Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Claire Bennett - Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi
  • James Gerard - Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
  • Karin Phillips - Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
  • Kate Edmunds - Cynghorydd Arbennig
  • Thomas Dowding - Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche - Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Oxenham - Is-adran y Cabinet
  • Bethan Phillips - Is-adran y Cabinet
  • Merisha Weeks - Polisi Cyfiawnder (cofnodion)
  • Tony Jones - Polisi Cyfiawnder (cofnodion)
  • Cerys Gage - Diogelwch Cymunedol
  • Adam Turbervill - Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Louis Urutty - Cyfathrebu

Mynychwyr allanol (ar gyfer eitem 1)

  • Dr Robert Jones - Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Professor Richard Wyn Jones - Canolfan Llywodraethiant Cymru

Eitem 1: System Cyfiawnder Troseddol Cymru - ar y Rhwyg (The Welsh Criminal Justice System: on the Jagged Edge) – cyflwyniad allanol

1.1 Diolchodd y Cwnsler Cyffredinol i Robert Jones a Richard Wyn Jones am eu gwaith o gyhoeddi ‘System Cyfiawnder Troseddol Cymru: ar y Rhwyg’ ar 15 Hydref, sy’n gyfraniad hynod bwysig i ddealltwriaeth y cyhoedd o gyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan eu gwahodd i gyflwyno’r pwyntiau allweddol.

1.2 Rhoddodd Richard Wyn Jones a Robert Jones grynodeb o’r dystiolaeth yn y llyfr ynghylch sut yr oedd seiliau cyfansoddiadol system cyfiawnder troseddol Cymru yn achosi problemau o ran polisi cydgysylltiedig ac atebolrwydd. Roedd hefyd yn cynnwys tystiolaeth a oedd yn dangos y rhesymau sylweddol y tu ôl i’r pryderon am berfformiad system cyfiawnder troseddol Cymru mewn perthynas â rhannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol. Pwysleisiodd yr angen i barhau i gynhyrchu adroddiadau a chynhyrchu data cyfredol am y materion hyn mewn modd systematig.

1.3 Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol sylwadau ar y prif bwyntiau hyn gan wahodd sylwadau hefyd gan aelodau’r Is-bwyllgor.

1.4 Nododd yr Is-bwyllgor y byddai’r llyfr yn rhan o’r sail tystiolaeth ar gyfer gwneud achos o blaid datganoli plismona a chyfiawnder, gan argymell y dylai Robert Jones a Richard Wyn Jones ystyried rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 

1.5 Nododd yr Is-bwyllgor fod Cymru ar y tu allan yn gyfansoddiadol gan nad oedd ganddi ei system gyfiawnder ddatganoledig ei hun, ac roedd hynny’n ei gwneud yn unigryw ymysg gweledydd a oedd â fersiwn o fodel San Steffan.

1.6 Hefyd, soniodd yr Is-bwyllgor ei bod yn bwysig tynnu sylw at y gwaith a oedd wedi ei gyflawni mewn partneriaeth, gan lwyddo er gwaethaf y ‘jagged edge’, er enghraifft cydweithio ag asiantaethau cyfiawnder troseddol ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol,  er bod darllen rhai darnau yn y llyfr yn peri loes.

Eitem 2: Y sefyllfa ddiweddaraf o ran y rhaglen trawsnewid

2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn darparu diweddariad am y sefyllfa o ran y rhaglen waith ar gyfer cyfiawnder a materion cyfiawnder cyfredol eraill.

Rhan 1: Diweddariad ar raglen waith Is-bwyllgor y Cabinet

2.2 Nodwyd y byddai Syr Gary Hickinbottom, cyn farnwr yn y Llys Apêl, yn olynu Syr Wyn Williams fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar 1 Ebrill 2023.

2.3 Tynnodd y Cwnsler Cyffredinol sylw at ddiweddariadau eraill, gan gynnwys y gwaith ar Fil Tribiwnlysoedd (Cymru), Canolfan Gyfraith y Gogledd, a chyhoeddi’r gwerthusiad o gam un y Peilot Cyffuriau ac Alcohol Teuluol.

2.4 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariadau hyn.

Trafodaethau â Llywodraeth y DU

2.5 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariadau ar y trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r Bil Hawliau, y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cyfiawnder, ac argymhellion ymarfer blaenoriaethu Comisiwn Thomas.

Rhan 2: materion cyfredol eraill

2.6 Darparodd y Cwnsler Cyffredinol drosolwg o’r materion cyfredol eraill o fewn y cwmpas cyfiawnder, gan wahodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i roi diweddariad ar y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Menywod ac Ieuenctid.

2.7 Mynegodd yr Is-bwyllgor ei siom nad oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi llwyddo i gael caniatâd  cynllunio ar gyfer y Ganolfan Menywod yn Nhrehafod. Nodwyd bod partneriaid ym maes troseddu a chyfiawnder yn ystyried yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf.

2.8 Byddai’r gwaith ar ddadgyfuno data a phennu anghenion data yn cael ei rannu â’r Is-bwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Bellach, roedd rhai dangosfyrddau, a oedd wedi eu dadgyfuno, ar gael, ond roedd angen gwneud rhagor o waith i awtomeiddio’r broses ddiweddaru a chynyddu eu cwmpas.

Eitem 3: Datganoli Cyfiawnder - negeseuon cyhoeddus allweddol

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn cyflwyno dull gweithredu ar gyfer adeiladu ar yr ymgysylltu cynyddol a oedd yn digwydd o du sefydliadau rhanddeiliaid mewn perthynas â’r syniad o ddatganoli cyfiawnder.

3.2 Roedd yr Is-bwyllgor yn cefnogi prif egwyddorion y dull cyfathrebu, yn enwedig o ran yr angen i adeiladu a defnyddio tystiolaeth, a dangos yr hyn a oedd yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd fel canllaw ar gyfer y dull gweithredu y dylid ei ddefnyddio ar gyfer system ddatganoledig. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod yr ymgysylltu’n parhau mewn perthynas â chyhoeddi ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’.

3.3 Cymeradwyodd yr Is-bwyllgor y dull gweithredu a oedd wedi ei awgrymu ar gyfer y cam nesaf.

Eitem 4: Unrhyw fater arall – Diweddariad ar iechyd carcharorion Carchar Ei Fawrhydi Abertawe

4.1 Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at adroddiad Arolygiaeth Iechyd Cymru ym mis Mehefin 2022 ar yr oedi a oedd yn digwydd o ran darparu gwasanaethau deintyddiaeth ac iechyd meddwl yng Ngharchar Ei Fawrhydi Abertawe.

4.2 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet a’r Tîm Cyfiawnder
Tachwedd 2022