Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion cyfredol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Y Rhaglen Lywodraethu

Papur eitem 2

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

3. Diweddariad ar Llywodraeth Cymru 2025 – Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau

Papur eitem 3

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

4. Amrywiaeth a Chynhwysiant

Papur eitem 4

Wedi’i gyhoeddi.

5. Dangosyddion Perfformiad Allweddol Llywodraeth Cymru

Papur eitem 5

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad mewnol.

6. Covid 19 - diwedd y cyfnod pontio

Papur eitem 6

Nid yw’r papur wedi’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am lunio neu ddatblygu polisi’r llywodraeth.

7. Unrhyw fusnes arall

Llafar

Gweler y cofnodion.

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Meena Upadhyaya
  • Gareth Lynn
  • Ellen Donovan
  • Tracey Burke
  • Judith Paget
  • David Richards
  • Peter Kennedy
  • Gawain Evans
  • Helen Lentle
  • Piers Bisson
  • Liz Lalley
  • Claire Bennett
  • Bekah Cioffi (Shadow Board)
  • Zakhyia Begum (Shadow Board)

Hefyd yn bresennol

  • Aled Edwards
  • Catrin Sully
  • Jo Glenn
  • Sharon Cross

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

Ymddiheuriadau

  • Andrew Slade
  • Reg Kilpatrick
  • Jo-Anne Daniels
  • Glyn Jones
  • Andrew Jeffreys
  • Des Clifford

1. Croeso

1.1 Croesawodd yr Ysgrifennydd Parhaol bawb i gyfarfod y Bwrdd. Nododd yr Ysgrifennydd Parhaol fod Aled Edwards wedi'i wahodd i ymuno â'r cyfarfod cyn iddo ymgymryd â'i rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

1.2 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 17 Mehefin.

1.3 Estynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol wahoddiad i Claire Bennet roi diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng dyngarol yn Wcráin. Ar adeg y cyfarfod, mae mwy na 4,000 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd Cymru. Ar hyn o bryd, mae nifer o ganolfannau croeso ar gael at ddefnydd neilltuedig Llywodraeth Cymru, lle y gall gynnig pecyn cofleidiol helaeth i ffoaduriaid. Mae nifer o ganolfannau eraill ar gael iddi ei defnyddio hefyd, sy'n cynnig pecyn cymorth llai cynhwysfawr.

1.4 Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ystyried amrywiaeth eang o lety hirdymor amgen i ffoaduriaid o Wcráin, yn ogystal â ffoaduriaid eraill a'r rhai sy'n ddigartref. Ychwanegodd Claire fod heriau dod o hyd i lety rhent preifat addas i ffoaduriaid o Wcráin yn bodoli mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £100,000 miliwn ar yr ymateb i'r rhyfel yn Wcráin.

1.5 Cydnabu Aled Edwards y pwysau enfawr sy'n gysylltiedig ag ymateb i'r argyfwng dyngarol ac estynnodd longyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ar ei hymateb o'r radd flaenaf. Ychwanegodd Aled y gall fod cryn amser cyn y gall ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru ddychwelyd i'w cartrefi yn Wcráin.

1.6 Estynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol wahoddiad i Judith Paget roi diweddariad ar sefyllfa ddiweddaraf y GIG mewn perthynas â COVID-19. Ar adeg y cyfarfod, roedd ychydig dros 800 o gleifion COVID-19 mewn ysbytai, gyda 20 mewn Unedau Gofal Dwys. Mae tua 1,000 o gleifion sy'n ffit yn feddygol yn aros i gel eu rhyddhau i'r gymuned.

1.7 Mae potensial ar gyfer ton arall o COVID-19 ym mis Hydref/Tachwedd, ac mae swyddogion iechyd wrthi'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried a fydd angen cyflwyno mesurau rhagofalus er mwyn rheoli'r sefyllfa.

1.8 Mae COVID-19 yn parhau i effeithio ar lefelau salwch staff yn y GIG, gyda'r lefelau hynny tua 1.5% yn uwch na'r hyn y gellid disgwyl ei weld ar yr adeg hon o'r flwyddyn fel arfer.

1.9 Nododd Judith fod gan GIG Cymru hefyd rôl i ddiwallu anghenion gofal iechyd y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin.

