Cyfarfod bwrdd gweithredu strategaeth gwaith ieuenctid: 20 Mawrth 2025
Agenda a chrynodeb o cyfarfod y bwrdd gweithredu strategaeth gwaith ieuenctid 20 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
- Marco Gil-Cervantes (MG)
- Shahinoor Alom (SA)
- Deb Austin (DA)
- David Williams (DW)
- Sian Elen Tomos (ST)
- Lowri Jones (LJ)
- Joanne Sims (JS)
- Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
- Dareth Edwards, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
- Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KH)
- Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (TK)
- Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
- Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr Llwybrau Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (JT)
Ymddiheuriadau
- Simon Stewart (SS)
Gwrthdaro buddiannau
Dim wedi'u datgan.
Cofnodion a chamau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol
Adolygodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025.
Trosolwg o dasgau blaenoriaeth y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu (IPGs): trafodaeth
Yn flaenorol, cytunodd y Bwrdd ar bum tasg flaenoriaeth i'w cyflawni gan y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu o fis Ionawr 2025 ymlaen, gan weithio gyda chynrychiolwyr ar draws y sector a thu hwnt. Dyma'r tasgau dan sylw:
Codi proffil effaith gwaith ieuenctid
Gan gyfrannu at y camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a ddiwygiwyd yn ddiweddar, nodi arferion gorau o ran sut mae gwaith ieuenctid wedi helpu pobl ifanc i herio'n rhagweithiol agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol mewn cymdeithas. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy grŵp gorchwyl a gorffen sydd newydd ei sefydlu.
Y Gymraeg a datblygu'r gweithlu
Gan weithio gyda grŵp datblygu'r gweithlu, swyddog datblygu'r gweithlu a Llywodraeth Cymru, ystyried canfyddiadau'r Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant diweddar yn ymwneud â sgiliau Cymraeg, capasiti a dyheadau yn y gweithlu gwaith ieuenctid presennol.
Gwaith ieuenctid digidol
Datblygu rhwydwaith cyfoedion i gefnogi arferion arloesol mewn perthynas â gwaith ieuenctid digidol.
Cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed neu wedi'u hymleiddio
Datblygu adnoddau ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid gyda'r nod o gryfhau cefnogaeth benodol i bobl ifanc sy'n agored i niwed neu wedi'u hymleiddio, er enghraifft, y rhai sydd mewn perygl o hunan-niweidio a(neu) hunanladdiad, pobl ifanc traws.
Mireinio model llywodraethu wedi ei arwain gan bobl ifanc
Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd trwy'r fforwm preswyl gyda phobl ifanc yn haf 2024, a thystiolaeth berthnasol arall, datblygu crynodeb o’r agweddau allweddol ar fodel llywodraethu llwyddiannus dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid.
Camau nesaf
Gwahoddodd swyddogion sylwadau gan aelodau'r Bwrdd ar y cerrig milltir allweddol a awgrymwyd a'r camau nesaf ar gyfer pob tasg, a gymeradwywyd gan aelodau'r Bwrdd. Darparodd aelodau'r Bwrdd sy'n gweithredu fel cadeiryddion ar gyfer pob un o'r grwpiau grynodeb o'r cynnydd hyd yma ar y ffrydiau gwaith hyn. Cytunodd aelodau'r bwrdd bod angen symud yn gyflym i sicrhau bod y tasgau'n cael eu cwblhau cyn diwedd deiliadaeth y Bwrdd ym mis Medi 2025 fel y bwriadwyd. Dywedodd SL hefyd ei bod yn awyddus i gyfathrebu'r hyn a gyflawnwyd drwy pob un o'r tasgau hyn ar ddiwedd y gwaith hwn.
Cam gweithredu
Bydd swyddogion yn ystyried opsiynau i gyfathrebu'r hyn sydd wedi'i gyflawni trwy bob un o'r tasgau hyn, gan gynnwys digwyddiad traws-sector ar-lein posibl.
Adborth o'r gynhadledd genedlaethol ar waith ieuenctid
Cynhaliwyd y gynhadledd gwaith ieuenctid ym mis Chwefror a fynychwyd gan dros 300 o gynrychiolwyr. Diolchodd swyddogion i aelodau'r Bwrdd am eu presenoldeb a'u cefnogaeth i hwyluso'r digwyddiad, y sgyrsiau a'r gweithdai. Cydnabu'r Bwrdd faint o waith a oedd yn gysylltiedig â threfnu'r gynhadledd a diolchodd i CWVYS am eu rôl yn arwain y gwaith o gynllunio a chyflwyno'r digwyddiad.
