Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Hannah Blythyn AS (yn dirprwyo ar ran Jane Hutt AS)

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Jo-Anne Daniels - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Piers Bisson - Cyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
  • Will Whiteley - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • James Gerard - Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
  • Gary Haggaty - Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
  • Jane Runeckles - Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler - Cynghorydd Arbennig
  • Mitchell Theaker - Cynghorydd Arbennig
  • Owen John - Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan - Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche - Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Rachel Stephens - Is-adran y Cabinet
  • Diane Dunning - Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Felton - Pennaeth Rhanddeiliaid Cyfiawnder
  • Bethan Phillips - Is-adran y Cabinet
  • Merisha Hunt - Polisi Cyfiawnder
  • Elizabeth Price - Polisi Cyfiawnder
  • Zuzka Hilton - Polisi Cyfiawnder
  • Tony Jones - Polisi Cyfiawnder
  • Imogen Sherriff - Polisi Cyfiawnder
  • Andrew O’Rourke - Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS), Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol

Eitem 1: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Hawliau

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, gan nodi bod y Bil hwn o bwys cyfansoddiadol mawr i Gymru.

1.2 Roedd yn arwyddocaol fod Llywodraeth y DU yn derbyn y byddai rhannau helaeth o’r Bil yn sbarduno’r broses cydsyniad deddfwriaethol. Golygai hyn fod y Bil, yn ogystal â’i ddiffygion eraill, yn ymosodiad ar Gonfensiwn Sewel.

1.3 Pe bai Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’r Bil, o ystyried y sefyllfa yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, efallai mai dyma’r enghraifft gliriaf eto nad oedd Confensiwn Sewel yn gweithio a bod angen ei ddiwygio.

Eitem 2: Cloriannu’r rhaglen drawsnewid

2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder.

Rhan 1: Yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen waith Is-bwyllgor y Cabinet

2.2 Datblygiad pwysig oedd fod Cymdeithas y Cyfreithwyr yn uwchraddio ei Phwyllgor Cymru i fod yn Fwrdd. Arwyddocâd hynny oedd y byddai’n rhan amlwg a blaenllaw o bensaernïaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr.

2.3 Croesawodd yr Is-bwyllgor y newyddion diweddaraf ynghylch mynediad at gyfiawnder, cyfiawnder teuluol, y sector cyfreithiol a chyfiawnder troseddol.

2.4 At hynny, nodwyd bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys pennod ar faterion troseddu a chyfiawnder, a bod cyswllt cryf rhwng y gwaith hwn a gwaith Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.

Trafodaethau â Llywodraeth y DU

2.5 Nododd yr Is-bwyllgor y newyddion diweddaraf am y trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch ymarfer blaenoriaethu argymhellion Comisiwn Thomas.

2.6 Roedd y sgyrsiau hyn wedi ailddechrau yn dilyn penodi’r Arglwydd Bellamy. Roedd gwaith wedi dechrau gyda swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar bapur sefyllfa i’w lunio ar y cyd i grynhoi cynnydd yr ymarfer blaenoriaethu. Fodd bynnag, byddai momentwm y gwaith hwn yn ddibynnol ar benodi Prif Weinidog newydd yn y DU a chyfres arall eto o Weinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

2.7 Byddai’n bwysig hefyd sefydlu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder, a oedd bellach yn un o’r ychydig iawn o grwpiau rhyngweinidogol nad oeddent wedi’u sefydlu.

Rhan 2: materion “byw” eraill

2.8 Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol drosolwg ar y materion “byw” eraill ym maes cyfiawnder.

2.9 Nodwyd y gwaith sylweddol sy’n parhau o ran troseddau rhyfel yn Wcráin. Roedd swyddogion yn trafod â SO15 er mwyn deall i ba raddau yr oedd ei dull gweithredu yn gwbl gyson â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o gael dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma.

2.10 At hynny, roedd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfathrebu â swyddfa Erlynydd Cyffredinol Wcráin.

Eitem 3: Sicrhau Cyfiawnder i Gymru - y camau nesaf

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn nodi dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfathrebu â hwy, ynghyd â rhaglen ategol o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyd at haf 2023, yn sgil cyhoeddi ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’.

3.2 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y dull o ymgysylltu ac ar y rhaglen ddrafft o ddigwyddiadau i randdeiliaid hyd at fis Mai 2023.

Eitem 4: Dangosfyrddau data cyfiawnder a dadgyfuno’r data

4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried y gwaith a wnaed hyd yma ar ddadgyfuno data ym maes cyfiawnder troseddol, ac i gytuno ar y camau nesaf a awgrymir.

4.2 Roedd angen cydnabyddedig am ddadgyfuno data ar gyfiawnder troseddol, gan fod cael gafael ar ddata o’r fath ynglŷn â Chymru yn bwysig i Weinidogion, llunwyr polisi, rhanddeiliaid, ac i’r cyhoedd fel rhan o system gyfiawnder dryloyw.

4.3 Roedd sawl menter wedi helpu i ysgogi cynnydd yng nghyswllt dadgyfuno data. Roedd y rhain yn cynnwys mentrau penodol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyfraniadau gan randdeiliaid eraill, a oedd wedi helpu gyda chael gwell data ar gyfiawnder yng Nghymru ac amlygrwydd y data hynny.

4.4 Croesawodd yr Is-bwyllgor y gwaith datblygu a chytunodd ar y flaenraglen waith.

Eitem 5: Unrhyw fater arall – newidiadau i rybuddiadau

5.1 Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at y newidiadau arfaethedig i rybuddiadau yn y system gyfiawnder.

5.2 Roedd rhybuddiadau’n fodd o ymdrin â throseddau lefel isel, gan droseddwyr am y tro cyntaf yn bennaf, heb erlyniad. Roedd rhan 6 o Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer datrysiadau statudol y tu allan i’r llys, gan symleiddio’r chwe haen bresennol yn ddwy haen.

5.3 Roedd yr haen uchaf, sef y ‘Rhybuddiad Dargyfeiriol’, yn cymryd lle’r rhybuddiad amodol presennol, a’r ‘Rhybuddiad Cymunedol’ newydd oedd yr haen is. Roedd yr haen hon yn benderfyniad ‘ambarél’ ar gyfer canlyniadau fel hysbysiadau cosb am anhrefn a rhybuddiadau syml.

5.4 O dan delerau’r Bil, rhaid i unrhyw rybuddiad fod yn amodol. Byddai achosion o dorri’r rhybuddiad yn arwain at erlyn yn achos rhybuddiad dargyfeiriol, ac at hysbysiad cosb benodedig yn achos rhybuddiad cymunedol.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2022