2. Y Rhaglen Lywodraethu – diweddariad ar gynnydd

2.1 Rhoddodd Catrin Sully ddiweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu. Ymddengys fod statws Coch, Melyn, Gwyrdd yr ymrwymiadau yn sefydlog, gyda mân leihad yn nifer y rhai â statws Coch. Mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi, lle bo ymrwymiadau wedi'u pennu'n rhai â statws Coch, ei fod yn disgwyl y caiff swyddogion arweiniol eu nodi er mwyn rhoi camau gweithredu ar waith.

2.2 Nododd Catrin rai pryderon ynghylch y 169 o ymrwymiadau nad ydynt yn cael eu rheoli'n ganolog ar hyn o bryd. Mae'r rhain wedi'u coladu a byddant yn cael eu rhannu â'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol i'w hystyried.

2.3 Rhoddodd Catrin drosolwg o'r meini prawf a ddefnyddir i nodi pynciau ar gyfer sesiynau sicrwydd cyflymder yr Ysgrifennydd Parhaol. Mae'r adborth gan swyddogion a fu'n rhan o'r cylch cyntaf wedi bod yn gadarnhaol.

2.4 Dywedodd Gareth Lynn fod system yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes yn adnodd gweithredol gwych a thynnodd sylw at bwysigrwydd cynnal eglurder ynghylch y dull o bennu statws coch i ymrwymiadau.

2.5 Diolchodd Ellen Donovan i Catrin a'i thîm am eu gwaith caled diflino i fonitro cynnydd ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a nododd ansawdd yr wybodaeth a gesglir ar system yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes. Holodd Ellen ynglŷn â'r broses ar gyfer craffu ar y 169 o ymrwymiadau a arweinir gan Weinidogion, yn enwedig y rheini lle mae'r pethau i'w cyflawni yn newid.

2.6 Diolchodd Piers Bisson i Catrin a'i thîm am eu cymorth wrth helpu timau i fanteisio i'r eithaf ar system yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes, a nododd fod angen ystyried effaith ffactorau allanol, gan gynnwys newidiadau mewn arweinyddiaeth ar lefel Llywodraeth y DU, ar y gallu i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.

2.7 Rhoddodd Judith drosolwg byr o ddull y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fonitro ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac ymrwymiadau eraill.

2.8 Nododd y Bwrdd Cysgodol ei bod yn galonogol cael diweddariad ar y sesiynau sicrwydd cyflymder ac arweiniad Prif Weinidog Cymru.

2.9 Estynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol wahoddiad i Catrin ymateb i'r sylwadau. Nododd Catrin fod systemau monitro yn datblygu dros amser a thynnodd sylw at her defnyddio system reoli at sawl diben. Ychwanegodd Catrin fod Prif Weinidog Cymru wedi cydnabod y fantais y mae system yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes yn ei chynnig drwy ddarparu un set o wybodaeth am gynnydd. Nododd Catrin y gwaith a wnaed gan Des Clifford yn ddiweddar i egluro'r diffiniadau o statws Coch, Melyn a Gwyrdd.

2.10 Diolchodd yr Ysgrifennydd Parhaol i bawb am eu sylwadau a gofynnodd i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ystyried y meysydd hynny yr hoffent iddynt gael eu harchwilio'n fanylach yng nghyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Y Cyfarwyddwyr Anweithredol i ystyried y meysydd hynny yr hoffent iddynt gael eu harchwilio'n fanylach ar agendâu cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.

3. Diweddariad ar Llywodraeth Cymru 2025 – Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau

3.1 Rhoddodd Natalie Pearson ddiweddariad ar y broses o ddatblygu'r fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau, gan dynnu sylw at y dull a ddefnyddir i ymgysylltu â staff a chydgynhyrchu'r fframwaith drwy'r digwyddiadau Dewch i Drafod yn Fyw a chyfarfodydd eraill.

3.2 Roedd Meena Upadhyaya yn croesawu'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu'r fframwaith a gofynnodd sut y bydd y sefydliad yn adlewyrchu'r modd y caiff y gwerthoedd eu rhoi ar waith yn ystod y diwrnod gwaith a pha mor aml y mae'r sefydliad yn cynnig y dylid adolygu'r gwerthoedd.

