Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Vaughan Gething AS (am ran o’r cyfarfod)
  • Jane Hutt AS
  • Julie Morgan AS
  • Jeremy Miles AS (am ran o’r cyfarfod)

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr, y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a Diogelwch Cymunedol
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Oxenham, Is-adran y Cabinet
  • Adam Turbervill, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Louis Urutty, Cyfathrebu
  • Fiona Green, Polisi Cyfiawnder
  • Tony Jones, Polisi Cyfiawnder
  • Andrew Felton, Polisi Cyfiawnder
  • James Searle, Diogelwch Cymunedol
  • Sian Brown, Diogelwch Cymunedol
  • Karen Bathgate, Tegwch mewn Addysg
  • Jason Pollard, Tegwch mewn Addysg
  • Carys A Roberts, Busnes a Rhanbarthau

Mynychwyr allanol

  • Y Fonesig Vera Baird CB, Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Ddatganoli Cyfiawnder

Eitem 1: Cysylltiadau teuluol

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn parhau o’r cyfarfod blaenorol, gan groesawu’r Gweinidog Addysg i’r cyfarfod.

1.2 Yn y cyfarfod diwethaf, roedd yr Is-bwyllgor wedi gwylio fideo a oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth ynghylch y prosiect i sicrhau bod cysylltiadau teuluol yn parhau ar gyfer troseddwyr yn HMPPS Parc. Croesawodd y Gweinidogion y modd yr oedd plant yn gallu mynegi eu hemosiynau ynglŷn â’r sefyllfa.

1.3 Roedd tystiolaeth glir bod oddeutu 39% o droseddwyr yn llai tebygol o aildroseddu os oedd eu cysylltiadau teuluol wedi bod yn dda yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa.

1.4 Roedd y canllawiau ar bresenoldeb a gwahardd i ysgolion yn cynnwys amgylchiadau o’r fath er mwyn darparu cymorth gwell i blant sy’n dioddef anawsterau o ganlyniad i’r ffaith bod rhiant yn y carchar, gan gynnwys pwyslais ar gymorth yn hytrach na chosb, mewn achosion lle’r oedd presenoldeb ac ymddygiad yn methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig.

1.5 Roedd cartref diogel i blant Hillside yng Nghastell-nedd yn enghraifft dda arall o ran darparu’r gofal priodol i blant agored i niwed fel rhan o’r broses adsefydlu ar ôl iddynt ddioddef amgylchiadau anodd.

1.6 Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ar gyfer gwerthuso prosiect y Parc, ac roedd nifer o brosiectau tebyg yn parhau i fynd rhagddynt, megis y rhaglen Ymweld â Mam i blant yng Nghymru y mae eu mamau yng ngharchar HMP Eastwood Park, yn Lloegr.

1.7 Hefyd, dylid parhau i ddefnyddio technoleg i gynnal cysylltiadau teuluol fel y digwyddodd yn ystod y pandemig, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a dylid darparu amgylchedd addas i blant gyfarfod â rhiant tra mae yn y carchar.

1.8 Awgrymwyd y gellid parhau â’r materion hyn drwy’r polisïau Cysylltiadau Teuluol a Glasbrint.

1.9 Nodwyd bod y Siarter Rhianta Corfforaethol yn adnodd defnyddiol ar gyfer sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cadw mewn cof lles y plentyn sydd â phrofiad o ofal, a dywedwyd bod swyddog sydd wedi cael profiad o ofal, ac sydd â ffocws arbenigol, yn gweithio yn HMP Parc.

1.10 Croesawodd yr Is-bwyllgor y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y maes hwn. Mae’n gysylltiedig â llawer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella bywydau plant yng Nghymru.

Eitem 2: Cymorth i sector cyfreithiol Cymru

2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, sef papur ar y cyd â Gweinidog yr Economi, a oedd yn amlinellu’r sefyllfa heriol bresennol i’r sector cyfreithiol yng Nghymru.

2.2 Roedd y sector yn darparu cyngor a chymorth i bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru, yn ogystal â darparu cyflogaeth uniongyrchol a gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.

2.3 Nid oedd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i sicrhau bod y sector cyfreithiol yn iach ac yn weithredol er mwyn inni allu bod yn llwyddiannus wrth ddatganoli cyfiawnder ymhellach. Fodd bynnag, roedd heriau sylweddol i hynny ar hyn o bryd, oherwydd methiant cyson Llywodraeth y DU i fuddsoddi digon mewn llysoedd yn y gorffennol, yn enwedig y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd, a hefyd mewn systemau yn ystod y degawd diwethaf, ac roedd hyn wedi arwain at broblemau gyda seilwaith a gwasanaethau.

