Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder 
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitchell Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Rachel Stephens, Is-adran y Cabinet
  • Peter Kellam, Is-adran y Cabinet
  • Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Felton, Pennaeth Rhanddeiliaid Cyfiawnder
  • Bethan Phillips, Polisi Cyfiawnder  
  • Merisha Hunt, Polisi Cyfiawnder   
  • Elizabeth Price, Polisi Cyfiawnder 
  • Zuzka Hilton, Polisi Cyfiawnder  
  • Tony Jones, Polisi Cyfiawnder 
  • Imogen Sherriff, Polisi Cyfiawnder 
  • James Searle, Diogelwch Cymunedol
  • Paul Dear, Polisi Cymunedol

Eitem 1: Pwyso a mesur y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder

Rhan 1: Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder.

1.2 Tynnwyd sylw'r Is-bwyllgor at lansiad y prentisiaethau paragyfreithiol a pharagyfreithiol uwch yr wythnos honno, a allai arwain yn y pen draw at gymhwyster fel cyfreithwyr.

1.3 Roedd camau wedi’u cymryd i sefydlu gweithgor gyda Bar Cymru ar ehangu’r Bar cyfraith gyhoeddus, a chroesawyd hynny.

1.4 Trafododd yr Is-bwyllgor y pryderon yn y proffesiwn a oedd wedi arwain at yr adolygiad Bellamy ar gymorth cyfreithiol troseddol, yr oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ei ymateb iddo.

1.5 Roedd yr achos dros fuddsoddi yn y proffesiwn wedi'i wneud, a dylai Llywodraeth Cymru gefnogi gweithredu argymhellion Bellamy.

Trafodaethau â Llywodraeth y DU

1.6 Roedd swyddogion yn gwneud cynnydd gyda thrafodaethau ynghylch ymarfer blaenoriaethu argymhellion Comisiwn Thomas a byddent yn parhau i gyfarfod bob pythefnos â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond heb unrhyw un i gymryd lle’r Arglwydd Wolfson, llesteiriwyd y gallu i wneud cynnydd ar lefel Weinidogol.

Rhan 2: Materion byw eraill

1.7 Soniodd y Cwnsler Cyffredinol am y gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ceisio’i rhoi i ymchwiliadau’r Llys Troseddol Rhyngwladol ac ymchwiliadau domestig Wcráin i droseddau rhyfel.

1.8 Mynegwyd pryderon ynghylch a oedd pobl sy'n cyrraedd o Wcráin yn sylweddoli y gallent gefnogi erlyniadau, ac a oeddent yn cael eu cefnogi'n briodol pe baent yn dod ymlaen. Nododd y Cwnsler Cyffredinol ei fod wedi cyfarfod yn ddiweddar â Thwrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU i drafod cefnogaeth ar gyfer ymchwiliadau yn Wcráin, ac i drefnu ymweliad posibl.

1.9 Roedd yr Is-bwyllgor yn awyddus i sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei gynnal ar draws y pedair gwlad wrth fynd i'r afael ag argyfwng Wcráin.

1.10Nodwyd pryderon gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ynghylch ymgynghoriad diweddaraf y Protocol Plismona, a oedd yn ceisio ehangu goruchwyliaeth y Swyddfa Gartref o blismona gweithredol.

1.11 Byddai'r cynigion yr ymgynghorir arnynt yn cyfyngu ar ymreolaeth y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ac yn rhoi mwy o reolaeth ganolog i'r Ysgrifennydd Cartref a'r Swyddfa Gartref – gan gyfyngu ar allu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i bennu cyfeiriad strategol yn seiliedig ar anghenion lleol eu hardaloedd heddlu. Roedd swyddogion yn trafod y dull o ymdrin â hyn gyda chydweithwyr plismona.

1.12 Nodwyd bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r Bil Crwydraeth yn wahanol iawn i bolisi Llywodraeth Cymru. Cytunwyd bod yn rhaid gwneud popeth i sicrhau nad oedd Llywodraeth y DU yn ail-droseddoli cysgu ar y stryd.

1.13 Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai'r papur diweddaru yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'r eitem ar y Cyhoeddiad Cyfiawnder, i gydweithwyr y Cabinet ei nodi ar 9 Mai 2022.

Eitem 2: Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol

2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn amlinellu'r camau gweithredu arfaethedig sy'n deillio o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CHCHD)

2.2 Cydnabu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod y papur wedi'i gyflwyno ar adeg dyngedfennol ar gyfer Hawliau Dynol yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang a’i fod yn amlinellu barn y Grŵp Llywio CHCHD, yr oedd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn aelod ohono.

2.3 Adroddwyd bod Aelodau'r Grŵp Llywio, yn gyffredinol, yn croesawu'r ymateb, gan gynnwys yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, yr awdur arweiniol yr adroddiad.

2.4 Roedd swyddogion wedi dechrau ar y gwaith paratoi a byddent yn datblygu cynllun gweithredu ac amserlen manwl i gwmpasu'r pum prif faes gweithredu a nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru.

2.5 Byddai gwaith deddfwriaethol paratoadol yn archwilio opsiynau i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i “Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru."

2.6 Roedd aelodau'r Grŵp Llywio wedi codi pryderon ynglŷn â'r bwriad i ail-lunio'r Grŵp Llywio fel "Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol", y gallai'r enw newydd olygu y gallai rhai agweddau ar gydraddoldeb ar y gwaith gael eu hanwybyddu, er nad dyna oedd y bwriad.