3.3 Roedd Gareth yn cefnogi'r dull a ddefnyddir ond cwestiynodd y diffyg ffocws ar gyflawni yn y cyflwyniad. Ychwanegodd Gareth nad yw'r gwerthoedd yn allbwn ynddynt eu hunain, ond yn hytrach, eu bod yn dylanwadu ar y ffordd y caiff allbynnau eu cyflawni.

3.4 Nododd Aled y rôl bwysig y mae gwerthoedd Llywodraeth Cymru wedi ei chwarae wrth lywio'r ymateb i'r pandemig.

3.5 Croesawodd Ellen y dull cydgynhyrchu ac awgrymodd y dylid esbonio sut mae'r gwerthoedd yn cyd-fynd ag egwyddorion Nolan, a thynnodd Piers sylw at bwysigrwydd cysylltu'n ôl â Chod y Gwasanaeth Sifil.

3.6 Tynnodd y Bwrdd Cysgodol sylw at bwysigrwydd dangos sut mae gwersi a ddysgwyd o iteriadau blaenorol o werthoedd y sefydliad yn dylanwadu ar yr ymarfer presennol.

Penderfyniad

Roedd y Bwrdd yn cefnogi cyfeiriad y Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau.

4. Amrywiaeth a chynhwysiant

4.1 Estynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol wahoddiad i Jo Glenn a Natalie Pearson roi diweddariad ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Llywodraeth Cymru.

4.2 Nododd Peter Kennedy bryderon ynghylch y canlyniadau i ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y pyrth dyrchafu diweddar; mae swyddogion Adnoddau Dynol yn ymchwilio i hyn.

4.3 Roedd Meena yn croesawu'r gwaith ymgysylltu â rhaglen Arweinyddiaeth Cymrodoriaeth a gofynnodd a yw ffoaduriaid yn gymwys i wneud cais am le ar raglen prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Roedd Gareth yn croesawu'r gwaith a oedd yn mynd rhagddo a gofynnodd a oedd data ymgeiswyr yn peri unrhyw bryderon. O ran cyrraedd targedau recriwtio Llywodraeth Cymru awgrymodd Ellen y gallai datblygu map proses o'r dechrau i'r diwedd a nodi cerrig milltir fod yn fuddiol.

4.4 Roedd Bekah, ar ran y Bwrdd Cysgodol, yn croesawu cwmpas eang yr adroddiad a thynnodd sylw at feysydd y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt; yn benodol gwella cynrychiolaeth ar draws y sefydliad a chynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni Cynllun Cymru Wrth-hiliol. O ran cynyddu cynrychiolaeth o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yng ngweithlu Llywodraeth Cymru, awgrymodd y Bwrdd Cysgodol y dylai ymgyrchoedd recriwtio bwysleisio nad yw byw yng Nghymru yn un o'r rhagofynion ar gyfer ymuno â'r sefydliad.

4.5 Diolchodd Piers i'r grŵp am ei sylwadau. Mae ymarfer mapio prosesau ar gyfer y broses recriwtio yn mynd rhagddo, a fydd yn edrych yn benodol ar recriwtio ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

4.6 Daeth yr Ysgrifennydd Parhaol â'r drafodaeth ar yr eitem i ben, gan nodi'r angen i gynnal cynnydd mewn perthynas â'r materion hynod bwysig hyn.

5. Dangosyddion Perfformiad Allweddol

5.1 Estynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol wahoddiad i Sharon Cross roi trosolwg o'r adroddiad diweddaraf ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Nododd yr Ysgrifennydd Parhaol fod y Pwyllgor Gweithredol wedi cael cyflwyniad yn ddiweddar ar feithrin galluogrwydd polisi yn Llywodraeth Cymru. Nododd yr Ysgrifennydd Parhaol y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â rheoli prosiectau a rhaglenni yn yr adroddiad ar berfformiad.

5.2 Croesawodd Ellen y diweddariad ond gofynnodd a yw'n adlewyrchu'r sefyllfa o ran deddfwriaeth. O ran rheoli rhaglenni a phrosiectau, ar ôl arsylwi ar gwrs hyfforddi, awgrymodd Ellen fod mwy o ffocws ar sgiliau arwain nag ar fanylion rheoli rhaglenni a phrosiectau.

