Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Simon Stewart (SSt)
  • David Williams (DW)
  • Joanne Sims (JS)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Sian Elen Tomos (ST)
  • Marco Gil-Cervantes (MG) 
  • Deb Austin (DA) 
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KHa)
  • Umaira Chaudhary, Swyddog Gwybodaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (UC)
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr (TK)

Ymddiheuriadau

  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Gethin Jones, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (GJ)

Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi ei ddatgan.

Cyfarfod 6 Hydref 2023: cofnodion a chamau gweithredu

Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 6 Hydref.  Adolygwyd y cynnydd a wnaed ar yn y camaugweithredu.

Cynllun Gweithredu

Rhoddodd DE ddiweddariad ar gynlluniau ar gyfer cyfathrebu ynghylch  y camau allweddol yn ystod y cam nesaf o ddatblygu argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Pwysleisiodd y Bwrdd pa mor bwysig oedd sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda'r sector a rhanddeiliaid eraill cyn gynted â phosibl. 

Cam gweithredu 1: DE i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Bwrdd ar y cynnydd gyda chamau terfynol y gwaith hwn.

Cyfranogiad pobl ifanc

Cyflwynwyd crynodeb o'r gwaith a wnaed yn ystod cyfnod y Bwrdd i edrych ar fodelau cyfranogi a'u profi.

Cytunodd y Bwrdd mai'r Grŵp Cyfranogiad 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' fyddai'n gweithredu bellach fel prif sianel ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ar draws pob ffrwd waith. 

Cam Gweithredu 2: Swyddogion i drefnu cyfarfod o Gadeiryddion y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu i alinio cynlluniau gwaith y Grwpiau ac i nodi cyfnodau allweddol lle bydd cyfraniad pobl ifanc yn hanfodol. 

Bydd y Grŵp 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' yn cynnal gweminar ar 25 Ionawr 2024. Mae wedi'i gynllunio i roi cyfle i ymarferwyr rannu arfer da a thrafod a chytuno ar set o egwyddorion arweiniol, er mwyn sicrhau cyfranogiad ac ymgysylltiad o ansawdd da gan bobl ifanc  wrth i ni barhau i weithio ar ddatblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rhoddodd DR yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am waith a wnaed hyd yma i gefnogi hyrwyddo gwasanaeth gwaith ieuenctid amrywiol a hygyrch ac fe nodwyd y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Cafodd aelodau'r Bwrdd wybod am fanylion gweithgareddau a wnaed gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio cyllid ychwanegol sydd ar gael i ddatblygu gwaith yn y maes hwn, a'r gwaith ehangach o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Rhoddwyd rhagor o wybodaeth i aelodau'r Bwrdd hefyd am y cyllid sydd ar gael i sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc sydd â nodweddion gwarchodedig, neu sy'n gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig. 

Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a nodi unrhyw fylchau neu unrhyw fesurau pellach y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhelliad blaenoriaeth hwn. 

Yn ogystal, gofynnwyd i bob Cadeirydd Grŵp Cyfranogiad Gweithredu fyfyrio ar sut i gadw ffocws ar gynhwysiant a hygyrchedd yn eu ffrydiau gwaith.

Cyllidebau

Rhoddodd DE ddiweddariad ar ddyraniadau'r gyllideb a gwahoddodd y Bwrdd i gysylltu ag ef os oes ganddynt unrhyw gwestiynau, gan gynnwys ymholiadau sy'n deillio o gyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2024 y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi cyn diwedd mis Rhagfyr.

Unrhyw Fater Arall

Nododd DE fod angen diweddaru'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid er mwyn ystyried y dull newydd o gyfranogi ac ymgysylltu â phobl ifanc.

Cam Gweithredu 3: Bydd swyddogion yn darparu drafft o'r cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried. 

Gofynnodd yr Aelodau am gynnal sesiwn o'r holl Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu yn fuan yn 2024 i alluogi aelodau o bob Grŵp gael gwell dealltwriaeth o flaenoriaethau ar draws pob maes gwaith. 

Cam Gweithredu 4: Swyddogion i ddrafftio a rhannu cynnig ar gyfer sesiwn o'r holl Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu ag aelodau'r Bwrdd. 

Bu trafodaeth fer am y ddwy ffrwd waith a gynlluniwyd i gefnogi arloesedd yn y sector: Fframwaith arolygu annibynnol arfaethedig Estyn a'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Cam Gweithredu 5: Bydd swyddogion yn dosbarthu drafft o Fframwaith Arolygu  Estyn i aelodau ac yn darparu papur ar yr aliniad tebygol rhwng y Marc Ansawdd a Fframwaith Estyn. 

Gofynnodd aelodau'r Bwrdd hefyd am grynodeb o ddyddiadau pwysig yn 2024.

Cam Gweithredu 6: Swyddogion i ddosbarthu rhestr o ddyddiadau pwysig yn 2024.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 31 Ionawr 2024.