2.4 Roedd yn anodd i’r sector cyfreithiol yng Nghymru ddatblygu cynnig masnachol os nad oedd Ystafelloedd Llysoedd a chyfleusterau eraill yn cael eu cynnal yn briodol.

2.5 Roedd yn glir bod Busnes Cymru wedi rhoi cymorth defnyddiol i’r sector, gan gynnwys o ran gwelliannau mewn technoleg a fyddai’n moderneiddio sector a fu’n gymharol araf i fabwysiadu dulliau newydd o weithio yn y gorffennol.

2.6 Roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ymdrech pellach i gomisiynu gwaith i asesu’r angen i ariannu prentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru. Roedd rhywfaint o drafod o ran ai dyma’r ffordd gorau ymlaen yn sgil y dystiolaeth o ochr arall y ffin, sy’n awgrymu bod rhai prentisiaethau wedi disodli rhai eraill a oedd yn cael eu hariannu’n flaenorol gan fusnesau. Hefyd, nid oedd unrhyw dystiolaeth derfynol yr oeddent wedi arwain at gynnydd mewn symudedd cymdeithasol, fel y disgwylid o dan y rhaglen.

2.7 Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, croesawyd fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer cymwysterau CILEX (Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol) i baragyfreithwyr ar lefelau 3 a 5.

2.8  Problem sylweddol i’r sector oedd y cyfraddau cyflog isel ar gyfer gwaith a ariennir gan gymorth cyfreithiol. Soniwyd am yr anawsterau a gafwyd wrth geisio recriwtio cyfreithwyr ar gyfer Canolfan y Gyfraith newydd arfaethedig yn y Gogledd. Roedd yn bosibl nad oedd y materion teuluol, tai, a lles yr oedd y ganolfan yn bwriadu canolbwyntio arnynt yn ddigon deniadol i ddarpar ymgeiswyr.

2.9 Hefyd roedd diffyg amlwg, a oedd yn parhau i dyfu, yng nghapasiti’r sector ym maes cyfraith mewnfudo ar draws Cymru. Roedd dau o’r prif gwmnïau cyfraith a fu’n rhoi cyngor ar fewnfudo i geiswyr lloches wedi dod â’r gwasanaeth hwnnw i ben yn ddiweddar, ac roedd perygl y byddai trydydd cwmni yn cau.

2.10 Er gwaethaf y materion hyn, roedd rhai pethau positif, gan gynnwys gwasanaethau’r gronfa cynghori sengl gwerth £11.1m.

2.11 Fodd bynnag, gan nad oedd Llywodraeth y DU wedi buddsoddi digon yn y gorffennol, byddai angen i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus nad oedd yn llenwi’r bylchau yn barhaus mewn mannau lle nad oedd meysydd a gedwir yn ôl wedi cael eu hariannu’n briodol.

2.12 Nododd yr Is-bwyllgor fod arwyddion o newidiadau cadarnhaol, er bod angen i’r sector gymryd mwy o gamau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ei hunan a sicrhau ei ddyfodol tymor hir ar gyfer prynwyr gwasanaethau cyfreithiol, a chyfrannu at economi Cymru.

2.13 Nododd yr Is-bwyllgor y datblygiadau, gan gytuno y dylid gwerthuso’r camau nesaf a argymhellwyd ym mharagraffau 41 i 48  yn y papur atodol, ar ôl ystyried yr adnoddau.

Eitem 3: Paratoadau ar gyfer datganoli cyfiawnder

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, cyn trosglwyddo’r awenau i James Gerard a’r Fonesig Vera Baird i gyflwyno’r diweddariad ar y paratoadau ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru.

3.2 Roedd y diweddariad yn cynnwys y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar y ffrydiau gwaith i baratoi ar gyfer datganoli, gan roi adborth ar y casgliadau cynnar ynglŷn â gwaith allanol ar gyfiawnder ieuenctid ac amlinellu’r camau nesaf arfaethedig, gan gynnwys proses frysbennu Comisiwn Thomas.

3.3 Roedd ein Grŵp Cynghori Academaidd ar Gyfiawnder Ieuenctid wedi bod yn gweithio i nodi cryfderau, gwendidau a chyfleoedd yn y system bresennol yng Nghymru, ochr yn ochr â gweledigaeth bosibl ar gyfer dyfodol y system, gan ystyried y camau ymarferol nesaf ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno.

3.4 Er y dylid mynd ati i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, roedd y casgliadau newydd yn nodi nad oedd angen diwygio’r system mewn modd radical o reidrwydd, gan fod ei pherfformiad yn uchel ar y cyfan.