2.7 Awgrymwyd bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn arbennig o bwysig i grwpiau rhanddeiliaid ac er bod natur symbolaidd Bil Hawliau Cymru yn cael ei gydnabod, roedd perygl hefyd pe bai unrhyw Fil yn cael ei ystyried yn aneffeithiol.

2.8 Cydnabu'r Is-bwyllgor yr angen am gyngor pellach gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar yr opsiynau deddfwriaethol, gan ystyried unrhyw gynigion gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol.

Eitem 3: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Elfennau cyfiawnder troseddol

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur a oedd yn gofyn i aelodau'r Is-bwyllgor nodi'r gwaith a gwblhawyd ar bennod Trosedd a Chyfiawnder 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol', yn ogystal â'r gwaith cysylltiedig ar Gynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru.

3.2 Diolchodd y Cwnsler Cyffredinol i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'i swyddogion am y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r ddogfen a'r gwaith ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol.

3.3 Byddai'r Cynllun, a oedd i fod i'w gyhoeddi ar 7 Mehefin 2022, yn nodi sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol at yr holl waith, gan gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru.

3.4 Roedd y Cynllun yn cynnwys pennod yn benodol ar drosedd a chyfiawnder, a oedd yn rhagflaenydd i gynllun gwrth-hiliaeth manylach a oedd yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phartneriaid ar draws y sbectrwm Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, gan gynnwys: yr Heddlu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

3.5 Bwriedir cyhoeddi'r Cynllun Cyfiawnder Troseddol yn ddiweddarach yn yr haf.

3.6 Nodwyd bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi wynebu heriau o ran ennill ymddiriedaeth cymunedau ethnig lleiafrifol. Y gobaith oedd y byddai'r ddau Gynllun yn helpu i fynd i'r afael â'r anawsterau hyn i wasanaethau rheng flaen.

3.7 Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyfiawnder ar y Cynllun a byddent yn ymwneud â monitro'r ddarpariaeth drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.

3.8 Byddai cyflawni cynllun wrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru hefyd yn cael ei gefnogi gan banel annibynnol o arbenigwyr, gan adlewyrchu agwedd Llywodraeth Cymru at lywodraethu ac atebolrwydd.

3.9 Roedd yr agwedd yn adlewyrchu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, yn dilyn y Cytundeb Cydweithio, i sicrhau bod elfennau cyfiawnder y cynllun Llywodraeth Cymru yn gadarn, ac i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd.

3.10 Hefyd, yn ogystal â nodi rôl y cynllun gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, roedd y bennod trosedd a chyfiawnder yn y Cynllun yn rhoi mwy o fanylion am y camau sy'n cael eu cymryd ar droseddau casineb. Roedd hefyd yn cynnwys gwaith i gryfhau'r data sydd ar gael a pharhau i gefnogi'r achos dros ddatganoli cyfiawnder yn llawn i Gymru.

3.11 Roedd y bennod yn glir mai datganoli cyfiawnder yn llawn fyddai'r unig ffordd o fynd i'r afael â hiliaeth drwy'r system gyfiawnder yng Nghymru.

Eitem 4: Lleihau aildroseddu

4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn ystyried sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gydweithio i leihau aildroseddu. Atgoffodd y Cwnsler Cyffredinol yr Is-bwyllgor fod cynnig gan academwyr a chyn-ymarferwyr i wneud rhywfaint o waith ar wella arferion prawf, drwy nawdd Canolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (WCCSJ).

4.2 Roedd yr Is-bwyllgor eisoes wedi cytuno i geisio bwrw ymlaen â'r ffrwd waith hon mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd adborth gan HMPPS wedi nodi na allent noddi'r gwaith ar y cyd heb ganiatâd Gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd y papur hwn yn gofyn am arweiniad gan yr Is-bwyllgor ar y camau nesaf.

4.3 Awgrymwyd, heb unrhyw un i gymryd lle’r Arglwydd Wolfson, y byddai ceisio cytundeb gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder o leiaf yn arwain at oedi sylweddol cyn i WCCSJ allu dechrau ar ei gwaith.

4.4 Trafododd yr Is-bwyllgor yr opsiynau fel y'u nodwyd yn y papur a daeth i'r casgliad y dylai swyddogion barhau i symud ymlaen gyda’r WCCSJ ac adrodd yn ôl ar unrhyw gynnydd i'r Is-bwyllgor.

Eitem 5: Cyhoeddiad cyfiawnder

5.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn dangos drafft o’r cyhoeddiad cyfiawnder a oedd bron yn derfynol.

5.2 Nodwyd bod swyddogion ar y trywydd iawn i gwblhau'r adroddiad erbyn y dyddiad cyhoeddi arfaethedig, sef 24 Mai 2022.

5.3 Croesawodd yr Is-bwyllgor y ffaith y byddai hwn yn gyfle arall i amlygu llwyddiannau Llywodraeth Cymru a thynnu sylw at y gwelliannau y gellid eu gwneud yn y dyfodol o dan system gyfiawnder sydd wedi'i datganoli'n llawn yng Nghymru.

5.4 Tynnwyd sylw at y gwaith trawslywodraethol ar y cyhoeddiad fel rhywbeth cadarnhaol.

5.5 Croesawodd yr Is-bwyllgor y ffocws cynyddol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) a gwrth-hiliaeth yn y cyhoeddiad.

5.6 Cytunwyd y dylai'r meysydd hyn fod ar y blaen o ran meddwl a gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a'r rhai sydd â phrofiad.

5.7 Byddai'r Cabinet yn ystyried y cyhoeddiad ar 9 Mai.