Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Bethan Davies, Swyddfa'r Cabinet
  • Sarah Hall, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Lori Frater, Pennaeth Tasglu Diogelwch Tomenni Glo
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi
  • Theresa Jaynes, Trechu Tlodi
  • Emma Spear, Swyddfa HSS DG

Mynychwyr allanol

  • Simon Harris, Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
  • Eleanor Marks, Ofcom
  • Gwenllian Roberts, Ofwat
  • Helen Bower-Easton, Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • Neil Kenward, Ofgem
  • Steven McGregor, Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
  • Darren Griffiths, Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • David Cross, Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • James Radcliffe, Ofgem
  • David Teague, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
  • David Roberts, Safonau Masnach Cymru
  • Judith Parry, Safonau Masnach Cymru
  • Emma Cooke, Safonau Masnach Cenedlaethol Ystadau a Gosodiadau
  • Liz Withers, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  • Nathan Barnhouse, Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Kevin Smith, Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie James AS
  • Lee Waters AS

Eitem 1: Cyflwyniad, croeso a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y Gweinidogion a'r partneriaid i'r cyfarfod.

1.2 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar gofnodion 16 Hydref.

Eitem 2: Rhwydwaith Rheoleiddwyr Cymru, gan gynnwys Tariffau Cymdeithasol

2.1 Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem, cyn trosglwyddo i Simon Harris o'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i gyflwyno'r rhwydwaith a'i aelodau.

2.2 Adroddwyd bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi paratoi cynnig yn 2022 i sefydlu Rhwydwaith Rheoleiddwyr anffurfiol i Gymru sy'n debyg i Rwydwaith yr Alban, a sefydlwyd yn 2017.

2.3 Ystyriwyd bod bwlch yn bodoli yng Nghymru gyda chyfleoedd o bosibl yn cael eu colli ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth, dysgu o arfer gorau ar draws rheoleiddwyr a cheisio nodau cyffredin posibl i ddefnyddwyr. Roedd yna hefyd Rwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN) yr oedd y CMA ac eraill yn aelodau ohono.

2.4 Roedd y rhwydwaith wedi bod yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw ers cael ei sefydlu, gyda llawer o waith wedi'i wneud ar fater tariffau cymdeithasol i ddefnyddwyr.

2.5 Roedd y cyflwyniad cyntaf gan Eleanor Marks o Ofcom, a nododd bedair prif ffrwd waith i gynorthwyo cwsmeriaid telathrebu trwy'r argyfwng costau byw.

2.6 Y cyntaf o'r rhain oedd darparu tariffau band eang cymdeithasol, ac roedd Ofcom wedi galw'n gyson ar ddarparwyr cyfathrebiadau nid yn unig i ddarparu'r tariffau hyn, ond hefyd i dynnu sylw'r cwsmeriaid mwyaf anghenus atynt.

2.7 Adroddwyd bod gan oddeutu 85% o gwsmeriaid band eang ddarparwyr a oedd yn cynnig tariffau cymdeithasol, sy'n golygu arbedion o hyd at £200 y flwyddyn i'r rhai sy'n gymwys.

2.8 Byddai Ofcom yn cyhoeddi data tueddiadau prisiau ym mis Rhagfyr a fyddai'n nodi am y tro cyntaf y nifer sy'n defnyddio tariffau cymdeithasol yn ôl darparwr unigol, a fyddai'n taflu goleuni i bob pwrpas ar y darparwyr hynny nad ydynt yn eu cynnig na'u hyrwyddo'n ddigonol i gwsmeriaid.

2.9 Ffocws arall oedd y cynnydd i brisiau o fewn contract, gydag adolygiad yn parhau ar draws y sector i sicrhau bod digon o eglurder i ddefnyddwyr am yr hyn y byddent yn ei dalu o dan eu contractau nawr ac yn y dyfodol.

2.10 Cael gwared ar rwystrau rhag cael y fargen orau i ddefnyddwyr oedd nod arall, gyda rheol One Touch Switch yn ei gwneud yn haws ac yn gynt newid rhwydweithiau a thechnolegau.

2.11 Yn olaf, roedd diogelu cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i Ofcom, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ynghylch sut y dylai darparwyr drin cwsmeriaid sy'n agored i niwed a'r ffordd orau o helpu cwsmeriaid mewn dyled neu sy'n ei chael hi'n anodd talu.

