff Etholedig newydd. Mae Jocelyn Davies wedi cytuno i fod yn Swyddog Etholiadau ar gyfer y broses unwaith eto.
D25-01-01: Mae aelodau anweithredol yn cytuno i'r Aelod Staff Etholedig presennol adael ei swydd ar fwrdd ACC ar unwaith.
Adroddiadau
Adroddiad Cyllid ac ARAC
Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
Adroddiad Trysorlys Cymru
Adroddiad ar berfformiad
Adroddiad SDLG
- Rhannodd y Prif Swyddog Gweithredu ddiweddariad gan y Grŵp Cyflenwi Gwasanaethau. Aeth rhai o'r tîm i ymweld â'r DVLA i gael gwybod sut maen nhw'n cynnal eu gwasanaethau, a bu hynny’n ddefnyddiol iawn.
- Mae proses gwersi a ddysgwyd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn cael ei chynnal er mwyn ymchwilio i'r camddealltwriaeth ac i sefydlu gwell cyfathrebu rhwng timau.
- Mae SDLG yn addasu eu cylch gorchwyl wrth i'r ACC ddod yn sefydliad sy'n seiliedig ar wasanaethau. Mae'r adolygiad llywodraethiant mewnol ar y gweill, a bydd diweddariad yn cael ei roi i'r aelodau.
A25-01-01: Adolygiad llywodraethiant mewnol i'w rannu gyda'r bwrdd.
Trafodaeth y Bwrdd
Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol
- Rhannodd y pennaeth strategaeth a pholisi y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol newydd (2025–28).
- Roedd y mesurau wedi cael eu rhannu â'r bwrdd ar gyfer eu sylwadau. Ail-bwysleisiwyd pa mor bwysig yw i beidio â symud tuag at dargedau sy'n seiliedig ar gynnyrch, a mesur yr hyn sy'n bwysig i'r sefydliad. Byddai’n anodd taro’r cydbwysedd hwn gyda mesur fel cynaliadwyedd, lle ceir mwy o angen i ganolbwyntio ar iechyd y sefydliad. Hefyd, mae rhai agweddau sy'n anoddach i'w mesur mewn metrigau caled, ac mae angen dangosydd naratif.
- Y camau nesaf yw rhannu gyda'r Ysgrifennydd Cabinet Dros Gyllid a’r Gymraeg, ac i ddrafftio'r cyngor Gweinidogol ar gyfer ei gymeradwyo.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth yr Ardoll Ymwelwyr
Cau’r cyfarfod
- Wedi'i olygu
- Bydd ACC yn cael ei gynnwys o dan safonau'r Gymraeg ym mis Ebrill 2025. Bydd y tîm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’r bwrdd.
- Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 26 Mawrth.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
