Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad, amser, lleoliad/platfform

  • 5 Ebrill 2022
  • 09:30 i 11:00

Gweinidog, Cadeirydd ac Is-gadeirydd CP2 Abertawe.

Trwy MS Teams.

Mynychwyr

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Aelodau Bwrdd Cynghori'r Gweinidog Economaidd (BCG)

  • Andrew Campbell (Cadeirydd)
  • Andrea Wayman (Is - Gadeirydd)
  • Emily Cotterill
  • James Davies
  • David D’Souza
  • Miatta Fahnbulleh
  • Peredur Morgan
  • Helen Swift

Llywodraeth Cymru

  • Alex Bevan
  • Andrew Slade
  • Sioned Evans
  • Jason Thomas
  • Andrew Gwatkin
  • Huw Morris
  • Jonathan Price
  • Claire McDonald
  • Gareth Woodhead
  • Justine George
  • Andy Lock
  • Catherine Collins (Ysgrifenyddiaeth)

Ymddiheuriadau

  • Sir Adrian Webb (BCG)
  • Peter Ryland (LC)

Nodiadau a gymerwyd gan:

  • Catherine Collins

Eitemau ar yr agenda

Eitem 1. Cyflwyniad: Y Gweinidog a'r aelodau

Nodiadau:

Croesawodd y Gweinidog y rhai a oedd yn bresennol i'r cyfarfod cyntaf ac ar ôl gwneud cyflwyniadau i'w swyddogion a oedd yn bresennol, gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd eu cyflwyno eu hunain.

Eitem 2. Cylch Gorchwyl ac ymgysylltu: Gweinidog (Papur 2)

Nodiadau:

Trafododd y Bwrdd y cylch gorchwyl a nododd, o ystyried bod yr economi'n fater trawsbynciol i'r llywodraeth, y dylai'r Bwrdd roi cyngor ar faterion y tu hwnt i bortffolio uniongyrchol y Gweinidog, fel y gwelir yn briodol.

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd cyfarfodydd yn y dyfodol ar gael ar sail hybrid i bawb a oedd yn bresennol – gyda lleoliadau ffisegol ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hystyried.

Cytunodd y Bwrdd i roi unrhyw sylwadau pellach i'r ysgrifenyddiaeth.

Gweithredoedd:

  • Swyddfa'r Gweinidog i gadarnhau lleoliad y cyfarfod ar gyfer y cyfarfod nesaf (8 Mehefin)
  • Aelodau BCG i anfon unrhyw sylwadau/ymholiadau pellach ynghylch y cylch gorchwyl at yr ysgrifenyddiaeth.

Eitem 3. Ymarfer papur cyngor: Gweinidog (Papur 3)

Nodiadau:

Trafododd y Gweinidog adroddiad yr Athro Portes a oedd wedi nodi sut mae Cymru'n wynebu her ddemograffig a'r angen i: gadw talent; denu talent; uwchsgilio a pharhau â'r cynnydd mewn cysylltedd.

Gofynnwyd i'r Aelodau gynnal ymarfer y tu allan i'r cyfarfod ar yr amodau allweddol ar gyfer gwneud i fwy o bobl deimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru – a fydd yn ei dro yn helpu mynd i'r afael â'r her ddemograffig.

Byddai canfyddiadau/cyngor cychwynnol yr ymarfer hwnnw yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

Item 4. AOB

Nodiadau:

Nid oedd unrhyw eitemau AOB

Ymadawodd y Gweinidog â'r cyfarfod

Eitem 5. Trafodaeth anffurfiol/torrwr iâ: Cadeirydd (Eitem lafar)

Nodiadau:

Arweiniodd y Cadeirydd drafodaeth ragarweiniol anffurfiol a oedd yn cynnwys ymarferion torrwr iâ.

Eitem 6. Materion ymarferol papur cyngor: Cadeirydd (Eitem lafar)

Nodiadau:

Arweiniodd y Cadeirydd drafodaeth ar yr agweddau ymarferol ar yr ymarfer y tu allan i'r cyfarfod.

Cynigiwyd bod aelodau'r Bwrdd yn ceisio cyfarfod yn bersonol ar gyfer sesiwn syniadau/dyrannu tasgau gychwynnol – ddechrau mis Mai. 

Gan fod tri aelod yn byw yn Llundain, nodwyd y byddai hynny'n lleoliad cyfleus ac yn gyfle i'r aelodau hynny gydweithio - naill ai yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain neu mewn lleoliad arall y cytunwyd arno gan yr aelodau.

Byddai gan weddill yr aelodau yr opsiwn o gyfarfod yn ardal de Cymru fel cyfuniad – naill ai mewn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru neu mewn lleoliad arall y cytunwyd arno gan yr aelodau.

Yn dilyn y sesiynau syniadau, byddai'r aelodau'n cyflwyno canfyddiadau/cyngor cychwynnol i'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth erbyn canol mis Mai, i'w llunio mewn papur ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

Gweithredoedd:

  • WG officials (Secretariat) to seek dates for availability and location preference for the brainstorming sessions from each member and to then organise the sessions.
  • MAB members to commence initial thinking around the out of meeting exercise – ahead of the brainstorming sessions.
  • MAB members to note the mid-late May deadline for submitting initial findings/advice to the Chair, Vice Chair and Secretariat.

Item 7. AOB

Nodiadau:

Cytunwyd i ddosbarthu'r cyflwyniad rhagolygon economaidd a wnaed i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

Gweithredoedd:

  • Yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r cyflwyniad rhagolygon economaidd i holl aelodau'r BCG

Log gweithredu

Gweithred 1

Gweithred: Swyddfa'r Gweinidog i gadarnhau lleoliad y cyfarfod ar gyfer y cyfarfod nesaf (8 Mehefin).

Dyddiad cau: diwedd Ebrill 2022

Gweithred 2

Gweithred: aelodau BCG i anfon unrhyw sylwadau/ymholiadau pellach ynghylch y cylch gorchwyl at yr ysgrifenyddiaeth

Dyddiad cau: diwedd Ebrill 2022

Gweithred 3

Gweithred: swyddogion Llywodraeth Cymru (Ysgrifenyddiaeth) i geisio dyddiadau ar gyfer argaeledd a dewis lleoliad ar gyfer y sesiynau syniadau gan bob aelod ac yna trefnu'r sesiynau.

Dyddiad cau: Cyn gynted â phosibl

Gweithred 4

Gweithred: aelodau BCG i ddechrau meddwl am ymarfer y tu allan i'r cyfarfod – cyn y sesiynau taflu syniadau.

Dyddiad cau: Cyn gynted â phosibl

Gweithred 5

Gweithred: aelodau BCG i nodi'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno canfyddiadau/cyngor cychwynnol i'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth.

Dyddiad cau: canol-diwedd Mai 2022

Action 6

Gweithred: yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r cyflwyniad rhagolygon economaidd i holl aelodau'r BCG

Dyddiad cau: 8 Ebrill 2022