Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf gan y Dirprwy Weinidog

Roedd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog i'r Bwrdd yn cynnwys y canlynol:

  • cadarnhad o gyllid ychwanegol ar gyfer teithio llesol, gan gymryd cyfanswm y dyraniad ar gyfer 2019 i 2020 i dros £40 miliwn.
  • cynnydd ar waith ar y Llyfr Coch, DMRB, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r ymchwil i atgyfodi seilwaith hanesyddol.
  • y wybodaeth ddiweddaraf am y Canllawiau Dylunio a Chyflawni, a chyn cynnal digwyddiad cyn y lansiad ym mis Rhagfyr.
  • ymchwilio i ffyrdd o gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau teithio llesol, gan gynnwys contract ymgynghori ac ymgysylltu Cymru gyfan, rhaglen newid ymddygiad uchelgeisiol a phecyn hyfforddi ar gyfer awdurdodau lleol.
  • cryfhau'r cysylltiadau rhwng teithio llesol a chynllunio defnydd tir mewn unrhyw gyfleoedd deddfwriaethol yn y dyfodol.
  • cadarnhad ei fod wedi cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol i drafod y cysylltiadau rhwng Hawliau Tramwy Cyhoeddus a llwybrau teithio llesol.

Cafwyd trafodaeth fer am orfodi 20mya a pharcio ar balmentydd.  Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog ei fod wedi cyfarfod â'r heddlu ynglŷn â hyn a bydd yn parhau i'w herio. 

Pwysau Iach: Cymru Iach

Cyflwynodd Is-adran Iechyd y Cyhoedd strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach a lansiwyd ym mis Hydref 2019. Bydd y strategaeth 10 mlynedd yn cael ei rhannu'n ddau gynllun cyflawni 5 mlynedd a disgwylir i'r un cyntaf, ar gyfer 2020 i 2022, gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2020. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn datblygu fframwaith canlyniadau i fonitro ymyriadau.

Mae sawl cysylltiad â theithio llesol o fewn themâu'r strategaeth. Bydd £5 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu eleni i gefnogi'r strategaeth a bydd cynigion yn cael eu trafod gyda Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol, a fydd yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd angen ystyried sut y gall gefnogi ffocws ar atal ac ymyrryd. Mae gorgyffwrdd pwysig â rhaglenni ysgolion ac mae gwaith ar y gweill drwy Bartneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm newydd yn y gofod gweithgarwch corfforol.

Tynnodd y Bwrdd sylw at yr angen i gynnwys beiciau trydan yn rhaglen y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV). Er nad ydynt yn cael eu cydnabod fel cerbydau allyriadau isel, mae potensial enfawr i feiciau trydan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. 

Hysbyswyd y Bwrdd bod y cap ar gyfer cyflogwyr sy'n defnyddio'r cynllun Beicio i'r Gwaith wedi'i godi, a fydd yn galluogi gweithwyr i brynu mwy o feiciau trydan ac arbenigol.

Cyflawni Teithio Llesol: rôl TrC a chanllaw grantiau ar gyfer 2020 i 2021

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar rôl TrC o ran cyllido teithio llesol.  Roedd y cyflwyniad yn nodi'r broses bresennol a'r model cyflawni newydd arfaethedig, ynghyd ag esboniad o ddyraniadau cyllid craidd. 

Mynegwyd y byddai cyllid aml-flwyddyn yn well na'r broses ariannu unflwydd gyfredol.  Mae'r Dirprwy Weinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru yn deall y broblem, ond ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu i gyllid unflwydd.

Terfyn cyflymder diofyn o 20mya a pharcio ar balmentydd

Rhoddwyd y diweddaraf i’r Bwrdd am waith y tasgluoedd 20mya a pharcio ar balmentydd. Pwysleisiodd awdurdodau lleol bod angen eglurder ynghylch unrhyw reolau newydd a gyflwynir.

Y diweddaraf am y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Deithio Llesol i Ysgolion

Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y diweddaraf i’r Bwrdd am yr Arolwg Hands Up.  Mae'r astudiaeth ehangu wedi'i chwblhau yn nhair ardal beilot y bartneriaeth leol (Caerdydd, Abertawe a Bro Morgannwg).  Caiff yr arolwg ei gyflwyno'n genedlaethol o fis Medi 2020. 

Hysbyswyd y Bwrdd na fyddai’r arolwg Hands Up yn cael ei ehangu i ysgolion uwchradd ar hyn o bryd rhag dyblygu’r data sydd eisoes wedi’u casglu o addysg uwchradd. Byddai angen astudiaeth ddilysu hefyd gan mai dim ond at ysgolion cynradd y cyfeiriwyd y gwreiddiol.

Cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru

Rhoddwyd diweddariad byr i'r Bwrdd ar y Cylch Gorchwyl diwygiedig. Cytunwyd y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter o 2020, gyda chyfarfodydd bwrdd bob yn ail yn canolbwyntio ar ffocws neu thema benodol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 27 Chwefror 2020