Cyfarfod Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, 30 Mehefin 2026: nodiadau’r cyfarfod
30 Mehefin 2026, 10:15am i 12.30pm.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau'r bwrdd
- Amelia John (Cyd-gadeirydd LlC)
- Professor Debbie Foster (Cyd-gadeirydd)
- Natasha Hirst (Dirprwy gadeirydd)
- Brett Bignall
- Andrea Gordon
- Chaz Hampton
- Damian Bridgemen
- Debbie Shaffer
- Joe Powell
Apologies
- Laure Adelaide Betts
- Angharad Price
- Willow Holloway
- Owain Gwilym
Ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru
Swyddogion o'r is-adran cydraddoldeb a hawliau dynol a'r Tîm Cynhwysiant Pobl ag Anableddau. Swyddogion sy'n arwain ar gamau gweithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Gwestai
Sioned Williams MS Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.
Llywodraethiant, aelodaeth a diweddiariadau am y rhaglen
- Gwell cynrychiolaeth o:
- bobl dall a byddar
- pobl ifanc anabl (gan gynnwys y rhai 18 i 24 oed)
- pobl ag anableddau dysgu dwys
- plant anabl, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac arbenigwyr chwarae
- arbenigedd yn ymwneud â chynllunio ar gyfer argyfyngau a newid hinsawdd
- Nododd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau bod cynrychiolaeth yn ymestyn y tu hwnt i'r rhai sy'n gallu cymryd rhan yn uniongyrchol mewn cyfarfodydd a bod mecanweithiau’n cael eu datblygu i gofnodi profiad bywyd ehangach.
- Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod gwaith ar y gweill i ddatblygu proses recriwtio gwbl hygyrch a bod disgwyl i'r recriwtio ddechrau ddiwedd haf 2026.
- Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y berthynas rhwng newid hinsawdd a chynllunio ar gyfer argyfyngau. Esboniodd swyddogion fod y meysydd hyn wedi'u nodi’n flaenorol fel rhai sy'n gofyn am arbenigedd, yn enwedig ynghylch yr effaith anghymesur ar bobl anabl mewn perthynas â’r canlynol:
- parodrwydd ar gyfer pandemig ac argyfyngau iechyd cyhoeddus
- effeithiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd fel prinder dŵr a thymheredd uwch
- cynllunio ymateb brys a chynnwys pobl anabl mewn trefniadau gwydnwch
Diweddariad gweinidogol a'r llywodraeth
Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am weinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru a chadarnhaodd y canlynol:
- Bod Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
- Bod gan gydraddoldeb le amlwg yn y portffolio Gweinidogol newydd.
- Bod y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn llywio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi.
- Disgwylir Rhaglen Lywodraethu newydd yn yr hydref.
Teithio
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i gasglu a diweddaru data ar argaeledd a lleoliad mannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas a'u hintegreiddio i wefannau trafnidiaeth.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Pryderon ynghylch effaith bosibl newidiadau PIP yn y dyfodol ar gymhwysedd Bathodyn Glas.
- Anawsterau wrth gael tystiolaeth ar gyfer ceisiadau Bathodyn Glas yn ôl disgresiwn, yn enwedig lle mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn codi tâl am wybodaeth ategol.
- Pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch am barcio fel rhan o gynllunio teithiau.
- Gallai newidiadau i gymhwysedd PIP gael goblygiadau i gymhwysedd Bathodyn Glas, yn enwedig i unigolion â chyflyrau anweladwy ac amrywiol.
Cyngor a ofynnwyd gan y Bwrdd gan Lywodraeth Cymru
- Sut mae pobl anabl yn cynllunio teithiau ar hyn o bryd?
- A oes apiau, gwefannau neu dechnolegau sy'n cefnogi cynllunio teithiau hygyrch?
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i wella’r ymgysylltiad â phobl anabl wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch a threfniadau goruchwylio.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Cefnogaeth gref i gydgynhyrchu.
- Pryderon ynghylch a yw pobl anabl sy'n ymwneud ag ymgysylltu yn cael eu talu'n briodol.
- Pryderon nad yw Cymru'n cael ei chynrychioli'n ddigonol o fewn strwythurau anabledd trafnidiaeth ledled y DU.
- Cynnig ar gyfer grŵp cynghori ar drafnidiaeth anabledd penodol i Gymru sydd â dylanwad ystyrlon.
- Pobl anabl sy'n ymwneud â strwythurau ymgysylltu yn derbyn tâl priodol.