5.3 Rhybuddiodd Gareth na ddylid dod i gasgliadau ar sail data a gasglwyd dros gyfnod byr o amser, yn enwedig o ystyried effaith y pandemig dros y ddwy flynedd diwethaf. Nododd Gareth y sylwadau ar reoli rhaglenni a phrosiectau.

5.4 Gofynnodd Meena a yw'r dangosyddion perfformiad allweddol yn cyd-fynd â'r disgwyliadau ar gyfer perfformiad sefydliadol hirdymor.

5.5 Nododd Gawain Evans ffocws parhaus yr Adran Gyllid ar wella ei pherfformiad.

5.6 Tynnodd y Bwrdd Cysgodol sylw at y diffyg gwybodaeth am foddhad staff o fewn y thema Adnoddau Dynol a Rheoli'r Gweithlu. Nododd y Bwrdd Cysgodol ddiffyg cynnydd mewn perthynas â rheoli prosiectau a rhaglenni.

6. COVID-19 – diwedd y cyfnod pontio

6.1 Rhoddodd Liz Lalley ddiweddariad ar y sefyllfa ar ôl diwedd y cyfnod pontio ffurfiol a chasgliad y Bwrdd Pontio a sefydlwyd i oruchwylio'r broses hon.

6.2 Nododd Liz fod dull sefydliadol y cytunwyd arno o ymdrin â gwaith parhaus i ymateb i COVID-19, a bod cynlluniau wrth gefn cadarn ar waith os bydd sefyllfa frys yn ymwneud â COVID-19 yn codi. Fel rhan o'r broses bontio, mae pob risg weddilliol wedi'i throsglwyddo i'r adrannau perthnasol; y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bennaf.

6.3 Nododd Ellen waith gwych y rhai sy'n gweithio ar yr ymateb i COVID-19 a thynnodd sylw at bwysigrwydd cynllunio parhad er mwyn paratoi ar gyfer tonau pellach o ystyried y ffaith y bydd cynifer o'r staff yn y timau gwreiddiol wedi symud ymlaen i rolau eraill.

6.4 Myfyriodd Meena ar yr amrywiadau rhwng polisïau COVID-19 pedair gwlad y DU a gofynnodd a oes cynlluniau ar waith ar gyfer dull cyffredin o reoli'r broses o bontio o bandemig i endemig.

6.5 Nododd Bekah y gall swyddogion Llywodraeth Cymru, yn rhinwedd eu swyddi fel gweision sifil, gael eu symud unrhyw bryd o dan eu contract i ymdrin â maes polisi, a thynnodd sylw ar yr angen i sicrhau bod cymorth priodol ar waith i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl staff.

6.6 Diolchodd Liz i aelodau'r Bwrdd am eu sylwadau. Mae Prif Weinidog Cymru yn parhau i godi cwestiynau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllunio ar gyfer tonau pellach o'r pandemig yn y dyfodol, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod. Fel rhan o waith cynllunio tymor hwy, ystyrir hefyd sut i gyfnewid swyddogion a thimau i arwain meysydd gwaith am gyfnod penodol o amser.

6.7 O ran gwahaniaethau polisi rhwng pedair gwlad y DU, nododd Liz fod Llywodraeth Cymru bob amser wedi ffafrio dull gweithredu cyffredin ar gyfer y pedair gwlad, ac eithrio lle nad yw hynny wedi bod er budd pennaf Cymru. Lle bo polisïau wedi amrywio, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda thimau cyfathrebu'r llywodraethau eraill i esbonio'r gwahaniaethau yn y dull gweithredu.

6.8 Nododd David Richards fod yr ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y cafodd y pandemig ei reoli wedi'i sefydlu a'i fod yn ystyried strwythur llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried parodrwydd ar gyfer y pandemig ac yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd drwy gydol yr ymchwiliad.

7. Unrhyw fater arall

7.1 Croesawodd Gareth y papur gwyntyllu a baratowyd gan David Richards yn trafod agweddau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar yr eitemau a drafodwyd yn y cyfarfod hwn o'r Bwrdd.

7.2 Gofynnodd Bekah a allai'r Bwrdd ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng costau byw yn un o'i gyfarfodydd yn y dyfodol. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Parhaol drwy ddweud bod y rhain yn gwestiynau polisi i Weinidogion eu hystyried.