Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Ruth Meadows (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru (RM)
  • Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ShD)
  • Steve Davis, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Penfro (SD)
  • Steve Drowley, Cadeirydd, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru (SDr)
  • Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (PG)
  • Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru (SL)
  • Catherine Taylor, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych (CT)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DE)
  • Victoria Allen, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Bethan Langmay, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (BL)

Ymddiheuriadau

  • Loren Henry, Prif Weithredwr, Cylch Trefol (LH)
  • Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llwybrau Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (JT)

Croeso a gwrthdaro rhwng buddiannau

Croesawodd RM aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau.

Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod y Bwrdd Cyflawni: 25 Chwefror 2026

Cymeradwywyd y cofnodion a’r camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol gan y Bwrdd Cyflawni.

Cam Gweithredu: Swyddogion i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2026 ar wefan Llywodraeth Cymru.

Amserlen sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Dywedodd swyddogion nad yw’r amserlen gyffredinol wedi newid ers y fersiwn a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol. Nododd aelodau’r Bwrdd fod y drefn gyffredinol yn dal yn briodol a bod y cynnydd yn cyd-fynd â cherrig milltir ymgysylltu ac ymgynghori disgwyliedig.

Adborth o drafodaethau aelodau’r Bwrdd Cyflawni â rhanddeiliaid

Rhannodd aelodau’r Bwrdd adborth o drafodaethau â rhanddeiliaid ar draws y sector gwaith ieuenctid, gan adrodd cefnogaeth gyffredinol gref i sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a thynnu sylw at bwysigrwydd negeseuon cyson gan y sector. Hefyd, rhannodd aelodau’r Bwrdd eu barn ar sut i strwythuro ymgysylltu ac ymgynghori pellach ar sefydlu Corff o’r fath.

Llywodraethu ac atebolrwydd

Cyflwynodd swyddogion ystyriaethau allweddol i aelodau’r Bwrdd Cyflawni mewn perthynas â threfniadau llywodraethu ac atebolrwydd Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Roedd aelodau’r Bwrdd yn gryf o blaid pobl ifanc yn chwarae rhan allweddol yn nhrefniadau llywodraethu’r Corff, gyda chymorth priodol yn ei le. Pwysleisiodd aelodau’r Bwrdd bwysigrwydd cyflwyno opsiynau llywodraethu yn glir ac mewn ffordd hygyrch mewn unrhyw ymgynghoriad. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen i sicrhau bod y Corff yn dangos atebolrwydd i’r sector gwaith ieuenctid, ac i Lywodraeth Cymru. Hefyd, tynnodd yr aelodau sylw at werth defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith mewn sefydliadau eraill, gan gynnwys rhai o’r tu allan i Gymru.

Cam Gweithredu: Swyddogion i gasglu’r hyn a ddysgwyd gan sefydliadau eraill i lywio’r gwaith o ddatblygu trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Sefydlu is-grwpiau

Cadarnhaodd swyddogion fod dau is-grŵp gorchwyl a gorffen, â chyfnod penodol, wedi cael eu sefydlu, gyda’r dasg o edrych yn fanylach ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd mewn Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a rôl Corff o’r fath mewn perthynas â chyllid ac adnoddau. Bydd adborth o’r is-grwpiau yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Cyflawni i’w ystyried maes o law.

Ymgynghori ar sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Cynigiodd swyddogion fod yr ymgynghoriad ffurfiol yn gofyn cwestiynau am rôl a chylch gwaith Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, cysondeb â gwaith partneriaid, ac opsiynau ar gyfer trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y Corff.

Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd ymgysylltu’n ystyrlon ac yn gynhwysol â phobl ifanc mewn lleoliadau cyfarwydd y gellir ymddiried ynddynt, gyda dolenni adborth clir yn dangos sut mae eu safbwyntiau wedi dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau. Tynnodd yr aelodau sylw at bwysigrwydd sicrhau bod yr agwedd hon ar yr ymgynghoriad yn adlewyrchu amrywiaeth pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys y rhai o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Cyfeiriwyd at y model ymgysylltu cadarnhaol â phobl ifanc a ddefnyddiwyd mewn ymgyngoriadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru.

Cam Gweithredu: Swyddogion i ddosbarthu drafft wedi’i ddiweddaru o gynigion ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc fel rhan o’r ymgynghoriad ar sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, gan ymgorffori’r hyn a ddysgwyd o ymgyngoriadau blaenorol perthnasol.

Trefniadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

Cadarnhaodd swyddogion y bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Cyflawni yn cael ei gynnal ar 9 Mehefin 2026 mewn fformat hybrid, gyda’r dewis o fod yn bresennol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Unrhyw fater arall

Nododd aelodau’r Bwrdd gynnwys y gofrestr risgiau.