Rhoddodd swyddogion grynodeb o'r adborth a gasglwyd gan y cynrychiolwyr trwy holiadur ar ôl y gynhadledd, a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Dywedodd y mynychwyr fod y straeon bywyd go iawn yn ysbrydoledig ac yn dangos budd gwaith ieuenctid ar draws llawer o wahanol feysydd polisi.
- Croesawyd y cyfle i lawer fynychu cynhadledd gwaith ieuenctid am y tro cyntaf ers ymuno â'r sector.
- Croesawodd llawer y cyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb a chlywed gan siaradwyr amrywiol.
- Adroddodd llawer o gynrychiolwyr fod y digwyddiad yn rhy hir.
- Roedd llawer yn teimlo bod rhaglen y gynhadledd yn canolbwyntio ormod ar siaradwyr heb ddigon o amser i rwydweithio ac ymweld â'r stondinau rhwng pob sesiwn.
- Roedd llawer yn teimlo y gallai'r cysylltiad rhwng thema'r gynhadledd - cydweithredu a phartneriaeth - a rhaglen y diwrnod fod wedi bod yn gryfach.
Rhannodd aelodau'r Bwrdd eu myfyrdodau eu hunain o'r diwrnod a nodi rhai pethau allweddol yr oeddent yn awgrymu y dylid eu hystyried ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- sicrhau bod rhaglenni'n darparu digon o sgôp ar gyfer rhyngweithio, cydweithio a rhwydweithio
- sefydlu grŵp llywio o randdeiliaid gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector i helpu i gynllunio digwyddiadau allweddol o'r math hwn
Diweddariad ar y fframwaith statudol drafft ar gyfer gwaith ieuenctid
Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar y gwaith sydd ar y gweill i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae'r dadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar gynigion drafft wedi'i gwblhau. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys trwy'r tasglu deddfwriaeth, i archwilio agweddau ar y fframwaith y gallai fod angen eu mireinio ymhellach.
Bydd yr amser a gymerir ar gyfer hyn yn effeithio ar yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno'r fframwaith newydd, lle cynlluniwyd bod Ebrill 2025 i Fawrth 2026 yn gyfnod pontio cyn dechrau'r Cynlluniau Strategol Gwaith Ieuenctid cyntaf o fis Ebrill 2026. Bydd swyddogion yn rhoi gwybod i'r Bwrdd, a'r sector yn fwy cyffredinol, am gynnydd y gwaith hwn.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
Fe wnaeth swyddogion ddiweddaru aelodau'r Bwrdd ar waith mewn perthynas â sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chynrychiolwyr o grŵp ymddiriedolwyr CWVYS. Mae hyn yn dilyn cyfarfod tebyg a gynhaliwyd gyda'r Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid ar 2 Rhagfyr 2024.
Waeth beth fo'r penderfyniad i fwrw ymlaen â sefydlu corff cenedlaethol ai peidio, roedd aelodau'r Bwrdd yn awyddus i ddeall y trefniadau i'w rhoi ar waith y tu hwnt i ddiwedd tymor y Bwrdd ym mis Medi 2025 a'r cerrig milltir ar gyfer ceisio barn y Bwrdd a nodi'r risgiau. Soniodd DE fod swyddogion yn cyfarfod yn yr wythnosau nesaf i adolygu'r cerrig milltir allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cam gweithredu
Gofynnodd y Bwrdd am gyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod y posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol. Bydd swyddogion yn cysylltu â swyddfa Ysgrifennydd y Cabinet am hyn.
Unrhyw fater arall
Diweddariad ar Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid
Mewn ymateb i'r gwerthusiad diweddar o'r model Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r Bwrdd ddiwedd 2024, nododd swyddogion gyfres o gamau gweithredu arfaethedig ar gyfer y tymor byr, canolig a'r hirdymor i ddatblygu'r model. Y flaenoriaeth cyntaf fydd archwilio cyfleoedd i wneud y broses enwebu yn fwy hygyrch a helpu i gynnwys ystod mor eang â phosibl o ddarpariaeth. Y nod yw agor y broses enwebu yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025.
Trosolwg o'r gyllideb
Rhoddodd DE ddiweddariad ar ddyraniadau allweddol yn y cyllidebau ar gyfer 2025 i 2026.
Dyddiad a materion awgrymedig ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd (15 Mai 2025)
- Cynllun datblygu'r gweithlu.
- Y cerrig milltir allweddol hyd at fis Medi 2025, y pynciau sy'n gofyn am fewnbwn penodol gan aelodau'r Bwrdd yn ystod y cyfnod hwn ac ystyriaeth o’r risgiau.
