Neidio i'r prif gynnwy

Proses y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o’r cynnydd a wnaed o ran datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. Mae’r gyfres gyntaf o asesiadau bron wedi’i chwblhau. Mae hyn yn wir am y mwyafrif o awdurdodau lleol a gyflwynodd eu mapiau ar ddiwedd 2021.

Nododd y cadeirydd ei fod yn bwriadu ymweld â sawl awdurdod lleol er mwyn trafod eu cynlluniau a’u rhaglenni teithio llesol. Mae’r cadeirydd yn awyddus i ymgysylltu â’r awdurdodau lleol hynny lle mae heriau penodol yn bodoli. Pwysleisiwyd bod cynnydd i’w wneud, ond bod y Gronfa Teithio Llesol a’r trafodaethau ynghylch proses y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn adlewyrchu’r ffaith bod y prosesau hyn yn cael eu hystyried o ddifri.

Y Fframwaith Monitro Cenedlaethol

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar y cynnydd a wnaed o ran datblygu Fframwaith Monitro Cenedlaethol ar gyfer Teithio Llesol. Nod y fframwaith yw darparu methodoleg glir a chyson ar gyfer casglu data – sy’n cefnogi nodau ac amcanion strategol Llywodraeth Cymru, ynghyd â nodi dangosyddion ansoddol a meintiol i fonitro cynnydd. Mae’r gwaith hwn yn parhau.

Canolbwyntiodd ail ran y cyflwyniad ar waith monitro ar lefel cynllun. Comisiynwyd astudiaeth i nodi methodolegau a argymhellir ar gyfer casglu data. Nid yw rhai awdurdodau yn casglu data mewn modd cyson ar hyn o bryd, ond maen nhw wedi gofyn am gyngor ar sut i wneud hynny yn y dyfodol. Mae adroddiad drafft ar fin cael ei gyflwyno, ac yna bydd sylw’n cael ei roi i’r ffordd orau o gefnogi awdurdodau lleol.

Mewn perthynas â monitro a gwerthuso’r Gronfa Teithio Llesol, mae arolwg ar fin cael ei ddosbarthu gyda’r nod o gasglu gwybodaeth am brofiadau awdurdodau lleol o’r rhaglen gymorth a sut y gellir ei gwella ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Bydd cyfweliadau dilynol yn cael eu trefnu hefyd.

Trafododd y Bwrdd nifer o bwyntiau yn cynnwys sut i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith ymhellach a sut i wella gwaith monitro.

Dangosfwrdd y Bwrdd Teithio Llesol

Cafodd y Bwrdd gyfle i drafod y dangosfwrdd enghreifftiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi coladu data o OpSnap ac Arolwg Cenedlaethol Cymru i lunio graffiau cychwynnol i ddangos sut y gallai’r dangosfwrdd edrych. Mae opsiynau gweledol eraill yn cael eu hystyried hefyd.

Trafododd y Bwrdd yr wybodaeth hon a sut i wella fersiynau o’r dangosfwrdd yn y dyfodol.

Strwythurau a Chapasiti ar Lefel Awdurdod Lleol

Trafododd y Bwrdd strwythurau a chapasiti awdurdodau lleol ac amlygodd yr aelodau y problemau a’r pryderon a brofir ledled Cymru. Awgrymwyd syniadau ynghylch sut i gefnogi awdurdodau lleol a gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol.

Eitem Sefydlog: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Derfynau Cyflymder 20mya

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am derfynau cyflymder 20mya. Mae wyth ardal y cam cyntaf bellach yn fyw, ac mae data’n cael ei gasglu ar gyflymder – yn ogystal ag ansawdd aer, rhyngweithio cerddwyr a nifer y plant sy’n cerdded ac yn beicio i’r ysgol, mewn rhai ardaloedd.

Mae arolwg cynhwysfawr o’r holl ffyrdd yn cael ei lunio ar hyn o bryd, ar gyfer y mwyafrif o awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o nodi’r arwyddion terfyn cyflymder a gwybodaeth arall a fydd yn helpu i baratoi unrhyw Orchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer y ffyrdd hynny fydd yn parhau i fod â therfyn 30mya a’r rheini a ddaw yn ffyrdd 20mya.

Trafododd y Bwrdd ganlyniadau anfwriadol yn sgil cyflwyno terfynau 20mya yn ehangach, megis yn achos rasys beic, a phwysigrwydd cyfathrebu effeithiol er mwyn gwrthsefyll unrhyw wybodaeth anghywir.

Cynnydd Is-grwpiau’r Bwrdd Teithio Llesol

Teithio Llesol i Ysgolion

  • Roedd y prawf cenedlaethol a gynhaliwyd fel rhan o ddosbarthu’r Arolwg Dwylo i Fyny wedi’i gwblhau. Y nod yw dysgu sut i wella cyfathrebu a’r ffordd mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol. Roedd trafodaethau ag ysgolion yn mynd rhagddynt hefyd er mwyn pennu’r amserlen orau ar gyfer cynnal yr arolwg ledled Cymru.
  • Mae trefniadau llywodraethu’r grŵp ar fin newid wrth i grŵp teithio llesol i ysgolion strategol cenedlaethol gael ei gyflwyno. Mae’r cynlluniau ar gyfer y grŵp newydd hwn, gan gynnwys ei aelodaeth, yn y broses o gael eu cadarnhau. Bwriedir i rwydwaith rhanddeiliaid mwy o faint gefnogi’r grŵp strategol hwn, y mae llawer ohonynt yn aelodau o’r Grŵp Cynghori ar Deithio Llesol i Ysgolion ar hyn o bryd.

Teithio llesol cynhwysol

  • Cafodd papur gan yr is-grŵp ei ddosbarthu i aelodau’r Bwrdd. Roedd hwn yn cynnwys awgrym i’r Bwrdd Teithio llesol ysgrifennu at arweinwyr newydd yr awdurdodau lleol gan nodi’r weledigaeth ar gyfer teithio llesol cynhwysol a’r ymrwymiadau a ddisgwylir o fewn y weledigaeth honno.
  • Bu trafodaeth gryno ynghylch p’un a ddylid canolbwyntio ar rai nodweddion gwarchodedig yn benodol yn hytrach na cheisio mynd i’r afael â’r naw ohonynt.  
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 29 Medi 2022