Cyfarfod Bwrdd Cyflawni’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (NBYW) yng Nghymru: 14 Tachwedd 2025
Agenda a chrynodeb cyfarfod y bwrdd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Ruth Meadows (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru (RM)
- Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ShD)
- Steve Davis, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Penfro (SD)
- Steve Drowley, Cadeirydd, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru (SDr)
- Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol (PG)
- Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru (SL)
- Victoria Allen, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
- Dyfan Evans, Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DE)
- Bethan Langmay, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (BL)
- Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llwybrau Dysgu, Llywodraeth Cymru (JT)
Ymddiheuriadau
- Loren Henry, Prif Weithredwr, Urban Circle
- Catherine Taylor, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd RM aelodau’r Bwrdd i gyfarfod cyntaf y Bwrdd Cyflawni. Cyflwynodd aelodau’r Bwrdd eu hunain, gan nodi eu rolau presennol a’u profiad. Eglurodd RM weledigaeth y Bwrdd a’r rôl hollbwysig fydd iddo wrth ddarpari NBYW i Gymru.
Cefndir datblygiad NBYW
Rhoddodd swyddogion grynodeb o'r cefndir a arweiniodd at argymhelliad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, yn ei adroddiad terfynol ar gyfer Llywodraeth Cymru, i sefydlu NBYW i ddarparu gwell arweinyddiaeth strategol, cefnogi cydlyniant a hwyluso gwaith gyda'r nod o wella ansawdd a chynaliadwyedd gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Adeiladai hyn ar alwadau cynharach, gan gynnwys y rhai gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2016, a glywodd dystiolaeth i gefnogi model cenedlaethol i yrru polisi a chamau gweithredu ym maes gwaith ieuenctid ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, wrth alluogi penderfyniadau lleol i lunio darpariaeth mewn ymateb i anghenion lleol.
Rôl y Bwrdd Cyflawni, Cylch Gorchwyl, a Hysbysiad Preifatrwydd
Cytunodd y Bwrdd ar y Cylch Gorchwyl mewn egwyddor, yn amodol ar fân ddiwygiadau, gan gynnwys ymgorffori arfer da cenedlaethol a rhyngwladol mewn gwaith ieuenctid, yn y Cylch Gorchwyl. Croesawodd yr Aelodau gynigion ar gyfer is-grwpiau thematig 'gorchwyl a gorffen' i ganolbwyntio ar ffrydiau gwaith penodol ac ategu trafodaethau'r Bwrdd, gyda phwyslais ar ymgorffori lleisiau pobl ifanc.
Cadarnhawyd, yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd, y bydd enwau a sefydliadau'r aelodau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru mewn cofnodion a datganiadau ysgrifenedig. Gofynnodd yr aelodau am arweiniad clir ar ba wybodaeth y gellir ei rhannu'n briodol ag eraill y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd.
Camau gweithredu
- Swyddogion i ddiweddaru’r Cylch Gorchwyl i adlewyrchu awgrymiadau’r Bwrdd.
- Yr aelodau i gysylltu â BL gydag unrhyw gwestiynau ynghylch yr Hysbysiad Preifatrwydd.
- Swyddogion i roi arweiniad yn y cyfarfod nesaf ynghylch cyfathrebu â’r sector ehangach.
Rôl a chylch gwaith NBYW
Lluniodd swyddogion ddrafft cychwynnol o ddiben a swyddogaethau arfaethedig yr NBYW. Mae'r rôl a'r cylch gwaith drafft hwn yn nodi y byddai'r NBYW yn canolbwyntio ar ddarparu arweinyddiaeth strategol, uno llais y sector, a hyrwyddo gwaith ieuenctid. Cynigiwyd y byddai'n chwarae rôl allweddol wrth gefnogi cydweithredu rhwng sefydliadau ar draws y sector a thu hwnt, cydlynu gweithgarwch datblygu'r gweithlu a hyfforddi, datblygu ymchwil, gweithredu’n ganolbwynt ar gyfer rhannu arfer gorau, a meithrin arloesedd.
Pwysleisiodd swyddogion mai'r nod oedd i'r NBYW helpu sefydliadau i ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol wrth barchu annibyniaeth leol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau, cynigiwyd na fyddai'r NBYW yn rheoli nac yn arolygu gwasanaethau lleol, nac yn ymgymryd â rolau rheoleiddiol megis cofrestru'r gweithlu neu gymeradwyo cymwysterau, a fyddai'n aros gyda chyrff presennol.
Cynhelir rhagor o ymgysylltu i fireinio’r cynigion hyn mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Bydd swyddogion yn drafftio fersiwn gweithio o’r rôl a’r cylch gwaith i arwain trafodaethau parhaus gyda’r Bwrdd wrth i’r gwaith ddatblygu.
Camau gweithredu
- Swyddogion i lunio dogfen weithio ar swyddogaethau arfaethedig yr NBYW.
Cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid ehangach ar ôl sefydlu NBYW
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar gynllunio ymgysylltu sy'n galluogi pobl ifanc i wneud sylwadau ystyrlon ar faterion diriaethol sy'n ymwneud â sefydlu a gweithredu NBYW, yn ogystal ag osgoi gorlwyth ymgynghori.
Awgrymodd yr aelodau y gellid ymgorffori ymgysylltu cychwynnol â rhanddeiliaid yn y gweithgaredd ymgysylltu presennol neu a gynlluniwyd gyda'r sector gwaith ieuenctid.
Camau gweithredu
- Aelodau’r Bwrdd i hysbysu swyddogion o unrhyw ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid sydd wedi’i gynllunio.
- Swyddogion i gyflwyno cynlluniau ymgysylltu diwygiedig, gan ystyried sylwadau aelodau’r Bwrdd, yn y cyfarfod nesaf.
Trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf
Cynhelir y ddau gyfarfod nesaf ar 8 Ionawr a 25 Chwefror.
