Cyfarfod Bwrdd Cyflawni’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: 25 Chwefror 2026
Agenda a chrynodeb cyfarfod y bwrdd a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Ruth Meadows (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru (RM).
- Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ShD).
- Steve Davis, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Penfro (SD).
- Steve Drowley, Cadeirydd, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru (SDr).
- Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (PG).
- Loren Henry, Prif Weithredwr, Cylch Trefol (LH).
- Catherine Taylor, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych (CT).
- Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llwybrau Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (JT).
- Dyfan Evans, Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DE).
- Bethan Langmay, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (BL).
Ymddiheuriadau
- Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru (SL).
- Victoria Allen, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA).
Croeso a gwrthdaro rhwng buddiannau
Croesawodd JT aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod yn absenoldeb RM ar gyfer rhan gyntaf y cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau.
Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod y Bwrdd Cyflawni: 8 Ionawr 2026
Cymeradwywyd y cofnodion a’r pwyntiau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol gan y Bwrdd Cyflawni.
Cam Gweithredu: Swyddogion i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2026 ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cam Gweithredu: Swyddogion i ddosbarthu manyleb gaffael ddrafft i aelodau’r Bwrdd er mwyn penodi cyflenwr i arwain y gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol ar y Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, ac i wahodd adborth gan aelodau’r Bwrdd drwy e-bost.
Amserlen amlinellol i sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Dywedodd swyddogion nad yw’r amserlen gyffredinol wedi newid ers y fersiwn a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol. Bydd yr amserlen yn cael ei chynnwys fel eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cyflawni yn y dyfodol er mwyn gallu trafod cynnydd yn rheolaidd.
Adborth sydd wedi deillio o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol cyn ymgynghori
Cyflwynodd swyddogion grynodeb o’r adborth a gafwyd o’r cyfarfodydd ymgysylltu cyn ymgynghori a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid allweddol rhwng dechrau mis Ionawr a dechrau mis Chwefror. Roedd y cyfarfodydd cyn ymgynghori yn canolbwyntio ar rôl, swyddogaethau a blaenoriaethau cynnar y Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid; cynhwysiant, ymgysylltiad a lleisiau pobl ifanc; a llywodraethiant, annibyniaeth ac aliniad systemau. Bydd canlyniadau’r cam cyn ymgynghori yn cael eu defnyddio fel sail i'r ymgynghoriad ffurfiol ar sefydlu’r Corff.
Mewn trafodaethau am ganlyniadau’r cyfnod cyn ymgynghori, pwysleisiodd aelodau’r Bwrdd pa mor bwysig yw sicrhau bod trefniadau llywodraethu’r Corff yn adlewyrchu amrywiaeth y sector ac yn cefnogi rôl strategol ac annibynnol y Corff. Cododd aelodau’r Bwrdd yr angen am ragor o eglurder ynghylch modelau cyllido, atebolrwydd a chraffu, yn ogystal â’r rhyngwyneb â Llywodraeth Cymru a’r fframwaith statudol arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid.
Cam Gweithredu: Swyddogion i ddatblygu opsiynau gweithredol a llywodraethiant, gan gynnwys modelau cyllido, i’w hystyried gan y Bwrdd.
Sefydlu is-grwpiau thematig
Cyflwynodd swyddogion gynigion i sefydlu is-grwpiau gorchwyl a gorffen am gyfnod penodol sy’n canolbwyntio ar lywodraethiant ac atebolrwydd, a chyllid ac adnoddau, i gefnogi gwaith y Bwrdd Cyflawni. Cytunwyd y bydd aelod o’r Bwrdd Cyflawni yn ymgymryd â rôl y cadeirydd a’r is-gadeirydd ym mhob un o’r is-grwpiau, ac y bydd aelodaeth yr is-grwpiau’n cael ei phennu drwy ddatganiadau o ddiddordeb a gwahoddiadau wedi’u targedu, gan sicrhau cynrychiolaeth o bob rhan o’r sector gwaith ieuenctid. Cynigiodd swyddogion y dylid sefydlu trydydd is-grŵp a fyddai’n canolbwyntio ar bobl ac adnoddau dynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, wrth i strwythur y Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid ddod yn gliriach.
Trefniadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
Cadarnhaodd swyddogion y bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Cyflawni yn cael ei gynnal ar-lein ar 23 Ebrill 2026. Cytunodd aelodau’r Bwrdd y bydd y cyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ar gyfer 9 Mehefin a 5 Tachwedd 2026 yn cael eu cynnal mewn fformat hybrid.
Unrhyw fater arall
Cyflwynwyd y gofrestr risg gan swyddogion. Nodwyd y cynnwys gan aelodau’r Bwrdd a chroesawyd y defnydd ohono i gefnogi’r gwaith cyflawni a goruchwylio.
