Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad, amser, lleoliad / platfform

8 Mehefin 2022

11:00 i 12:00

CP2 Caerdydd 1 a 2 a thros MS Teams

Mynychwyr

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Aelodau Bwrdd Cynghori Gweinidogol – yn berson

Andrew Campbell (Cadeirydd)
Andrea Wayman (Is-gadeirydd)
Emily Cotterill

Dros Teams

David D’Souza
Miatta Fahnbulleh
Peredur Morgan
Helen Swift
Syr Adrian Webb
James Davies

Llywodraeth Cymru

Alex Bevan
Andrew Slade
Sioned Evans
Jason Thomas
Andrew Gwatkin
Gillian Otlet 
Ian Owen
Huw Morris
Jonathan Price
Claire McDonald
Gareth Woodhead
Justine George
Andy Lock
Catherine Collins (yr Ysgrifenyddiaeth)

Ymddiheuriadau

Peter Ryland

Eitem 1. Cyflwyniad a chamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Nodiadau

Croesawodd y Gweinidog a’r Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau i ddychwelyd eu ffurflenni datgan buddiannau os nad oeddent eisoes wedi gwneud hynny.

Camau

Cynghori’r Gweinidog i wirio a oeddent wedi dychwelyd eu ffurflenni.

Eitem 2. Papur Trafod 1

Nodiadau

Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar y cynnig ar gyfer ystyried y tair blaenoriaeth bennaf yn y papur, y mae modd i’r Bwrdd gael yr effaith fwyaf arnynt. Roedd y rhain fel a ganlyn:

  1. Addysg uwch
  2. Mentergarwch
  3. Brandio

Yn dilyn trafodaeth ynglŷn â’r rhesymeg dros bennu’r blaenoriaethau a sut y gallent gyd-fynd â’r her ddemograffig, cytunwyd bod angen ystyried Gwaith Teg yng nghyd-destun y tri maes hyn hefyd. 

At hynny, nodwyd bod y rhan y mae busnesau / diwydiannau yn ei chwarae ym mhob un yn bwysig, ynghyd ag arloesi, yn enwedig yng nghyd-destun addysg uwch a mentergarwch.

Camau

Y Cadeirydd a swyddogion LlC i gysylltu ag aelodau’r Bwrdd i gadarnhau’r meysydd â blaenoriaeth – gyda’r nod o fireinio ymhellach gwmpas pob un ohonynt.

Nodiadau

Cynigiwyd anfon y pecyn cymorth brandio, a gafodd ei lunio yn 2017, at aelodau’r Bwrdd, a rhoi cyflwyniad ar y gwaith sy’n mynd rhagddo yn ogystal â chynnig cyfle i adnewyddu’r gwerthoedd mae’r gwaith yn eu cwmpasu. Bydd hyn hefyd yn cynnwys dysgu sut mae brandio’n gweithio ar gyfer masnach ryngwladol.

Camau

Anfon y pecyn cymorth brandio at aelodau’r Bwrdd.

Nodiadau

Cynigwyd rhoi cyflwyniad ar fentergarwch a ysgogir gan arloesi hefyd. 

Camau

Cynnwys cyflwyniad ar frandio yn ystod un o gyfarfodydd yr is-grŵp yn y dyfodol.

Nodiadau

Cytunwyd y caiff is-grwpiau o aelodau’r Bwrdd eu nodi er mwyn archwilio’r blaenoriaethau y soniwyd amdanynt yn llawn.

Camau

Trefnu is-grwpiau a phynciau trafod. Cynnwys cyflwyniad ar arloesi / mentergarwch yn ystod un o gyfarfodydd yr is-grŵp yn y dyfodol.

Nodiadau

Cytunwyd y byddai swyddogion yn darparu ymatebion ysgrifenedig i’r aelodau ynglŷn â’r cwestiynau sy’n codi yn y papur er mwyn rhannu gwybodaeth gyflawn am y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ac i osgoi dyblygu gwaith.

Camau

Adrannau i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifenyddiaeth i’w dosbarthu i aelodau’r Bwrdd.

Eitem 3. Unrhyw Fater Arall (UFA)

Nid oedd unrhyw fusnes arall.

Cofnod o gamau

Cam

Aelodau o Fwrdd Cynghori’r Gweinidog i wirio a oeddent wedi dychwelyd eu ffurflenni.

Dyddiad cau

Wedi’i gwblhau.

Cam

Y Cadeirydd a swyddogion LlC i gysylltu ag aelodau’r Bwrdd i gadarnhau’r meysydd â blaenoriaeth – gyda’r nod o fireinio ymhellach gwmpas pob un ohonynt.

Dyddiad cau

Y cadeirydd a swyddogion LlC – wedi’i gwblhau

Cam

Anfon y pecyn cymorth brandio at aelodau’r Bwrdd.

Dyddiad cau

Jason Thomas – wedi’i gwblhau

Cam

Cynnwys cyflwyniad ar frandio yn ystod un o gyfarfodydd yr is-grŵp yn y dyfodol.

Dyddiad cau

Jason Thomas / yr Ysgrifenyddiaeth – wedi’i gwblhau

Cam

Cynnwys cyflwyniad ar arloesi / mentergarwch yn ystod un o gyfarfodydd yr is-grŵp yn y dyfodol.

Dyddiad cau

Duncan Hamer / yr Ysgrifenyddiaeth – wedi’i gwblhau

Cam

Trefnu is-grwpiau a phynciau trafod.

Dyddiad cau

Swyddogion LlC / y Cadeirydd – wedi’i gwblhau.

Cam

Adrannau i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifenyddiaeth i’w dosbarthu i aelodau’r Bwrdd.

Dyddiad cau

Amrywiol / yr Ysgrifenyddiaeth – wedi’i gwblhau.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 08 Hydref 2022