- Diffyg ymgysylltiad canfyddedig mewn mecanweithiau ymgysylltu â phobl anabl Adran Drafnidiaeth y DU.
- Angen corff cynghori ar drafnidiaeth sy'n canolbwyntio ar anabledd gyda mwy o ddylanwad ac atebolrwydd yng Nghymru.
Cyngor a ofynnwyd gan y Bwrdd gan Lywodraeth Cymru
- A oes bylchau o ran pwy rydym yn clywed oddi wrthynt?
- Sut allwn ni ymgysylltu'n well â grwpiau y gallai eu profiadau fod heb gynrychiolaeth ddigonol?
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau trafnidiaeth yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd a chynhwysol gyda phlant a phobl ifanc anabl a'u rhieni a'u gofalwyr.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Croesawodd yr aelodau'r ffocws ar blant a phobl ifanc anabl ac atgyfnerthodd yr angen am gynrychiolaeth uniongyrchol gan leisiau iau.
Cyngor a ofynnwyd gan y Bwrdd gan Lywodraeth Cymru
- Sut y gellir cefnogi plant a phobl ifanc anabl i gymryd rhan ystyrlon mewn gwaith ymgysylltu’n ymwneud â thrafnidiaeth?
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddi safonol ar gyfer yr holl staff sy'n delio â chwsmeriaid ym maes trafnidiaeth gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, tacsis, cerbydau llogi preifat a meysydd awyr.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Croesawodd yr aelodau’r dull cydgynhyrchu a chydnabod yr ymdrech sylweddol a wnaed i ymgysylltu â phobl anabl wrth ddatblygu’r deunyddiau.
- Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am eu gwaith gyda Sefydliadau Pobl Anabl gan gydnabod yr ymdrech a wnaed i gynnwys pobl anabl drwy gydol y gwaith datblygu.
- Codwyd pryderon parhaus ynghylch y prinder tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ledled Cymru, gan gynnwys anawsterau wrth gael tacsis hygyrch o ganolfannau trafnidiaeth mawr a gorsafoedd rheilffordd.
- Nododd yr aelodau fod hyfforddiant hygyrchedd yn bwysig ond bod yn rhaid iddo fynd law yn llaw â gwelliannau yn argaeledd cerbydau hygyrch.
- Mae monitro a gwerthuso faint o bobl sy'n defnyddio'r ffilmiau hyfforddi ar gyfer tacsis gan awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant a'u heffeithiolrwydd yn parhau i fod yn fater pwysig. Cynghorodd swyddogion trafnidiaeth mai gwerthuso'r ffilmiau yw cam nesaf y gwaith. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant i asesu'r faint sy'n eu defnyddio, a'r cyfleoedd i wella.
- Mae argaeledd tacsis hygyrch i gadeiriau olwyn yn parhau i fod yn bryder, a dylid ystyried pa fesurau pellach a allai gynyddu'r ddarpariaeth ledled Cymru.
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio ar draws y llywodraeth a gyda gweithredwyr trafnidiaeth i sicrhau bod technolegau digidol a chynorthwyol ar gael ac yn hygyrch ar draws dulliau trafnidiaeth i alluogi pobl anabl i gynllunio a gwneud teithiau sy'n diwallu eu hanghenion yn hyderus.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Cefnogaeth gref i un platfform cynllunio taith.
- Yr angen am y canlynol:
- gwybodaeth am darfu a newidiadau i wasanaethau mewn amser real
- gwybodaeth am doiledau hygyrch a chyfleusterau newid
- gwybodaeth am luniaeth a chyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi anghenion meddyginiaeth ac iechyd
- Tynnodd aelodau sylw at rwystrau i dderbyn diweddariadau teithio pan fo gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu ar lafar yn unig.
- Nododd yr Aelodau fod yn rhaid i unrhyw offer digidol yn y dyfodol fod yn hygyrch o'r cychwyn cyntaf a gweithio i ddefnyddwyr dall, defnyddwyr ag amhariad ar eu golwg, defnyddwyr byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion, a defnyddwyr awtistig a niwrowahanol.
- Amlygwyd ap Aubin fel enghraifft o ddylunio offer cynllunio teithiau hygyrch a ddatblygwyd ar gyfer teithwyr awtistig a niwrowahanol.
- Dylai offer cynllunio teithiau gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- toiledau hygyrch
- cyfleusterau lluniaeth
- cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer meddyginiaeth, hydradu a maeth
- Mae hygyrchedd apiau trafnidiaeth ar gyfer defnyddwyr dall a phobl ag amhariad ar eu golwg wedi'i nodi fel ystyriaeth bwysig sy'n gofyn am sicrwydd a phrofion priodol.
