Cyfarfod Bwrdd Cyflawni’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: 8 Ionawr 2026
Agenda a chrynodeb cyfarfod y bwrdd a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Ruth Meadows (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru (RM)
- Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ShD)
- Steve Davis, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Penfro (SD)
- Steve Drowley, Cadeirydd, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru (SDr)
- Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (PG)
- Loren Henry, Prif Weithredwr, Cylch Trefol (LH)
- Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru (SL)
- Catherine Taylor, Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych (CT)
- Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llwybrau Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (JT)
- Dyfan Evans, Pennaeth Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DE)
- Victoria Allen, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
- Bethan Langmay, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (BL)
Croeso a gwrthdaro rhwng buddiannau
Croesawodd RM aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau.oesawodd RM aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau.
Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod y Bwrdd Cyflawni: 14 Tachwedd 2025
Cymeradwyodd y Bwrdd Cyflawni gofnodion a phwyntiau gweithredu’r cyfarfod blaenorol a chadarnhau eu bod yn fodlon â’r Cylch Gorchwyl wedi’i ddiweddaru. Cadarnhaodd RM nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law ynghylch yr Hysbysiad Preifatrwydd a ddosbarthwyd i’r aelodau.
Cam Gweithredu: Swyddogion i drefnu bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2025, a’r Cylch Gorchwyl diweddaraf, yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynllun ymgysylltu diwygiedig
Cyflwynodd swyddogion gynllun ymgysylltu wedi’i ddiweddaru, gan ymgorffori adborth a ddarparwyd gan aelodau yn ystod y cyfarfod blaenorol, gan gynnwys sylwadau ynghylch y risg o ‘syrffedu ar ymgynghori’, yn ogystal â’r dull o ymgysylltu â phobl ifanc.
Mewn trafodaethau ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc, bu’r Bwrdd yn ystyried a ellid comisiynu un sefydliad arweiniol i ddylunio a chydlynu’r gwaith, gyda’r ddarpariaeth yn cael ei llwybro drwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol presennol i sicrhau cyrhaeddiad, cysondeb ac ansawdd. Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd casglu barn amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl ifanc, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn ymgysylltu â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Gwnaethant awgrymu ystyried defnyddio dulliau a ddefnyddir yng Nghymru ar gyfer arolygon ieuenctid ar raddfa fawr fel model posibl ar gyfer cyflawni hyn.
Cam Gweithredu: Swyddogion i gyflwyno’r safbwyntiau a rannwyd ynghylch penodi un sefydliad arweiniol i arwain y gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc i’r cynlluniau ar gyfer y cam ymgynghori ffurfiol.
Cam Gweithredu: Swyddogion i ddiweddaru’r cynllun ymgysylltu i adlewyrchu adborth y Bwrdd a’i rannu drwy e-bost ar gyfer cael sylwadau terfynol yr Aelodau.
Amserlen amlinellol ar gyfer sefydlu’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Cyflwynodd swyddogion amserlen amlinellol yn gweithio tuag at sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Bydd yr amserlen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Cynigiwyd hefyd bod adolygiad o’r amserlen yn cael ei gadw fel eitem sefydlog ar yr agenda ar ddechrau holl gyfarfodydd y Bwrdd fel rhan o drefniadau goruchwylio. Trafododd aelodau’r Bwrdd yr angen i gynnal momentwm wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo. Gofynnodd aelodau’r Bwrdd a ellid cyflwyno’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn gynt. Esboniodd JT, o ystyried y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chyflawni rhywbeth fel hyn, fod yr amserlen eisoes yn eithriadol o uchelgeisiol.
Cam Gweithredu: Swyddogion i adolygu’r amserlen gyflawni ac ystyried a oes cyfleoedd i gyflymu unrhyw gamau gwaith.
Cyfathrebu â’r sector ehangach
Cyflwynodd swyddogion rhywfaint o wybodaeth i gefnogi trafodaethau aelodau gyda rhanddeiliaid ynghylch sefydlu’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Anogwyd aelodau’r Bwrdd i drafod y pynciau hyn â chydweithwyr a rhanddeiliaid ehangach er mwyn helpu i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn y dyfodol. Bydd sesiynau briffio tebyg yn cael eu darparu i aelodau wrth i’r gwaith fynd rhagddo er mwyn helpu i lywio gwaith y Bwrdd yn ogystal â nodi unrhyw wybodaeth sensitif na ddylid ei rhannu y tu allan i gyfarfodydd.
Cam Gweithredu: Swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth i aelodau’r Bwrdd fel y bo’n briodol, er mwyn helpu i barhau i gefnogi trafodaethau.
Trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Cyflawni yn cael ei gynnal ar 25 Chwefror 2026.
Unrhyw fater arall
Cynigiodd swyddogion sefydlu is-grwpiau ‘gorchwyl a gorffen’ i fwrw ymlaen â ffrydiau gwaith lle gallai fod angen archwilio meysydd neu bynciau penodol ymhellach. Awgrymodd aelodau’r Bwrdd y byddai datblygu strwythurau ariannol a threfniadau llywodraethu posibl, gan gynnwys mecanweithiau i alluogi cyfranogiad ystyrlon gan bobl ifanc, yn feysydd defnyddiol i’w harchwilio i ddechrau.
Cam Gweithredu: Swyddogion i ddatblygu cynigion manylach ar sefydlu is-grwpiau i’w hystyried gan y Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.
Adolygodd aelodau’r Bwrdd ddrafft diwygiedig rôl a chylch gwaith y Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, gan nodi ei fod wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu eu hadborth blaenorol. Cynigiodd yr aelodau awgrymiadau i wella’r drafft ymhellach.
Cam Gweithredu: Swyddogion i adolygu’r cylch gwaith a’r rôl ddrafft a dosbarthu fersiwn wedi’i diweddaru i aelodau’r Bwrdd cyn y cyfarfod nesaf.