2.12 Yna gwahoddodd yr Is-bwyllgor Neil Kenward o Ofgem i siarad, a nododd fod effaith prisiau ynni yn cael ei theimlo yr un mor wael gan gwsmeriaid eleni â'r flwyddyn flaenorol, gan fod cymorth Llywodraeth y DU bellach yn cael ei dargedu'n fwy.

2.13 Roedd Ofgem wedi gwneud gwaith i atal Mesuryddion Cyn-Talu rhag cael eu gorfodi ar gyfer cwsmeriaid agored i niwed, gan sicrhau hefyd bod credyd ar sail frys ar gael i gwsmeriaid.

2.14 Roedd gwella'r mynediad at gymorth a gynigir gan ddarparwyr wedi bod yn ffocws i Ofgem, gan fod dyled ac ôl-ddyledion yn codi ar hyn o bryd.

2.15 Nodwyd bod polisi disgownt cartrefi cynnes y DU yn cael ei groesdalu gan yr holl dalwyr biliau, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar rannu data gyda darparwyr dŵr, gan fod hyn yn rhybudd cynnar i aelwydydd sy'n profi anawsterau ariannol.

2.16 Roedd y cyflwynydd nesaf, Gwenllian Roberts, yn cynrychioli Ofwat. Nododd fod y gefnogaeth i'r rhai agored i niwed yn ffocws allweddol iddyn nhw fel rheoleiddiwr y diwydiant dŵr.

2.17 Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y rhai ar dariffau cymdeithasol yng Nghymru, gyda 5% yn gyfartaledd ar draws y diwydiant, ond roedd gan Dŵr Cymru oddeutu 8% o gwsmeriaid ar dariff cymdeithasol.

2.18 Yn ogystal, roedd Ofwat yn ystyried yr adolygiad prisiau ar gyfer 2024 ac roeddent yn bwriadu gweithredu nawr i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed rhag cynnydd yn y dyfodol lle bynnag y bo modd.

2.19 Yna gwahoddodd yr Is-bwyllgor gyflwynydd terfynol y rhwydwaith, Helen Bower-Easton o'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am forgeisi, credyd, cynilion, buddsoddiadau a phensiynau.

2.20 Adroddwyd bod 25% o holl ddeiliaid morgeisi Cymru wedi profi cynnydd mewn taliadau ers mis Mai 2022, pan ddechreuodd Banc Lloegr godi cyfraddau llog i geisio gostwng chwyddiant. Byddai cyfnod telerau penodol 33,500 o ddeiliaid morgeisi yn dod i ben yn ystod y flwyddyn i ddod, ac roedd hynny'n 11% o holl lyfr morgeisi Cymru.

2.21 Er gwaethaf hyn, dim ond 1.56% oedd mewn ôl-ddyledion ar hyn o bryd er bod disgwyl i hyn gynyddu'n raddol. Roedd benthycwyr yn dweud bod y sylfaen cwsmeriaid mewn sefyllfa ariannol gryfach i ddelio â chodiadau cyfraddau llog nag achlysuron tebyg blaenorol.

2.22 Roedd hyn oherwydd cyfuniad o ddiwygiadau tymor hwy megis gofynion fforddiadwyedd a'r gefnogaeth fwy diweddar wedi'i theilwra i fenthycwyr, siarter morgais y DU a chynllun Cymorth i Aros a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

2.23 O ran credyd, adroddwyd bod 19% yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau a'u hymrwymiadau credyd, ac roedd 14% wedi methu talu bil neu daliad benthyciad mewn o leiaf dri o'r chwe mis diwethaf.

2.24 Unwaith eto, roedd cyfres o ddiwygiadau tymor hwy yr oedd yr Awdurdod wedi gweithio gyda benthycwyr arnynt, megis profion fforddiadwyedd a chapiau prisiau ar gyfer benthyciadau diwrnod cyflog, tra bod gofynion cymorth wedi'u teilwra dros dro wedi'u gwneud yn barhaol yn ddiweddar, a chysondeb triniaeth i gwsmeriaid ar draws sectorau wedi'i wella.

2.25 Roedd tystiolaeth bod 33% o oedolion Cymru wedi defnyddio eu cynilion neu fuddsoddiadau i dalu am dreuliau o ddydd i ddydd, tra nad oedd gan 12% unrhyw gynilion o gwbl. Yn ogystal, nid oedd gan 24% ddarpariaeth pensiwn preifat tra bod 54% yn gwneud cyfraniadau i bensiwn.