- Mae sicrhau bod pobl fyddar yn gallu cael mynediad at wybodaeth amserol a hygyrch pan fydd tarfu ar wasanaethau yn parhau i fod yn fater allweddol sy'n gofyn am sylw parhaus.
Cyngor a ofynnwyd gan y Bwrdd gan Lywodraeth Cymru
- A yw gwybodaeth amser real yn ystod aflonyddwch neu newidiadau i wasanaethau yr un mor bwysig â gwybodaeth sydd ar gael cyn taith?
- Pa mor bwysig yw hi bod gwybodaeth hygyrchedd yn cael ei diweddaru'n gyflym pan fydd gwasanaethau'n newid?
Cam gweithredu
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ein dull Teithio i Bawb a pholisïau trafnidiaeth ehangach a chyllid grant yn ystyried anghenion hygyrchedd pobl anabl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ddibyniaeth arnynt yn aml.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Heriau hygyrchedd parhaus mewn ardaloedd gwledig.
- Angen cynrychiolaeth gryfach o bobl anabl wrth wneud penderfyniadau rhanbarthol ar drafnidiaeth a seilwaith.
- Pwysleisiodd yr aelodau fod yn rhaid ystyried trafnidiaeth hygyrch ochr yn ochr â theithio llesol, croesfannau diogel, cyrbiau isel a'r amgylchedd adeiledig ehangach.
- Mae cynrychiolaeth a chyfranogiad pobl anabl mewn strwythurau cynllunio ac wrth wneud penderfyniadau trafnidiaeth rhanbarthol wedi'i nodi fel ystyriaeth bwysig.
- Mae'r angen i sicrhau bod cynllunio trafnidiaeth yn ystyried hygyrchedd yr amgylchedd adeiledig ehangach wedi'i amlygu fel mater allweddol.
Cyngor a ofynnwyd gan y Bwrdd gan Lywodraeth Cymru
- A oes rhwystrau mewn cymunedau gwledig neu ynysig y dylid rhoi mwy o bwyslais arnynt neu fynd i'r afael â nhw ar frys?
Tai hygyrch a fforddiadwy
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella'r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr, a'u plant wrth ffoi rhag trais.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Mae gwybodaeth a chymorth hygyrch mewn Iaith Arwyddion Prydain yn hanfodol i bobl fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion ac sy'n ffoi rhag trais.
- Gall pobl fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion ddod yn ynysig mewn llety a rennir lle nad oes cymorth cyfathrebu ar gael.
- Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol i helpu i gael mynediad at yr heddlu, banciau, landlordiaid a gwasanaethau eraill lle mae systemau cyfathrebu’n dibynnu ar gyswllt ffôn.
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021, gan gynnwys ei effaith a'i effeithiolrwydd.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Pwysigrwydd sut mae gofynion hygyrchedd yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad.
- Pwysigrwydd sut y bydd y seilwaith cymunedol ehangach yn cael ei adlewyrchu ochr yn ochr â gofynion dylunio tai.
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i barhau i wella hygyrchedd a chyflenwi addasiadau tai a chyflenwi offer mewn ffordd gydlynol.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Angen gwella'r stoc dai bresennol ochr yn ochr â datblygiadau newydd.
- Tynnodd yr Aelodau sylw at bwysigrwydd ystyried:
- cysylltiadau trafnidiaeth
- darpariaeth gofal iechyd
- darpariaeth addysg
- seilwaith cymunedol
- Codwyd cwestiynau ynghylch rhwystrau i berchnogaeth tai a gwahaniaethu wrth roi morgeisi.
- Mae'n hanfodol bod digon o adnoddau ar gael i ateb y galw cynyddol am addasiadau tai.
- Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd polisi tai yn y dyfodol yn cefnogi pobl anabl sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain.
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau tai i helpu i wella'r broses o ledaenu gwybodaeth am dai mwy hygyrch i bobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Diffyg dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain a chyfathrebu hygyrch mewn gwasanaethau tai.
- Pryderon ynghylch gofyn i blant ddehongli ar gyfer rhieni byddar sy'n defnyddio iaith arwyddion.
- Rhwystrau hygyrchedd sy'n gysylltiedig ag eiddo a reolir yn breifat a chwmnïau rheoli, gan gynnwys ardaloedd cymunedol, systemau intercom, materion cynnal a chadw a threfniadau mynediad i adeiladau.
