Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyflwynodd Dafydd Trystan ei hun fel Cadeirydd annibynnol newydd y Bwrdd Teithio Llesol.

Cyflwr Teithio Llesol yng Nghymru: barn aelodau a thrafodaeth

Gofynnwyd i'r Bwrdd am eu barn am gyflwr teithio llesol yng Nghymru. Yn dilyn y trafod, crynhodd y Cadeirydd y pwyntiau a wnaed a thynnu sylw at y themâu canlynol:

  • Mae gweledigaeth a gwerthoedd cyson a chlir yn bwysig ac yn llywio sut rydym yn trafod teithio llesol
  • Mae angen i ni ganolbwyntio ar flaenoriaethau – mae’n amlwg bod angen canolbwyntio’n hymdrechion ar deithio i'r ysgol a lleoedd gwaith ar
  • Mae argaeledd a sicrwydd ariannol, yn ogystal â chapasiti a hyfforddiant, yn elfennau allweddol sy'n dal y ddarpariaeth yn ôl
  • Mae gwerthuso a thystiolaeth yn hanfodol i ddeall y gwahaniaeth y gallwn ei wneud ac i gefnogi'r achos dros deithio llesol
  • Dylid adolygu pwy sy’n cael ei gynrychioli ar y Bwrdd. 

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Cadarnhawyd bod £38 miliwn o gyllid grant wedi'i ddyfarnu i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd i'w hadeiladu yn 2020-21, ynghyd ag £16.2 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer mesurau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ymateb i COVID-19.

Cyhoeddir fersiwn newydd o’r Canllawiau Teithio Llesol yn ddiweddarach eleni.

Cafwyd trafodaeth ynghylch Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS) a sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a’r Strategaeth wedi’u hintegreiddio. Codwyd pryder penodol ynglŷn â'r berthynas rhwng iechyd a thrafnidiaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'i swyddfa wedi bod ynghlwm wrth ddatblygu'r strategaeth o'r cychwyn cyntaf a bod y penderfyniad i adlewyrchu'r 7 nod llesiant mewn pedair colofn wedi'i wneud am resymau pragmatig. Bydd unrhyw bryderon yn cael eu bwydo'n ôl i'r tîm sy'n gweithio ar y WTS.

Rhaglen waith y Bwrdd

Cynhaliwyd trafodaeth i benderfynu ar raglen waith y Bwrdd. Awgrymwyd y gallai marchnata fod yn erfyn pwysig, a bod angen darn sylweddol o waith ar newid ymddygiad. Argymhellwyd llunio pecyn hyfforddi, a neilltuo cyllid ar ei gyfer.

Tynnodd y Bwrdd sylw at y cyfle i gysoni negeseuon teithio llesol a meysydd polisi cysylltiedig, gan gynnwys y terfyn cyflymder 20mya diofyn a pharcio palmant. 

Nodwyd hefyd y cyfle i gydweithio ar draws sectorau a sefydliadau i ymwreiddio teithio llesol. Mae enghreifftiau o arfer da eisoes yn bodoli rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chyngor Sir Caerdydd, ond oherwydd COVID-19 bu'n rhaid gohirio’r gwaith hwn.

Trafododd y Bwrdd hefyd sut i fynd ar ofyn y gymuned fusnes am gefnogaeth ar gyfer hyfforddiant i feicwyr newydd neu bobl sy'n ailddechrau beicio. Hefyd, trafodwyd sut i sicrhau y manteisir yn llawn ar y cyfleoedd ddaeth yn sgil y tarfu ar batrymau teithio oherwydd cyfnod clo COVID-19.  

Mesur cynnydd

Cafwyd trafodaeth ar fesur cynnydd, gyda'r Cadeirydd yn amlinellu rhai o'r mesurau yr oedd yn eu hystyried gan gynnwys;

  • % y boblogaeth sy'n teithio’n llesol
  • % sy'n teithio’n llesol i'r ysgol
  • cael pobl i newid i deithio llesol
  • cael mwy i deithio’n llesol

Cafodd y Bwrdd drafodaeth am ddata ymddygiad teithio yng Nghymru, sy'n cael eu casglu drwy'r Arolwg Cenedlaethol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar atgyfodi’r Arolwg Teithio Cenedlaethol.

Cytunodd y Bwrdd fod y fframwaith o fesurau a awgrymwyd yn briodol. Mae angen gwneud rhagor o waith mewn perthynas â chasglu data addas, nodi llinellau sylfaen addas a chymaryddion priodol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf  dydd Iau 3 Rhagfyr 2020.