3.5 Y gwasanaeth prawf oedd yr ail ffrwd waith ar gyfer paratoi i ddatganoli cyfiawnder. Roedd gwaith eisoes yn cael ei wneud gan Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf a oedd yn canolbwyntio ar ystyried nifer o elfennau a fyddai’n rhan o system ddatganoledig, gan gynnwys y gwerthoedd a’r egwyddorion; llywodraethu a phartneriaethau; arferion effeithiol; a gostwng cyfraddau carcharu. Roedd nifer o bapurau drafft wedi dod i law, ac roedd yn disgwyl cael gweddill yr allbynnau yn ystod yr haf 2023.

3.6 Hefyd roedd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cael ei chomisiynu’n ddiweddar i ddechrau ar ddarn o waith manwl, a fyddai’n ategu gwaith Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf, i nodi’r camau ymarferol y gellid eu cymryd i wireddu’r weledigaeth ar gyfer system brawf Cymru yn y dyfodol, ac roedd ei gwaith yn canolbwyntio ar amlinellu’r camau, yr adnoddau a’r llinellau amser a fyddai’n angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno. Hefyd, byddai’r gwaith hwn yn nodi gofynion llywodraethu ar gyfer system brawf ar ôl datganoli.

3.7 Roedd y ffrwd waith olaf yn canolbwyntio ar blismona. Roedd yr Is-bwyllgor eisoes wedi cytuno ar gwmpas y gwaith hwn. Cam un y prosiect fyddai egluro’r manteision posibl a fyddai’n deillio o ddatganoli, ac ystyried yr egwyddorion a’r gwerthoedd a fyddai’n sail i system blismona ddatganoledig. Roedd disgwyl y byddai hyn yn cynnwys adolygu’r dystiolaeth bresennol ac edrych ar fodelau plismona eraill, er enghraifft modelau Gogledd Iwerddon a’r Alban.

3.8 Un enghraifft o fantais bosibl a allai ddeillio o ddatganoli fyddai’r gallu i effeithio ar hyd y cyfnod o amser yn dilyn ‘release under investigation’, gyda’r nod o haneru’r amser y mae’n ei gymryd i brosesu achosion. Hefyd roedd potensial ar gyfer proses gohirio erlyniad, a allai gynnwys oedi i roi sylw i ffactorau a allai fod wedi arwain at dueddiadau i droseddu yn y lle cyntaf.

3.9 Byddai cam dau y ffrwd waith hon yn penderfynu ar yr hyn y byddai angen ei gynnwys mewn model plismona datganoledig, a byddai’n ymchwilio i’r dirwedd genedlaethol gymhleth o ran sut y byddai model plismona Cymru yn gweddu i seilwaith rhanbarthol a chenedlaethol.

3.10 Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai angen ymgynghori’n ehangach ar allbynnau’r ffrydiau gwaith, ac yn benodol ar yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Dr Jonathan Evans o ran datganoli cyfiawnder ieuenctid.

3.11 Wedyn, trodd yr Is-bwyllgor at broses brysbennu argymhellion Comisiwn Thomas, gan nodi na welwyd llawer o gynnydd ystyrlon, ar wahân i ddadgyfuno data.

3.12 Yn olaf, trodd yr Is-bwyllgor wedyn at y camau nesaf, gan nodi’r gwaith a oedd i gael ei gyflawni yn ystod yr haf a’r hydref 2023-2024, a oedd yn cynnwys:

  • gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dechrau
  • bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatganoli plismona
  • adolygu’r argymhellion o’r prosiect cyfiawnder ieuenctid
  • ystyried allbynnau Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf
  • gweithio ar ymgynghoriad ar ddiwygio tribiwnlysoedd

3.13 Nodwyd y byddai’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn adrodd erbyn diwedd y flwyddyn.

3.14 Diolchodd yr Is-bwyllgor i bawb am y diweddariad defnyddiol, gan nodi sut yr oedd y gwaith hwn yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa gref i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros  gyfiawnder datganoledig.

Eitem 4: Unrhyw fater arall

4.1 Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol grynodeb o’r digwyddiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys: y digwyddiadau yn Nhrelái; ymddangosiad y Cwnsler Cyffredinol yn y Comisiwn ar y Dyfodol Cyfansoddiadol; datganiad llafar y Cwnsler Cyffredinol, a dadleuon Plaid Cymru yn y Senedd;  tynnu’r Bil Hawliau yn ôl yn ffurfiol; a hynt y Bil Dioddefwyr. Hefyd, byddai cyfres o ddigwyddiadau pwysig yn cael eu cynnal gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ym mis Medi.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023