- Mae angen i ddarparwyr tai ragweld anghenion cyfathrebu yn well yn hytrach na gofyn i bobl anabl ofyn am addasiadau dro ar ôl tro.
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr pobl anabl i ddylunio a darparu hyfforddiant i sefydliadau tai.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Gwybodaeth ychwanegol
- Darparwyd gwybodaeth am brosiect "Caffi Anabledd" Tai Pawb, sy'n gweithio gyda thenantiaid anabl i gydgynhyrchu adnoddau, canllawiau a fideos i gefnogi pobl sy'n llywio systemau tai ac addasiadau tai.
- Nod y prosiect yw grymuso tenantiaid anabl, lleihau unigedd a sicrhau bod profiad bywyd yn dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi ac arferion tai.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Pwyntiau a godwyd ynghylch ffocws Caffi Anabledd ar greu adnoddau newydd.
- Hanfodol sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar gyfer cyfranogiad effeithiol pobl anabl mewn prosesau cyd-gynhyrchu.
Cam gweithredu
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i ddeall y rhwystrau penodol i dai, er enghraifft ar gyfer pobl anabl sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Darparwyd adroddiad cynnydd llafar gan Swyddogion, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wahân, fel Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Thema 1 Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Wedi'i godi gan y Bwrdd
- Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd casglu data ystyrlon sy'n gysylltiedig ag anabledd.
- Dylai arolygon tai yn y dyfodol ddefnyddio iaith sy'n cynnwys pobl sy'n wynebu rhwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd, ond nad ydynt o bosibl yn ystyried eu hunain yn bobl anabl.
- Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod arolygon tai yn cofnodi'n gywir brofiadau pobl anabl, gan gynnwys y rhai nad ydynt o bosibl yn ystyried eu hunain yn anabl.
Anerchiad y Dirprwy Brif Weinidog
Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Roedd y blaenoriaethau allweddol a amlygwyd yn cynnwys:
- byw'n annibynnol a hawliau pobl anabl
- gofal plant a chwarae cynhwysol
- cynhwysiant ariannol a hygyrchedd
- ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch PIP ac Adolygiad TIMS
- sicrhau bod cynnydd yn cael ei fesur drwy welliannau diriaethol ym mywydau pobl anabl
Mynegodd y Dirprwy Brif Weinidog gefnogaeth i gynnal ymgysylltiad parhaus â'r Bwrdd Cynghori Allanol.
Tasgau
- Gweithio gyda'r Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl i ystyried a chryfhau cynrychiolaeth pob dall a byddar o fewn trefniadau aelodaeth y Bwrdd Cynghori Allanol. Arwain: Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl.
- Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau ac adborth yn ymwneud â thrafnidiaeth i'w darparu yn dilyn y cyfarfod. Arwain: Swyddogion Trafnidiaeth.
- Sylwadau sgwrsio i'w cynnwys fel atodiad i gofnod y cyfarfod. Arwain: Ysgrifenyddiaeth.
- Trafodaethau dilynol i'w trefnu gydag aelodau a ofynnodd am gyfarfodydd pellach ar faterion trafnidiaeth. Arwain: Tîm Trafnidiaeth.
- Diweddariad ysgrifenedig trwy'r adroddiad cynnydd i'w ddarparu ar gamau gweithredu’r Model Cymdeithasol o Anabledd oherwydd diffyg amser ar yr agenda. Arwain: Ysgrifenyddiaeth y Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl.
- Rhagor o wybodaeth i'w gylchredeg ynglŷn ag aelodau ychwanegol i’r Bwrdd a threfniadau recriwtio. Arwain: Ysgrifenyddiaeth y Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl.
- Cysylltu ag aelodau ynghylch sgiliau, arbenigedd a gofynion cynrychiolaeth ychwanegol ar gyfer recriwtio i’r Bwrdd yn y dyfodol. Arwain: Ysgrifenyddiaeth y Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl.
Camau gweithredu nad ydynt wedi'u trafod yn y cyfarfod
Oherwydd cyfyngiadau amser, gohiriwyd yr eitem ar yr agenda ar gynnydd y camau gweithredu ar y Model Cymdeithasol o Anabledd. Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru y byddai diweddariadau ysgrifenedig ar y camau canlynol yn cael eu dosbarthu i'r aelodau ar ôl y cyfarfod.
Nodyn: Bydd diweddariad ysgrifenedig ar y camau hyn yn cael ei ddosbarthu i'r aelodau trwy'r Adroddiad Cynnydd ar ôl y cyfarfod.