2.26 Ymhlith y camau diweddar mewn perthynas â chynilion roedd adolygiad o'r gystadleuaeth yn edrych ar gyfraddau cynilo a gofyn i ddarparwyr pensiwn gyfeirio defnyddwyr at Pension Wise wrth gael mynediad at eu pensiwn.

2.27 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariadau a diolchodd i bartneriaid am eu holl waith yn cefnogi'r cymunedau mwyaf agored i niwed ledled Cymru.

Eitem 3: Partneriaethau Bwyd Lleol

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yr eitem, gan nodi bod aelodau wedi clywed yn ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill am y galw cynyddol am fwyd brys.

3.2 Roedd yn amlwg bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi bwyd wedi helpu sefydliadau bwyd cymunedol i gwrdd â chynnydd sylweddol yn y galw, fodd bynnag, nid oedd wedi gwneud llawer i atal yr angen cynyddol am ddarpariaeth bwyd frys.

3.3 Roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ystyried darpariaeth banciau bwyd ledled Cymru drwy gydol yr argyfwng costau byw, ac roedd yn amlwg bod diffyg cydweithio rhwng darparwyr, ac roedd dyblygu'r ddarpariaeth yn amlwg mewn rhai mannau, tra bod bylchau yn bodoli mewn eraill.

3.4 Mewn ymateb i hyn, y llynedd, roedd y Llywodraeth wedi dyrannu £2.5 miliwn i gefnogi datblygiad partneriaethau bwyd traws-sector ym mhob ardal Awdurdod Lleol.

3.5 Roedd y partneriaethau aml-asiantaeth hyn yn adeiladu dealltwriaeth o angen lleol ac yn helpu i yrru gweithgarwch cydlynol i fanteisio i sicrhau bod prosiectau mor effeithiol â phosibl, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu at yr ardaloedd mwyaf anghenus.

3.6 Roedd y cyllid wedi galluogi recriwtio cydlynwyr ar gyfer pob ardal, a oedd yn gweithio gyda phartneriaid fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, cyrff sector cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, busnesau a sefydliadau academaidd yn ogystal â sefydliadau lleol fel cymdeithasau tai a gwasanaethau cynghori.

3.7 Roedd yr arian hefyd yn cefnogi Synnwyr Bwyd Cymru, sef y corff cydlynu ar gyfer y partneriaethau ac roedd enghreifftiau ar draws y llywodraeth o'r effaith ehangach.

3.8 Er enghraifft, ym mhortffolio yr Economi roedd dull 'Cefnogi Cwmnïau Lleol', ochr yn ochr â datblygu canolfannau bwyd cymunedol.

3.9 Ym maes Iechyd, roedd Cychwyn Iach, Sgiliau Maeth am Oes a chyflwyno gweithgaredd 'Dewch i Goginio' i rieni newydd o fewn Dechrau'n Deg. Yn ogystal, roedd y partneriaethau bwyd i gyd yn gysylltiedig â chynlluniau iechyd cyhoeddus lleol y Bwrdd Iechyd.

3.10 Ym maes Addysg, roedd partneriaethau bwyd yn hyrwyddo Bwyd a Hwyl ac yn cyflwyno 'Dewch i Goginio' i blant oed ysgol. Roedd Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn datblygu adnoddau ar gyfer y fenter Ysgolion Iach ac roedd yn ymwneud â 'Yr Awr Fwyd' yng Nghaerdydd yn ogystal â chefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi lleol i gefnogi Prydau Ysgol Am Ddim i holl Blant Cynradd, gan gynnwys trwy'r prosiect 'Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion'.

3.11 O ran Newid yn yr Hinsawdd, roedd Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar yr Hinsawdd drwy rannu straeon o'r Partneriaethau Bwyd ac annog eu cyfranogiad. Roedd yr hinsawdd a natur hefyd yn ffocws cryf ar gyfer gwaith partneriaethau bwyd.

3.12 Roedd yn amlwg bod y partneriaethau'n cael effaith ac yn helpu i gyflawni blaenoriaethau ar draws ystod o bortffolios a gyda chefnogaeth y Llywodraeth, roedd ganddynt hefyd y gallu i helpu i gyflawni nifer o'r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw.

3.13 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023